Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

r BYD a'r BETTWS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

r BYD a'r BETTWS. Mae'r Brenin yn myned i Gymru y mis nesaf. Agorir dock Abertawe ganddo ar y 20fed o'r mis a gwaith dwfr dyffryn Elan tranoeth. Daw'r hanes am golliad bachgenyn arall ar fynyddoedd ardal y glofeydd. Mab i lowr o Aberaman yw'r bychan a chwilir am dano yn awr. Parhau i beri trafferth i'r Bwrdd Addysg mae'r Cynghorau Sirol Cymreig, a chredir yn awr y ceir ymchwiliad cyffredinol i'r holl anghydfod yn ystod yr Hydref. Dydd Mercher diweddaf boddodd un o efrydwyr Coleg Aberystwyth tra allan yn y mor yn ymdrochi. Dyn ieuanc 22 oed, o'r Bermo, ydoedd, ac yn nofiwr da hefyd. Cynghora Archesgob Caergaint y bobl yn Nghymru i weithio allan y Ddeddf Addysg fel y mae. Ie'n siwr. Gwaith hawdd yw cynghori ar ol iddo ef a'i ganlynwyr grafangu cymaint o'r awdurdod yn y Senedd pan oedd y Ddeddf tan eu dwylaw. Dengys adroddiad blynyddol Cymdeithas y Diwydianau Cymreig fod cyflwr y Gym- deithas yn gwella y naill flwyddyn ar ol y llall. Yn nhy yr Anrhydeddus Hrs. Herbert o Lanover, y cynhaliwyd y cwrdd blynyddol dydd Mercher, a daeth amryw o arweinwyr y mudiad Diwydianol yno. Dydd Iau cynhaliwyd arddangosfa flyn- yddol y Gymdeithas, ynghyd ag arwerthfa, yn mhalas yr Arglwyddes Naylor Leyland a chaed cynulliad anrhydeddus yno, ac yn mysg y prynwyr oedd Tywysoges Cymru ei hunan. Hybysir am farwolaeth y Parch. D. Phillips, Abertawe, y pregethwr hynaf yn mysg y Methodistiaid. Yr oedd yn 92 mlwydd oed ac yn fawr ei barch yn y Cyfundeb. Hen Wlad y menyg gwynion" ydyw Cymru'r bardd ond yn y brawdlysoedd heddyw ceir fod nifer y troseddau yn uchel iawn, a bydd raid i'r barnwyr lynu wrth eu gwaith yn hwy nag arfer. Ni fu nifer yr achosion mor bwysig yn Morganwg er's hir amser ag a geir yno yr wythnos nesaf. Y darganfyddiad meddygol diweddaf yw mai'r un yw y Darfodcdigaeth yn y cyfan- soddiad dynol ag a geir yn y cyfansoddiad anifeilaidd, yn enwedig gwartheg. Bydd yn beryglus i ni yfed llaeth yn y man, heblaw son am ladd ein hunain drwy fwyta cig.

Advertising

PROVINCIAL PAPERS IN LONDON.

THE LONDON KELT