Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

[No title]

Nodiadau Golygyddol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodiadau Golygyddol. CYMRAEG I GYMRU. Nid oes genym nemawr, os dim cydymdeimlad a'r gri a glywir weithiau Cymru i'r Cymry." Gwyddom fod cydymgais yn fuddiol i dynnu allan a dadblygu galluoedd a thalentau cenedl, ac nid ydym yn petruso dim ynghylch gallu y Cymry i sefyll cydymgais deg a phobl o unrhyw genedl arall yn eu gwlad eu hunain, yn gystal ag allan o honi. Os nad all ein cenedl wneyd hynny, ac os rhaid iddi wrth gaer o'i hamgylch fel mur China i gadw draw bawb arall, yna gellir bod yn sicr nad oes iddi le wedi ei drefnu ym mywyd dyfodol y ddynoliaeth. Ond y mae cri arall sydd yn meddu ein cydymdeimlad llwyraf, sef Cymraeg i Gymru." Yr ydym yn barod i adael drws agored i'r person a fedd fwyaf o gymhwysderau i lanw unrhyw swydd a safle yn ein gwlad, ond meiddiwn ddweyd y dylai gwybodaeth o'r iaith Gymraeg fod yn gym- hwysder hanfodol i ddal unrhyw swydd gyhoeddus yng Nghymru. Nid oes un math o synwyr mewn gosod dyn na fedr iaith y bobl yn bost- feistr, na gorsaf-feistr, nac yn heddgeidwad yn unman yn y wlad. Dylai yr holl swyddogion hyn, ac eraill, megis Barnwyr ac Ynadon ar y Fainc, fod yn alluog i gymeryd cenadwri y Cymro uniaith yn ogystal a chenadwri Die Shon Dafydd. Ni feddem ofod digonol i gof- nodi yr enghreifftiau o daeogrwydd, a bryntni, ac anghyfiawnder sydd yn difwyno hanes y wlad oherwydd y mynnai yr awdurdodau lanw safleoedd pwysig a dynion anwybodus o dafod-