Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Yr Almanac Goreu, Yr Almanac Llawnaf, Yr Almanac mwyaf dydd- orol, yw ALMANAC Y Gweithiwr: CYNWYSA WYBODAETH Fuddiol, Ddyddorol, ac Angenrheidiol i Bawb CYNYGIR £1.0 MEWN GWOBRAU YNDDO. C AN A OHYDGAN NEWYDD GAN Gwilym Gwent Os ydych am wybod am y Tywydd, yr amser o'r dydd yn mhob parth o'r byd, y ffordd i gael allan pa ddydd o'r wythnos oedd neu fydd unrhyw ddydd o unrhyw fis yn y ganrif bresenol, tablau gwerthfawr, ystadegau dyddorol, amrywion dy- fyrus, hanesion am bregethwyr, a lluaws o bethau ereill; mewn gair, os ydych am gael Difyrwch i'r Ieuanc, Gwybodaeth i'r Penteulu, Dyddordeb a budd i bawb, MYNWCH Almanac Y fv Gweithiwr PRIS (jEINIOG. I'w gael gan bob Llyfrwerthwr yn Nghymru, neu yn uiongyrchol mewn symiau bychain a mawrion, oddiwrth Y CYHOEDDWR, ",M-r mi ALMANAC Y Gweithiwr, LLANELL Y, South Wales. Beth Y dyw P Y FEDDYGINIAETH OREU AT Y DROPSY! Sydd wedi ei ddarganfod ydyw, set HUGHES'S DROPSY PILLS. Am y rhai y tystiolaetha miloedd o bob parth o'r byd nad oes eu cyffelyb fel meddyginiaeth effeithiol at y olefyd Win ag y maent yn dwyn ei enw, sef Y DROPSY. Wele rai o'r codau wrth y rha-i y gellwoh adna- bod y elefvd os bvdd wedi g&faelyd ynoch:— Diffyg Dwfr, Gravel-; Chwydd yn y Traed, Cliniau, Ymysgaroedd, &c.; Gwynt a Llawn- der yn y Bol, Poen yn y Cefn a'r Arenau, Curiad y Galon, Cramp a Chwsg y Cliniau, Asthma, neu Ddiffyg Anadl, Teimlad o Stiffdra yn y Corff, &c. Rhwystra y Dropsy a OhwyddiaDt weithred* iad rheolaidd prif beirianau y corff, megys yr Ysgyfaint, yr Afu, y Galon, y Spleen, a'r Ystnmog, nes achosi y olefydan nchod, a llawer i farwolaeth sydyn. Prif feddyginiaeth yr oes at y Dropsy a'r clefydan a enwyd yw HUGHES'S DROPSY PILLS, Y rhai ydynt mor adnabyddus am eu heffeith- iolrwydd gwyrthiol fel y mae y galwad am danyrt yn oynyddu yn arntbrol bob blwydd- yn. Y mae en befferthiau y fath fel y gellir cyfrif y rhai a dderbynias&nt iachad drwydd- ynt wrth y miloedd. Iilu mawr oeddynt yn ymyl y bedd eydd wedi en hiacban a'n badferyd trwy eff&ith gwyrthiol DROPSY PILLS. Am y rhai y tystiolaetha miloedd o bob parth o'r byd nad oes eu cyffelyb fel meddyginiaeth effeithiol at y olefyd Win ag y maent yn dwyn ei enw, sef Y DROPSY. Wele rai o'r codau wrth y rha-i y gellwoh adna- bod y elefvd os bvdd wedi g&faelyd ynoch:— Diffyg Dwfr, Gravel-; Chwydd yn y Traed, Cliniau, Ymysgaroedd, &c.; Gwynt a Llawn- der yn y Bol, Poen yn y Cefn a'r Arenau, Curiad y Galon, Cramp a Chwsg y Cliniau, Asthma, neu Ddiffyg Anadl, Teimlad o Stiffdra yn y Corff, &c. Rhwystra y Dropsy a OhwyddiaDt weithred* iad rheolaidd prif beirianau y corff, megys yr Ysgyfaint, yr Afu, y Galon, y Spleen, a'r Ystnmog, nes achosi y olefydan nchod, a llawer i farwolaeth sydyn. Prif feddyginiaeth yr oes at y Dropsy a'r clefydan a enwyd yw HUGHES'S DROPSY PILLS, Y rhai ydynt mor adnabyddus am eu heffeith- iolrwydd gwyrthiol fel y mae y galwad am danyrt yn oynyddu yn arntbrol bob blwydd- yn. Y mae en befferthiau y fath fel y gellir cyfrif y rhai a dderbynias&nt iachad drwydd- ynt wrth y miloedd. Iilu mawr oeddynt yn ymyl y bedd eydd wedi en hiacban a'n badferyd trwy eff&ith gwyrthiol HUGHES'S A** ww 1 •St*' K-i* it- PILLS. DA.KLLENER A GANLYN Llais o Ororau y Llyn Halen. Syr,—Gwelwch yn dda ddanfon i mi wertb