Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Jottings from Carmarthen.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Jottings from Carmarthen. Now that your excellent and admirably-got- up paper THE LONDON WELSHMAN — is obtainable at the local booksellers in this town, it is to be hoped that it will receive hearty support from all those who are interested in Welsh movements, not only in the Metropolis, but throughout Wales generally. THE many friends and admirers of the Rev. A. Fuller Mills in London and elsewhere will be gratified to learn that he is continuing to make slow progress towards recovery from the effects of the dreadful calamity which befel him in the railway accident near Loughor on the 3rd October last. Needless to say, his enforced absence from the public life of Carmarthen has been sadly felt, for he was looked upon by all as the Grand Old Man" of Carmarthen, always in the forefront of every movement that had for its object the uplifting of his fellow-men. While deeply deploring the causes which con- fine him to his residence, it will be a source of gratification for him to know that he has the deepest sympathy of his fellow-citizens in his affliction, and the sincere prayers of all that he may be speedily recovered to resume his duties once more. THE pulpit of the English Baptist Church (of which the Rev. A. Fuller Mills is pastor) was occupied last Sunday and the previous Sunday by Mr. W. King, student at Regent's Park College, who is at present spending his holidays in his native town. His discourses were greatly appreciated. Wre venture to predict that, given health and strength, there is a brilliant future before this young man. May his labours in the service of the Master be crowned with success. THE revival spirit is still fostered and pro- moted,in the '-ancient borough," thanks to the praiseworthy efforts put forth by the Revs. M. H. Jones (C.M.), Water Street Chapel; J. Creig- fryn Jones (Welsh Wesleyan), and W. W. Lewis, Zion, aided by well-known laymen. Never in the history of Carmarthen has there been such stirring scenes as those witnessed during the past few months. The churches are being galvanised into action, and members who here- tofore took but very meagre interest in the spiritual welfare of the inhabitants, are now fully alive to the sense of their responsibilities, and endeavour in some measure to atone for their past lethargy and indifference. Open-air meet- ings on the lines of the Salvation Army are a marked feature of this movement, and indica- tions point that they are productive of much good. Another commendable feature is the holding of unsectarian temperance meetings at the Town Hall on Saturday evenings. These meetings were first inaugurated a few months ago, and -the crowded attendances prove their utility and value. Monday being observed as New Year's Day, an open-air meeung was held in the afternoon in Nott Square, and a pro- cession was subsequently formed, when hun- dreds joined and marched to Lammas Street Schoolroom, where a revival service was held. The morning meeting at the same place was devoted to young people only.
ADQOFION AM TANYMARIAN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ADQOFION AM TANYMARIAN. Mae fy adgofion am yr enwog a'r anfarwol Tanymarian yn mynd yn ol fwy na hanner can mlynedd. Bu yn aros yn fy nghartref am amser cyn ymsefydlu yn Dwygyfylchi, ac yr oedd y rhan fwyaf o'r cyfeillion yn y Dinas wedi gwneyd eu meddyliau i fyny i'w gael yn weinidog; ac, oni buasai am hen ddiacon mwy Puritanaidd na'r cyffredin, buasent wedi ei gael, end yr oedd ef yn meddwl ei fod yn rhy ysgafn a chellweirus. Mae'n wir y byddai yn llawen a jolly, ond yr oedd hefyd yn feddianol ar ddifrifwch a dwysder teimlad angherddol. Digwyddai fod yn y gymydogaeth yr adeg