Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
21 erthygl ar y dudalen hon
BARN YR HBNADUR D. MORGAK.
BARN YR HBNADUR D. MORGAK. Mewn ymddyddan a gohebydd newydd- iadurol, dywedai Mr Morgan fod yn ddrwg ganddo fod y dynion heb gymeryd y cyng- hor a'r awgrymiadau gynygid iddynt gan arweinwyr y glowyr, sef i barhau i weithio hyd y 9fed cyfisol. "Fel y gwyddoch," ebe efe, darfu i mi gondemnio ymddyg- iad yr haliers yn 1893, ond nid wyf yn creciu eu butt yn U.La a OaoUIr *.r- nynt yn bresenol. Cododd y syniad cyf- eiliornus drwy annghydfod yr haliers yn Nixon, a gallaf eich sicrhau fod eu hawliau hwy (yr haliers) yn rhai cyfiawn. Tadogaf yr ataltad yn Merthyr, yrt enwedig yn y Plymouth, i'r ffaith na ddarfu i r Ballot Papers ddod I law yn brydlon. Pan ddaeth gwyr y nos yn mlaen, gan fethu cael papyrau, credasant mai tric ydoedd, a gwrthodasant fyned i lawr, a'r noson hono aeth y newydd fel tan drwy yr ardal, gan ddwyn gwyr Cyfarthfa a Dowlais allan.' Mewn ymddyddan pellach, dywedai Mr Morgan fod y glowyr wedi bod yri eithaf iawn i wrthod plenary powers oblegyd dan yr amgylchiadau presenol, nis galla sent wneud dim yn well er sicrhau hawliau llafur. 0 berthynas i'r ymddyddan fu rhwng go- hebydd arall a Mr P. D. Rees, Aberaman, dywedodd Mr Morgan fod yr olaf yn eu cy- huddo hwy fel cynrychiolwyr o fod yn enill mwy o. arian wrth bresenoli eu hunain yn nghyfarfodydd y Sliding Scale nag y mae y gweithwyr yn enill drwy'r flwyddyn, nid oedd efe (Mr Morgan) yn derbyn ceiniog o Drysorfa Aberdar a Merthyr, pan yn pre- senoli yn nghyfarfodydd y Scale. Gwir iddo ef gael 15s y dydd am fyned i Lundain yn fynych y flwyddyn ddiweddaf, ond dylai Mr Rees gofio fod gwahaniaeth mawr rbwng«§§sw-y» Llundain*«c Aberdar. ac ar ol cyfarfod a phob treuliau, nid cedd gan- ddynt ond 5s i'w dwyn adref.
Advertising
WILLIAMS! Castle Street, Swansea Largest Stock in Wales. 13CT C* OLD WEDDING RINGS I 'J 18CT, GCLD KEEPERS A.4400 1JAU" BRAZILIAN CRYSTAL gPEOTAOLES
Advertising
WILLIAMS WAWNMAKER AND JEWELLER 99, CasHe Street. Swansea N Gymry hoft I de'wch at y Cymro Os am heirdd fodrwyau aur;l Oriadnron ao awrleisiau, Gemau a chadwynau olaer; Owrea fasm-ydd, cwmpawd zaor. Gteir gan Williante, Heol y-Castall, Trowoh i mewn i wel'd ei stor.
... YB WYTHNOS.
YB WYTHNOS. Dydd Sadwrn, cymerodd angladd y diweddar Arglwydd Cawdor le yn mynwent eglwys Stackpole Court, Sir Benfro. Y mae y Parch H Elfed Lewis, Llanelli, wedi derbyn galwad oddiwrth eglwys yn Llundain. Ar y 10fed o Ebrill, bydd parti o anturiaethwyr yn myned am naw mis o daith i chwilio am Herr Andree. Dydd Gwener, claddwyd gweddillion Mrs Parnell yn yr un bedd a'i diweddar fab, Charles Stuart Parnell. yn mynwent Glasnevin, Dublin. Y mae glowyr Lletty Shenkin wedi penderfynu dod allan ar streic os na) chant godiad o 20 y cant yn eu cyflcgau. Hysbysir fod mwy o ddi.rwestwyr. yn I perthyn i'r enwad Methodistaidd, al-4 gyfartaledd, nag i un enwad arall yn Nghymru. Y mae Arglwydd Emlyn wedi derbyn ergydion trymion yn ddiweddar. Y dydd o'r blaen, cafodd ef a'i fab eu gorchfygu mewn etholiadau seneddol, ac yn awr, hysbysir am farwolaeth a chladdegiaetn ei dad, Arglwydd Cawdor. Ceisiwyd gwneud ffwl Ebriti' o weinidog yn Nghasnewydd, dydd Gwener. Cyhoedd- wyd mewn newyddiadur ei fod i I bregethu am I