Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

MEDI'R CYNHAUAF.

Y PREGETHWR NEWYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y PREGETHWR NEWYDD. Syniad arall am bregethu ydyw un yr eg- Iwys. Dywed y diweddar Dr. T. C. Edwards mai "traethiad o wirionedd Cristionogol fel y mae yn dylanwadu ar y pregethwr ei hun, a chyda'r amcan o gynyrchu dylanwad Crist- ionogol ar y gwrandawyr," yw pregethu. Dyna hefyd oedd syniad y diweddar Dr. Phillips Brooks, o'r America. Yn ol y golyg- iad yna, eto rhaid i'r pregethwr deimlo gwir- ionedd yr Efengyl yn llosgi yn oddaith wynias yn ei galon ef ei hun cyn y medr ei bregethu fod fel moddion iachawdwriaeth i neb arall. Gofynodd rhywun unwaith i'r Parch. Henry Ward Beecher pa fodd yr oedd yn medru pregethu mor fyw ac effeithiol: atebodd yntau,—" Yr wyf yn meddwl fy mhregeth allan yn fanwl, ac yn ei phwyso yn nghlorian ddifethu profiad personol, yna cymeraf ychydig nodion gyda mi i'r pwlpud; and I generally manage to set them on fire before I am done.' Flynyddoedd yn ol addawodd pre- gethwr enwog iawn o Gymru fyned i bregethu i un o eglwysi cyfoethocaf Llundain. Teimlai yn hyderus odiaeth wrth feddwl am anerch tyrfa o ddynion deallus mewn iaith estronol; ac yn ei ffwdan gyrodd at ysgrifenydd yr eglwys i ofyn ai nid gwell fuasai iddo gym- eryd ei manuscript gydag ef i'r pwlpud, a. darllen ei bregeth i'r bobl. Atebodd yr ys- grifenydd y llythyr fel y canlyn:—" We want your Welsh fire; and you cannot earry fire in paper, but you may use paper to kindle the fire if you like." Rhaid i dan y pwlpud ddifa llygredd y byd fel y goddeithia ffl im fynydd- oedd. Ond ni wna pob math o dan ysu pechod nac angerddoli daioni. Nid fireivorks artificial sydd yn tanio'r wlad, ond gwreichion byw a beiriant fyddo yn gweithio. Cof genyf, pan yn hogyn, weled hen frawd yn dyfod i ffeiriau Llanarth, oedd yn bwyta papyr ac yn poeri tan. Ystyriem ni, blant, ef yn un o ryfeddodaus penaf y pedwar tymhor. Ond gweddus yw dyweyd nad oedd neb ond plant a dynion heb fod yn Ilawn llathen yn aros i edrych arno ai y bobl gallaf heibio heb synu fawr at ei orchestion, am y gwyddent mai ystryw ddrwg dyn diog i gael bara heb lafurio yn onest am dano oedd y cwbl i gyd. Bydd ambell bre- gethwr yn gwaeddi ac yn poeri tan; ond ni bydd y bobl fwyaf meddylgar yn sylwi fawr, gan y gwyddont mai sain udgorn a llef geiriau yw y bregeth i gyd. Angen mawr yr eglwysi ar hyn o bryd ydyw dynion a'r Efengyl wedi llwyr feddianu eu calonau, dynion ag awydd am bregethu yn gynddaredd yn eu gwaed, dynion yn dyfod i'r pwlpud, nid i ddangos eu dysg a'u dawn, ond i ddyweyd yn angerddol y pethau a welsant ac a deimlodd eu dwylaw am air y bywyd.—(Y Parch. D. Stanley Jones, yn y Qeninen am Ebrill). [