Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

TROI YN OL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TROI YN OL. Dechreua gwleidyddwyr gonest a Rhydd- frydwyr egwyddorol ymholi a ydyw y rhod boliticaidd ar droi yn ol, Nid yw'r arwyddion yn Nhy'r Cyffredin yn addawol iawn am gynydd a llwyddiant yn y blynyddoedd hyn, ac y mae cryn siarad yn mysg ein harweinwyr am yr hen ddulliau o wlad-lywyddu a'r ben- dithion a gawsai rhai dosbarthiadau o dan yr hen gyfundrefnau. Mewn gair, mae nerth a dylanwad y werin yn dechreu gwneyd i fawr- ion a chyfoethogion y wlad ystyried y priod- oldeb o roddi math o atalfa arnynt. Gwelir hyn yn eglur yn ngwaith y Llywodr- aeth yn eu mesurau diweddar yn gwrthod cydnabod cynrychiolaeth deg ar symudiadau neu faterion cyhoeddus. Glynant yn dyn wrth yr egwyddor o henaduriaeth, ac y mae ysbryd Ty yr Arglwyddi fel pe'n rheoli pob gwelliant cyhoeddus y dyddiau hyn. Ofnir symud yn mlaen gyda'r oes, i fod yn gyfuwch a gwled- ydd cynyddol ereill, a'r canlyniad yw fod y meddylwyr craffaf yn mysg y Saeson eisoes yn dechreu pryderu am ddyfodol y genedl. Nid yw egwyddorion sylfaenol y Bit Addysg presenol yn rhyddfrydig o gwbl. Mae mor Ilawn o geidwadaeth ac enwadaeth fel yr ofnir mai drygu, ac nid gwella, ein cyfundrefn addysg a wna. Yr oedd pawb yn gobeithio y buasid bellach yn symud yn mlaen yn y cyf- eiriad hwn, oherwydd y mae ein cynllun add- ysg yn hynod o wael ac afrosgo; ond yn He manteisio ar y cyfle, wele y Llywodraeth yn tincera yn y fath fodd a'r pwnc, fel nad yw'n bosibl cael cynydd gwirioneddol yn y gyfun- dl efn drwy y deyrnas. Nid ydym, ychwaith, heb ofni y bygythion a wneir yn barhaus am osod treth ar fara a defnyddiau angenrheidiol ereill y gweithwyr tylawd. Os gwneir hyn credwn y bydd yn gam peryglus yn ol, ac na oddefa'r wlad i gyfoethogion y Sen edd osod beichiau gorth- rymus ar y gwan yn yr amserau dinystriol hyn. Y mae y rhyfel eisoes wedi gwneyd ei nod ar ein masnach ac ar ein henillion, ac os trymheir y beichiau ni fydd y rhagolygon yn obeithio! iawn i'r oes a ddel. Yr hyn sydd ei angen yn awr yw plaid gref o brotestwyr gwrol ar lawr y Ty, yn gweithio mor egniol yn erbyn y mudiadau cul a gwrth- wynebus hyn; ac ond cael hynyna daw adsain ardderchog o fysg y werin-bobl. Nis gad- ewir i'r gwaith aros, a rhaid i Brydain fyned yn mlaen deued a ddelo. Unwaith yr eir yn 01 at yr hen gynlluniau bydd dyddiau ein mawredd a'n cynydd wedi eu rhifo am byth.

Dwrdd yf Cen. P

[No title]

MR. BRYN ROBETS A'R LLYWODRAETH.