I a 6.30. Dewch yn lluoedd Wrth gwrs ni fu un gwasanaeth. Dydd Gwener, cludwyd gweddillion marwol y Parch J Jones, Zoar, Maesteg, i'w claddu yn mynwent Capel y Wig, Llangranog, Ceredigion. Yn etholiad East Berks, dydd Mercher, dychwelwyd Ceidwadwr i'r Senedd. Y mae y ddedfryd o farwolaeth a basiwyd ar y llofrudd tybiedig, Hulstrom, yn Mrawdlys Ceardydd, wedi ei dirymu drwy bleser y Frenines. Collodd Annibynia un o'i chewri mwyaf yn ystod yr wythnos, yn marwolaeth y Parch T Davies, D.D., gynt o Siloah, Llanelli. Yr oedd yn 74 mlwydd oed, ac wedi ymneillduo oddiwrth y weinidogaeth er's peth amser. Ymddengys fod Mabon a'r Henadur David Morgan yn condemnio ymddygiad y gweithwyr yn dod allan cyn fod yr ym- gynghoriad olaf gyda'r meistri yn nghylch yr annealldwriaeth yn cymeryd lie. Y mae mwyafrif y glofeydd yn segur. Nos Wener, torodd tan allan yn siop Mr D W Price, dilledydd, 49 a 50, Commercial Street. Casnewydd, a gwnawd difrod mawr cyn y llwyddwyd i'w osod allan. Da genym ddeall y bwriedir ail-gychwyn gwaith alcan y Dafen yn fuan, o dan gwmni newydd. Dydd Mawrth, yn Abercynon, cynaliwyd I trengholiad ar gorff Daniel Richards, chwarelwr 40 oed, yr hwn a gyflawnodd hunanladdiad drwy ymgrogi. Dychwelwyd y ddedfryd, Gwallgofrwydd tymhorol. Yn nghlafdy Abertawe, dydd Mawrth, bu farw y berdonydd ieuanc John Green- wood, Trealaw, mewn canlyniad i niweidiau a dderbyniodd ar reilffordd y Swansea Bay. Cymerodd brwydrau ychwanegol le yn y Soudan yn ystod yr wythnos, pryd y lladd- wyd rhyw 150 o'r brodorion. Y mae y ddau ddyn a geisiasant saethu ilrenin Groeg i farwolaeth, ychydig amser ^yn ol, wedi eu dedfrydu i farwolaeth. Hysbysir fod y Parch W Evans, diwedd- ar o Gaerdydd, wedi myned drosodd i Eglwys Rufain. Yn eglwys Gymreig Charing Ofross, Llundain, dydd Sul, Mawrth 27ain, bu y Parch John Hughes, Carneddau, farw yn sydyn iawn. Dydd Iau, claddwyd gweddillion Mr Thomos Davies, pregethwr cynorthwyol yn Salem Newydd, Pontyberem, yn 67 mlwydd oed. Bu farw cefnder i'renwog Mrs Maybrick, yr hon 'sydd yn awr yn y carchar, yn New Zealand, y dydd o'r blaen, gan adael ffortiwn, o ^"4,4000 iddi. Boreu dydd Sadwrn, yn Pentrebach, Abercanaid, bu yr hen weithiwr adnabydd- us, Mr Richard Evans, farw yn y breswyl- fod, ar ol cyrhaedd yr oedran teg 72 o flwyddi.
. Gweithfaol a Masnachcl.
Gweithfaol a Masnachcl. SEFYLLFA Y FASNACH LO. Caerdydd, Mawrth 28ain, 1889- Ychydig iawn o fusrJes a wnawd yn ystod y dyddiau diweddaf. Dywedir fod cymaint a 22/6 wedi ei dalu am y math goreu o lo ager-llawer iawn o hono wedi ei werthu am 20/ ail math, 17/6 i lg/- glo sych, 15/- i 16/ a 10/6 wedi cael ei ofyn am lo mfin. Gofynir am 14/6 am y math goreu o lo man ager.
CYNADLEDD 0 LOWYR.I
CYNADLEDD 0 LOWYR. I Dymunir hysbysu y cynelir cynadledd o gynrychiolwyr holl lofeydd, yn cyfranu neu j beidio tuag at y Scale, yn St John's Hall, I Caerdydd, dydd Iau nesaf, am 10.30 o'r! gloch, er derbyn adroddiad o gyfarfod dydd Llun, ac ystyried y sefyllfa bresenol yn herwydd prinder yr amser. Nis gellir I danfon cylchlythyrau, ac felly y mae y gynadledd yn cael ei chyhoeddi trwy y wasg/ I JaArwyddwvd, W ABRAHAM, JOHN THOMAS, ^D MORGAN, EVAN THOMAS, T D ISAAC, JOHN DAVIES, | T RrcHARDs, T> MORGAN, j A ONIONS, DAV$D THOMAS, LEWIS MILES, Ysg. f
YR ARGYFWNG YN Y FASNACH LO.
