Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
LLYFRAU NEWYDDION.I
LLYFRAU NEWYDDION. THE UNITARIAN STUDFNTS AT THE PRESBYTER- IAN COLLEGE, CARMARTHEN (1796-1901) [by Rees Jerkin Jones, Aberdare.] Dyma lyfr bychan dyddorol iawn. Cynwysa fywgrsffiadau o'r myfyrw) r Undodaidd a fuont yn Ngholeg Caerfyrddin yn ystod y ganrif ddiweddaf. Yn eu plitb, ceir Timothy Davies, Evesham Thomas Rees, awdwr Beauties of South Wales"; John Jones, Aberdâr tad awdwr y gyfrol; Dr. Davies, Ffrwdfal; W. D. Jeremy, Gray's Inn; B. T. Williams, A.S.; Gwilym Maries; George Evans, M.A., a Dr. Gwenogfryn Evans. Y mae 124 o fyw- graffiadau yn y llyfr, a rhaid cyfaddef fod cyfartaledd uchel o honynt wedi cyrhaedd enwogrwydd. Rhaid cofio, hefyd, fod y mwy- afrif mawr wedi codi o un gongl o sir Aberteifi, ac ynglyn â hyn fe welir fod llawer iawn o honynt yn perthyn i'w gilydd. Fe ddichon y dylid priodoli llwyddiant y gwyr hyn, yn benaf, i ddylanwad Ysgol David Davies, Castell- Hywel. Y mae'n syndod meddwl fod un gwr wedi gadael cymaint o'i 61 ar genedlaethau o fyfyrwyr. Ond yn y llyfr hwn, y mae yn eglur ddigon mai David Davis-trwy ei feibion a'r rhai dan ei athrawiaeth-a roddodd gychwyn- iad i ddegau o fechgyn, a fuasent yn y cwrs naturiol yn dilyn eu tadau a'u teidiau rhwng dau gorn yr aradr. Pe buasai rhywun yn ymgymeryd a dwyn allan lyfr cyffelyb i hwn am fyfyrwyr Ystrad Meurig, gwnai waith buddiol dros ben. Gellid, yn wir, olrhain y cynydd mewn dysgeidiaeth a'r awydd am wybodaeth sydd yn meddianu rhieni a phlant Cymru yn ein dyddiau ni, yn ol i'w gychwyniad yn Ysgolion Ystrad Meurig a Chastell Hywel. Wrth gwrs, ni welir yn y Uyfr sydd o'n blaen ond un o'r ffrydiau a darddodd o Gastell Hywel, a hono yn un fechan iawn. Rhaid fod Mr. Jones wedi gweithio yn galed i barotoi'r llyfr, gan fod ynddo ganoedd o ddyddiadau, heb son am achau a chysylltiadau teuluaidd. Mae Mr. Jones yn cael ei gydnabod er's amser bellach fel un o'r prif awdurdodau ar fywgraffiaeth yn Nghymru, ac efe, ynghyd k Mr. Lleufer Thomas a Proffeswr Lloyd, sydd wedi ysgrif- enu bywgraffiadau y Cymry yn y Dictionary of National Biography. Y tebyg yw, felly, fod y nodiadau yn y llyfr yn lied gywir, ond ceir yma a thraw rai dywediadau sydd yn amheus. Dywedir fod Lewis Rees-tad Dr. Abraham Rees-wedi priodi merch un Abra- ham Penry, yr hwn oedd yn disgyn o'r merthyr John Penry. Ein tyb ni yw, mai merched yn unig adawodd John Penry ar ei ol, a'u bod wedi ymfudo i Holland yn fuan wedi dienydd- iad eu tad. Hefyd, fe ddywedir am un gwr ieuanc, ei fod yn disgyn, trwy ochr ei dad, o'r Parch. Evan Evans (leuan Brydydd Hir). Ond rhaid fod rhyw gamgymeriad, canys ni phriododd Ieuan erioed. Ond, feallai y ceir y gwall pwysicaf yn hanes Mr. Rees Jenkin Jones ei hun ac, yn sicr, dylai efe ofalu fod ei fywgraffiad ei hunan yn gywir. Dywedir fod tadcu Mr. Jones-sef Rees Rees, Cilgell Isaf, Llanbedr-yn fab i Elizabeth, merch Jenkin Jones, Llwynrhys; tra dengys y dydd- iadau yn y llyfr fod Jenkin Jones wedi marw 23 o flynyddoedd cyn geni Elizabeth, gwraig Rees. Dywedir, hefyd, fod John Jones, Llwyn- rbys-cychwynydd Anghydffurfiaeth yn sir Aberteill-wedi marw yn 1709, tra, mewn gwirionedd, bu efe farw yn 1722; a bu farw Elizabeth, merch Jenkin ei fab, yn lodes ieu- anc heb briodi. Prysured Mr. Jones a chasgliad arall o hen Undodwyr Aberteifi a Chaerfyrddin.
