Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

LLOFFION 0 LANELLI.

ETHOLIAD MERTHYR.

EISTEDDFOD Y DRILL HALL, MERTHYR,…

" PRIF YSGOL CYMRU."

PWSIG I ETHOLWYR.

HELYNIION YR ETHOLIAD

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HELYNIION YR ETHOLIAD Y mae cynifer o chwedleuon anwireddus yn cael eu ffurfio a'u taenu gan y gwahanol bleidiau er ceisio niweidio yr partion gwrth- wynebol yn marn yr etholwyr, fel mai o'r braidd yr ydym yn ymdeimlo i sylwi dim arnynt. Modd bynag, wrth fyned heibio, gallwn nodi fed tin chwedl yn cyhuddo Mr. Fothergill a'i gefnogwyr o geisio nifer helaeth o voting booths, a hyny er taflu costau mawrion ar y pleidiau, a thrwy hyny geisio digaloni Mr Richard a'i bleidwyr. Am hon, gallwn ddywedyd fod y cydgordiad perffeithiaf rhwng cynrychiolwyr y gwahanol ymgeiswyr ar y peth hwn. Fe allai mai y chwedl ddiwaddaraf a'r un fwyaf wrthun hefyd, ydyw fod Mr. Richard yn debyg o encilio o'r maes rhag peryglu sedd Mr. Bruce. Y mae chwedl o fath hon mor ynfyd wyrion a disail fel na ddylid rhoddi gwrandawiad iddi chwaethach ei chredu. Yn wir, gallem roddi ein gair na fydd i unrhyw bleidiwr anghydffurfiol egwyddorol o eiddo Mr Richard roddi lie i'r fath smaldod. Beth y mae cynllunwyr y fath gelwyddau yn tybied yw Mr. Richard a'i bleidwyr? Na, nid oes digon o allu darbwyllol ac ymresymiadol yn meddiant y Bruciaid gyda'u gilydd i ysgogi ein gwron anghydffurfiol, na digon o gyfoeth yn eu haiarn-gistiau i'w brynu i enciliad ych- waith. Y mae Mr. Richard wedi rhoddi ei air y bydd iddo sefyll beth bynag fydd y can- lyniad. Y mae ei air yn ddigon. Y mae yn wir nad ydyw ei bleidwyr yn cydweled yn unfrydol pwy ddylai fod ei gydaelod, tra y mae yntau wedi ymgadw heb yngan gair am y ddau foneddwr sydd yn gydymgeiswyr ag ef, a gobeithiwn y ceidw felly hyd y diwedd. Y mae wedi bod yn ddealladwy am beth amser bellach fod y writs newyddion i gael eu hanfon allan ar yr 11 eg o'r mis nesaf. Erbyn heddyw, modd bynag, yr ydym yn cael fod amheuaeth yn nghylch hyn, a dywedir fod y Prif Weinidog yn bwriadu gofyn am ganiatad ei gydswyddogion, ddydd Sadwrn nesaf, am oediad rhoddiad allan y writs hyd y 18fed. Os cymer hyn Ie, fe rwystrir y Senedd i gyf- arfod hyd oddeutu y 17 o Ragfyr, a dechreuad busnes seneddol hyd o fewn diwrnod neu ddau cyn y Nadolig. Amcan y cwbl o hyn ydyw cadw mewn swydd cyhyd ag y gellir y flwyddyn nesaf, a hyny tuag at gyrhaedd am- canion plaid. Y mae pleidwyr Mr. Richard yn parhau i weithio yn ddiwyd ac egniol, ac y mae yn sicr ei fod yn awr yn sefyll yn well o lawer o ran pleidleisiau yn Aberdar nag y bu er y dechreu, a'n gobaith ydyw fod pob congl o'r bwrdeis- drefi yr un fath. Y mae Mr. Fothergill, yn ystod yr wythnos ddiweddaf, wedi cynal amryw gyfarfodydd yn nghymydogaeth Aberdar, y rhai sydd wedi 11 0 troi allan mor gefnogol i'w etholiad ag y gellid ei ddymuno. Yn Ebenezer, Trecynon Cap Coch, Cwmdar» a Chwmbach, derbyniwyd ef gyda'r bi wdfryad mwyaf. Llusgid ei gerbyd o'r naill fan i'r llall gan ei bleidwyr, y rhai a'u canlynent wrth y miloedd goleuid yr heolydd ar hyd ba rai y teithiai a'r canoedd goleuadau a chwifid mal banerau tanllyd yn yr awyr. Goleuid ffenestri y tai a chanwyll- au, nes y meddylid ar brydiau fod heolydd cyfain ar dan. Yn ychwanegol at hyn, byw- iogid yr oil a gwahanol seindyrfau, ergydion o ynau a Jlawddrylliau, a seiniau melodus clychau yr eglwys. Yn ei wahanol anerchiadau, sylwai Mr. Fothergill ar yr angenrheidrwydd am y ballot er amddiffyn y gweithiwr yn ei hawl o ddefn- yddiad y bleidlais y mae wedi ei chael yn unol a'i farn a'i gydwybod. Dywedai y gellid profi hyn hyd yn nod yn yr hyn sydd wedi