Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
DELICIOUS COFFEE. 1! ,z RED .1. WHITE BLUE For* Breakfast & after* Dinner*.
Am Gymry Llundain.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
E. B. Meyer sydd yn gyfrifol am y tan crefyddol yng Nghymru heddyw. Hwyrach fod rhai anwybodusion Seisnig yn barod i dderbyn hynny fel ffaith, ond am y Cymry fe wyddant hwy yn amgenach. CVFARFODVDD GWEDDIO.—Dyna'r hanes am Gymry Llundain yr wythnos hon. Ym mhob capel y mae cyrddau gweddi wedi eu cynal bron bob nos, ac mae'n sicr fod mwy o ddwysder crefyddol yn ein mysg fel cenedl heddyw nag a gaed ers chwarter canrif o leiaf yn y ddinas hon. Ai BLAENFFRWYTH YW HYN ?—Nos Sul diweddaf, yn Nghapel y Tabernacl, King's Cross, derbyniodd y gweinidog un-ar-bymtheg o aelodau newyddion o'r byd. Yn ychwanegol at hyn yr oedd wyth o newydd-ddyfodiaid yn dod a'u llythyrau aelodaeth o'r Hen Wlad i'r lie. Myned ar gynydd mae'r achos o dan arweiniad Elfed. MR. TOM ROBERTS.—Ym mhlith y cwmni ieuanc sydd yn helpu y Diwygiad yn Neheudir Cymru drwy ganu ceir Master Tom Roberts, Llundain, gynt o Towyn, Meirionydd. Dywedir yn newyddiaduron y cylch ei fod yn ami yn tynnu y nefoedd i lawr." Y mae yno o dan ofal a nawdd Mr. McTaggart, yr hwn sydd wedi penderfynu cychwyn cenhadaeth ddiwygiadol yng Nghaerdydd, a bydd 'Master Tom Roberts yn canu ynddynt. Dichon nas gwyr pawb o'n darllenwyr mai mab ieuangaf i'r diweddar Barch. John Roberts, Towyn, yw y bachgenyn hwn. MR. ERNEST RHYS.—Chwith fydd gan lawer glywed fod y lienor adnabyddus hwn wedi bod yn bur wael ei iechyd ers talm. Y mae wedi gorfod cadw yn ei ystafell ers rhai wythnosau, ond gyda dechreu'r flwyddyn hyderwn y bydd yn alluog i gael ychydig seibiant yn Ngogledd Cymru, lie y mae'n ymwelydd cyson. MR. JOHN BURRELL. — Dechreuodd Mr. Burrell ar ei waith newydd fel cyfrifydd yn ariandy enwog y Rothschilds yr wythnos ddi- weddaf. Ar ol bod am 30 mlynedd yn y Morlys y mae Mr. Burrell wedi llwyddo i gael gwell agoriad yn y byd masnachol nag a gyn- nygid iddo o dan y Llywodraeth y bu'n ei gwasanaethu mor ffyddlon gyhyd o amser. Nid yw'n syndod fod y Morlys yn cael y gair o fod yn anrhefnus ym mhob cangen, pan y mae'r prif arweinwyr yno yn barod i ollwng y talentau goreu \n ol i gylchoedd masnachol. Yn sicr nid yw'r Civil Service yn bobpeth er cefnogi y dynion goreu i waith ein swyddau cyhoeddus. ELFED A'R TRENS.-ColIodd y prif-fardd ei ffordd wrth fyned tua Dolgellau dydd Llun diweddaf. Efe oedd y beirniad ar destyn y gadair, ond gan fod trens eto heb ddod dan unrhyw ddiwygiad, fe gollodd y cysylltiadau ar y daith. Y canlyniad oedd bu raid gohirio'r cadeirio hyd gyfarfod y nos, pryd y caed hwyl a threfn i ddiweddu yr wyl. MR. W. JONES, A.S.-Ar ol bod ar daith trwy ei etholaeth yn Arfon y mae'r aelod poblogaidd hwn yn teimlo fod pobl y gogleddbarth, beth bynag, yn hollol unfryd yn erbyn polisi Cham- berlain. Daeth Mr. Jones yn ol i Lundain ddiwedd yr wythnos ddiweddaf, a gwelid ef yn mwynhau pregeth o dan weinidogaeth Elfed nos Sul. Y mae ei gyfrol addawedig ar Ddir- prwyaeth Moseley i'r America ar fater Addysg ar fin cael ei chyhoeddi, a daw o'r wasg cyn Gwyl Dewi. A DDAW'R DiwYGiwp ?