[No title]
Bellach, rhaid i'r Parch. Gomer Lewis roddf ei ddarlith enwog ar Ffair y Byd ar y silf. Erbyn hyn, y mae Mabon wedi dod yn ol o'r 'Merica, ac yn darlithio ar y daith," ac unwaith y dechreua Mabon siarad ar bwnc, ni fydd siawns i neb arall ddyweyd gair arno.
WESLEYAID CYMREIG LLUNDAIN.
WESLEYAID CYMREIG LLUNDAIN. At Olygydd CELT LLUNDAIN. MR. GOL.Gyda'ch caniatad, carwn wneyd ychydig sylwadau ar y llith ymddangosodd yn y CELT yr wythnos o'r blaen dan y penawd uchod. Nid ychydig o lawenydd achosodd darllen- iad y llith i mi-ar gyfrif newydd-deb ei gyn- wysiad, rhyddfrydigrwydd yr ysbryd redai drwyddo, a'r anogaethau buddiol a roddid ynddo eto, meddyliaf fod yna rai pethau yn y llith sydd yn swnio dipyn yn aflafar a dieithr i Wesleyaid o waed coch cyfa' Y peth cyntaf ddaw i'r golwg yn y llith yw y termau dwy gangen eglwys." Godd- efer i mi ddyweyd, syr, nag ydynt yn ngeir- lyfr Wesleyaeth, a'u bod braidd yn cyffwrdd a dignity pob Wesle, ac yn neillduol eiddo y ddwy eglwys y cyfeirir atynt. Er mai eglwys City Road sydd yn berchen ar y gynulleidfa fwyaf, ac yn cyfranu fwyaf mewn canlyniad at angenrheidiau y Gylchdaith, eto nid ydyw yn meddu ar, nac yn cael, mwy o hawl ar wasanaeth y gweinidog na Gothic Hall a Phoplar = mae'r tair eglwys (y gylchdaith) yn ddeiliaid yr un breintiau gweinidogaethol yn hollol. Gwelwch, felly, nad oes yna unrhyw arbenigrwydd penarglwyddiaethol i'w osod ar City Road mewn cysylltiad a'r weinidogaeth, ac fod gweinidog y gylchdaith yn gymaint gweinidog Gothic Hall a Phoplar ag ydyw i City Road. Nid yw'r cynulliadau erioed wedi bod yn lluosog iawn," meddir yn y llith. Beth ydyw y safon i farnu ? Pan yr oedd cynulleidfa Gothic Hall yn arfer addoli yn Poland Street, yr oedd y capel, bron yn ddieithriad, yn or- lawn; tybed, felly, nid oedd y cynulliad yn lluosog ? Yr wyf yn meddwl mai priodol ydyw barnu lluosogrwydd yn ol llawnder y man cynulliad, yn hytrach na thrwy gymhar- iaeth (comparison). Wrth geisio esbonio achos gwendid Wes- leyaeth Gymreig yn Llundain, dywedir mai y tueddiadau Saesonig yn yr addoliad sydd with yr aflwyddiant." Buaswn i yn caru gwybod yn mha fodd, i sylwi arno, y gwahan- iaetha y Wesleyaid Cymreig oddiwrth en- wadau Cymreig ereill yn eu modd o addoli, ac yn mha fodd y tebygant i addoliad y Saeson. Yr wyf yn meddwl fod y gosodiad yn rhy gryf i'w adael i fyn'd heibio heb es- boniad; oblegid yr wyf yn sicr nad oes yna ddim yn ein haddoliad Cymreig sydd yn rhoddi cyfleusderau i aelodau o'r wlad i redeg at achosion Seisnig yn hytrach nag at eu pobl eu hunain." Os a ein "pobl o'r wlad at y Saeson, tybiaf mai myn'd y maent am mai rhyw fath o national scouts crefyddol ydynt, yn hytrach na rhai yn gweled tebygol- rwydd y ffurf-wasanaeth. Na, nid Seisnig- eiddwch y ffurf-wasanaeth, na'r gwreiddyn, na'r gynulleidfa, sydd yn peri'r eiddilwch, Mr. Gol. Yn ol fy marn i, nid ydyw ond effaith gweithrediadau yr 4 imperialists enwadoPsydd er's rhai blynyddoedd, bellach, yn ymeangu cortynau eu pebyll" heb ddwyn rhyw lawer iawn o gydwybodolrwydd i'w gweithrediadau. Os am eingu cylch gweithgarwch crefyddol, gwnaed hyny drwy geisio esgeuluswyr cyson a phechaduriaid, gan osgoi, gyda pharch dy- ledus, braidd corlanau ereill. Synwyd fi yn fawr wrth ddarllen yn y llith fod y bugail," wrth symud bob tair blynedd, dan anfantais i adnabod ei gynulleidfa. Beth, tair blynedd heb i wr, sydd wedi cysegru ei hun i'r gwaith, ddod i gysylltiad â" chynull- iadau nad ydynt erioed wedi bod yn lliosog "? Y mae dyweyd y fath beth yn afresymol, syr, am ddosbarth o ddynion a'u Ilygaid yn eu penau a'u calorau yn y cywair priodol! Beth bynag, nid bai y cynllun ydyw. Ond i derfynu. Yr wyf yn hollol gydweled a'r llith, syr, pan y dywedir mai rhagor o anturiaeth ac ysbryd cenhadol sydd eisieu yn mysg Wtsleyaid Llundain er cynyddu y cynulleidfaoedd a rhif yr aelodau; a phe cawsem ragor o gapeli neu fanau sefydlog i, addoli yddynt, ac ychydig o arweinwyr, a Uai o siarad, nid oes amheuaeth na fuasem yn gallu cadw y Wesleyaid hyny sydd yn bar- haus yn cael eu derbyn yn aelodau mewn eglwysi ereill; ac hefyd yn medru gwneyd, gwasanaeth dros Grist diwy osod gwrthgilwyr ac esgeuluswyr ar ben eu ffyrdd er byw bywyd gwell. Yr eiddoch, &c., ARMINIUS.