YR ARGYFWNG YN Y FASNACH LO. Araeth Bwysig gan Mabon. Y FFORDD ALLAN O'R TRYBINI. Mewn cyfarfod o gynrychiolwyr Cym- deithas y Cambrian, yn Mhontypridd, dydd Sadwrn, gwnaeth Mr W Abraham, A.S., (Mabon), fynegiad pwysig ar y modd i'r gweithwyr weitnredu yn yr argyfwng difrifol presenol yn y fasnach lo. Yr oedd nifer mawr o gynrychiolwyr tua 30,000 o j lowyryno. Wedi taflu y cyfarfod yn agored, gofynodd un cynrychiolydd pwy oedd wedi rhoddi hawl i'w cynrychiolwyr i gytuno a'r meistri am estyniad o naw diwrnod ? Ni j roddodd* neb un atebiad, a chynygiwyd fod cyfarfod mawr o'r glowyr i'w gynal ar I gomin Pontypridd, dydd Llun Mabon, gan gynrychiolydd arall, ond ni chafodd hyny II drachefn ei eilio. Dywedodd cynrychiolydd o Benrhiwceibr r y buasai cyfarfod o'r glowyr yn cael ei gynal yno y noson hono, er clywed beth oedd y penderfyniad gawsai ei basio gan j Vjymaeitnas y Cambrian, ac ya uyuu*i I mwy o lofeydd yn segur nag oeddynt yn gweithio, byddai iddynt ddyfod allan ond credai efe y dylid mabwysiadu rhyw gynllun i gael gan yr oil o'r glofeydd i weithio yr wythnos hon. Nid oedd glowyr Penrhiw- ceibr yn ffafr streic. Amheuai cynrychiolydd o'r Rhondda fod ganddynt. hawl i ymdrin a'r cwestiwn hwnw. Dywedodd y Cadeirydd hyd yn nod os nad oedd ganddynt hawl, nid oedd un rheswm dros beidio ei ystyried, oblegyd yr oedd nifer o'r glofeydd oeddynt yn segur yn herwydd ymddygiad yr haliers yn aros i weled beth a wnelai y Gymdeithas. Teimlai efe yn sicr fod mwyafrif glofeydd y gymdeithas yn dewis gweithio hyd y 9fed cyfisol. Cymychiolydd o'r Maerdy a ddywedai fod y tair glofa yno yn gweithio hyd y 9fed, ond yr oedd efe am gyfarwyddyd. Dywedai cynrychiolydd o Mountain Ash fod y glofeydd yno yn segur yn herwydd hir annealldwriaeth yn nglyn a'r haliers. Hysbyswyd fod glowyr Llanbradach wedi penderfynu atal gwaith hyd nos y gwelent beth fyddai i Mr D A Thomas, A.S., roddi i'w weithwyr yn Clydach Vale. Dywedodd cynrychiolydd arall foH glowyr Tylorstown wedi penderfynu gweithio hyd y 9fed o Ebrill. Hefyd, yr oedd Merthyr Vale yr foddlon dilyn esiampl mwyafrif glofeydd Deheudir Cymry. Cynrychiolydd o'r Caerau (Maesteg) a ddywedodd fod y glowyr wedi myned at eu gwaith nos lau, ond fod yr haliers wedi gwrthod hyn nes cawsent godiad o 20 y cant, ac yr oedd yr un sefyllfa ar bethau yn nglofa'r Coegnant, perthynol i'r un cwmni. Eglurwyd fod gweithiwr Cileby yn gweithio hyd y gfed, ond fod gwyr y Pare wedi gwrthod.
MABON YN GWRTHDYSTIO.
MABON YN GWRTHDYSTIO. Ar ol clywed gwrthdystion pellach i gymeryd unrhyw ymyraeth yn y mater. Dywedodd Mabon Gyfeillion, yr ydym wedi dod i'r sefyllfa hon ar bethau, fel na feiddiwn ymdrin safle ein cymdeithas ein hunain Yr ydym yma heddyw. fel cyn- rychiolwyr Cymdeithas y Cambrian, ac oddiar pan yr ydych yma, yr ydych wedi cael allan rai ffeithiau, fel fy hun, na wyddech am danynt cyn dod yma. Yn awr, o berthynas i'r hyn sydd wedi cael ei wneud, nid wyf yn credu ei bod yn ddoeth i ni fyned yn ol, oherwydd cafodd y cwestiwn hwnw ei ddadleu allan yn y gynadledd, a gwyddoch y canlyniad. Darfu i'r gynadledd gytuno ar gynllun, gan fab- wysiadu yr hyn a feddylient oedd oreu- gweithio hyd y 9fed. Nid oedd hyny yn unfryddol, ond wrth gwrs, yr oedd yn benderfyniad mwyafrif aruthrol y glowyr yn Neheudir Cymru a Sir Pyny. Oddiar hyny, y mae glofeydd wedi cymeryd cwrs o'r eiddynt eu hunain, ac nid wyf yn ei ystyried yn ddoeth ar ran Cymdeithas fel hon i gau ei llygaid i ffeithiau a ddichon fod yn angenrheidiol i ddod i'n gwybodaeth cyn mabwysiadu ar gwrs terfynol. Nid wyf am wasgu arnoch nifer o ffeithiau ydynt yn wybyddus i mi, ac efallai na wyddoch chwi am danynt, ac ar y rhai yr I wyf wedi tynu fy marn bersonol, ond y mae yn ddrwg genyf weled tuedd yma i gau gwefusau ein gilydd. A ydych yn meddwl ¡ y gwna hyna gryfhau ein safle mewn unrhyw fodd, os bydd rhaid i ni ymladd a'r cynogwyr ? Ac nid ydym ni yma am wybod beth sydd'gan y naill a'r Hall i'w ddweyd ar yr argyfwng mwyaf difrifol a phwysig fel hwn ? Os dywedwch. Nid ydynt am eu clywed,' mi a eisteddaf i lawr. Ond edrychwch yma, gyfeillion, cyhyd ag y mae un yn oruchwyliwr i chwi-nid ydym yn awr yn siarad am Bwyllgor y Sliding I Scale, yr ydym yn awr yn ein cymdeithas ein hunain—tra yr wyf yn oruchwyliwr i chwi, ac yn cael fy ystyried yn arweinydd eich cymdeithas, credaf fod genyf hawl i roddi fy marn ar faterion neillduol a droantj yn fy meddwl (clywch, clywch). Os na, wrth gwrs, nid yw o un dyben i mi ddal y safle am eiliad yn mhellach. Bydd yn beth ffol i chwi fy ngalw yn oruchwyliwr i chwi am ddiwrnod ar ol hyn, oni fyddwch yn barod i wrandaw ar yr hyn sydd genyf i'w ddweyd. Creodd y sylwadau hyn o eiddo Mabon
DDYLANWAD DIFRIFOL.
