Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

DAN Y POST.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DAN Y POST. MAE Dan y Post wedi marw Ni chaed gair am ei afiechyd yn y papurau dyddiol, na choffa am dano yn ngholofn yr uchelwyr, ond mae Dan wedi marw Ni chafodd y Human sydd ar ben yr adeilad mawr yn St. Martin's-le-Grand ei gosod ar half mast fel pan fu farw'r prif bost- feistr 'slawer dydd; ond 'roedd Dan yn llawer gwell dyn na hwnw yn ngolwg ardalwyr tawel Cellan a Llanfair. Yn awr y mae yntau wedi mynd ar ol gwasanaeth ffyddlon am tua chwarter canrif, ac mae rhanbarth helaeth o Ddyffryn Teify wedi colli un o'r cymeriadau hapusaf a mwyaf gwreiddiol, er hiraeth yr ardalwyr, ac er colled dirfawr i ddonioldeb dyddiol y lie. Weithiau deuai'r newydd am gyffro yn Llun- dain. Sonid am bostfeistr newydd, a phenodi un arall pan newidiai'r Weinyddiaeth, ond'doedd y cyfnewidiadau hyny yn ddim yn ngolwg pres- wylwyr yr ardal dawel hon o'u cydmaru ag ymweliad dyddiol Dan waeth efe, yn eu tyb hwy, oedd y gwr pwysicaf yn holl gyfundrefn y llythyrdy. Am genhedlaeth gyfan efe fu prif ysgogydd y cwmwd. Yr oedd ei lais siriol a'i gyfarchiad hapus mor angenrheidiol i gysuron y pre- swylwyr ag oedd gwen yr haul drwy eu ffenestri, ond yn awr mae cwmwl hiraeth wedi gordoi y fan, a hen Amser ei hunan fel pe wedi ei ddyrysu, oherwydd wrth swn cerddediad Dan y rheolid holl glociau yr ardal. Ni chafodd y llythyrdy erioed was mwy ffyddlon, mwy hunanddigonol, a mwy annibynol nag efe. Gyda chodiad haul cyflymai tua'r orsaf i groesawu tren y boreu, ac yna i chwilio am a threfnu ei faich. Wedi cael hwnnw draws ei ysgwydd, ac yn ami lu o barseli yn hongian ar bob tu iddo, dechreuai ar ei siwrnau a chyn hanner dydd byddai ei genhadau amrywiol wedi eu gwasgar o dy i dy, a deng mill- dir o ffordd wedi ei throedio ganddo. Yna troai ei wyneb yn ol a galwai am atebion, y rhai a ddygai yn brydlon i gwrdd a'r "tren pedwar," ac ar derfyn ei ymdaith o tua ugain milldir gellid meddwl nad oedd Dan wedi troedio can troed- fedd gan mor sionc y symudai. Gyda chysondeb digymhar y troediodd y rhan yma o ddwy sir ar ddau tu y Teify am yn agos i chwarter canrif. Haf a gauaf, ystormydd a hindda, llifddyfroedd a lluwchfeydd eira, sirioldeb gwanwyn a thesni haf iddo ef o'ent oil yr un fath. Nis arafent ac ni chyflyment ddim ar ei gamrau, a phe wedi cadw yn ei flaen o'r amser y dechreuodd buasai wedi cerdded o amgylch y ddaear dros saith o weithiau Dim ond llythyrgludydd gwledig, dyna i gyd. Pa angen son am dano ? Mor angharedig yw'r hen fyd yma, ac mor anwastad y gwasgar ei glodydd Pe mewn swydd uchel ac wedi gwasanaethu ei deyrn gyda hanner y cysondeb a'r diwydrwydd cenid ei glodydd yn holl bapurau'r wlad ond gan iddo weithio yn ddirwgnach, yr oil a haeddai yn ol yr hen fyd oedd caledwaith diaros a chwe troedfedd fer o ddaear ar derfyn yr holl ludded. Dyna i gyd. Ar ei daith 'roedd cartrefi i dros haner cant o fechgyn a merched sydd yn Llundain heddyw. Gwyddai Dan am danynt oil, ac 'roedd ganddo groeso llawen bob amser i "foys Llunden." Cyn dod at y drws gwaeddai o hirbell, Llythyr heddi oddiwrth y boys," neu "Mae Mari yn hela gair i godi'ch calon," neu Dyma Twm eto yn hela'i gelwydde," pob hysbysiad gyda gwen ac yn

Advertising

SUCCESS OF A YOUNG WELSH ARTISTE.

Advertising

Colofn y Gan.

DAN Y POST.