Yr Amserau
Papur newydd pythefnosol Cymraeg a gefnogai anghydffurfiaeth a radicaliaeth. Cylchredwyd yng Ngogledd Cymru a rhannau Cymreig o ardal yr afon Merswy. Sefydlwyd gan William Rees (Gwilym Hiraethog (1802-1883) a John Jones (1790-1855) yn Lerpwl yn 1843. Bu'r papur yn brwydro am gefnogaeth am gyfnod, nes iddo gyhoeddi 'Llythyrau 'Rhen Ffarmwr', a oedd yn ymdrin â phynciau megis crefydd, gwleidyddiaeth, Ddeddfau'r Ŷd, addysg, Mudiad Rhydychen a Phabyddiaeth. Yn 1848 prynwyd yr 'Amserau' gan deulu John Lloyd (fl.1833-1859). Golygydd cyntaf y papur oedd William Rees, nes ei olynu yn 1852 gan John Roberts (Ieuan Gwyllt, 1822-1877). Bu lleihad yng nghylchrediad y papur wedi iddo gefnogi Rwsia yn ystod Rhyfel y Crimea. Methodd ychwaith a chystadlu yn erbyn y papurau newydd wythnosol a gyhoeddwyd yn sgìl diddymu treth ar bapurau newydd yn 1855. Yn 1859 fe'i prynwyd gan Thomas Gee a'i uno â 'Baner Cymru' i greu 'Baner ac Amserau Cymru'. Teitlau cysylltiol: Baner ac Amserau Cymru (1859-1971).
Hawlfraint:
Mae’r adnodd hwn yn rhydd o gyfyngiadau hawlfraint ac wedi ei gyhoeddi dan y Nod Parth Cyhoeddus 1.0.
Amlder:
Pythefnosol
Cyhoeddwr:
Cyhoeddwyd yn Lerpwl gan John Jones (ca. 1843-); Michael James Whitty & William Ellis (ca. 1846-); John Lloyd (ca. 1848-).
Dyddiadau Rhifyn:
1846 - 1859 (150 rhifyn ar gael)
1846
Allwedd
Dyddiad â rhifyn unigol
Dyddiad â nifer o rifynnau