Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Barn y Bobl.

Pythefnos yn Nghymru.

TYMOR Y GWANWYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TYMOR Y GWANWYN. Yn nhymor y Gwanwyn, blagura y coedydd Yn unlliw a glesni'r fiurfafen uwch ben, Pob cangen amlyga yn araf ei chynydd Dan hyfryd belydrau haul tesog y nen Mae gemau gwyrddlesni yn fychain a nwyfus- A chyfoeth o fywyd yn ysu eu bron, Baneri gwywedig yr Hydref wylofus A wenant ar risiau ieuenctyd yn lion. Yr egin eginant ar fronau y meusydd Gorchuddiant eu noethni gauafol yn llwyr, Ymdrwsiant am dymor mewn gwerddwisg ysblen- Fel dedwydd rianod ar fynwes yr hwyr [ydd, Mae cnwd y dyfodol yn welw ac iraidd Ymleda mewn hoewder cynyddawl yn glyd, A'i lesni yn tonni dan awel fwyn beraidd Mewn nwyfiant ac osgo olynawl o hyd. Mynyddoedd ymwisgant wasgodau adionol 0 laswellt ireiddiol, defnyddiol a da,- Gorlwythog yw'r dyfEryn gan lysiau bywhaol Y gemau swynhudol edmygant yr ha'; Mae'r ddaear ei bunan yn fyw o brydferthweh. Dan fantell lydanfawr blodeua yn gun, Mae Duw wedi gwisgo y cread a harddweh A'i gosod yn ddarlun o'i dlysni Ei Hun. Yn llonder y Gwanwyn, daw i ni adgofion Am swynion dihafal y Nefoedd uwch ben Lie dawnsia hoenusrwydd a bywyd yn gyson Ai lydain fythwyrddion lanerchau di-ben Oer chwaon geir yma yn difa pleserau Hawddgarwch gwanwynol y ddaear a ffy, Ond yno'n dragwyddol ar ddwyfol lanerchau Pob poen a gofidiau'n ganiadau a dry. H. LL. W.

Advertising