honno do o gantorion rhagorol, a chododd y canu i fri mawr yn yr ardal, fel mai yno ac yn y Brithdir yr oedd y canu goreu yn yr holl wlad. Yr oedd yn byw yn y tyddyn agosaf i'n cartref deulu o gantorion rhagorol—teulu yr hen wr ffraeth, William Lewis, taid i William Lewis Barrett, y flautist enwog yn Llundain (un sydd wedi bed am flynyddau yn un o brif chwareuwyr yr offeryn hwnnw mewn uchelwyliau), byddai Tanymarian yn treulio llawer o amser gyda'r teulu hwn, a byddai yno ganu pan y deuai. Byddai yno ganu hwyliog yn y capel, ar nos Sul yn enwedig cenid yno anthemau a chants. Byddai yn hoff iawn o chant Mornington sydd yn y "Caniedydd," ond canai hi ar y Salm 136. Canai y rhan gyntaf o'r adnod ei hun, Clodforwch yr Arglwydd, canys da yw," a'r gynnulleidfa yn dod i mewn yn y rhan olaf— Oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd." Byddai ) n arfer dweyd mai felly yr oedd yn cael ei chanu yn y Demi, yr offeiriaid yn canu y rhan gyntaf, a'r gynnulleidfa yn uno yn y rhan olaf; byddai hefyd yn hoff iawn o'r hen anthem byth-hyfryd Teyrnasa Iesu mawr," ac eraill o'r hen anthemau oedd mewn bri yr adeg honno, a dyna lie y byddai yn canu dwy neu dair llinell tra y canai y gynnulleidfa un, a'i lais yn mynd fel trydan trwy y lie, nes gwefreiddio y gynnulleidfa. Rhaid ei fod o flaen ei oes ymhell. Cymerai hyn le rhwng hen fynyddoedd anwyl Meirion fwy na hanner can mlynedd yn ol, pan y ceir yn Llundain fawr ei breintiau rai yn cwyno os gwneir hynny yn yr oes oleu hon. Nid yn fynych, os erioed yn hanes ein cenedl, y codwyd dyn mor amrywiol ei dalentau a'i alluoedd, a hynny yn y dosbarth blaenaf ymhob un o honynt. Llenor, Bardd, Cerddor, Dat- ganwr, Arweinydd, Darlithiwr, a Phregethwr. Yr oedd yn lienor rhagorol, ac yn un o'r ysgrifenwyr mwyaf llithrig a darllenadwy. Tra y bu yn golygu Greal y Corau yn y sixties s,rl I ysgrifenai lawer iddo, beirniadai ac adolygai, ac yr oedd y cyfan yn ddyddorol neillduol, a darllenid hwy gyda bias. Sych, fel rheol, yw beirniadaeth, ond byddai rhyw swyn hyfryd yn ei feirniadaethau ef, ac yn llawn o addysg. Ein prif gerddor, Mr. Emlyn Evans, yw y tebycaf iddo yn y dyddiau hyn yn ddiau. Yr oedd hefyd yn fardd rhagurol, a phe buasai wedi rhoddi ei feddwl yn fwy at gyfansoddi gallasai fod wedi en 11 cadeiriau cenedlaethol. Yr oedd yn hollol gyfarwydd yn holl gyfrinion y mesurau caethion. Mae ei englynion, Gwaed yr Oen." yn un o'r darnau mwyaf cywrain a feddwn. Mae y gair cyrch trwy waed" yn odli gyda yr Oen" yn nechreu yr ail linell ymhob englyn. Mae cywydd "Y Goleudy," a'r un ar ol ei fab talentog, William Arthur, a fu farw rhwng pump a chwech oed, yn rhagorol. Ei farwnad ar ol ei hen ddiacon, Gruffudd William, a'i ganeuon Moses Bach," Peidiwch gofyn i ganu," a "Hen gad lir freichiau fy mam," yn ganadwy dros ben. Yr oedd hefyd yn arweinydd diail: ni welais neb erioed fedrai wneyd i gynnulleidfa ganu fel y mynnai yn debyg iddo. Credaf mai ef ac Eos Morlais oedd yr arwein- yddion goreu yn eu hoes. Efe oedd y mwyaf hwyliog, ond byddai weithiau above rule, ond Morlais oedd y mwyaf ymarferol. Ffolineb fuasai i neb geisio ei efylchu, ond gwnelai arweinyddion bychain efelychu Morlais. Efe arweiniodd y Gymanfa Gerddorol gyntaf gynhaliwyd yn Llundain, yn hen gapel Alders- gate Street. Mae yma ambell un yn cofio honno. Yr oedd ei Lyfr Tonau ac Emynau ef a Mr. J. D. Jones yn newydd yr adeg honno, o'r hwn yr oedd yr holl donau wedi eu dewis, ynghyda dwy anthem Pa fodd y glanha" a Molwch yr Arglwydd," a dwy chant, "Duw sydd noddfa" ac "Yn nydd fy nhrallod y ceisiais yr Arglwydd." Byddid yn chantio yn gywir yr adeg honno, ac nid herkian a jerkian fel y gwneir y dyddiau hyn, a chredaf mai honno a'r gymanfa gafwyd gyda Eos Morlais yn Falcon Square oedd y ddwy oreu sydd wedi bod yn Llundain. Yr oedd hefyd yn arweinydd eisteddfodol