Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

LLYFRAU NEWYDDION.I

[No title]

WESLEYAID CYMREIG LLUNDAIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

WESLEYAID CYMREIG LLUNDAIN. At Olygydd CELT LLUNDAIN. MR. GOL.Gyda'ch caniatad, carwn wneyd ychydig sylwadau ar y llith ymddangosodd yn y CELT yr wythnos o'r blaen dan y penawd uchod. Nid ychydig o lawenydd achosodd darllen- iad y llith i mi-ar gyfrif newydd-deb ei gyn- wysiad, rhyddfrydigrwydd yr ysbryd redai drwyddo, a'r anogaethau buddiol a roddid ynddo eto, meddyliaf fod yna rai pethau yn y llith sydd yn swnio dipyn yn aflafar a dieithr i Wesleyaid o waed coch cyfa' Y peth cyntaf ddaw i'r golwg yn y llith yw y termau dwy gangen eglwys." Godd- efer i mi ddyweyd, syr, nag ydynt yn ngeir- lyfr Wesleyaeth, a'u bod braidd yn cyffwrdd a dignity pob Wesle, ac yn neillduol eiddo y ddwy eglwys y cyfeirir atynt. Er mai eglwys City Road sydd yn berchen ar y gynulleidfa fwyaf, ac yn cyfranu fwyaf mewn canlyniad at angenrheidiau y Gylchdaith, eto nid ydyw yn meddu ar, nac yn cael, mwy o hawl ar wasanaeth y gweinidog na Gothic Hall a Phoplar = mae'r tair eglwys (y gylchdaith) yn ddeiliaid yr un breintiau gweinidogaethol yn hollol. Gwelwch, felly, nad oes yna unrhyw arbenigrwydd penarglwyddiaethol i'w osod ar City Road mewn cysylltiad a'r weinidogaeth, ac fod gweinidog y gylchdaith yn gymaint gweinidog Gothic Hall a Phoplar ag ydyw i City Road. Nid yw'r cynulliadau erioed wedi bod yn lluosog iawn," meddir yn y llith. Beth ydyw y safon i farnu ? Pan yr oedd cynulleidfa Gothic Hall yn arfer addoli yn Poland Street, yr oedd y capel, bron yn ddieithriad, yn or- lawn; tybed, felly, nid oedd y cynulliad yn lluosog ? Yr wyf yn meddwl mai priodol ydyw barnu lluosogrwydd yn ol llawnder y man cynulliad, yn hytrach na thrwy gymhar- iaeth (comparison). Wrth geisio esbonio achos gwendid Wes- leyaeth Gymreig yn Llundain, dywedir mai y tueddiadau Saesonig yn yr addoliad sydd with yr aflwyddiant." Buaswn i yn caru gwybod yn mha fodd, i sylwi arno, y gwahan- iaetha y Wesleyaid Cymreig oddiwrth en- wadau Cymreig ereill yn eu modd o addoli, ac yn mha fodd y tebygant i addoliad y Saeson. Yr wyf yn meddwl fod y gosodiad yn rhy gryf i'w adael i fyn'd heibio heb es- boniad; oblegid yr wyf yn sicr nad oes yna ddim yn ein haddoliad Cymreig sydd yn rhoddi cyfleusderau i aelodau o'r wlad i redeg at achosion Seisnig yn hytrach nag at eu pobl eu hunain." Os a ein "pobl o'r wlad at y Saeson, tybiaf mai myn'd y maent am mai rhyw fath o national scouts crefyddol ydynt, yn hytrach na rhai yn gweled tebygol- rwydd y ffurf-wasanaeth. Na, nid Seisnig- eiddwch y ffurf-wasanaeth, na'r gwreiddyn, na'r gynulleidfa, sydd yn peri'r eiddilwch, Mr. Gol. Yn ol fy marn i, nid ydyw ond effaith gweithrediadau yr 4 imperialists enwadoPsydd er's rhai blynyddoedd, bellach, yn ymeangu cortynau eu pebyll" heb ddwyn rhyw lawer iawn o gydwybodolrwydd i'w gweithrediadau. Os am eingu cylch gweithgarwch crefyddol, gwnaed hyny drwy geisio esgeuluswyr cyson a phechaduriaid, gan osgoi, gyda pharch dy- ledus, braidd corlanau ereill. Synwyd fi yn fawr wrth ddarllen yn y llith fod y bugail," wrth symud bob tair blynedd, dan anfantais i adnabod ei gynulleidfa. Beth, tair blynedd heb i wr, sydd wedi cysegru ei hun i'r gwaith, ddod i gysylltiad â" chynull- iadau nad ydynt erioed wedi bod yn lliosog "? Y mae dyweyd y fath beth yn afresymol, syr, am ddosbarth o ddynion a'u Ilygaid yn eu penau a'u calorau yn y cywair priodol! Beth bynag, nid bai y cynllun ydyw. Ond i derfynu. Yr wyf yn hollol gydweled a'r llith, syr, pan y dywedir mai rhagor o anturiaeth ac ysbryd cenhadol sydd eisieu yn mysg Wtsleyaid Llundain er cynyddu y cynulleidfaoedd a rhif yr aelodau; a phe cawsem ragor o gapeli neu fanau sefydlog i, addoli yddynt, ac ychydig o arweinwyr, a Uai o siarad, nid oes amheuaeth na fuasem yn gallu cadw y Wesleyaid hyny sydd yn bar- haus yn cael eu derbyn yn aelodau mewn eglwysi ereill; ac hefyd yn medru gwneyd, gwasanaeth dros Grist diwy osod gwrthgilwyr ac esgeuluswyr ar ben eu ffyrdd er byw bywyd gwell. Yr eiddoch, &c., ARMINIUS.

SEISNIGEIDDIWCH YR EISTEDDFOD,

"GOLEUNI Y BYD."