Doler o'ch HUGHES'S DROPSY PILLS byd enwog gyda ihroad y Post. Yr wyf yn ymwy- bodol o'u daioni er's llawer o fiynyddosdd—er pan oeddwn yn byw yn Merthyr Tydfil. Yr eiddooh, EDWARD EDWARDS. Spanish Foirk City, Utah Territory, Ameroa, U.S. Wedi bod dan driniaeth Medd- ygol am iNaw Mis. Syr,—Yr wyf yn ddiolchgar i chwi am eich darganfyddiad gwerthfawr, sef HUGHES'S DROPSY PILLS, y rhai a wnaetbant ddaioni mawr i mi wrth i mi gymeryd dim ond dau flyohaid. Yr wyf yn awr yn berffa?th iach ao yn dilyn fy Dgwaith, wedi bod am naw mis o dan driniaeth meddygol, ond heb gael dim llesbad hyd nes i mi dreio HUGHES'S DROPSY PILLS, Gwnewob hyn yn hysbys bawb. Yr eiddoch, JOHN PHILLIPS- Colliers' Row, Treorci. O Ymyl y Bedd yn ol i Fywyd. Syr,—Yr wyf mewn sefyllfa i ddwyn tystiol- aeth i rinweddau mawr eich HUGHES'S DROPSY PILLS. Y mae yr hon oedd yn ymyl y bedd ac yn dyoddef oddiwrth y Dropsy, Prinder Dwfr, Chwyddiadan mawrion, a'r GaJon bron ar sefyll, yn awr wedi ei gwell- hau trwyddynt, ao yn teimio yn wir ddiolch- gar. Towyn, Prestatyn. G. DAVIES. Gwellhad Hynod, 3y*,—Yr wyf yn bur awyddus efc hysbysu o'r effalth hynod a gafodd eioh Pills, sef HUGHES'S DROPSY PILLS, arnaf. Yr wyf wedi bod yn glaf iawn »&> 15 o flynydd- au gan y Dropsy, Chwydd Mawr, Curiad y Galon, Asthma. Difiyg Dwfxr, Poen yn f Qefn, Arenau, &c. Yr wyf wed! bod dan di'inla&th holl ddoctoriaid yr ard&i hon, a phob moddlon ag yr oedd son az» danynt, we<?i gwario holl arian fy hun a m te&ta, etc i ddNtaa pwrpaa o'r diwedd mi roddais brawf ar eich Pills rhag- orol chwi, a hynod yw iywedyd, fcri blychaid o honyrstfr a'm gweilhaodd yn hoiliach er syn- dod I'f holl wlad. Oanoedd a allact dystiol- laethu i'r ffalth hon. Byth yn ddiolchgar, HANNAH JONES. Weetgate, Aberayron. RHYBUDD. Er mwyn sicrban pawb rhag <?wyll, gofaler gael y Trade Mark (sef llun Diamond) a'rgeir- iau "DROPSY PILLS" oddifewn ar bob ^woh, ao enw JAC-OB HUGHES ar Stamp y Llywodraeth. Heb hyn twyll ydyw. Ar werth trwy yr holl deyraas am Is l^o, 2s 9c, a 4s 6o; trwy y Post, Is 3o, 2s lie, a 4g Sc. oddiwrth y perchenog,— Jacob Hughes, Manufacturing Chemist, gar. Towyn, Prestatyn. G. DAVIES. Gwellhad Hynod, 3y*,—Yr wyf yn bur awyddus efc hysbysu o'r effalth hynod a gafodd eioh Pills, sef HUGHES'S DROPSY PILLS, arnaf. Yr wyf wedi bod yn glaf iawn »&> 15 o flynydd- au gan y Dropsy, Chwydd Mawr, Curiad y Galon, Asthma. Difiyg Dwfxr, Poen yn f Qefn, Arenau, &c. Yr wyf wed! bod dan di'inla&th holl ddoctoriaid yr ard&i hon, a phob moddlon ag yr oedd son az» danynt, we<?i gwario holl arian fy hun a m te&ta, etc i ddNtaa pwrpaa o'r diwedd mi roddais brawf ar eich Pills rhag- orol chwi, a hynod yw iywedyd, fcri blychaid o honyrstfr a'm gweilhaodd yn hoiliach er syn- dod I'f holl wlad. Oanoedd a allact dystiol- laethu i'r ffalth hon. Byth yn ddiolchgar, HANNAH JONES. Weetgate, Aberayron. RHYBUDD. Er mwyn sicrban pawb rhag <?wyll, gofaler gael y Trade Mark (sef llun Diamond) a'rgeir- iau "DROPSY PILLS" oddifewn ar bob ^woh, ao enw JAC-OB HUGHES ar Stamp y Llywodraeth. Heb hyn twyll ydyw. Ar werth trwy yr holl deyraas am Is l^o, 2s 9c, a 4s 6o; trwy y Post, Is 3o, 2s lie, a 4g Sc. oddiwrth y perchenog,— Jacob Hughes, Manufacturing Chemist, FENARTH, CARDIFF. Goruchwyliwr yn America,- 1\1n R. D. WILLIAMS. o Chemist, Plymouth, Pa.
