Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
nmpf)^^£1,Jh Bgd g % < j ^…
n m p f) £ 1 Jh Bgd g < j Gan. ti Gan PEDR ALAW. [" PENDENNIS," LOUGHTON.] Ychydig amser yn ol buom yn ysgrifenu i'r golofn hon ar CHWAETH mewn cerddoriaeth, a llawenychwn wrth feddwl fod yr erthygl bono wedi cael ystyriaeth gan rai o'n darllen- wyr. Wrth gwrs, ni ddisgwyliem i bawb dderbyn ein golygiad ni fel yr un iawn; a da cedd genym gael ymgom a cherddor y dydd o'r blaen, yr hwn nas gallai gydolygu a ni yn gyfangwbl yn ein hymdriniaeth o'r testyn crybwylledig. Ei anhawsder ef oedd hyn: fod ef a'i frawd wedi derbyn addysg gerdd- crol foreuol hollol yr un fatb, ac eto nad oedd ei frawd yn meddu chwaeth gerddorol gwerth yr enw, tra yr oedd ef wedi cyrhaedd ystad broffeswrol mewn cerddoriaeth. Ein hateb ydyw a ganlyn pe gellid dod o hyd i ddau facbgen wedi eu donio a'r un mesur o duedd at gerddoriaeth, yn dangos yr un diwydrwydd gyda'u hastudiaeth o gerddoriaeth, ac yn derbyn addysg hollol gyffelyb, yna disgwyliem weled canlyniadau cyffelyb-disgwyliem weled dau gerddor cydradd. Y mae ein gosodiad, fe gredwn, yn dal-sef fod tuedd at gerddor- iaeth yn beth cynhenid ynom, tra mae chwaeth yn allu meddyliol ac yn beth sydd yn dibynu ar addysg a phrofiad. Nid ar chwaeth, modd bynag, yr ydym yn golygu ysgrifenu yr wythnos hon, eithr ar ddylanwad cerddoriaeth. Awgrymwyd y testyn hwn ini gan Mr. Emlyn Davies, yr hwn a sylwai yng nghyngherdd Mile End Road yn ddiweddar fod llwyddiant cantor yn dibynu gymaint, os nad mwy, ar y gwrandawyr nac arno ef ei hun. Dywedai y rhaid iddo ef deimlo grym y dylanwad sydd yn eu medd- ianu hwy neu ni chaiff unrhyw ysbrydiaeth gyda'i ymgais. Os felly, ai nid oes berygl i gantor feio y gwrandawyr, pan mewn gwirion- edd mai efe ei hun sydd yn ddi-hwyl ? Diau fod Mr. Davies yn golygu ynghyntaf oil, fod y cantor mewn hwyl ac yn feistr ar ei waith, ac mewn canlyniad y rhaid i'r dorf gadw'r hwyliau i fyny-drwy daflu yn ol iddo o helaethrwydd y teimlad a gyfranogwyd ganddynt. Os dywedir fod rhai Ilythrenog ac anllyth- renog, rhai bach a rhai mawr cerddorol, mewn torf o wrandawyr yn fynych, ac felly nas gall yr oil dderbyn yr helaethrwydd y cyfeiriwyd ato; yr ateb, mae'n debyg, fyddai, nad yw enyniad teimlad mewn gwrandawyr yn dibynu ar eu diwylliant cerddorol, ac y byddai y rhai Jleiaf diwylliedig yn debyg o fod yn llai beirn- iadol ac, mewn canlyniad, yn fwy agored i dderbyn apel oddiwrth y cantor. Os yw hyn yn wir, gwelir fod yn bosibl i'r cantor apelio yn effeithiol at yr oil; ond cad- 'Wer mewn cof mai apeliwr ydyw ef ac nid cynyrchwr. Os yw am deimlo y gwres sydd yn nheimlad ei wrandawyr, rhaid iddo agos- hau atynt drwy'r gwreichion a ergydir o'i fyn- ^es ac a gleddir yn y defnyddiau sydd yn Jiiynwesau'r bob]. Pryd hyny y ceir y tan a'r gwres a gynhesa'r awyrgylch—o ba un y cyfranoga ef fel ereill. Amhosibl ydyw i ni olrhain y graddau ac ansawdd y teimlad a gynyrchir yn y rhai bach cerddorol yn gyferbyniol i'r rhai mawr cerddorol. Y mae hyny yn dibynu ar eu chwaeth gerddorol hwy. Y ffaith ydjm yn ceisio galw sylw ati yw fed teimlad y cantor, drwy gyfrwng ei lais, yn enyn teimlad o'r un ll/ftur yn y gwrandawyr, a chan fod gan eiriau can neges at feddwl dyn, gwel y cantor pa ryw offeryn sydd yn ei feddiant er apelio at deimladau goreu a meddyliau y bobl. [Dodir ein cyfeiriad uwchben y llith hon er cyfarwyddyd i gantorion ac ereill a ddymun- ant ymohebu a ni ar faterion cerddorol fydd- ont yn debyg o ateb ein pwrpas i'r golofn hon.]