—Credir yn gyffredin yn awr y daw'r Diwygiad i Lundain, ac y mae addewid wedi dod y bydd i Mr. Evan Roberts dalu ymweliad a'r ddinas mor gynted ag y caniata ei amser a'i waith. Dywedai wrth rai o'r ddinas yma a fu ar ymweliad ag ef yn ei gartref adeg y Nadolig ei fod yn llwyr gredu y 0 daw holl Loegr yn fuan o dan dywalltiad yr Ysbryd. STORI'R DIWYGIAD.—Caed cyfarfod arbenig yn Nghapel Castle Street nos Wener yr wythnos ddiweddaf er rhoddi cyfle i Gymry Llundain i gael peth hanes am yr hyn a gymer le yn yr Hen Wlad. Yr oedd y Parch. J. R. Jones, gweinidog y Bedyddwyr ym Mhontypridd i lanw pulpud Castle Street ar y Sabboth, ond trefnodd y blaenoriaid iddo ddod yma erbyn nos Wener fel y cai gyfle i'n haddysgu yn ngwaith y symud- iad mawr sydd yn gwefreiddio'r cylchoedd ysbrydol yn Nghymru heddyw. Yr oedd stori Mr. Jones yn llawn dyddordeb, ond ni chaed cynnulliad mawr i wrando arno. YR EFFEITHIAU.—Yr oedd Cymru wedi ei gweddnewid, meddai, gan y cynhyrfiadau pres- enol, ac nid yr un oedd Pontypridd heddyw a'r hyn ydoedd ddeufis yn ol. Yr oedd y bregeth a'r eisteddfod wedi cilio o'r golwg, a'r unig hwyl yn awr oedd ynglyn a'r cyfarfod gweddi. Nid oedd efe wedi cael pregethu ers chwe' Sabboth, ac eto yr oedd y cynnulliadau yn llawn mor rheolaidd ag mewn unrhyw oedfaon cymanfaol. Cyn y Diwygiad tyrrai y bobl o'r ardaloedd acw i Lundain er gweled ei rhyfeddodau, ond erbyn heddyw daw y iluoedd o Lundain i ardal Ponty- pridd er ymgydnabyddu a'r rhyfeddod hwn, a dylanwadai y cyfan arnynt yn llawn mwy effeithiol a llesol nag a wnai Llundain ar ei hymwelwyr hi. Bellach, nid y dafarn a'r cae chwareu oedd yn mynd a br) d y glowyr, eithr ceid fod ysbryd y Diwygiad wedi trwytho i bob cylch. Nid yr un oedd y pwll glo heddyw ag ydoedd dair wythnos yn ol, a chaed Nadolig newydd mewn cannoedd o deuluoedd eleni— Nadolig sobr am y tro cyntaf yn eu hanes. Y gorfoleddus, ac nid yr ofnadwy, oedd yn nod- weddu y cyfan, ac yr oedd yn amlwg iddo ef fod llaw Duw yn gweithio ar yr oil. PARCH. P. H. Griffiths a ddiolchai yn gynes i Mr. Jones am ddod a'r hanes i ni, a synai nad oedd y capel yn llawn i wrando arno. Yr oedd yn diolch i Dduw mai yng Nghymru y torrodd y tan allan. Yr oedd yn brawf yn ei olwg ef nad oedd y gweddiau a offrymwyd ar aelwydydd crefyddol yno yn ystod y deugain mlynedd hyn wedi eu llwyr anwybyddu yn y nefoedd. Yr oedd rhai eto yn beirniadu ac yn amheu, ond dyna'n hanes ni. Yr wir yr ydym wedi bod yn gritics mawr yn y pulpud ar hyd y blynyddau. Wedi bod yn son am Socrates, Plato, ac athronwyr mawr y cynoesau. 0, ie, pobl glyfar iawn oeddem yn ein meddwl ein hunain, eto wele'r Ysbryd yn dod yn ei ffordd dawel ei hun ac yn ysgubo'r holl gritics a phawb b 9 i ffwrdd. Credai ef y deuai i Lundain ond i ni ofyn am dano, a gwae ni os esgeulusem y cyfle o ofyn. JEWIN.Wythnos weddi yw'r wythnos gyntaf o'r flwyddyn yn y capel hwn ers blynyddau lawer, ac roedd y cynulliadau a gaed yma eleni yn brawf fod dylanwad y weddi heb gilio eto o blith y Cymry. Dechreua yr eglwys ar flwyddyn arall gyda llawn hyder a ffydd, ac mae'r rhag- olygon am lwyddiant a chynydd yn fwy addawol eleni nag hyd yn oed yn mlynyddoedd goreu yr eglwys hon. Mae llafur dyfal y Parch. J. E. Davies ar hyd y blynyddoedd yn dwyn ffrwyth amlwg, fel y gall Jewin gyda phriodoldeb dder- byn y clod haeddianol o fod yn fam eglwys yr Hen Gorph yn Llundain. Y TABERNACL.