Advertising
Gymry hoff I dewch at y Oymvo Os ana helrdd fodrwyan aov Ospiadnron ac awrleiaiaa, Gemaa, a chadwynaa claer; Y^pecfcol gelfydd, hin-fynegydd, Gwr^s-fesarycW, Chrmpavd mf Gfeir gan WIMCAMS, Heol y Caste 11^ Trowch i mewn I wel'd ei storlt W. WILLIAMS. WATCHMAKER & JEWELLER, 29,Castle Street, Swansea.
--AT LOWYR DEHEUDIR CYMRU…
AT LOWYR DEHEUDIR CYMRU A SIR FYNWY. Yr wyf yn apelio am y tro diweddaf at holl weithfeydd ager a glo tai Deheudir Cymru i anfon cenhadon i'r Cyfarfod Cyff redinol a gynhelir yn Merthyr dydd Llun nesaf, am haner awr wedi deg y boreu, i gymeryd i ystyriaeth y rhybudd sydd wedi ei roddi i derfynu y Bwrdd Cymodol ar y 30ain o Dachwedd, 1887. Hefyd, i ystyried Undeb Cyffredinol, a chwtogi oriau llafur. Pynciau y dydd yw y rhai uchod, ac y mae y gynadledd a gynaliwyd yr wythnos ddiweddaf yn Edinburgh wedi rhoddi llawn waith i ni am yr wythnosau dyfodol. Ni a hyderwn y bydd i ni roddi bob cynorthwy i'n harweinwyr i gario eu cynlluniau allan. Fe ddichon fod rhai gweithfeydd heb dderbyn y circulars; ond na fydded i hyn fod yn rhwystr i anfon cenhadon i'r cyfar- fod. Disgwylir cyfarfod lliosog.™Yr eiddocb, LEWIS MILES, Ysgrifenydd.
ETHOLIAD BWRDD YSGOL YSTRADYFODWG.
ETHOLIAD BWRDD YSGOL YSTRAD- YFODWG. Wedi cryn lawer o swn y mae etholiad y bwrdd hwn wedi cymeryd lie, a'r canlyniad fel y canlyn,- WEDI EU HETHOL. *David Evans, Bodringallt (cyn gad- eirydd) 9,431 *W. W. Hood, Llwynpia 7,975 William Prichard, Clydach Vale 6,854 *Parch. William Lewis, ficer 6,640 William Morgan, Tynewydd 6,639 Alfred Lester Lewis, Treherbert 6,635 Parch. J. Edwards,Annibynwr,Treorci 5,115 Samuel Hussey Williams, Tylorstown 5,001 *William Jenkins, Ystradfechan 4,940 David Thomas, Atalbwyswr, Pentre. 4,457 *Parch. William Morris, Bedyddiwr, Treorci 4,038 *Parch. William Jones, Methodist, Ystrad 3,864 John Morgan, Ynyshir Hotel 3,626 HEB EU HETHOL. *John Davies, Maerdy 3,141 J. H. Williams, Blaenrhondda 2,949 John Edward Jones, Tylorstown 2,885 *Moses Rowlands, Penygraig 2,732 EvanRichards,Annibynwr,Tonypandy 2,226 *E. H. Davies, Ystrad 2,389 *Idris Williams, Porth 647 W. Hogg, Pontypridd 510 Dynoda y aelodau y Bwrdd am y tymor blaenorol, pedwar o'r rhai sydd wedi eu gadael allan, Yr oedd yr etholiad yn un trwm anarferol, ac ni ddinystriwyd ond ychydig iawn o bapyrau. Y mae y pedwar ymgeisydd ag yr oedd Cymdeithas Lafuriol y Rhondda yn eu cefnogi wedi eu dych- welyd.
* LLANYBYDDER-HEN WR WEDI…
LLANYBYDDER-HEN WR WEDI EI LOSGI YN GOLSYN. Cymerodd dygwyddiad galarus le yn Llanybydder, sir Aberteifi, nos Wener di- weddaf. Yn foreu, dydd Sadwrn, yr oedd nifer o weithwyr yn myned at eu gwaith i Highmead, preswylfa Colonel Evans, pryd y cawsant fod t £ bychan t6 gwellt, a adnab- yddid wrth yr enw Blaenwaun, wedi ei losgi yn llwyr i'r llawr. Yr oedd yn wybyddus fod hen wr o'r enw Samuel Davies, 80 oed, yn byw yn y bwthyn, ac yn byw yno wrtho ei hun. Wedi chwilio, cafwyd ei weddillion yn golsyn yn ymyl y tan. Yr oedd ei gnawd wedi ei Iwyr losgi, a chymerwyd ei esgyrn ymaith mewn sach. Nid oedd dim yn y lie fel ag i arwyddo pa fodd yr oedd y tan wedi cymeryd lie. Yr oedd ei ferch, sydd yn byw mewn fferm cymydogaethol, wedi ei weled yn hwyr nos Wener, ac yr oedd pob peth yr adeg hono yn iawn. Yr oedd yr hen wr yn gymeriad cyfrifol, ac nid oes neb yn credu fod cam-chwareu wedi ei wneud ag ef. Credir ei fod wedi codi rhywbryd yn y nos i ysmocio, a bod y ty wedi cymeryd tan.