cymer- yd lie yn Dowlais mewn eysylltiad a'r ethol- iad presenol. Fod Mr. Clark yn nechreu y cynhwrf etholiadol yn hollol anmhleidiol, a'i fod yn gymaint ei ddymuniad i gadw felly, fel yr ofnai amlygu dros bwy yr oedd yn bwriadu pleidleisio, rhag i hyny effeithio rhyw ddy- lanwad pleidiol. Ond erbyn heddyw yr oedd pawb yn gwybod lie yr oedd pleidgarwch wedi ei gario. Yr edrychid ar yr hyn a ysgrifenwyd ac a ddywedwyd gan Mr. Clark fel math o ddy- lanwad unochrog mewn eysylltiad a'r ethol- iad presenol, a ddangosir yn amlwg yn ngwaith swyddog uchel o'run gwaith yn galw cyfarfod, ac fel pe yn gollwng y cwbl yn rhydd oddidan y dylanwad hwnw; a bod yr etholwyr yn Dowlais er hyny yn teimlo nad oedd dim llyffetheiriau am danynt. Pe buasai y ballot ynte mewn ymarferiad, credai na fuasai dim o'r hyn sydd wedi dygwydd wedi cymeryd lie yno. Sylwai hefyd yn y cyfarfodydd hyn ar y Double Shift, Mine's Inspection Act, treth- oedti a threuliau y Llywodraeth, &c., y rhai a driniwyd ganddo mewn modd boddhaol a chefnogol gan y gweithwyr tanddaearol. Cymerwyd y gadair yn Ebenezer, Trecynon, gan y Parch. W. Harris, (B.) ac anerchwvd v cyfarfod, ar ol Mr. Fothergill, gan y Parch. P. J. Walters, G. Kirkhouse, Ysw., Parch. J. T. Jones, Mr. Jones, ac ereilL Pasiwyd y pen- derfyniad i'w gefnogi yn unfrydol gan yr holl dorf. Cymerwyd y gadair yn Cap Coch gan y Parch. J. Jones, (B) yr hwn a siaradodd ar ddechreu y cyfarfod yn bur ffraeth ac i bwr- pas. Gofynwyd amryw o ofyniadau i Mr. Fothergill gan Mr Thomas Edwards, Mountain Ash, ac ereill, sef, A oedd efe ddim wedi hysbysu Mr. Bruce, ddeunaw mis yn ol, na fuasai yn un modd yn peryglu ei sedd ? Os y darfu i Mr. Menelaus dalu ymweliad ag ef yn nghylch etholwyr Dowlais, a pha beth oedd yr ymddyddan a gymerodd le rhyngddynt ? A oedd efe yn credu fod Mr. Bruce dros y Double Shift ? Ai nad oedd efe am gael cy- nifer penodol o fooths yn ychwanegol i'r hyn oedd y ddau ymgeisydd arall yn ymofyn, er gosod y draul yn fwy ? Atebodd y boneddwr y cwestiynau ffol uchod yn eglur a boddhaoL Galwyd Mr. Rowland Pugh yn mlaen i gynyg y penderfyniad canlynolFod y cyfarfod hwn, wedi clywed golygiadau Richard Fother- gill, Ysw., ar brif gwestiynau y dydd, yn nghyd a'r rhai er Iles cymydygaethol, yn pen- derfynu gwneud yr hyn oil a all mewn modd gonest er ei ddychwelyd i Dy y Cyffredin, ac a basiwyd yn galonog. Nos Fercher diweddaf, cvnaliwvd cyfarfod, er anerch yr etholwyr gan Mr Bruce, yn Saron, Aberaman. Yr oedd y cynulliad, ag ystyried y tywydd, yn dda. Cymerwyd y gadair gan G. Williams, Ysw., Miskyn. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod hefyd gan y Parch M. Phillips, Gwawr Mri Naysmith, Devonald, y Parch W. Williams, Abercwmboy, &c. Aeth y cyfarfod yn mlaen yn dda hyd at y diwedd, pryd yr achoswyd ychydig derfysg gan y pleidiau gwrthwvnebol ond pasiwvd y pen- derfvniad i'w gefnogi gyda mwyafrif. [Yr ydym wedi clywed fod ymosodiad wedi cael ei wneud ar y GWLADGARWR yn y cyfarfod hwn, ond nid ydym eto wedi dyfod o hvd i'r oil; ond yr ydym yn deall oddi- wrth yr hyn yr ydym wedi ei glywed, mai effaith ysbrydiaeth plaid ydoedd, ac nid ydym yn gofyn ond am yr un rhyddid ein hunain. Ychwaneg ar y pwnc hwn y tro nesaf.] Bydd genym yr wythuosau canlynol lawer o gyfarwyddiadau ac hysbysiadau pwysig i'r ethol- wyr o barthed yr etholiad ac feallai y dylem, yn gyntaf, erfyn ar bawb a fydd yn pleideisio roddi enwau y personau y byddant yn pleidleisio drostynt yn Ilawn ac eglur, sef Henry Richard, Richard Fothergill, ac Henry Austin Bruce; ac na fedd- ylied neb y gall bleidleisio i ddau ar wahanol brydiau.

ETHOLIAD MERTHYR.

Advertising

YR ETHOLIAD.