SEISNIGEIDDIWCH YR EISTEDDFOD,
SEISNIGEIDDIWCH YR EISTEDDFOD, Dydd Llun y Pasg yr oedd Mr. William Evans, Birmingham, yn gadeirydd Eisteddfod. y 'Bermo'; ac yn ei araeth syrthiodd yndrwm? ar y dull y mae yr Eisteddfod yn cael ei chario ymlaen y dyddiau byn. Dywedodd —" Mae wedi myned yn ormod o'r dydd i neb wastraffu nag amser na dim arall i gyf- iawnhau bodolaeth yr Eisteddfod. Mae hyd yn oed y Saeson fu am hir amser yn ceisic taflu ar ei phen gymaint o wawd erbyn hyn wedi dyfod i gredu ynddi, ac i'w chefnogi yn y modd mwyaf gwresog. Ond y drwg ydyw mai nid mantais i'r Eisteddfod ydyw hyny,. am y rheswm fod elfenau wedi dyfod i fewn, ydynt yn graddol ladd nodweddion Cymreig" yr Eisteddfod. Erbyn hyn, hyd yn oed yn yr Eisteddfod Genedlaethol, rhaid i'r hen iaitfe Gymraeg gymeryd yr ail Ie. Saesneg a siaredir, Saesneg a genir, a Saeson, y rhan amlaf, fydd y beirniaid a'r dadganwyr. Nid- ydwyf yn dadleu dros gyfyngu pobpeth i'r Cymry ac i'r Gymraeg, ond yn sicr nid ydyw yn iawn i bwyllgorau drefnu fod tair rhan a,, bedair o waith yr Eisteddfod yn cael ei garia, yn mlaen yn Saesneg. Un amcan mawr yr Eisteddfod oedd bod yn fagwrfa a meithrinfac, i bopeth Cymreig-Iaith, LIenyddiaeth, Cerdd- oriaeth. Hi fu drwy'r oesau'n Brif Athrofa y genedl; a phan gyll ei nodweddion cenedl- aethol yna cyll y prif reswm dros ei pharhad. Mae'n ddyledswydd ar bob Cymro i wneyd a allo o blaid yr Eisteddfod, nid fel y caiff ei chario yn mlaen yn ami y blynyddoedd hyn; ond fel yr oedd yn yr hen amser gynt. Yr wyf yn teimlo yn gryf na ddylid Seisnigeiddio yr hen sefydliad cenedlaethol er mwyn enili' cefnogaeth rhyw ddosbarth o bobl. Parchwn ein hiaith. Parchwn ein traddodiadau. Dal-. iwn yn sicr wrth ein nodweddion cenedlaethol. Erbyn hyn, mae prif ddysgawdwyr a llenorion, Ewrop wedi dyfod i weled gwerth ein hanes, a'n nodweddion fel cenedl."
"GOLEUNI Y BYD."
"GOLEUNI Y BYD." (Ychydig ddyfyniadau 0 un o'r pryddestaw colledig ar y testyn uchod, yn EisteddfodI ddiiueddar Exeter Hall). Teifl y Seren fore eglur" Lachar w6n trwy nos y byd, A chanfyddir i bechadur Oleu yn Ei ddwyfol bryd. Os oes pererinion lawer i Wedi ymbalfalu'n hir Mewn tywyllwch a gorthrymder Hyd fynyddau'r anial dir Deuant bellach i gyfeirio Tua'r Ganaan oleu, glyd, Mae'r Gwaredwr wedi teithio I'w blaenori yn y byd Mae goleuni paradwysaidd Hyd ei lwybrau hyfryd Ef, Fel pe'n mynu llifo'n sanctaidd I'w goleuo tua'r Nef. Y mae natur wen yr lesu'n Llawn goleuDi byw, di-drai, Ao er Iddo fyth-dywynu Nid yw'r Gole'n mydd yn llai r Erys yn y Nof i lifo'n Llon'd ei heangderau'i gyd, A pharha, i lan oleuo Nos-waelodion pell y byd. Y Goleuni lifa yma I'n goleuo ar y daith, Yw Goleuni pur y Wynfa Hwn oleua'r Nefoedd faith Nid oes yn Mharadwys hyfryd Er ei holl hawddgarwch c-an, Ddim i lawenhau ein hysbryd