DDYLANWAD DIFRIFOL. ar y cynrychiolwyr ymgynulledig, ac yr oedd llawer o'r rhai oeddynt wed; gwrthod cymeryd unrhyw bleidlais yn awr yn baord i ddatgan y buasent yn falch i wrandaw ar eu goruchwyliwr ar y drafoda^. n invys; dan sylw. Pasiwyd penderfyniad unfrydoi yn gofyn i Mr Abraham i siarad.
! ARAETH BWYSIO MABON.
ARAETH BWYSIO MABON. Yna cafwyd araeth fywiog, yn llawn tan ac ysbryd gan Mabon, yr hwn a roddodd eglurhad manwl ar yr ymryson presenol, o'r dechreuad i'r diwedd. Ni chaniata ein gofod, yn anffodus, i ni roddi adroddiad cyflawn o'r araeth, ond ymdrechwn roddi rhai o'r prif fanylion ger bron y darilenydd, Am rai wythnosau, meddai efe, yr oedd cynrychiolwyr —os meiddiai efe ddweyd gair am dan) nt y diwrnod hwnw— wedi gwneud ymgais fawr i geisio cael allan y ffeithiau gwirioneddol o berthynas i'r glo, a'r sefyllfa yn Neheudir Oymru. Gwyddent, yn ddiau, drostynt eu hunain, fod dau achos yn neillduol we ii cyfiawnhau yr alwad a'r prisoedd da am lo Deheudir Cymru-y cyntaf oedd y rhyfel bygythiedig yn y Dwyrain, ac yn ail, y cyflenwad by- chan o lo oedd gan y perchenogion i'w werthu ar y prisoedd ffafriol presenol. Yr oedd mwyafrif mawr y perchenogion wedi gwerthu yn mlaenllaw oddiar yr Hydref i'r svm ovehv(iipr 75 v csrt o'r holl qyn- yrch hyd yr Hydref nesaf, fel yr oedd gan- ddynt yn awr lai na 25 y cant o'r holl gyn- yrch i'w werthu ar y prisoedd uchel pre- senol. Yr oedd y rhai hyn yn
FFEITHIAU GWERTH EU GWYBOD,
FFEITHIAU GWERTH EU GWYBOD, ac yn 01 ei farn ef yr oeddynt y rhai mwyaf pwysig i'w cadw yn eu meddyliau yn awr, oblegyd gallasent gael eu camarwain fod yr oil o'r glo a :allforir yn awr yn meddu cyfran o'r prisoedd uchet presenol. Drwg oedd deall, fodd bynag, fod llawer contract wedi myned i Ogledd Lloegr oddiar pan roddwyd y rhybudd i derfynu y Scale, lie, yn ystod y mis d weddaf, yr oedd y glo wedi myned i fyny i/6 y dynell. Yr oedd tuedd yn hyn gwtogi prisoedd yn Nghymru, ond y gwaethaf o'r cwbl ydoedd ataliad gwaith, yr hwn fyddai yn rhoddi terfyn i bob gobaith am elwon pellach, os na wnelid rhywbeth ar unwaith i wella y rhwyg. Yr oedd ataliad yn bwrw pobpeth yn ei ben-prisoedd, rhagolygon, ymddir- iedaeth, a brawdgarwch, Mewn gwirion- edd, ymddangosai pobpeth angenrheidiol er Ilwyddo masnach yn diflanu allan o'u dwylaw.- Tra yr oedd contracts gyda phrisoedd uchel yn cael eu gyru ymaith gan ataliad, nid oedd yn gwneud i ffwrdd ag hen gontracts. Er nad oedd ganddo ef awdUrdod pendant dros ddweyd hyny, credai yn gryf y buasai yr ymgynghoriadau oeddynt wedi dod i derfyniad mor fyr- bwyll, naill ai gyda neu heb Scale, yn diweddu mewn codiad yn nghyfiogau y glowyr, Ni fuasai y codiad yn un mawr, ond byddai yn fwy na'r hyn a deilyngent pe bai cyfrifiad ^y Raddfa Lithrol dros y ddau fis cyntaf y flwyddyn wedi ei gario allan (eymeradwyaeth.) Dyna oedd ei farn wirioneddol, ac os na ail-ymeflid mewn gwaith yn ddioed, yr oedd pobpeth ar ben. Yr oeddynt megys mewn ystad o anniben- dod. Nid oedd ganddynt Sliding Scale, ac o ganlyniad, dim cynrychiolwyr, gan fod awdurdod cyflawn i bleidleisio wedi ei omedd iddynt drwy fwyafrif aruthrol. Ar hyn, derbyniodd Mabon bellebryn yn cynwys y ffigyrau dros ac yn erbyn rhoddi Plenary Powers, darlleniad pa rai achosodd i amryw gynrychiolwyr wenu, ac ereill i edrych yn ddifrifol. Gwelaf fod rhai o honoch yn gwenu,' ebai Mahon, ac y mae y canlyniad yn un ag yr oeddech oil yn ddiddadl yn ei ddysgwyl, ond coflwch y geill y canlyniad fod yn wir ddifrifol. Ond ni awn i'r mater hwnw yn awr. Credaf, er hyny, fod
UN FFORDD I ACHUB Y SEFYLLFA.