Y CYNON GLEE SOCIETY.
Y CYNON GLEE SOCIETY. Dymnnir ar aelodau y parti nchod i gyfarfod yn Shiloh, Aberaman, nos Wener nesaf, Hyd. 22ain, am wyth o'r gloch. JOHN DAVIES, Vag.
Advertising
W. Williams, 29, CASTLE STREET, S'JV AUSE A-. SPECIALITIES: ENGLISH pATENT LEVERS. 22 CT. GOLD -^EDDIN3 RINGS. t<QCT. GOLD KEBPERS. CRYSTAL gPECTAOLES. I
IK1YTHJIOS.
IK1YTHJIOS. NID oes dim banes y gwnfad Prydeinig, y Wasp, wedi cyrhaedd hyd yn hyn, er fod ymchwiliad parhaus yn cael ei wneud am dani. YN Spilsby, Lincolnshire, dydd Iau di- weddaf, anfonodd yr ynadon yr heddgeid- wad William Haygarth i'r carchar am dori i mewn i anedd-dy Joseph Wingate, yn Skegness. Cafodd y llys ei lanw o ddodrefn a phethau ereill yr oedd efe wedi eu gwerthu trwy arwerthydd. Yr oedd y carcharor yn grefyddwr mawr, ac yn pregethu yn fynych ar yr heolydd. Y MAE corff plectyn newydd-anedig wedi ei gael ddydd Gwener diweddaf yn Llyn yr Hen Gastell, Llanelli. Y mae yr heddgeid- waid yn chwilio i mewn i'r achos. Y mae y meddyg wedi dweyd ei fod ef o'r farn fod y plentyn wedi byw ar waban i'w fam, er nad oedd dim ar y corff i brofi ei fod wedi cael cam-chwareu. Nos Iau diweddaf, tra yr oedd yr ager- long Hawthorn yn gwneud ei ffordd i lawr y Thames, tarawodd yn erbyn llestr o Wool wich. Collodd un dyn ei fywyd. YN ngorsaf reilffordd y South Western, yn Stains, pan yr oedd y glanhaydd, am y tro cyntaf yn cyneu tan yn ystafeU y men- ywod, daeth o hyd i fwndel yn y chimney. Pan ei agorwyd cafwyd ei fod yn cynwys corff plentyn, ac wedi bod yno am gryn amser. Y mae y newydd wedi cyraedd fod y llong Monarch wedi myned yn ddrylliau yn Tubili, Munduro, a bod y cadben a thri o'r dwylaw wedi eu colli. Y MAE yn cael ei hysbpsu fod llythyron rhai o aelodau Seneddol yr Iwerddon yn cael eu parhaus agor gan ryw awdurdodau yn y llythyrdai. Y mae rhai o'r llythyron yn cael eu hanfon allan pan eto yn agored. Y MAE Mr. Morton, yr awyrydd, yr hwn a gychwynodd ar draws y Channel mewn awyren, ddydd Iau diweddaf wedi dychwel- ydi Dover o Calais gyda'i awyren. Y mae yn hollol iach, a dywed ei fod wedi cael taith dyddorol ar draws y caincfor, a'i fod wedi disgyn rhvw 12 milldir yn ddwyreiniol i Calais. YN Treorci, dydd Mercher diweddaf, achoswyd cryn gyffro trtVy fod dwy fuwch yn rhedeg yn wyllt ar hyd yr heolydd. Yr oedd nifer mawr o bersonau ar eu holau, end buwyd cryn amser cyn eu diogelu. Daeth un o honynt ar draws anghladd tua chanol y 11e, ac achosodd i'r coffin a gerid ar ysgwyddau pedwar o bersonau gael ei daflu i gert green-grocer a ddygwyddai fod yn y lie; a L phe na buasai y gert yno, buasai y coffin wedi ei daflu i'r llawr. Yr oedd yr olygfa yn un dra phoenus. Tarawodd un o'r anifeiliaid, mewn heol groes, blentyn dwy flwydd oed i'r llawr, a derbyniodd y fath niweidiau fel y bu farw mewn awr I neu ddwy wedi hyny. I Y MAE yn awr yn cael ei hysbysu y bydd i'r Llywodraeth wneud ymgais i gcspi wyth o droseddwyr y degwm yn Llangwm, yn Sesiwn Ionawr. PRYDNAWN dydd Mercher diweddaf, caf- odd merch ieuanc o'r enw Haynes, ac yn byw yn If or Street, Hafod, ei tharaw i lawr yn ddamweiniol gan un o'r cerbydau sydd yn I rhedeg rhwng y Porth a Phontypridd. Bu farw mewn ychydig fynydau wedi ei chy- meryd i'w chartref. Y MAE