Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
CYMANFA DAIR-SIROL: CEREDIGION,…
CYMANFA DAIR-SIROL: CEREDIGION, CAERFYRDDIN A PHENFRO, Cynhaliwyd y Gymanfa Dair-Sirol eleni yn Drewen, sir Aberteifi, ar y dyddiau Mawrth a Mercher, Mehefiu 7fed a'r 8fed. Y mae un flynedd a thrigain wedi pasio er pan y bu y gymanfa fawr yn y lie hwn o'r blaen, a gwnaeth eglwys barchus a henafol y Drewen barotoadau helaeth i roddi croesaw teilwng iddi. Dechreuodd y gyfres o gyfarfodydd ddydd Mawrth-y gynhadledd am I I o'r gloch. Llywyddwyd gan Mr. Morgan Evans, Y.H., Oakford. Cafwyd anerchiad effeithiol gan y llywydd, yn ystod yr hon y condemniai y Mesur Addysg yn ogystal a'r Mesur Trwydd- edol. Dywedai fod perthynas agos rhwng gwleidyddiaeth a chrefydd ac fod angen am i'r eglwysi anghydffurfiol fod yn effro iawn yn yr argyfwng presenol. Dywedodd y Parch. D. LI. Morgan, Pont- ardulais, mai i'r Cyfundeb hwnw yr oedd y Gymanfa i fyned y flwyddyn nesaf. Llongyfarchwyd y Parch. Josiah Jones, Machynlleth, yr hwv oedd bresenol yn y gymanfa o'r blaen, ar derfyn ei haner can' mlynedd yn y weinidogaeth. Yna rhoddodd y brawd parchus hwnw ychydig o hanes y gymanfa 61 o flynyddoedd yn ol. Galwodd y Parch. J. Evans, Bryn, Llanelli, sylw at y priodoldeb o ddarllen y Beibl yn yr ys- golion elfenol, a chymeradwyai gynllun Bwrdd Ysgol Llundain ar y mater. Cafwyd papyr gan y Parch E Keri Evans, M.A., Carfyrddin, ar Ffydd y byd ac an- ffyddiaeth yr eglwys." Cynygiwyd diolch- garwch i ddarllenydd y papyr gan y Proff. Lewis, M.A., Aberystwyth, ac eiliwyd gan y Parch. J. J. Jones, B.A., Llanelli. Diangen- rhaid yw dyweyd y cafwyd papyr nerthol a galluog. Pregethwyd ar y maes am ddau o'r gloch gan y Parchn. Evans, Bryn, Llanelli; a Thomas, Llanstephan, Caerfyrddin, a Lewis, Berea, Penfro. Am chwech, dechreuwyd gan y Parchn. Mafonwy Davies, Solfa, Penfro J J Jones, B.A., Llanelli, a Tegryn Phillips, Hebron, Penfro. Am saith, yr ail ddydd, dechreuwyd gan y Parch Fforest Davies (B), Trehir, Aber- gaveny, a phregethwyd gan y Parchn. Lloyd, Bwlchnewydd, a Richards, Crugy- bar. Am ddeg dechreuwyd gan y Parch. Carolan Davies, Tynygwndwn, a phregeth- wyd gan y Parchn. Gwylfa Roberts, Llan- elli Lloyd Morgan, Pontardulais; Rogers, Pembrey. Am ddau, dechreuwyd gan y Parch. Thomas, Salem, Llandilo, a phregethwyd gan y Parchn. Jacob, Peniel, Caerfyrddin Elias Davies, Llanelli; Evans, Penygroes, Penfro. Yr oedd yr hin yn ddymunol iawn y man i wrando yn gyfleus neillduol; yr olygfa yn brydferth a gweision Duw yn pregethu yn nerthol fel y cafwyd cyfarfodydd i'w hir gofio. Ni welwyd nemawr erioed y fath dorf wedi dyfod ynghyd i Gymanfa Fawr ag oedd yn Drewen eleni. Amlwg yw fod i bobl siroedd Aberteifi, Caerfyrddin a Phenfro swyn a hyfrydwch i glywed yr efengyl yn cael ei phregethu; ac m siomwyd neb oedd wedi dyfod gyda'r amcanion cywir. Cafwyd gwledd ysbrydol, a gwenau Duw yn y cyfarfodydd. Yr oedd eglwys Drewen wedi gwneuthur aberth mawr i dderbyn y gymanfa yn an- rhydeddus. Dilyned bendith Duw ymdrech- ion pawb fu yn gwasanaethu.