UN FFORDD I ACHUB Y SEFYLLFA. Efallai yr annghytunwch a mi, ond caniat- ewch i mi roi fy marn ar y mater. Hyn ydyw: Y dylai y gweithwyr, os ydynt yn ddigon doeth, ail-ymaflyd yn eu gwaith dydd Mawrth, a gweithio yr wythnos allan fel ag i roddi i ni gyfle eto i gyfarfod a'r meistri, ac i ymgynghori a hwynt heb gyflawn hawl i bleidleisiad (Plenary" Powers.) Os na fydd o un daioni, rhydd i chwi a'r miloedd amser i dynu allan gynllun cyffredinol. Heb bolicy' cyffred- inol, nid oes genych y gobaith lleiaf i ddyfod allan o'r ymdrechfa hon yn llwydd- ianus (cym.) Wrth derfynu, dywedai Mabon nad oedd o un dyben i'r glofeydd dan Gymdeithas y Cambrian ofyn am un peth, ac eiddo y Garw, Cwmogwr, a Sir Fyny yn beth arall, &c. I Os gwne!em hyny,' ebai efe, cawsem ein curo yn ddidrugaredd 1 Os ydych i ymlaJd, rhaid i chwi fabwysiadu cynllun cyffredinol
CYNBYCHIOLWYR YN RHANEDIG…
CYNBYCHIOLWYR YN RHANEDIG YN EU BARN, Yna cafwyd dadleuaeth frwd rhwng y cynrychiolwyr, ac yr oedd yn amlwg fod y cyfarfod yn rhanedig yn ei farn ar ba gwrs i'w ddilyn. Cynygiwyd gan un cynrychiol- ydd fod gweithrediadau y cyfarfod yn cael ei drosglwyddo i gyfarfod mawr dydd Llun (y ddoe,) ac er fod cryn groesdynu yn nghylch y ewrs hwnw, dywedodd Mabon a'r cadeirydd nad oedd dim yn gohnemniol ynddo. Deallwyd ar y diwedd y buasai 1 adroddiad o'r cyfarfod yn cael ei gyflwyno i gyfarfod dydd LIun.
YR HALIERS.
YR HALIERS. Yn yr ymdrindiaeth ddilynol, daeth ymddygiad yr haliers dan sylw, a thra y j dywedid gan rai cynrychiolwyr fpd yr J halier's a'r glowyr yn cyd-dynu yn yr ymdrechfa, beiai ereill yr haliers am fod yn t achos ataliad rhai o'r glofeydd, pan oedd y j glowyr wedi cytuno i weithio hyd y 9fed cyfisol, Ni ddylai y glowyr, meddent hwy, wneud gwaith yr haliers. Yn Mountain j Ash, er enghraifft, y mae achos yr haliers wedi para fisoedd heb ddealltwriaeth pen- dant. a maentymiai rhai cynrychiolwyr na ddylid beio yr haliers fel cyfangorff.
A PYDD CLOAD AlaLAN J
A PYDD CLOAD AlaLAN J Deallwn, o gyfeiriad tra awdurdodol, na fydd cload allan mor bell ag y mae a fyno Cymdeithas Glo-Berchenogion Delieudir Cymru a Sir Fyn#y, oherwydd y mae Syr William Thomas Lewis wedi gyru cyfar- wyddiadau i'r holl berchenogion i adael i'r gweithwyr i ail-ymafiyd yn eu gwaith dydd^ Mawrth, os dewisant. Er fod llawer o'r meistri yn wrthwynebol i hyn, dyna yw gwir fcefyllfa pethau yn bresenol. Dywed- ai y meistri hyny fod y gweithwyr yn gwneud fel y mynont a hwynt, ac felly, dyna oedd y raeswm bgfi(.am eu hatal yn gyfangwbl.
".. '** CLYDACH VALE.
CLYDACH VALE. Dydd Llun diweddaf, cynaliwyd cyfarfod brwdfrydig iawn o weithwyr Clydach Vale er derbyn adroddiad y ddirprwyaeth a fu yn talu ymweliad a'r cyfarwyddwyr, yn Noddfa, Clydach Vale. Yn herwydd afiechyd, methodd Mr John Williams, atal- bwyswr, fod yn bresenol. Rhoddwyd yr adroddiad gan Mr John Benjamin a Mr John Jones. Yr hyn a gafwyd gan y cyfarwyddwyr oedd, eu bod hwy yn barod i roddi unrkyw godiad a fernid yn cae! ei wneud gan gyflogwyr Undeb y Meistri. Cynhyrfwyd y cyfarfod yn fawr gan yr hysbysiad hwn. Dywedwyd yn mhellach y byddai i'r cyfarwyddwyr dderbyn rhy- buddion ar yr lleg o Ebrill.
Y STREIC.