dyn ieuauc o'r enw Joseph Mosley, gof, 17 oed, yn byw yn Dagenham, Essex, yn cael ei gyhuddo o lofruddio gwraig ieuanc, gyda'r hon yr oedd yn lletya, trwy dori ei gwddf wedi i'w gwr adael y ty boreu dydd Mercher diweddaf. Pan yr aeth y gwr at ei waith yr oedd ei wraig a'r plentyn yn y gwely, a'r Uetywr yn clirio i fyny ei foreu- fwyd. Pan y cyhuddwyd ef o'r weithred, dywedai na wyddai efe ddim am daao, ond wrth wneud archwiliad arno, cafwyd archoll ar un o'i freichiau, ac ysmotiau o waed ar ei ddillad. FE dddywedir fod ein cydwladwr Homo ¡ Ddu, Tonypandy, yn ddiweddar wedi anfon I anerchiad barddonol jiwbiliaidd i'rFrenhines, I yr hwn a ddychwelwyd, gyda'r nodyn ei fod yn rheol nad yw ei Mawrhydi byth yn derbyn barddoniaeth. Modd bynag, ni fu y rheol yn ddigonol i'w chadw rhag derbyn a chydnabod llinellau a anfonwyd iddi gan fardd Ysgotaidd. Nid yw yn hawdd deall paham yr ymddygir mor anfoneddigaidd tuag at Gymru wladgarol. Baraa Truth nad oes penadur arall yn Ewrop a fuasai yn ymddwyn mor anraslon tuag at ddeiliad unigol. Dydd Sul diweddaf, bu farw yn Ferndale, Thomas Jones, Long-row, mewn canlyniad i niweidiau a dderbyniodd trwy i gwytnp j syrthio arno yn nhwll iNo. 2 y dydd blaen-1 orol. Gadawodd weddw a phump o blant i alaru ar ei ol. Oddeutu dau o'r gloch boreu dydd Sul diweddaf, deuwyd o hyd i gorff marw Ann George, gwraig John George, Hill Side, Wattstown, Ynyshir, ar waelod y grisiau yn ei thy ei hun. Aeth i'w gwely ychydig wedi 12 o'r gloch nos Sadwrn yn ei harferol iechyd, ac y mae yn ddirgelwch pa fodd y cyfarfyddodd &'i diwedd. Galwyd Dr. Lewis i mewn ar unwaith, a dywedodd ei bod wedi marw mewn canlyniad i archoU ar ei phen. Yn Eglwys blwyfol Old Bury, ddydd Sul diweddaf, trwy ryw ddiffyg yn y pibau gwresogi, llanwyd yr addoldy â. sulphur. Llesmeiriodd oddeutu 20 o bersonau, a gor- fuwyd cario amryw allan. Daethant oil atynt eu hunain wedi peth amser.
GWEITHFAOL A MASNACHOL.
GWEITHFAOL A MASNACHOL. CYFARFOD PWYSIG 0 LOWYR YN ABERAMAN. Cynaliodd gweithwyr Glofeydd Fforch- aman, Aberaman, a Thre&man, gyfarfod cy- hoeddus nos Wener diweddaf, yn y Griffin Inn, dan lywyddiaeth Mr. John White, er cymeryd i ystyriaeth eu sefyllfa bresenol, yn nghyd a chynllunio y ffordd oreu i gyd- weithredu yn y dyfodol. Pasiwyd y pen- derfyniadau canlynol yn unfrydol:— 1. Na fydd i ni fel gweithwyr Forchaman, Aberaman, a Threaman, ymwneud dim mewn unrhyw fodd a Dosbarth Aberdar yn ei sefyllfa hresenol. 2. Nad ydym yn cymeradwyo yr Undeb a amcenir ei ffurfio gan Ddosbarth Aberdar, I am y credwn ei fod yn rhy gul yn ei egwydd- orion, ac yn rhy gyfyttg yn ei weithrediadau j wneud unrhyw ddaioni i ni fel glowyr. 3. Fod y cyfarfod hwn yn gryf dros sefydlu Undeb newydd—eang ei egwyddor- ion—rhwng holl lowyr Mynwy a Deheudir Cymru, y cyfryw i'w gario ymlaen ar yr un egwyddoi a'n cymdeithasau cyfeillgar presenol, a'i amcan, yn mhlith pethau eraill, i ddal i fyny egwyddorion y Sliding Scale. 4, Fod y cyfarfod hwn yn hollol anghym- eradwyo gweithrediadau Mr. David Morgan yn y gorphenol, gan gredu eu bod yn ang- hyson, ac yn tueddu i'n gwasgaru ni fel glowyr oddiwrth ein gilydd yn hytrach na'n crynhoi yn nghyd. 5. Fod y penderfyniadau uchod i'w cy- hoeddi trwy y wasg.-Ysg.