[No title]
Daeth y Proffwyd Dowie ar ymweliad a ni o'r America ddechreu yr wythnos hon ond ni chafodd ei genhadaeth groesawiad o gwbl. Bu raid iddo ffoi i'r Cytandir am noddfa oherwydd gwrthodai pawb yn Llundain roddi lie iddo" roddi ei ben i lawr."
CYMRU A'R DDRAMA.
CYMRU A'R DDRAMA. O'r holl bethau gwirion-ffol a ddywedir ac a gyhoeddir am Gymru o bryd i bryd, nid oes dim ffolach ac mor gyfeiliornus a'r cyhuddiad fod arweinwyr Cymru yn ystod y can' mlynedd diweddaf wedi bod yn wrth- wynebol i'r ddrama a'r chwareugerdd, ac mai hwy sydd yn gyfrifol am ddiflaniad y naill a'r llall o'n plith. Y mae'r Cymry, wrth naturiaeth, yn or-hoff o'r ddau ddull hwn o addysgu ac o ddifyru; y mae enwogrwydd y rhai ystyrir yn gewri y pwlpud a phoblog- rwydd canu corawl yn ddigon i brofi hyny ond yr hyn sydd yn cael ei gondemnio a'i wrthwynebu ydyw eu hamgylchoedd —y ddaear y maent yn tyfu ynddi a'r awyr a anadlant, Yr un ydyw yr eglurhad am y modd y mae enwadau crefyddol wedi gosod eu holl ddylanwad yn erbyn pob math o chwareuon-nid am eu bod yn credu fod un drwg yn y cyfryw ynddynt eu hunain, ond am eu bod wedi syrthio i gwmni drwg ac wedi eu llygru a thori eu cymeriad. Cvsylltiad y naill a'r llall a themtasiynau difrifol a'u bod yn goaod yr ieuainc ar lith- rigfa yn diweddu mewn dinystr ydyw yr unig achos fod dynion goreu Cymru wedi bod yn wrthwynebol iddynt. Pan ddeffrowyd ein hynys trwy'r diwygiadau nerthol ac y daeth wyneb-yn-wyneb a sylweddau tragwyddol y byd ysbrydol pan y daeth i syl^eddoli fod amcan uwch i fywyd nac ymddifyru a chwareu pan y daeth i deimlo i waelodion ei henaid ei chyfrifoldeb i'r truan a'r gorth- rymedig o'i deutu a thuag at y byd oedd yn gorwedd mewn anwybodaeth a thywyllwch pan, meddaf, y daeth i gredu yn mawredd dyn a'i ddyfodol, fe adawyd i'r gelyn draws- feddianu'r pethau goreu oedd genym ar y pryd, megis y ddrama a'r chwareugerdd a chwareuon diniwed ac hyd yn oed cerddor- iaeth ei hunan, i raddau mawr iawn. Do, fe gipiodd y gelyn-ddyn y rhai hyn i'w wersyll ei hunan, a buont yno mor hir nes Hwyr droi eu cymeriad yn ngolwg y wlad ie, y maent wedi eu handwyo, os nid eu damnio gan eu cefnogwyr a'u hamgylchoedd. Y mae y chwareudy yn cael ei amgylchu gan aneirif demtasiynau a phrofedigaethau, ac y mae'r awyddfryd aniwall am fuddugoliaethu ac enill cwpan ac arian a'r betio sydd ynglyn a phob chwareu wedi tynu allan o'r ymar- feriadau corphorol bob gwir bleser ac iechyd, fel nad ydynt chwareuon mwyach yn ngwir ystyr y gair yn ngholwg yr un dyn sydd yn caru chwareu yn yr ystyr uchaf-er