EGLWYS SANT PADARN
EGLWYS SANT PADARN (Flomsey Boad, Holloway) EI CHYFARFOD CYSTADLEUOL. Nid yw Eglwys Sant Padarn ond ieuanc iawn eto-megis yn ei babandod-a sicr yw fod pawb yn dymuno iddi ddyddiau cysurus a llwyddiant yn goron ar yr holl lafur. Y mae yma gynulleidfa o bobl gartrefol a di- rodres ac yn ymddangos mewn undeb hapus a'u gilydd. Gwir mai adeilad haiarn sydd ganddynt hyd yn hyn, ond mae'r addoliad oddifewn yn wresog a phur iawn ac y mae'r offeiriad sydd yn bugeilio yma, sef y Parch. W. Davies, yn wr tawel a di-rodres-yn hoffus gan ei braidd; ac nid yw yn segur yn ei faes dymunol. Yn arwain y ganiadaeth yn y lie ac yn llywyddu wrth yr organ, y mae gwr ieuanc o Fachynlleth, Mr. Jones, ac ymddengys ei fod yn bur lwyddianus gyda'i gor cerddgar. Y mae llawer o bethau ereill y gallesid eu nhodi am Sant Padarn a'i swyddogion, ond prinder gofod a luddia i ni wneyd hyny yn y fan yma. Y CYFARFOD CYST ADLEUOL. Cynhaliwyd y cyfarfod cystadleuol hwn nos Iau cyn y diweddaf, yn Neuadd Myddelton, Islington, pan y daeth cynulleidfa go gryno ynghyd i fwynhau y cystadleuaethau dydd- orol a geir fel rheol mewn cyfarfodydd o'r nodwedd yma. Nis gellir dyweyd pethau gwych iawn am y cwrdd hwn, a thipyn yn anhylaw ydoedd y trefniadau, a'r arweinydd feallai, yn edrych mwy ar ei "wits" ei hun nag ar waith y llwyfan. Ymddengys mai rhaglen ysgrifen- edig oedd wedi ei pharotoi gan yr ysgrifen- ydd, a hono, gallem feddwl, yn aneglur dros ben, oblegid bu raid i'r arweinydd amryw weithiau gael help i'w deall. Pan yn galw ar yr ymgeiswyr yng nghystadleuaeth y pedwar- awd, gwaeddai yr arweinydd am i'r Deu- ddeg o'r South ddod ymlaen. Ond gofynai rhywun o'r gynulleidfa, Deuddeg i ganu pedwarawd?" Fodd bynag, er dechreu y cwrdd cyn haner awr wedi saith-yr hwn a ddylasai fod wedi terfynu cyn haner awr wedi deg pe bai'r arweinydd a'r dorf hwyliog mewn undeb a'u gilydd-yr oedd oriau man y boreu yn dynesu pan ein gollyngwyd ni ymaith. Fel hyn y dywedai un hen wag wrth fyned allan, Cafwyd peth wmbreth o siarad, ond ychydig iawn a ddywedwyd," Yr oedd y gwahanol gystadleuaethau yn deilwng iawn o Eglwys fechan fel St. Padarn, ac y mae y cyfeillion i'w llongyfarch ar eu detholiad o destynau. Dylasai'r gynulleidfa wneyd ei rhan mewn cwrdd fel hwn, drwy fod yn dawel er mwyn i'r ymgeiswyr glywed eu henwau pan y gelwir arnynt, ac nid gwneyd eu goreu i ddyrysu'r gweithrediadau drwy ateb, un ar ol y 11all, i bob enw a ddaw o'r llwyfan yn wir, sylwasom at un hen Eistedd- fodwr, a ddylasai wybod yn well, a'i het dros ei wyneb yn ateb i enw rhywun arall. Yr ymgeiswyr hefyd, yr oeddynt hwythau yn hwyrfrydig iawn i ateb i'w henwau. Ar ol bod yn gwaeddai am beth amser ar rhyw John neu Jane," gwelid y cystadleuydd neu'r gystadleuyddes yn codi'n