Y STREIC. Trw ta hwn yw testyn pawb ar hyn o bryd, o ni wedi meddwl paso hibo iddo a swagro ticyn ar rhw destyn mwy difyrus, ond fe ffaelas yn lan, wath ta beth fyswn i yn feddwl am dano, odd y llythrena S T R E I C mwn print mawr yn bloco pob testyn arall, ac yn shedo pobpeth arall o mlan i. Yr hen flleines ysgeler, naiff hi ddim lies i neb os galliff hi. Ma hi yn rhy debyg idd i thad brwmstanaidd y diafol, i fod o un benefit i neb. I steil e, a hitha bob amsar y ca nhw shawns, yn ala pob rhwyg yn wath. a sprago pob mwfmaut y galla nhw, ddaw yn acos iddynt, a ma Cymru wedi gorffod teimlo dan oruchwyl- iaeth y tad a'r ferch i radda gormodol. a I threni budir fod isha rhoi galwad i'r ellylles yn y cyfwng hwn, wath naiff hi ddim ond towli'r bel i'r ochor gryfa fel ma hi yn arfadd gneid bob tro w i yn cofio. Pwy shawns sy gyta gwithwrs i sefyll tyg o war pryd ma nhw wedi cal u hanar starfo, yn erbyn y mishdri sy mwn cas catw piwr bob amsar, ac yn gallu prynu Extract of Malt, Bovril, Carter's Little. Liver Pills, Macon- ochie's Dainty Foods, Vigour's Home Pow- der, a mil a mwy o infigoretif substansis na wyr gwithwr ddim o'u henwa, heb son I am u iwso nhw ? Peth arall anfanteishol ar ochor y gwith- wr yw, nag os gyta nhw ddim shawns i gatw'n secrets u hunen, wath ma nhw yn gorffod ecspleino idd u gilydd ffordd ma pethach yn sefyll, a dyna yr hen nonsans I' pena allwch chi feddwl am dano yn nghyrdda'r gwithwrs, yw stopo reporters i ddod miwn i'r cyrdda, er mwyn catw u bysnas yn secret, medda nhw. Fe all y mishdri catw secrets, wath di nhw ddim end rhw gwpwl mwn cymariaeth. Ond ai chi yn juynd i ddoti peuiwna miloedd o withwrs mwn enfelop yn mocad y sgdfen- ydd ? Dim byth. W i wedi clywad cyn hyn am gwrdda bach gen I gomittee r i gwaith mwn rwma a'r drysa wfdi'u cloi, yn trio setlo rhw dicyn o fysnf s yn perthyn i un pwll, a phob un yn cymryd arno fod yn driw bliw, ond cyn fod yr awdurdodau yn mynd i'r gwely y noswath hono, o nhw yn gwpod cymant ag odd wedi paso yn y [' cwrdd, er fod pob un odd yno wedi cal u sharso i bido acor i ben wth neb. Dw i ddim yn gneid hyn er mwyn ishelhau neb o'r gwithwrs, ond dyna fel ma pethach yn bod, a fe wn fod dicon o goliars yn barod i weid yr un peth a fi, fel ma'r gwitha'r modd. Onid yw acshwns felna yn handy- capo'r pwr dabs sy yn trio gwneid lies. Pwy sens meddwl gall ajents y gwithwrs fyslo tafota miloedd ? Rhaid i bob gwendid gal i ddangos o flan y cyhdedd cyn bydda nhw u hunen yn gwpod ffordd ma pethach yn sefyll. Cymant o gintacll sy wedi bod ac yn bod nag os dim undeb rhyngti nhw a'u gilydd, a nag os dim gobaith am lwyddo heb gombeineshon. Wth gwrs ma gwith- wrs clawd felly yn gorffod towli yr arfau o'u dwylo, ac yn ymladd o'u dyrna moelion. Son am fat! deg, ma hyny yn anmhosibl yn y sefyllfa bresenol, a fe ddyla swyddog- on y llywodrath ddoti stop ar rhw fas- cwereds unochrog fel hyn, a gneid i'r ddwy ochor wishgo menyg yr un bwysa. Falla mod i wedi gweid gormod ar y pwnc dflaa hyn y» msrr trw ta Bachan Ifanc w i, wetin fe adawa i ar i ddynon mwn oetran, sy'n gwpod ffordd idd e drafod a yn fwy sciantifllc na fi, ond w i yn gobeitho caiff pobpeth u scwaro yn deidy mwn amsar byr, ac y bydd pob ochor yn well partnars na buo nhw ariod, wath ma nhw yn per- thyn yn acos idd u gilydd, a gwaith ènn. ,< jerus yw gweid dim byd rhyngti nhw. Os w i wedi slipo i weid gormod-beg pardo, t.
CYPARFOD DOSBARTH CASTELLNBDD.
CYPARFOD DOSBARTH CASTELLNBDD. Dydd Sadwrfi diweddaf, cynaliwyd cyf arfied neillduol o gynrychiolwyr glofeydd Dosbarth y Gorllewin yn Nghlwb Gweith- wyr Abertawe Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr Jones, Resolfen. Amcan y cyfarfod oedd cyfrif y pleidleisiad am y swydd o ol- ynydd i'r diweddar Henadur Isaac Evans. Yr oedd 13 o ymgeiswyr. a'r un llwyddianus oedd Mr John Williams, Ynysybwl, yr hwn a dderbyniodd 1107 o bleidleisiau allan o 1600. Ni ddychwelwyd rhai o'r papurau pleidleisio o'r glofeydd. Deallwn y bydd Mr Williams, yr hwn fydd yn anrhydedd i'r dosbarth, yn sefydlu yn mhlith ei bobl fel eu Goruchwyliwr yn fuan. Mewn cyfarfod o lowyr yn Abertileri gwrthdystiodd Mr Brace yn erbyn ym- ddygiad y gweithwyr yn atal gweithio nos Iau yn Rose Hey worth, Araul Griffin, a Vivian, ar ol pasio penderfyniad I, i weithio hyd y 9fed o Ebrill. Prydnawn dydd Sadwrn diweddaf, cynal- iwyd cyfarfod o weithwyr Rhymni yn y Victoria Hall. Llywyddwyd y cyfarfod II gan y Cyngorwr B. Jones. Cafwyd anerch. iad gan Mr Evan Thomas, goruchwyliwr y glowyr. Pasiwyd pleidlais unfrydol o ym- I ddiriedaeth yn Mr Thomas, ac i ddilyn yn I mlaen a gweithio hyd y nawfed. Yn y Temperance Hall, Tredegar, cynal- iwyd cyfarfod lluosog dan lywyddiaeth yr Henadur H. Bowen. Cymeradwyai Mr Bowen y gweithwyr i uno a'r gymdeithas lafurawl leol. Cynygiodd y Cyngorwr D. Agger, ac eiliwyd gan Mr Charles Lewis, j — Fod y cynrychiolwyr ar Bwyllgor Ý i Raddfa Lithrol i alw cyfarfod yn ddioedi ef^jrstyried y dyfodol. Cynygiodd Mr D. i Turner,—" Fod y cyfarfod hwn yn cymer- adwyo diswyddiad y cynrychiolwyr pres- enol ar y Raddfa Lithrol, a bod cynadledd i'w gynal yn fuan i ethol rhai yn eu lie er gwneud cytundeb a'r cyflogwyr." WTedi gosod y gwelliant o flaen y cyfarfod, caf- wyd fod y mwyafrif yn ei ffafr. Y mae y rhan fwyaf o lofeydd yr East- ern Valleys allan oddiar nos (au.