ei fwyn ei hun. Ac yn erbyn y pethau hyn sydd wedi tyfu o amgylch y chwareugerdd a phob chwareu arall y mae arweinwyr crefyddol Cymru yn codi eu llais. Os gellir eu hadfer i'w cymeriad gwreiddiol o ddiniweidrwydd ac i fod yn offerynol i gyfranu gwybodaeth ac i fod yn adloniant i'r meddwl a chryfder i'r corph, y maent yn sicr o gael cefnogaeth gan bob plaid yn ddiwahaniaeth yn Nghym- ru. Ceir engraifft o hyny ynglyn a cherdd- oriaeth offerynol. Yr oedd offerynau cerdd wedi eu halltudio neu eu lladrata—nid wyf yn sicr prun-o'r addoliad crefyddol; a buont felly am rai cenedlaethau, am eu bod yn cael gwneyd y fath ddefnydd o honynt mewn lleoedd amheus; croesawir hwy yn ol yn yr oes hon gyda breichiau agored. Ni bydd na Bethel" na Salem na Thabernacl" heb ryw offeryn neu gilydd cyn pen nemawr amser, ac fe gymerir pob mantais ar y gwell- iantau diweddaraf mewn offerynau i ber- ffeithio caniadaeth y cysegr ac i gynorthwyo dyn i folianu ei Greawdwr a'i Waredwr. ANGEN Y DDRAMA. Nid oes dim wedi gofidio cymaint ar wir genedlaetholwyr a chymwynaswyr Cymru— dynion wedi aberthu oes i wasanaethu eu gwlad-na gweled y fath ddifaterwch, yn tarddu o anwybodaeth, yn cael ei ddangos gan Gymry at bob mudiad ac ymdrech i godi'r hen wlad yn ei hoi." Dyna sydd wedi bod yn rhwystr ar ffordd i Gymru gael ei hawliau cyfreithlon fel cenedl-dynion anwybodus yn hanes eu hynaiiaid, ond wedi dringo i dipyn o enwogrwydd ac awdurdody yn taeru ar goedd y byd nad oedd gan Gymru lenyddiaeth gwerth son am dani, na hanes gwerth ei adrodd, ac mai rhwystr i'w llwyddiant oedd glynu wrth ei hiaith a'i harferion. Ni chlywyd erioed yn mysg un genedl arall dan haul am fodolaeth dosbarth o bobl mor ddirmygedig a'r Dicod Shon Dafydd sydd yn fwrn ar Gymru ac yn war- adwydd ar ei chymeriad cenedlaethol. Ni oddefasid y fath fradychwyr mewn unrhyw wlad arall dros funyd awr; y mae ymddang- osiad y fath edlychiaid dienaid yn amhosibi: a dengys hyny fod angen rhyw foddion yn ein mysg ni fel cenedl i oleuo a dysgu y bobl yn ein hanes yn y gorphenol, a dangos iddynt y rhan mae Cymru wedi gymeryd yn addysgiant y byd ac yn adeiladaeth yr Ym- herodraeth Brydeinig. Y mae y ddrama yn boblogaidd iawn yn mhlith holl genhedloedd Cyfandir Ewrob, yn neillduol felly y rhai bychain a'r rhai sydd wedi colli eu hanibyn- iaeth ac sydd yn awr fel nyni dan lywodraeth cenhedloedd cyfrwysach a chryfach a'r canlyniad ydyw fod y teimlad cenedlaethol; mor fyw yn awr ag y bu erioed. Y mae i'r ddrama a'r chwareugerdd waith mawr i'w gyflawni yn Nghymru yn y cyfeiriad hwn. Byddai