- YR Å LCANWYR.
YR Å LCANWYR. Cynaliwyd cyfarfod gan bwyllgor llyw- odraethol Undeb newydd yr alcanwyr dydd Sadwrn diweddaf, yn Abertawe. Mabwys- jadwyd gweddill y rheolau, a phenderfyn- wyd eu hargraffu yn Gymraeg a Saesonaeg, er eu dosbarthu yn mhlith yr aelodau. Pen- derfynwyd fod trysorfa yr Undeb i'w gadw yn Ariandy y London and Provincial, yn enw Undeb yr Haiarnweithwyr, ac nad ellid tynu dim allan ond trwy cheques wedi eu llawnodi gan y llywydd, trysorydd, ysgrifenydd, a phedwar o aelodau y pwyllgor. Siaradwyd ar bwnc yr ymddiriedolwyr, ond gohir- iwyd yr achos hyd amser dyfodol. Y mae dymuniad ar yr holl ganghenau sydd ag arian mewn llaw, i anfon y cyfryw mor fuan ag y gellir, i'r. trys., er eu cyfleu yn y drysor- fa gyffredinol. Teimlai y pwyllgor yn alar- us glywed am farwolaeth Mr. H. Nurse, rhan-berchenog llywyddol gwaith alcan Red- brook, a phenderfynwyd yn unfrydol i anfon llythyr o gydymdeimlad a'r teulu galarus, ac i ddatgan gofid y pwyllgor o golli un oedd mor gyfeillgar a chydymdeimladol a'r dos- barth gweithiol. Penderfynwyd fod y cyfar- fod nesaf i'w gynal yn Aberafon, y dyddiad i'w benodi eto. Wedi terfynu y cyfarfod yn Abertawe, aeth y rhan amlaf o'r pwyllgor i gyfar- fod cyffredinol o weithwyr haiarn a gynelid yn Pontardulais. Yr oedd y cyfarfod yn un lluosog, yr bwn a lywyddid gan Mr. Thos, Phillips, Ysgrifenydd Cyffredinol, Llanelli:" Rboddwyd yr adroddiad gan y pwyllgor oedd wedi ei benodi yn y cyfarfodydd blaen- orol, er cael syniadau meistri y dosbarth ar y pwnc o dalu 3c. y blwch i ivashmen wedi gwasanaethu eu preLtisiaeth. Hysbyswyd fod meistri y Clayton, Cambrian, a'r Hendy wedi addaw talu y pris, ond nad oedd ateb- iad y Teilo yn foddhaol. Penderfynwyd os na ddeuid i ddealltwriaeth boddhaol ar-y pwnc hwn yno, fod y gweithwyr i roddi mis o rybydd yn yr amser priodol. Anerchwyd y cyfarfod gan y cadeirydd, y llywydd, Mr. Beojamin, Mercarn; Mr. D. Griffith, Ynys- meudwy; Mr. Powell, Abertileri; a Mr. Hymonds, Abercarn. Pasiwyd penderfyniad foJ pob person presenol i ddyfod yn aelod o'r Undeb beb oedi. Hysbyswyd yn y cyf- arfod fod gweithiwr perthynol i'r Ysbytty, yr hwn oedd wedi gomedd cymeryd lie un oedd wedi strikio yn erbyn golchi am 2L\;c. y 4 y blwch, pan yr aeth efe i ymofyn ei gyflog, wedi ei hysbysu y rhoddid iddo ei arian pan y rhoddai efe i fyny allwedd ei dy. Yr oedd y dyn mewn canlyniad heb ei arian, er fod ei wraig yn ymyl ei thymp, a'i rent yn daladwy yn fisol. Penderfynwyd yn un- frydol fod y cyfryw berson i'w gynal oddiar y drysorfa. Dywed gohebydd o Liverpool nad oes nemawr ddim wedi ei wneud yn y fasnach alcan yn ystod yr wythnos a aeth heibio. Y mae y prynwyr yn teimio yn anfoddlon rhoddi archebion i mewn am y credant fod gostyniad yn yr ymyl. 0 Aber- tawe, cawn fod yr allforion yn llawer mwy nag a dderbyniwyd o'r gweithfeydd, ac felly yr ystordau gryn lawer gwagach na'r wyth- nos flaenorol. Y mae yr allforion i'r Unol Dalaethiau yn parhau i gynyddu y naill fis ar ol y Hall.