araf fel pe newydd ddeffroi o drwm-gwsg. Ysgrifenydd a y cwrdd ydoedd Mr. W. Evans, 31, Ashbrook Road, Holloway, N. Yn beirniadu yr oedd y rhai canlynol:— Cerddoriaeth, Mr. Madoc Davies, R.C.M.; barddoniaeth, Parch. D. Lewis (Ap Ceredig- ion) llenyddiaeth, Parch. Benjamin Thomas, B.A.; amrywiaeth, Parchn. Evan Davies a Lewis Roderick. Arweiniwyd gan y Parcbn. B. Thomas a Morris Roberts. Wele restr o'r buddLgwyr Traethawd Gideon," Mr. Moses Roberts, Gothic Hall. Cywydd Gardd Gethsemane,' Mr Richard Wood, Boro. Araeth fyfyriol, Mr. Moses Roberts, Gothic Hall. Dernyn o farddoniaeth, "Iesu yn golchi traed Ei ddisgyblion." Mr. Richard Jones (Cwcwll) a Moses Roberts, Gothic Hall, yn gyfartal. l'r cor am ganu'n oreu Comrades in Arms," South London Minstrels, o dan ar- weiniad Mr. Dan Jones, Clapham Junction, yn oreu. Parti deuddeg, 11 Tarry with me, 0 my Saviour." Un parti ddaeth ymlaen, sef Parti Morley Hall,. a cha'dd y wobr. Pedwarawd, Beth sy'n hardd ?" Un eto ddaeth ymlaen, sef Pedwarawd Morley Hall, a chawsant y wobr. Deuawd contralto a soprano, Misses Sarah James a Maggie Davies (Shirland Road) a Misses Thomas (Morley Hall) yn gyfartal. Deuawd tenor a bass, Mri. Edwin Thomas a Thomas Jones, Jewin. Unawd soprano, Miss Annie Thomas, Morley Hall. Unawd contralto, Miss Jones, Dalston. Unawd tenor, Mr. Hugh Williams, gynt o Gcthic Hall. Unawd baritone, Mr. John Hughes, City Road. Unawd perdoneg i blant dan 15 oed. i, Miss Annie Pierce, Dewi Sant; 2, Miss Hilda Davies, Holloway. Unawd i blant dan 16 oed. i, Miss J. L. Jones, Jewin 2, Miss Annie Parry, Dewi Sant; 3, Miss Elizabeth Jenkins, Falmouth Road. Cystadleuaeth i rai heb fod dan 50 mlwydd oed, sef canu Crugybar "ay geiriau 0 fryniau Caersalem ceir gweled." Un ddaeth ymlaen, sef Mr. Hugh Jenkins, Holloway, ac yr oedd yn deilwng iawn o'r wobr. Adroddiad Arwerthiant y Caethwas," i, Miss Jennie Thomas, West Ham; 2, Mr. D. George, Jewin. Adroddiad y plant. I, Miss J. L. Jones, Jewin 2, Miss Lizzie Davies, Holloway. Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg, Mr. Richard Jones (Cwcwll). Cyfeiliwyd i'r cantorion yn ddeheuig iawn gan Mr. Gwilym Rowland, organydd Capei Holloway, a Mr. Jones, organydd Sant Padarn.
Advertising
CYMDEITHAS Y BKYTHONWYR (SEFYDLWYD CHWEF. 1901. CYMDEITHAS WEEINOL I DDATBLYGU CYMREIG- AETH. Cynhelir Cyfarfodydd y Gym- deithas hon bob yn AIL NOS IAU yn 63, Chancery Lane, (ARBITRATION ROOM) Am 8 o'r gloch yn brydlon. TREFN Y CYFARFODYDD :— 1902. Mai 8. Y Pwlpud a Chymreigaeth." Mr. T. J. EVANS. „ 22. Cymreigaeth mewn Barddoniaeth." Dr. MORGAN DAVIES. Am fanylion ynghylch Aelodaeth, &c., ymoheber a'r Ysgrifenyddion, Mr. J. WINTON EVANS, 98, Marlborough Road, Brompton, S.W. Mr. G. GRIFFITHS, 42, King's Road, Chelsea, S.W. V