Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

CAPEL MILE END ROAD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CAPEL MILE END ROAD. Y PRAWF-GYNGHERDD. Fel y mae'n hysbys i'n cydwladwyr yn Llundain, egflwys Fethodistaidd ydyw yr uchod, yr hon sydd yn gwneyd llawer o ddaioni yn rhanbarth ddwyreiniol y dref. Nid ydym am geisio rhoddi tren ar ei hanes, gan y cymerai ein holl ofod i wneyd hyny— i son am yr ymdrechion egMiol a'r llafur plr- haol sydd wedi bod yn mhlith cyfeillion yr achos. Nid oes eisieu myned ond ychydig amser yn ol i'w gweled yn yr hen gapel di-addurn, yn mha un y caed ami i oedfa wresog, ami i gwrdd gweddi rhyfeddol, ami i brydnawn Sul adeiladol, ac ami i gyrddau daionus ereill. Er mor blaen a di-addurn ydoedd yr hen Fethel—eithr dyna fel v cyfeiria y brodyr at yr hen gapeI-yr oedd gan rai o honynt gryn afael arno, ac yr oeddent yn teimlo rhyw brudd-der wrth ffarwelio ag ef. Un rheswm am hyny ydoedd, mai yno yr aethant i addoli gyntaf ar eu dyfodiad i'r Babilon fawr yma. Erbyn heddyw, fel y gwelir, y maent wedi gwneyd cynydd dirfawr yn mhob ystyr, ac, fel y mae'n hyfrydwch genym nodi, y mae gwedd obeithiol iawn arnynt. Y mae'r blodau yn agor, ac y mae'r maes yn brydferth iawn yn wir. Y maent wedi codi teml hardd-ie, gan hardded ag unrhyw addoldy Cymreig yn L!undain, yr hyn, nid yn unig sydd yn adlew- yrchu clod ar y cyfeillion yn y lie, eithr hefyd sydd yn glod i G-yfundeb Methodistiaid Llun- dain. Ac y mae meddwl am aelodau yr hen Fethel wedi sicrhau lie addoli mor hardd yn achos o lawenydd i lawer, yn sicr; ac yn eu bugeilio yn ofalus, y mae y Parch. D. Oliver. Ymlaen yr elont yn llwyddianus. Y PRAWF-GYNGHERDD. Nos Iau cyn y diweddaf y cymerodd y cyngherdd hwn Ie, yn y capel newydd, pryd y daeth cynulliad rhagorol ynghyd-mewn gwirionedd, yr oedd yr adeilad eang yn orlawn, a phawb yn ymddangos yn llawen fel mae'n weddus mewn cwrdd o'r natur yma. Yn y gadair, yr oedd y meddyg enwog, Dr. D. L. Thomas, yr hwn a wnaeth ei ran yn ganmol- adwy iawn. Er fod enw'r Doctor ar y rhaglen i draddodi anerchiad, ni wnaeth ond dyweyd ychydig eiriau, a'r rhai hyny i bwrpas ac yn eu lie. Yr oedd yn Ilawn sirioldeb drwy gydol y nos, ac anhawdd fuasai cadeirio'r cwrdd yn fwy dymunol nag a wnaethpwyd ganddo ef. Dywedai ei fod yn hiraethu gryn dipyn ar ol yr hen gapel-er ei fod yn debycach i ys- gubor nag i addoldy-oblegid rrai yno yr aeth ef gyntaf ar ei ddyfodiad i'r rhanbarth, ac yr oedd ganddo ef barch calon i'r hen Ie. Gyda bod Mr. Thomas wedi eistedd i lawr, wele'r ysgrifenydd gweithgar, Mr. Morris, ar ei draed yn dyweyd fod bardd Mile End-yr hwn oedd yn analluog i fod yn bresenol oher- wydd damwain-wedi anfon anerchiad bardd- onol i'r cadeirydd, ac fel Archdderwydd, gwaeddai nes adsiin o'r muriau- I'r Dr. mwyn mewn cadair fawr Rhown groesaw calon iddo'n awr, Ar bob achlysur parod yw I noddi Ile'r addolir Duw; Nid fawr gwahaniaeth ganddo ef Pa enwad eilw arno ef, Er credaf, ac 'rwy'n ddigon siwr, Mai Calfin cadarn ydyw r gwr. Mae'r llecyn gwlad lie mae yn dod Yn deilwng o gael rhan o'r clod Rhyw nursery o dalentau mad Ac Eisteddfodwyr goreu'r wlad Sydd wedi codi i fri a nod O'r lie mae'n gwrthrych* wedi dod Ac yn y gadair genym sydd Y mab sy'n addurn Cymru Fydd. A'i bresenoldeb leinw'r lie A nawdd ei boced gydag e' Yn gwneuthur da ddiffygia ddim Fel Cymro mae yn addurn im' Ac, fyny mae yn myn'd o hyd Uwch, uwch yr elo tra'n y byd: A'n dymuniadau goreu yw, Pob bendith arnoch gan eich Duw. Yr oedd y rhaglen yn faith-ie, mor faith fel y bu raid gadael rhai items allan. Yr oedd y cwrdd yn gynwysedig o ganu ac adrodd am y goreu ac yn ychwanegol at hyn caed canu penillion-" Chaiff neb ei ffordd ei hun "-gan Llewelyn," a chafwyd y g&n "'Rwy'n myn'd i rywle" &c., gan y cantor poblogaidd, Mr. Emlyn Davies. Efe hefyd oedd yn beirniadu'r cantorion, yr hyn a wnaeth yn hwylus iawn [gwelir ei sylwadau beirniadol ar y gwahanol gystadleuwyr mewn colofn arall gan ein gohebydd cerddorol.] Yr oedd cystadlu da ar yr adroddiadau, y rhai a feirniadwyd gan Mr. Tudor Rhys a Mr. Lewis Evans. Daeth tair merch ymlaen ar yr adroddiad Seisnig" Man the Life Boa.t" Yn ei feirniadaeth, dywedodd Mr. Rhys mai dyma'r gystadleuaeth oreu ar ddernyn Seisnig -ac eithrio un yn y Queen's HaB-a glywodd yn ystod ei amser ef ymhlith Cymry Llundain. Aeth ymlaen i ddangos i'r adroddwyr eu manau gwan; a sicr yw eu bod wedi dysgu llawer oddiwrth ei sylwadau gwerthfawr. Dy- farnodd Miss Jennie Davies, Rotherhithe yn oreu. Ar yr adroddiad Cymraeg, "Y Nos," daeth tri ymlaen, a dyfarnwyd Mr. R. E. Davies, Hampstead, yn oreu. Y buddugwyr ar yr unawdau oeddynt:— M;ss Annie Thomas, Jewin Mr. John Evans, Chelsea Boy," a Mr. W Rees, Castle Street. Cwpanau arian heirdd oedd y gwobrwyon a roddwyd i'r buddugwyr, a rhodd gan y bon- eddigion caredig canlynol oeddent:—Mri. J. Bonner, T. Jones, T. J. Davies, E. Williams a M. G. Williams. Cyflwynwyd y cwpanau i'r buddugwyr gan y boneddigesau canty no!:—Miss Jones, Ham- ilton Road; Miss Williams, St. Paul's Road Miss Dora Morris; Miss Williams, Globe Road; a Miss Jones, Devons Road. Y mae'r cyfeillion a'r ysgrifenydd, Mr. Morris, a'r Parch. D. Oliver, i'w llongyfarch ar y fath lwyddiant. 0, t

Advertising