Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Bwrdd y 'Gelt."
Bwrdd y 'Gelt." Er Honed yr heulwen a hudolus yr bin, rhaid addef )1 don o hiraeth ddod dros y cwmni o gylch y Bwrdd yr wythnos ddiweddaf pan welwyd Bardd yr Offis Wedi gwisgo mewn mwffler du. Deallwyd ar unwaith fod y newydd truenus am ddifodiad awen y dinesydd anlrydclawn-Llinos Wyre-yn ffaith anwadadwy, a inynai'r beirdd dalu eu teyrnged o goffa iddo mewn iaith rhy dorcalonus i'w gosod o flaen y cyhoedd. Dyma un o gymeriadau goreu'r ddwy ganrif, ac awen fwyaf addawol glanau'r Wyre, wedi gorphen," meddai B. yr 0., "a'i Je nid edwyn mo hono mwy. Pan gofiwyf am ei ginigau melus a'i barabl firaeth a'i ddoniau dwy-ieithawg, anhawdd peidio sychu'r dagrau. Gwir y dywedodd yr hen Wilym, er's talm, am dano: A gonest y gwnaeth ganu— dyferion Difyrwcb, yn Nghymru Ei awen lan wua, i lu Drwy y gwir droi ei garu.' Ac ar ol ei adrodd bu raid iddo atal, a thynu ei gad- ach allan i guddio ei deimladau. "Ie wir, fachgen" torai Alaw Bren i fewn, "tro garw oedd ei golii; ond mae meddwl ei fod wedi aberthu yr awen ar allor o bres yn dwyn i gof y gaino farddol bono a glywais er's talm o'i enau, ac mae'r adeg wedi dod i'w gwirio bob gair: Ei felyn-dduw addola Yn ei ddirgeiaidd gell, Pan ddaw'r addoliad ola Mi gana'n llawer gwell. Bydd raid i'r cybydd ffol I ado'i bres ar ol, A dyna lie bydd gwledda Ar aur y cybydd ffol.' Ond, a ydyw hi yn rhy hwyr i ni geisio achub y brawd ?" gofynai Rosseronian. Fe hoffwn i yn fawr, hyd yn oed ar yr unfed-awr-ar-ddeg, ei ddar- bwyllo, a cheisiaf ei anog fel hyn: ANERCH Y "LLINOS." O! hoffus awenydd, pa fodd y daeth prudd-der I lenwi acenion dy ganig fach dlos ? Yr awen a bynciai mor siriol bob amser Sydd megis dan leni caddugawl y nos; Yn araf fy nghyfaill, 0 paid anobeithio, Ond creda fod cyfnod mwy disglaer gerllaw Mae'r oriau tywyllaf bob amser yn cilio 0 ftaen ymddangosiad y wawrddydd 0 draw. Cyfrinach yr awen—0 paid ei dibrisio, Ond gwrandaw'n fyfyrgar ei sibrwd bob pryd, Pan fydd dy gyfeillion a thi yn ffarwelio, Rhydd i ti adloniant sylweddol o hyd Tra swynion Mehefin o'th amgylch yn gwenu, A'r holl greadigaeth yn crlawn o gan, Ai gorchwyl rhy anhawdd i ti ydyw canu ? Ai nid yw dy awen yn eirias 0 dan ? I fewn i'r cylch barddol tyr'd eto yn eon, Mor siriol, mor nwyfus a'r amser a fu, Gei groesaw calonog dy gyd-ddinasyddion, Cei wenau edmygol cyfeillion o'th du 0 Llinos, dos eto, cyweiria dy delyn, Yn segur un amser na ad iddi fod, Hudoliaeth yr awen sych ymaith y deigryn, A'i chynyrch godidog a ddatgan dy glod. W.C. ROSSERONIAN. Yr oedd apeliad dyner y bardd hwn yn taro ar y CNvrdd fel darn o bregteh Dowie, yr hwn a hona y gall wella pob peth ac os gellid ei adenill i fywyd barddol, yr oedd yr holl frawdoliaeth yn barod i faddeu iddo am ei benderfyniad byrbwyll ond galarus. Ac er diweddu'r cwrdd caed penillion tyner ar faddeuant gan un arall o'r hil, yrhai a fawr gymerad- Wywyd gan y gwrandawyr MADDEUANT. Anufudd-dod Adda cyntaf Achlysurodd bechod cas, Hyny barodd i'n byd ffrwythlon Gael ei droi yn anial eras Ac am bechod, daeth marwolaeth Yn haeddianol gosp i'r dyn Ond yn Adda'r ail o'r Nefoedd Daeth gwawr gobaith i bob un. Yn ei aberth mawr haeddianol Ef, y caed y gobaith gwyn Am faddeuant, a dihangfa Trwy fawr groes Calfaria fryn Ac os wyf bechadur euog, Am faddauant llawn a rhad, Rhaid im' edrych i Galfaria Ar fy Ngheidwad yn ei waed. Yma ganwyd gwenferch Gwynfa Er ymgeledd dynolryw Ai ni ddylem wir addoli A rhoi dioloii tra fo'm byw ? "O fy enaid, ar fy union Mi a blygaf ger dy fron .Ac erfyniat Dad trugarog Am gael meddiant llawn o ho2. Heb faddeuant, unig ydwyf Tra yn teithio'r aniai fyd Llawn 0 ofid, ac anobaith Nid oes dim a lona mryd Rhedeg ar ol pleser cnawdol, Ceisio rhwysg, ac uchel fri Ceisio cyfoeth; a chael tlodi; Dim ni lwydda heb-ddi hi. Ond yn nghysgod teg faddeuant Mi wynebaf bob rhyw loes, Rhydd im' nerth i ddringo'r rhiwiau Ac anghofio beiau'm hoes: 0 fy Nuw, a Thad trugarog, Dyro hon i ni yn rhan, A thrwy ofn, ni a'th ryfeddwn, Ac a'th folwn yn mhob man. Y mae genyt ti faddeuaat fel y'th ofner." Chelsea, S.W. EDWARD HUMPBBYS.
