Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

6yd y San.

ADGOFION AM LUNDAIN.

CYFARFOD CANOL-HAF UNDEB Y…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFOD CANOL-HAF UNDEB Y CHWIORYDD YN YR EAST END. Dydd Mercher, yr wythnos ddiweddaf, cawsom un o'r cyrddau mwyaf llwyddianus yn hanes ein cenhadaeth, yn y Conference Hall, Stratford-y wledd yn cael ei rhoddi gan Syr Alfred Thomas, A.S. Yn y cwrdd ar ol y wledd, cymerwyd y gadair gan Mrs. Prydderch Williams-wedi ei hamgylchynu gan nifer o foneddigesau adnabyddus. Yr oeddym wedi disgwyl y byddai Mrs. Davies, Llandinam a Mrs. Lloyd-George, ond lludd- iwyd hwy gan amgylchiadau. Agorwyd gyda'r hen emyn, O agor fy Ilygaid i weled." Gweddiwyd gan y Cenhadwr R. S. Williams. Caed ychydig eiriau gan y llyw- yddes, yna galwyd ar Mr. Armon Jones, R.A.M., i ganu, a chanodd nes toddi ein calonau y geiriau, Efe a wyr oreu." Caed anerchiad cyries gan Mrs. Jones, un o ael- odau parchus Wilton Square. Dilynwyd hi gydag unawd ar y crwth gan Miss Whitney, mewn dull ardderchog. Caed araeth llawn o ddwysder gan Miss Gwendoline Williams, athrawes yn un o uchel golegau y ddinas, a chaed can arall gan Armon, u Maddeuant rad," nes ein gwefreiddio, a dilynwyd ef gan foneddiges ieuanc sydd yn cydweithio a Lady Rendel yn mhlith ein chwiorydd yn y gorllewin, yr hon ganodd yn swynol gan gyfeilio ar ei thelyn fach (auto-harp). Un- awd crwth gan Miss Whitney. Anerchiadau byrion gan Miss Parry o'r Bala; Mrs. Ffoulkes Jones, Mrs. Williams, Melrose," Stratford. Terfynwyd cyfarfod mwyaf rhagorol trwy ganu un o'r hen emynau Cymreig. Gwledd o uchel radd yn miiob ystyr a gaed.-G-ohebydd.

Advertising