Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

"ErTHR NID YW Y DIWEDD ETO."

DADGYSSYLLTIAD. j

!CAPEL (M.C.) CLAPHAM JUNCTION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CAPEL (M.C.) CLAPHAM JUNCTION. Nis gwn paham, ond rywfodd neu gilydd, y mae y coffee suppers wedi colli eu bri, er iddynt wneuthur llawer o les drwy y cyllid a ddygent i'r drysorfa, a meithrin ad- nabyddiaeth well a chymdeithasgarwch yn mhlith yr aelodau. I wneyd i fyny y diffyg, cawsom gyngherdd mawreddog yr hwn, fel arfer, a drodd allan yn llwyddiant perffaith, a dygwydd drwyddo 20p i'r drysorfa. Trwy ymroddiad diwyd a di-ildio ysgrifenydd y gronfa adeiladu, a chydymdeimlad cyfaill haelious i'r achos, llwyddwyd i dalu 4.oop o'r ddyled yn ystod y flwyddyn ddiweddaf; ac y mae argoelion y flwyddyn hon yn llawn. gobaith. Yr ydym yn ystod y misoedd diweddaf yma wedi cael blaenffrwyth y weinidogaeth nerthol sydd eto yn codi yn Nghymru. Cawsom oreugwyr De a Gogledd: —Parchn. Lewis, Canton Armstrong, Ebbw Vale; Llewelyn, Tredegar; David Jones, Penarth; J. C. Jones, Borth a W. R. Owen, Dinorwic. Yr eglwys hon, hefyd, gafodd y cyfleustra cyntaf i groesawu'r Parch J C Jones, Chicago yr hwn y mae Miss Williams, Castle Street, yn ei gymeradwyo mor addas i groesaw ei chydwladwyr. Yn eglwys fechan Capel Dewi, ger Aberystwyth, y magwyd J C Jones. Yr un eglwys a fu yn gartref y diweddar John Jones, Ceinewydd a Cynddylan, ac 'roedd J C Jones yn ysgolor yn hen Ysgol Penllwyn pan yr oedd Cynddylan yn pupil teacher. Sym- udodd i Rhyl yn ngwasanaeth y llythyrdy. Yno y dechreuodd bregethu dan nawdd y Parch. D. Charles Evans. Oddiyno aeth i'r Bala; ac ar ol cwrs eithriadol o Iwyddianus, a'i enw ar ben rhestr yr efrydwyr am bedair mlynedd yn olyn:)I, cymerold ei daith i'r America a chafoid alwad, ar farwolaeth yr Hybarch Ddr. Harris, i gymeryd gofal o eglwys y gwr hwnw yn Chicago, ac yno y mae wedi bod er's deuddeng mlynedd bellach.-Gohebydd.

Advertising