Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

YMGOMWEST Y CYMMRODORION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMGOMWEST Y CYMMRODORION. CYNULLIAD CARTREFOL YN NEU- ADD Y CIGYDDION. Cleber a chan oedd nodweddion arbenig cwrdd pen-tymor Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion, nos Fawrth diweddaf ac er y dywedir yn gyffredin mai cynulliadau difywyd yw cyrddau y Gymdeithas, rhaid addef fod v cynulliadau pen-tymor yma yn gwneyd i fyny am y cyfan. Y pryd hyn y mae pawb yn gytun, a rhoddir cyfleustra i'r aelodau gydgwrdd heb ddisgwyl eu poeni gan areithiau hirion neu draethiadau dysg- edig a sych ar bynciau cyn-ddiluwiol. Ond i'r ysgrifenydd gweithgar-Mr. Vin- cent Evans-yr ydym yn ddyledus am hyn. Rywfodd neu gilydd, y mae gan Finsent agoriad i bob lie yn Llundain bron, o Dy'r Cyffredin i lawr at y cwrdd clebran capel- yddol a thrwy ei daerineb ef y naill flwyddyn ar ol y llall, llwyddir i gael croes- awiad i rai o neuaddau cyfrin y d iinas ac yn ol ei arfer, cafodd eleni fynediad helaeth i fewn i neuadd y cigyddion, yn Bartholo- mew Close, a rhaid dyweyd fod y cynulliad a gaed yn llawn deil Jing o honom fel cenedl ac o'r Gymdeithas ei hun. Croesawid y gwahoddedigion gan Ar- glwydd Tredegar (y llywydd), ac yn y cwrdd gwelid Syr Lewis Morris, Syr Isambard Owen, yr Aelodau Seneddol-Ellis Jones Griffith, Pryce Jones; y Cynghorwyr, Mri. T H W. Idris a'i briod, Howell J. Williams a Mrs. Williams, Timothy Davies a Mrs. Davies a'r dinasyddion a ganlyn yn mysg ereill: Parchn. Crowle Ellis, R. E. Roderick, Richard Roberts, Mr. a Mrs. L. H. Roberts (Canonbury), Mr. a Mrs. D. H. Evans (Pangbourne), Mr. J. H. Davies, M.A., Dr. D. L. Thomas, Dr. W. L. Davies, Mr. J. T. Lewis, Mr. T. D. Jones. O'r wlad, yr oedd yr Hybarch Archdder- wydd Hwfa Mon yn cynrychioli barddas mewn cyflawn urddasolrwydd Mr. Lleufer Thomas yn cynrychioli'r ddeddf, a Mr. W. J. Parry, Bethesda, ac Ellis o'r Nant yn cynrychioli lien yn ei hamrywiol agweddau. Rhoddwyd cyfieusdra, i gael digon o foethau er boddhau anghenion y corff, a chael ymgom hapus y naill a'r llall; a bob yn ail a hyny yr oedd llonder y gan i'n difyru yn y neuadd fawr uwchben. Yno yr oedd cantorion gwych o dan arweiniad Merlin Morgan yn rhoddi detholiad o ran- ganau Cymraeg a Saesneg a'r unawdwyr canlynol yn rhoddi darnau ereill bob yn ail,-Miss Katherine Jones, Miss Gwladys Vincent Evans, a Mr Herbert Emlyn yughyd a'r offerynwyr Mr. R )nan Clensy ar y crwth a Miss Auriol Jones ar y berdoneg. Cadwyd y gweithrediadau yn mlaen hyd yn agos i haner nos, a'r teimlad cyffredinol oedd fod hyd yn oed y Finsent wedi rhagori ar ei hun y tro hwn, gan mor hwyliog a hapus yr aed drwy y rhaglen. Er ei henaint, yr oedd yr Archdderwydd yn edrych yn hapus iawn yn y cwrdd ac mor lion ei ysbryd ag yn y blynyddoedd gynt pan yn cymeryd rhan yn nechreuad y Gymdeithas. Yr oedd ef yn un o'r gwlad- garwyr hyny a roddasant adfywiad i'r G/m- deithas rhyw ddeng mlynedd ar hugain yn ol, ac er y cwynai ei bod wedi mynd yn dra Seisnig o ran iaith oddiar yr adeg hyny, yr oedd yr ysbryd mor Gymreig ag erioed. .44 Pa eisieu i ni meddai wrth wr y CELT, i fynd yn genedl unieithog fel y Sais y sydd ? Er's llawer dydd sonid am Gymro unieithog, ahynygydi-gradd o amharch; ond erbyn heddyw, y Siis yw'r gwr unieithog, tra mae y Cymro, fel cenhedloedd y Cyfandir, yn dod yn wr amlieithog, a dyna, fel rheol, un o'r arwyddion goreu o ddiwylliant a chyn- ydd." Ar yr un pryd, nis gallai lai na thori alia n i foli'r hen Gymdeithas a'i gwaith, yr hyn a wnaeth fel a ganlyn:— CYMMRODORION Y BRIF-DDINAS. Uchaf arweinwyr CELF a'i chyfrinion Yw y rhaglawiaid disglaer a glewion, Cawri i'w ooledd, oywir eu calon, Cadau dihafal yn cadw'u defion- Nis gall byw ystryw estron-byth rwyatraw Camrau diwyraw y Cymmrodorion. HWFA M6N.

Advertising

Colt Llundain.

Advertising