—Cyfarfodydd gweddi oedd rhaglen yr eglwys hon o nos Lun i nos Wener, ac er mai peth newydd yn ei hanes yw cael cyfres am wythnos, caed amlygiad eglur yn y cynulliadau a ddaethant yn nghyd fod ysbryd y Diw) giad yn graddol ymestyn i fysg ein cenedl yn Llundain hefyd. Ond nid ysbryd gweddi yn unig a geir yma. Y mae gweithgarwch edmygol i'w weled yn nglyn a phob adran o waith yr eglwys, ac er fod dyled drom wedi dod ar yr aelodau trwy y gwelliantau diweddar, mae'n amlwg nad yw ond wedi creu symbyliad o'r newydd yn mysg y cannoedd mynychwyr yma i wneyd yr adeilad yn rhydd o bob cyfrifoldeb llethol cyn pen ychydig flynyddau. DADL DDIFYFYR.-Dyma gaed i orphen y flwyddyn gan aelodau Cymdeithas y Tabernacl, ac er fod amryw heb ddychwelyd o'u gwyliau yn yr Hen Wlad, daeth cynulliad boddhaus yn nghyd i'r capel ar y nos Sadwrn olaf o Ragfyr. Dod i ddadleu oeddent ar destyn a roddid gan y cadeirydd ar ddechreu'r cyfarfod, a phan osodwyd "Ai priodol i broffeswyr crefydd fynychu'r chwareudai ? yn bwnc ymdrafodaeth, caed digon o siaradwyr y naill ochr a'r llall i ddweyd y drefn. 0 blaid y chwareudai siaradai Mri. David Thomas, Lincoln Jones, J. Owen, B. Edwards, J. Richards, ac ereill, tra'r hawliai Mri. H. J. Roberts, Josiah Jones, Dan Thomas, a J. Davis mai dylanwad niweidiol ar grefydd- wyr ga'r chwareuon. Ond y chwareudy a orfu er pob dadl. Y NEWYDD-DDYFODIAID.—Tymor i groesawu y newydd-ddyfodiaid gan y gwahanol eglwysi yn Llundain yw tymor y Nadolig, ac roedd y cyn- ulliadau cartrefol a gaed eleni yn brawf fod yn bosibl dod o hyd i lu o ddieithriaid yn ein mysg ar bob adeg o'r flwyddyn. Y gwyn gyffredin yn ein plith yw yr anhawsder o gael o hyd i ddyn neu ferch ieuanc sydd newydd ddod o Gymru a llythyr aelodaeth ganddo, ac heb fantais i wybod pa le i ymaelodi ynddo. Ceisia'r Methodistiaid i ryw fesur gadw golwg ar y rhai a ollyngir o'r capelau yn y wlad drwy sicrbau fod y bugail neu'r swyddogion yno yn anfon gair at yr ysgrifenyddion yn Llundain, ond ar antur y daw'r Annibynwyr, y Bedyddwyr, a'r Wesleyaid atom. Ai nid yw yn bosibl newid ar y cynllun llac presenol, nid yn unig er budd i grefydd, eithr i'r bywyd cenedlaethol hefyd ? CENHADAETH DDINESIG LLUNDAIN.—Mae hanes rhanbarth Ddwyreiniol Llundain yn ystod y Nadolig yn wybyddus i'r rhan fwyaf o ddarllenwyr y papyrau dyddiol. Y mae tlodi ac eisieu yn fwy eithafol eleni nag y bu ers blynyddau, a charedigrwydd a chydymdeimlad ar eu goreu. Da genym hysbysu na fu ein cydwladwyr ar ol yn eu cydymdeimlad a'r Cymry tlodion sydd o fewn y cylch. Anfonwyd ciniaw i amryw o gartrefi llwm, a mawr oedd y llawenydd a gynyrchwyd gan y caredigrwydd. Mewn cysylltiad a'r genhadaeth yn Silver Street, cafwyd gwledd gan y cyfeillion caredig, Mr. a Mrs. Rees, Stepney Green, yn ol eu harfer, a chyfarfod bendithiol nas anghofir am amser, o dan lywyddiaeth Mr.' Rees. Cafwyd anerch- iadau gan Mrs. Saunders, Abertawe, a bonedd- igesau eraill, a chanwyd amryw o emynau, nes oedd hwyl nefolaidd yn llanw yr adeilad. Dat- ganwyd gan Miss Cassie Davies. Rhanwyd y gwaith, sef y dillad oedd y chwiorydd wedi bod yn brysur wrthynt ar hyd y misoedd diweddaf, gan Miss Rees a'r Misses James. Diolchwyd o galon i'r boneddigesau sydd yn ffurfio Pwyllgor Cymdeithas Ddirwestol y Chwiorydd am eu mawr ofal a'u caredigrwydd tuag atom yn ystod y flwyddyn. Mae clod mawr yn ddyledus iddynt, ac i ysgrifenydd y Gymdeithas, Miss Roberts, Willow Bridge Road, Canonbury.— CENADWR.