GWOBRAU'R "CELT."
GWOBRAU'R "CELT." I.—GWOBR Y GWYLIAU. Gar fod tymor yr hii wedi dol, a'r torfeydd yn dechreu dylifo tua'r llanerchau poblogaidd yn Nghymru, y mae'r CELT ya awyddus i wyboi yn mhle y ceir y lie goreu i dreulio pythefaos o wyliau ynddo. I'r amcan hya rhydd y Gol. wobr 0 bum' swllt am yr ysgrif fer (dim dros golofo) ar y testyn Y lie goreu i dreulio Gwyliaw'r Haf." Noder ragoriaethau y lie, ei leoliad, y ffordd hawddaf i'w gyrhaedd o Luudiin, a'r amjangyfeif o'r pels Felly, ati lenorion ae ysgrifenwyr, a danfoner yr ysgrif erbyn Mehefin 30a.in i'r swyddfa gyda'r gair Gwyliau" ar gornel yr amlen. II.-GWOBR ETHOLIADOL. Son am etholiad cyffredinol mae rhai pobl, a chan y disgwylir gornest lied fywiog yn Nghymru, y mae yn hen bryd i ni wybod yn mh'le y safwn. Er cyfar- wyddyd i'n hymgeiswyr cenedlaethol, rhoddir gwobr o bum' swllt am yr Aoerchiad Etholiadol o.eu, addas i'w defnyddio gan Genedlaetholwr Gymreig. Rhaid iddi fod yn Gymraeg, a dim dros golofn o'r CELT. I fod mewn llaw erbyn. Mehefin 30ain, gyda'r enw Etholiad ar yr amlen. III.—Y BARDD IIANER-CORONOG. Er ychwanegu at hil y Beirdd Haner-Goronog rhoddir gwobr y CELT i'r goreu a gyfansoddo englyn i MR. WINSTON CHURCHILL, ar ei droedigaeth neu ei gyfnewidiadau gwleidyddol diweddar. I fod mewn llaw, ar bost oard, erbyn Mahefin 25.
Advertising
MR. HENRY MORGAN, SURGEON DENTIST, 10, TAVISTOCK PLACE, W.C Artificial Teeth from 5/- to 10/- Complete Sets (upper and lower) from X4 TEETH EXTRACTED UNDER GAS AND ETHER SPRAY. OLD SETS OF TEETH REMODELLED NO CHARGE FOR CONSULTATION SiaredirOymraeg os yn fwy dymunol. II Hen Ddewiniaid Cymru." Cipdrem ar hanes rhai o hen "ddynion hysbys" yr oesau gynt, ynghyd a'a gweithiau. Pris mewn rliwymiad hardd, 61- "Swyddfa'p Celt," 211, Gray's Inn Road, W. The' Principality' Note. 0 v ts œ 00 œ ..p ""01 t::r o Z = =s E-4 CD (JQ CI1 CD (D 0 q 1,011! The Principalitg Fountain Pen. A PERFECT PEN FOR ALL COMMERCIAL PURPOSES. Fitted with 14 ct. gold nib. SPECIAL OFFER 3/- Each To be obtained only of W. ISACKE, Wholesale and Retail Stationer, Printer A Hccoant Book Maker, 211 ? Edgwire Rd., W. SPECIALITY IN Milk Ledgers and Dairy Trade Account Books. —— Any Ruling supplied on Shortest Notice. —— SEND FOR ESTIMATES. Yn awr yn barod! CERDDI "CERNGOCH" Sef Casgliad o Weithiau JOHN JENKINS (Penbrynmawr, Talsarn), YN CYNWYS Cerddi Natur, CJerddi Coffa, Cerddi Caru, Cerddi Cwrw, Cerddi Pendrws, a Manion, DAN OLYGIAETH "AP CEREDIGION" A DAN JENKINS TANYSGRIFWYR YN UNIG. Argraffiad 2s. 60. (ymylon goreuredig). OYFROL HARDD, YN CYNWYS LLAWER 0 DDARLUNIAU, PRIS HANER CORON, I'w gael yn SWYDDFA'R CELT, 211, GRAY'S INN ROAD, LLUNDAIN. FOR SALE. GOOD FARM near Llanon, Cardiganshire. Apply- personally to Mr. Evan Davies, 169, Barrett? Road, Walworth, London.