cael drama neu chwareugerdd ar brif gyfnodau hanes Cymru a'u harwyr yn sicr o fod yn ddatguddiedigaethau i'n cenedl ein hunain ac yn foddion i'w dwyn i sylw y byd. Nid oes dim yn effeithiolach i ar- graphu gwirioneddau a ffeithiau ar feddwl dyn na thrwy bortreadu y cyfryw o flaen ei lygaid mor fyw a naturiol ag sydl yn bosibl -y naill trwy ddrama neu alegori a'r llall trwy bersonoli a dynwarediad a golygfeydd; 9 ac ni bu mwy o angen am hyny mewn un wlad nag sydd yn Nghymru yn yr oes hon. Yr ydys wedi methu hyd yma, er yr holl ysgrifenu a'r siarad, ddangos yn effeithiol i'r ieuainc urddasolrwydd y cyff y maent wedi tarddu o hono. Y mae genym lond gwlad o addoldai crefyddol a cholegau a. Phrifysgol i brofi ei haniad; llenyddiaeth bur yn dystysgrif i'w gymeriad iaith wedi dod i lawr o foreu llwydwyn y cread ac wedi gorfyw pob brad ac ystryw yn sicrwydd ei fod wedi gwreiddio yn ddwfn yn naear dyn- oliaeth yn ei chyflwr o fabandod a diniweid- rwydd ond, er y cyfan, nid oes degwm o'r bobl erioed wedi sylweddoli yn briodoli degwch eu hetifeddiaeth a'r hyfrydwch sydd yn ei hanes. Trwy y ddrama fe ddygid y prif ddigwyddiadau yn hanes Cymru a'i phrif arwyr, yn dywysogion, cadlywyddion, gwlad- weinwyr, beirdd a llenorion, yn fyw gerbron y wlad, ac fei hargreffid yn anileadwy ar ei medrlwl. Ie, fe greid balchder yn eu cen- edlaetholdeb yn mhob dosbarth o'r boblog- aeth yn ddiwahaniaeth fe ddeuai pawb i ymffrostio yn eu gwaedoliaeth a'u perthynas a'r genedl henaf heddyw ar Gyfandir Ewrob sy'n byw yn yr un wlad ac yn siarad yr un iaith ag a wnai fwy na dwy fil o flynyddau'n? 01 a chenedl nad yw erioed wedi gorthrymu y gwan na lladrata tir nac eiddo oddiar ei chymydogion na throchi ei dwylaw yn ngwaed y gwirion a'r diniwaid.-IDRISWYN.
[No title]
Mr. Delta Evans, golygydd y Christian Life," oedd yn llanw pwlpud y dysgedig a'r hybarch weinidog, Dr. Mummery (yr hwn sydd dros ei bedwar ugain oed), yn eglwys Undodaidd Wood Green, boreu a nos Sul diweddaf. Yn y boreu pregethodd Mr. Evans ar Halen y Ddaear," ac yn yr hwyr ei bwnc ydoedd, lesu yn dysgu'r torfeydd. Ar ddechreu y gwasanaeth, darllenwyd,. heblaw rhanau o'r Beibl, ddernyn tarawiadol a phrydferth, yn desgrifio dull Iesu o add- ysgu, allan o "Life of Jesus" yr enwog: Strauss, yr hwn, ebai Mr. Evans, y caniatai pawb, nad yw yn debyg o fyned yn rhy bell o blaid lesu o Nazareth. Yn ol pob amlyg- iad, gwnaeth y pregethwr Cymreig ddylan- wad effeithiol-ac arosol, hefyd, gobeithiwn -ar y gwrandawyr, yn mysg y rhai yr oedct- amryw o Gymry, yn enwedig yn yr hwyr.