ILYTHYRA' NEWYDD.
ILYTHYRA' NEWYDD. Go Fachan Ifanc. MISHDIR T DAMAIV, -Dyna hen fyd smata yw hwn, a pheth od ych bod chi a fina, a rhw gwpwl erin, mor drachwantus u n gal bod yn fembars yndo. Dos neb o ni bron yn folon speciwleto i groeshi Atlantic anga i'r ochor draw, er fod gyta ni ddicon o achos i neid hyny lawar pryd. Ma pob- tpath yn yr hen fyd hyn mor wamal a chilogy gwynt, fel nag yw neb yn gwpod yn pwy drain ma fa o un funad i'r nail, nac ar bwy lein ma fa yn trafaclu, wath ma cymant o seidins gyta ni i fyned drosti nhw. I ni yn fynych yn tynu programs piwr i shiwto ni'n hunen, debyca ni, ond witha iawn i ni yn gallu mynd trwddi nhw, fel ma fa yn syndod yn bod ni yn boddrach yn pena o bothti fory o gwbwL W i wedi clywad hen bregethwrs yn gwefd ta dim ond sbotyn bach, bach, ma nhw yn galw nawr' arno sy'n perthyn i ni oltwgeddar, ond yn flash wn ni fynycha yw speco ar stad fawr ddidal ac ansicr a 1 fydd,' er nag yw hono ddim yn perthyn i ni, a os gyta ni ddim cyd a mys i o bapyr cyfreithiwr i brofi fod gyta ni ddim hawl mwn modfedd o honi, ac i ni yn cai any amount o brwffs bob dydd ta tall talk yw son am deni. Ma gormod o impiwdens yn perthyn i ni o'r hanar, a fe ellir meddwl wth yn clywad ni yn wilia arhball waith ta ni bia'r iwnifers, a'n bod ni yn mynd i neid rhyfeddoda mawr iawn fory,' a 4 rhyfeddoda mwy rhyfedd wed'yn' ys gwetws Ceiriog y slawar dydd, ond i ni yn dwp yn erbyn y wal heb yn wpod i ni, fel defed yn y bendro. Shwd fistecs arswydus i ni yn neid o hyd wth cownib mlan. Pan odd y gaiia yn tyrnasu arno ni ys ticyn nol, o fel o yn arfadd yn cwnu'n calona wth feddwl bysa'r gwanwyn yn cymryd i le fa cyn pen fawr o amsar, a'i lond o bethach cwmffwrddus, a mae'r tywydd yn gwella gan bwyll, ond ma cymyla duon tywyll, a storm fawr wedi starto i'n wthu ni yn Neheudir Cv:aru a Shir Fynwa nes yn bod yn dech1 u mynd dwmbal dambal am draws yn gilydd yn wath nag mwn un storm geso'n ni trw'r gaua, a os neb yn gwpod pw bryd cwpliff y confflagareshwn sy/ yn awyr bygddu y Fasnach Lo y dyddia hyn. Odd gen i ddicon o destyna i sgrifenu ami nhw yr wthnos ddwetha fel gwddoch chi, ond ma'r rheiny i gyd wedi myned yn ddigownt, ac un-interestio erbyn heddy, a phawb a phob- path yn y cyl^i glofaol Cymreig yn pwynto at y testyn Inawr, hagar, difeddith, ys- gyrnygus, newynllyd, ysgerbwdaidd, sydd, yn dod ar i dro yn fynych yn Nghymru, yw,
. ABERDAR.