o'r dosbarth blaenaf: nid wyf yn meddwl fod neb ond Mynyddog yn rhagori arno. Yr oedd hefyd yn ei ddyddiau goreu y datganwr goreu yng Nghymru. Mae rhai sydd yn cofio pan oedd ei lais fel udgorn arian, fel y gallai swyno cynnulleidfa a thynu dagrau, er na fu erioed yn cael £ 1,000 y nos am ganu, fel Madame Patti a De Reszke. Byddai yn hoff iawn o gan a chydgan i'r gynnulleidfa. Ni wnaeth neb yn ei oes dalu mwy o ddyledion addoldai, &c., wrth ganu a darlithio nac efe. Byddai ei ddarlith boblogaiddar "Gerddoriaeth," a'i ganu gyda hynny i'w hegluro, mewn bri mawr am amser; ac fel cerddor, pan yr ymddangosodd gyntaf fwy na hanner can mlynedd yn ol, nid oedd y fath seren wedi ymddangos o'r blaen yn ffurfafen gerddorol Cymru. Meddylier am ddyn ieuanc wedi cael ei fagu rhwng mynyddau Meirion, heb gael addysg gan neb, yn cyfansoddi oratorio mor odidog a Storm Tiberias" yr adeg honno, cydganau pa un sydd gystal, os nad gwell, na dim gyfansoddodd Cymro erioed, a deil Dyna'r gwyntoedd," Boed goreuon holl alawon," a Ardderchawgrwydd pob gogoniant" i'w cydmaru a gweithiau ein cyfansoddwyr goreu yn yr oes oleu hon. Yr oedd hefyd yn bregethwr o'r dosbarth blaenaf, a dyma yn ddiau oedd amcan uwchaf ei fywyd. Nid anghofir byth rai o'i bregethau gan y rhai gafodd y fraint o'i glywed. Cartrefu gyda'r Arglwydd," Y Tad a'r Mab yn gogoneddu," "Efe a ddichon yn gwbl iachau." Yr wyf yn ei gofio yn pregethu yn gyntaf mewn cymanfa yn y Brithdir yn y flwyddyn 1860, yn adeg y Diwygiad, yn odidog iawn nid wyf yn ei gofio erioed yn fwy nerthol. Yr oedd ei lais yn soniarus a threiddgar yr adeg honno, a dywedid y clywid ef yr ochr arall i'r Cwm yn Llanfachreth yn eglur. Dro arall mewn Cymanfa yn Meifod yn 1864 oedd un o'i brif oedfeuon. Yr oedd rhyw deimlad rhyfedd a dieithr wedi meddianu y gynnulleidfa, a thorodd yntau i lawr ei hun cyn diwedd ei bregeth ac ar ei ol pregethodd yr hen gawr, Ap Vychan, fel y medrai ef wneyd. Yr wyf yn ei gofio yn y Boro' ymhen blynyddoedd wedi hynny ar y Tad a'r Mab yn gogoneddu eu gilydd" yn nerthol iawn. Dywedai yr hen Gymro selog, y diweddar Mr. Abel Simner, ar ddiwedd yr oedfa, pe heb fod yn ei weld y buasai yn meddwl mai gwran- daw ar "bregethwr y bobl (fel ei gelwid ef), y diweddar enwog John Jones, Talysarn, yr ydoedd, gan mor debyg oedd iddo ymhob peth. Mae'n debyg eu bod yn berthynasau lied agos. Jones y bedyddiwyd yntau-Edward Stephen Jones— ond pan yn bur ieuanc gadawodd y Jones am ei fod yn hen enw mor gyffredin. Byddai ei bregethu a'i ganu bob amser wrth fy modd, ac ni byddwn byth yn colli y cyfleus- dra i'w glywed pan yn gyfleus ond mae y bedd wedi cau ers llawer blwyddyn ar un o'r dynion mwyaf ei athrylith a godwyd yn Nghymru erioed, ac fel y canodd ef yn brydferth ar ol ei hen ddiacon anwyl, Gruffudd William, dywedaf finnau- Ni waeth imi heb ffarwelio, » Deuaf atat yn y man I fwynhau'r orphwysfa honno A bwrcaswyd ar ein rhan. MEIRIONFAB.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
HARRISON & SONS, Welsh Printers, 45, 46 & 47, ST. MARTIN'S LANE, LONDON, W.C. Estimates Free
Enwogion Cymreig.-XV. Y Parch.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
lleol a chenedlaethol, ac yn Eisteddfod Genedl- aethol Llanelli yn 1903 cariodd y goron amn am bryddest ar Ficer Llanymddyfri." Yr oedd cydgyfarfyddiad dymunol o bethau yn y fuddugoliaeth honno. Sir Gaerfyrddin oedd bia'r testyn a'r buddugwr, a'r coroni yn cymeryd lie yn y dref yn yr un sir lie y dechreuasai y coronfardd ar waith ei fywyd dair-blynedd-ar- hugain yn flaenorol. Mae ei esboniadau ar wahanol ranau o'r Ysgrythyr a'r Ilyfrau ac erthyglau a ysgrifenodd yn rhy liosog i fanylu arnynt. Ond y mae yn dra sicr nad yw yr oil a wnaeth hyd yn hyn mewn lien a chan yn ddim mwy nag ernes o'r hyn y gellir ddisgwyl i Rhudd- wawr ei gyfranu i drysorfa ei wlad a'i genedl.