Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

BWRDEISDREFI CAERFYRDDIN A…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BWRDEISDREFI CAERFYRDDIN A LLANELLI. Dewis Ymgeisydd Rhyddfrydol. Cynhaliwyd cyfarfod o Bwyllgor Gweithiol Cymdeithasau Rhyddfrydol y Bwrdeisdrefi uchod ddydd Sadwrn i ddewis ymgeisydd ar gyfer yr etholiad sy'n agoshau. Yr oedd y cynulliad yn dra lliosog, a nodweddid y gweithrediadau gan gryn frwdfrydedd a pheth cynhwrf. Gwyr y wlad bellach fod llawer o Ryddfrydwyr blaen- llaw y ddwy dref yn anfoddlawn ar Mr. Alfred Davies, yr aelod presenol. Mewn cyfarfod a gynhaliwyd bythefnos ynghynt enwasid tri o foneddigion heblaw Mr. Alfred Davies, sef Mr. Terrell, K.C., Major Jones, cynaelod, a Mr. W. Llewelyn Williams. Pendertynodd y cyfarfod hwnnw fod anfon at y pedwar i ofyn a oeddynt yn barod i ymrwymo i dderbyn dewisiad y Gym- deithas yn derfynol, ac i'w gwahodd i annerch y cyfarfod ddydd Sadwrn. Nid oedd oddigerth Mr. Terrell a Mr. Llewelyn Williams yn bresenol, ac ymrwymai y ddau i dderbyn dyfarniad y Gymdeithas. Dar- llenwyd llythyr oddiwrth Major Jones yn cynwys ymrwymiad cyffelyb, ond yn gofidio nas gallai y I y fod yn bresenol oherwydd afiechyd. Ysgrifenodd Mr. Alfred Davies yn osgoi pwnc yr ymrwymiad, a rheolodd y Cadeirydd, gan nad oedd yn ym- rwymo, nad ellid rhoddi ei enw gerbron. Parodd hynny i'w gyfeiliion ymgynhyrfu. Nid ystyrient yn deg ei osod ef ar yr un tir a'r rhai eraill a enwid, gan ei fod yn y sedd yn barod. Wedi cryn ymgyndynu gadawodd cyfeillion Mr. Davies yr ystafell, ond rhoddasant ar ddeall ei fod ef yn myned i sefyll gan nad pwy a ddewisid gan y cyfarfod hwnnw. Anerchwyd y cyfarfod gan Mr. Terrell a Mr. Llewelyn Williams. Darllenwyd llythyr oddi- wrth Major Jones yn cynwys ei olygiadau ar y prif bynciau gwleidyddol. Yna cymerwyd pleidlais ar y tri. Safent fel hyn Mr. Llewelyn Williams 20 Mr. Terrell 18 Major Jones 15 Yna rhoddwyd enwau Mr. Llewelyn Williams a Mr. Terrell yn unig ger bron, a dyma'r can- lyniad :— Mr. Llewelyn Williams 35 Mr.Terrell 21 Syrthiodd enw Mr. Terrell i'r llawr wedyn, ac yr oedd y drydedd bleidlais cydrhwng Mr. Llewelyn Williams a Major Jones. Fel hyn y safent Mr. Llewelyn Williams 39 Major Jones 15 Yna cytunwyd yn unfrydol i gymeradwyo Mr. Llewelyn Williams i'r Gymdeithas Unedig i'w fabwysiadu yn ymgeisydd. Yr ydym yn llongyfarch Mr. Williams ar yr anrhydedd hwn sydd wedi ei osod arno ym mwrdeisdrefi ei sir enedigol. A gwnawn hynny nid yn gymaint ar gyfrif ei olygiadau politicaidd ag ar gyfrif ei wladgarwch a'i genedlaetholdeb. Mae yn genedlaetholwr i'r earn, wedi gwasan- aethu Cymru ym mhob modd dichonadwy ers blynyddoedd, yn gwybod angenion ei genedl, ac yn cydymdeimlo a hwy. Bydd ganddo frwydr galed i'w hymladd, a diau y bydd i'r ymraniad yn y gwersyll Rhyddfrydol beri rhai pethau annymunol. Ond y mae ynddo ystor o natur dda fydd fel olew ar lawer ton. Caiff ddymun- iadau goreu Cymry Llundain yn ei ymgeisiaeth.

PORTHI DENG MIL 0 BLANT TLODION.

GOHEBIAETHAU.

[No title]

About the Revival.