ABERDAR. BWRDD YSGOL. Dydd Gwener diweddaf, cynaliwyd cyfarfod neillduol o'r bwrdd hwn. Yr oedd yn bresenol Mr D. P. Davies, Y.H.; W. J. Heppel, Parchn. W. James, James Griffiths, R. J. Jones, John Mills, D. Thomas, D. M. Davies, C. A. H. Green, a H. k. Johnson Mri J. W. Evans, B. Lewis, a W. Charles. Etholwyd i'r gadair, er cychwyn y cyfar- fod, Mr W. Charles. Cynygiwyd ac eil- I iwyd fod Mr D. P. Davies, Y.H., Ynyslwyd, i fod vn llvwvdd v bwrdd hW!} ?.m y tai. blynedd nesaf, yr hyn a basiwyd gyda chymeradwyaeth. Diolchodd Mr Davies am yr anrhydedd a osodwyd arno, a dy- munai iddynt fel bwrdd bob Uwydd i gario gwaith yr ysgolion yn mlaen yn effeithiol. Cynygiwyd ac eiliwyd fod Mr W. J. Heppel i fod yn is-gadeirydd, yr hwn a basiwyd eto yn unfrydol. Diolchodd Mr Heppel. Yn nesaf awd yn mlaen i ethol y pwyllgorau. Penderfynwyd fod y Pwyllgor Llywodr- aethol i fod yn gyfansoddedig o'r holl fwrdd. Penderfynwyd gwrthod cais o Abercwm- boi am gynal cyngherdd am fod tal i fyned i mewn. Caniatawyd rhoddi benthyg Ysgol Aman i Eglwys Seisnig Annibynwyr Aberaman. Hysbysodd y Parch. D. M. Daties y byddai yn cynyg yn y cyfarfod nesaf, fod pwyllgor yn cael ei benodi i edrych i mewn I sefyllfa addysg dan y bwrdd hwn, a rhai cylchynol. ETHouADAu.—Dydd Llun, cymerodd yr etholiadau canlynol le. Ar yr un noson, gwnawd cyfrifiad o'r pleidleisiau gan Col. T. Phillips, cyfreithiwr, Aberdar,- Bwrdd y Gwarcheidwaid-Adrun 1. Parch. W. S. Davies 666 Mr'R. H. Rhys 600 „ Mr T. Harris 476 „ Mr Edmund Howell357 Ãdran 3. Mr Rees Evans 797 „ David Hughes ••• 782 Parch J. O'Reilly 737 Mr J. E. Mills 384 Adran 1. Mr W. Thomas 523 „ W. T. Morgan 348 Parch J. D. Rees 323 Cvnghor Dosbarthol-Adran 4. Mr Morgan John 747 „ G. Treharne 309 Nos Fawrth diweddaf, bu farw John Morgan, Stuart Street, Aberdar, brawd y diweddar Llewelyn Morgan, marwolaeth yr hwn a groniclwyd yn y DARIAN yr wythnos ddiweddaf. Y dydd Sadwrn caulynol, daearwyd yr hyn oedd farwol o hono yn Nghladdfa Gyhoeddus Aberdar, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch Jenkin Thomas, Monk street, a'r Parch R. J., Jones, Hen-dy-cwrdd. ETHOLIAD CYNGOR SIROL MORGANWG. Dydd Llun diweddaf, talodd dirprwvrwr Mr Llewelyn Thomas, ymweliad ag Aber- dar, er derbyn enwau ymgeiswyr am y sedd sydd wedi eu gwaghau trwy ddyrchafiad Mr W. J. Evans, Cyfreithiwr, Aberdar, yn Henadur. Derbyniwyd papyrau yn cynyg Mr D. P. Davies, Ynyslwyd, a Mr Thomas. Thomas, Graig House.
Advertising
EISTEDDFOD MOUNTAIN ASH. Derbyniwyd y rhestr ganlynol o ymgeiswyr o'r eoedd canlynol Y Prif Ddarn Corawl—Aberaman, Abercwmboi, Merthyr, Newport, Blaenafon, Ebbw Vale. Ail Ddarn-Treboeth. Abercynon, Dewlais. Corau Meibion-Dewlais, Aberdar, CVmbach, a Trefforest. Parti Benywaidd-Treherbert. Mountain Ash, Caerdydd, Rhymni. Seindyrf Pres-Dosbarth Cyntaf Arael Griffin, AbertiJery Tilliery Cclliery, Crown Tube Works, Wednosbury Blaina Lancaster, Blaina; Aber- aman Silver, Aberdarc Volunteer, Ferndalr, Ys- talyfera, Fochriw, a Llansamlet. Ail Ddosbarth Aberaman Silver, The Cory's Temperance, The Plymouth Workmen's, Gwaunca«gurwen,Vochriw, Cwmaman, Llansamlet, Penrhiwceiber, Dowlais Volunteer. Drum a Fife—Glyncorwg Ystrad Road, Swan- ceu; Vol. Batt. Loy"! North Lane, Preston New Tredegar, Skewen, Brynamman, Third Glammor- gan, Rechabites, Mt. Ash; St Mary's Catholic, Mt Ash. Corau Plaut-Treboeth, Gobaith y Rhos, Beth- ania, Penydarren, aVochriw. 1 Y mae tua 15 o Ambulance Squads wedi anfon, YN Y MOR Fe gafwyd o hyd i Feddyglyn ag sydd ya dra effdithiol at glefydau y Gwddf, y Frest a'r Ysgyfaint, yr hwn mewn undeb a'r Extracts o lysiau nodedig a#«tenin6r y Pacific, a wna i fyny y feddyginisfcxtf mwvat lwyddianus a wel- odd y byd erioed. Y mae yn awr yn cael ei wneud i fyny mewn potelau ac yn cael ei alw wrth yr enw Mynweh gael yr enw yn llawn ar'bob potel, ac na pherswadier chwi i gymeryd dim arall. Osbydd trafforth i'w gael dan. foner Stamps am 3/- neu l/3at JACOB HUGHES Manufacturing Chemist, C, Penarth, Cardiff.