Y CLOAD ALLAN YN NGWEITHIAU…
Y CLOAD ALLAN YN NGWEITHIAU DUR GLANDWR. Dydd Sadwrn diweddaf, tra nad oedd un arwydd fod tawddwyr gwaith dur Glandwr, y rhai sydd wedi bod ar strike am gryn dyrnor, yn debyg o ail ddechreu ar eu gor- uchwylion, cauwyd yr holl weithiau. Trwy nad oeddid wedi cael amser, ni chafodd y gweithwyr eu talu, ond gohiriwyd hyny am ychydig ddyddiau, nes y byddid wedi gwneud i fyny y cyfrifon. Nid yw nifer y rhai sydd wedi strikio ond rhyw 40, a dy- wedir fod y rhai hyny yn cael eu harwain gan ryw haner dwsin. Yn herwydd y dengain hyn, y mae 2,000 wedi cael eu gyru allan o waith, a'r gymydogaeth wedi colli rhyw l,500p. yn wythnosol. Heblaw y I gweithwyr hyn, trwy fod 3,000 o dynelli o lo yn cael ei ddefnyddio yn wythnosol yn y gweithiau, y mae rhvw dri chant o lowyr hsfyd yn gorfod dyoddef. Ofnid y buasai y dynion sydd wedi eu cloi allan yn ymosod ar y rhai oedd ar strike, end ni chymerodd nemawr o ddim annymunol le. Nid yw yn debyg y bydd y gweithiau yn gauedig yn hir, ond y cymerir tawddwyr eraill i mewn. Y mae cryn dlodi yn y gymydogaeth o'r herwydd, a soup kitcnens wedi cael eu hagor yno. Yr ydym yn cael fod annealltwriaeth wedi cymeryd He rhwng gweithwyr gweithfa wlan Caedraw, Merthyr, â'u meistr, o barthed cyflog, a'u bod, gydag eithriad o un neu ddau, wedi strikio.
CYFARFOD MISOL DOSBARTH ABERDAR…
CYFARFOD MISOL DOSBARTH ABERDAR A MERTHYR. .Cynaliwyd y cyfarfod uchod dydd Llun diweddaf, yn y Bute Arms, Aberdar. Y peth cyntaf a wnawd oedd galw rhestr y gwahanol lofeydd, a siaradwyd ar y priod- oldeb neu yr anmhriodoldeb o gael pwyligor i gyfansoddi rheolau neillduol i lywodraethu ein glofeydd, a chafwyd ar ddeall fod yr oil o'r dosbarth yr gefnogol i gael cynrychiol- ydd o bob glofa trwy Ddeheudir Cymru a Mynwy, i gyfarfod yn Nghaerdydd, i ddad- leu y cwestiwn yno. Yna pasiwyd y penderfyniadau canlynol: 1. Fod pleidlais o anghymeradwyaeth yn cael ei phasio ar swyddogion y DARIAN, am nad ydynt yn caniatau i adroddiad ein cyfar- fodydd i ymddangos fel yr anfonir hwynt i fewn gan ein hysgrifenydd. n [Ai tybed ei bod yn anrhydeddus yn y cyf- arfod hwn i basio penderfyniad o anghym- eradwyaeth ar berson neu bersonau heb i neb gael dweyd gair ond y cyhuddwyr ? Yr ydym yn cofio cyhuddiad o'r fath gan swyddog anSaeledig arall, unwaith neu ddwy, ac fe gofia yntau am y canlyniadau yn dda Y mae yn wir ein bod unwaith neu ddwy wedi gorfod codi hanes y cyf- arfodydd o'r newyddiaduron Seisnig, trwy fod hanes yr Ysg. yn dyfod i mewn yn rhy ddiweddar, ond nid ein bai ni ydoedd hyny, nis gallwn aros i ddysgwyl hanes cyfarfod hyd haner dydd dydd Mawrth, tra y gallwn ei gael am bump o'r gloch yn y boreu yn newyddiaduron Caerdydd. Yr ydym yn dwevd fod yr hanesion a ym- ddangosant yn y DARIAN naill ai yn hanes cyflawn yr ysgrifenydd, neu ynte yn hanes cyflawn papyr Seisnig, a hwnw wedi ei roddi gan yr ysgrifenydd neu y goruch- wyliwr. Cywilyddied cynrychiolwyr cyf- arfodydd a feiddiant basio penderfyniadau wedi eu seilio ar gyhuddiadau celwyddog, heb roddi eyfle i'r cyhuddedig ateb drosto ei hun. Ie, meddwn, cywilyddied y rhai sydd yn gwybod beth ydyw cywilydd; canys gwyddom am rai yn mynychu y cyfarfodydd hyn na wyddant ddim am y fath beth, a hyny o herwydd rheswm da. Y mae i'r ysgrifenydd neu y goruchwyl- iwr dysgedig roesaw i atob y nodyn hwn, a cha ymddangos air yn ngair; carem newid llith neu ddau a'r naill neu y Hall o honynt ar y pwnc hwn, neu unrhyw bwne arall y cyhuddir ni byth a hefyd yn eu cylcb. Dyna i chwi siawns, os oes geaych rywbeth a sail iddo, neu ynte heb sail, a rhoddwn ein gair ar g'oedd na cheisiwn gabldraeth ar yr un o honoch. A fydd i chwi roddi yr un rhyddid i ni ?