Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Y BrD A'R BETTWS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y BrD A'R BETTWS. Yn ol pob newyddion a geir o Ddeheudir Affrica, y mae y Bauwyr yn barod i roddi eu harfau i lawr a gwneyd heddwch ar delerau. Mae'r Americaniaid yn cael trafferth mawr i oresgyn ynysoedd y Philipiaid fel ag a gaw- som ni yn Affrica. Ymladd dros feddiant o'u tiroedd y mae'r brodorion hyny fel y Bauwyr. Ceisia awdurdodau Deheudir Affrica i hudo Cymry'r Wladfa i'w trefedigaeth hwy yn hytrach nag i Canada. Mae pob argoelion yr aiff nifer o'r gwladfawyr yno. Mae rhai o'r trefedigaethau yn cwyno am fod Lloegr wedi gosod toll ar yd a dderbynir i'r ynys hon. Ofnant mai codi a wna'r dreth yn y dyfodol, ac y mae pob sail i ddynodi mai felly y bydd hefyd. Mae'n rhaid talu costau y rhyfel a'r gweithiwr gaiff dalu y rhan drymaf o'r ddyled debyg iawn. Yn ol y cyfrifon swyddogol sydd wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar, bydd costau y rhyfel cyn mis Mawrth nesaf wedi cyrhaedd y swm aruthrol 232 o filiynau o bunau. Rhyw wyth miliwn a gyfrifid ar y dechreu a fuasai yn ddigon. Rhyfedd y camsynied a wnaed. Y mae Bret Harte, y nofelydd American- aidd enwog, newydd farw. Efe oedd awdwr rhai o'r storiau goreu, i fobl ieuainc, a gy- hoeddwyd erioed. Wedi'r holl dwrw, y mae gwerth arianol mewn chwareu piano, ond ei chwareu yn gywir a deallus. Hysbysir fod y perdonydd enwog Paderewski, sydd newydd ddychwelyd o'r America wedi enill 923,000 mewn tri mis. Pwy na cheisia fod yn ganwr ar yr offeryn ar ol hyn Mae'r Clwb Rhyddfrydol Cenedlaethol yn myn'd i roddi ciniaw i Arglwydd Rosebery ar y 25ain o'r mis hwn. Hysbysir fod ei Arglwyddiaeth yn bwriadu siarad cyn hir ar Fesur Addysg, ond diau na wna ddim ar hyn o bryd i beryglu'r Weinyddiaeth.