—GOL.] 2. Nad yw y cyfarfod hwn yn cydym- ffurfio a'r cynllun o gadw y glofeydd yn segur am un diwrnod na dau yr wythnos, nac hefyd am un wythnos neu ddwy, gyda yr amcan o godi ein cyflogau, gan ein bod yn credu nad yw y fath egwyddor yn un Z3 iachus, ac o ganlyniad, yn rhwym o niweid- io yn y pendraw. 3. Fod y cyfarfod hwn yn eymeradwyo y syniad o osod wyth awr yn safon uchelfan i bob glowr i weithio dan y ddaear, pan yn gweithio y twrn sengI, a saith awr pan jTt gweithio y twrn dwbl. 4. Fod y materion sydd yn gynwysedig yn y ddau benderfyniad uchod i'w gosod o flaen glowyr y dosbarth, er iddynt roddi eu barn arnynt mewn cyfarfod dyfodol. 5. Nad ydym yn cymeradwyo i neb fyned o'r dosbarth hwn i'r cyfarfod a gynelir yn y Globe Inn, Merthyr, dydd LInn nesaf, yn nglyn â materion y Sliding Scale, ond ein bod yn awdurdodi ein hysgrifenydd i ddan- fon llythyr i'r cyfryw gyfarfod er ei hys- bysu ein bod yn ceisio ganddynt alw cynad- ledd o un o bob glofa trwy Ddeheudir Cymru a Mynwy, mewn rhyw le cyfleus, er mwyn ymdrin a phedwar mater, sef (a) Federation, neu Undeb Cyffredinol. (b) Cwestiwn yr wyth awr. (c) Cwtogiad cynyrch ilafur. (d) Y cyfnewidiadau a wnawd gan Dy yr Arglwyddi ar Fesur newydd Rheoleiddiad Mwngloddiau; ac umhyw gwestiwn priodel a ddewiso cyfarfod Merthyr, a'n bod yn dy- muno ar fod y gynadledd hono i barhau am ddau ddiwrnod os bydd angen. 6. Fod y cyfarfod hwn yn dymano datgan ei anghymeradwyaeth i Dy yr Arglwyddi am eu hymddygiad yn y cyfnewidiadau a wnaethant yn Neddf Rheoleiddiad Mwn- gloddiau, gyda'r eithriad o'r hyn a wnaeth- ant yn ngiyn a'r Lamps, gan ein bod yn ys- tyried ei fod yn eithaf priodol i adael y cyf- ryw fel ag y maent hyd nes y caffo yr Elec- tric Lamp ei pherffeithio. 7. Fod y cyfarfod nesaf i'w gynal yn y Glandover Inn, Gadlys, Aberdar.
AT LOWYR Y GLO CAREG.
AT LOWYR Y GLO CAREG. Gyfeillion,-Bydded hysbys genych y cynelir ein cwrdd misol dydd Sadwrn nesaf, Hydref 22, yn y Lamb Inn, Cwmtwrch, i ddechreu am ddeg o'r gloch y boreu. Dys- gwylir y bydd yr holl ddosbarth yno yn gryno, ac wedi meddwl am y dyn cymhwys- af i fod yn assistant i Mr. Abraham yn Nos- barth y Glo Careg. Hefyd, y mae cyfarfod gwir bwysig i'w gynal yn Merthyr, dydd Llun, Hydref 24, mewn cysylltiad a'r Sliding Scale, a buddiol fyddai i bob glofa yn y Dosbarth i feddwl am y materion sydd i fod o flaen y cyfarfod ucbod erbyn ein cyfarfcd dydd Sadwrn. E. REES, Ysg. Yr ydym yn deall fod Mr. J. Meredith, Gwauncaegwrwen, wedi agor drift glo yn y lie, yr hwn yn awr sydd mewn sefyllfa gweithio da.
DYFARNIAD SCALE FERNDALE.
DYFARNIAD SCALE FERNDALE. Cafwyd dyfarniad y cyfrif-olygwyr ar bris glo glofeydd Ferndale am y tri mis yn di- weddu Medi, dydd Llun diweddaf, ac yn ol y dyfarniad bydd cyflogau glowyr y gweith- iau hyn yn sefyll yr un am y tri mis presen- ol. Y mae y dyfarniad yn efteithio rhyw 3000 o weithwyr.
HUNANLADDIAD MEWN EGLW YS.
HUNANLADDIAD MEWN EGLW YS. Darfu i Thomas Cbattell, 44 oed, cloch- ydd, yn byw yn Catworth, yn agos i Kim- bolton, gyflawni hunanladdiad o dan am- gylchiadau tra neillduol boreu dydd Sadwrn diweddaf. Yr oedd wedi bod mewn cyfar- fod Odyddol yn y Black Swan, -prydnawn dydd Gwener, ac ymddengys iddo fyned oddiyno i'r Eglwys. Trwy na ddychwelodd efe adref, dechreuodd ei wraig wneud ym- holiadau yn ei gylch, a chafwyd ef yn ei le arferol yn yr eglwys, a'i wddf wedi ei dori l o'r naill glust i'r llall.