Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
HWNT AC YMA.I
HWNT AC YMA. I GAN Y BACHAN DIARTH. Ar ol bod yn dilyn mewn rhyw un cyf- eiriad am dipyn, y mae yn lied anhawdd i ymadael o'r cyfeiriad hwnw i gyfeiriad arall. Felly yr wyf yn teimlo wrth geisio ysgrifenu y tro hwn. Mae Sir Aberteifi, fel yr ydych wedi sylwi, wedi cael lie lied amlwg genyf yn ystod y chwech wythnos sydd wedi myn'd heibio, fei yr wyf yn teimlo yn anhawdd i ddechreu ar rywbeth arall yn awr. Nid wyf wedi blino, er hyny, ar yr hen sir, ac mae genyf ddigon o stoc yn fy meddwl i fyn'd yn miaen am wythnos- au eto pe buaswn yn dewis; end rhag ofn fod y darllenwyr yn blino, meddyliais ei bod yn well newid yr ymadrodd ar hyn o bryd, a gadael y wlad a chymeryd tro ar hyd y trefi a'r dinasoedd. Fellai y bydd hyny yn foddion i rai i gydmaru y wlad a'r trefl, ac i weled y fath wahaniaeth sydd yn, y dull o fyw yn y naill a'r Hall, ac i weled yn mhellach, fod yr ymdrech am fodoli yn llymach yn y dref na'r wlad. Dywedir mai Llundain yw y ddinas fwy- af yn y byd, ac mae y boblogaeth yno dros 5,000,000 o bobl. Pa fodd mae y fath dorf yn cael bywoliaeth sydd gwestiwn a gymer fwy o golofnau nag sydd yn y DARIAN i draethu; ond gwyddom fod llawer yn newynu yno yn flynyddol, ac felly maent hwy yn methu cael bywoliaeth. Yn y wlad, mae'r bob! allan yn y meusydd, yn nghanol awyr iach, yn gweithio ond yn y trefi, mae miloedd yn gorfod gweithio yn yr adeiladau mwyaf cyfyng yn nghanol yr anmhuredd mwyaf; ac os byddant allan yn yr awyr agored, nid yw hwnw o bellder ffordd mor bur ag awyr y wlad. Hyd yn ddiweddar, yr oedd canoedd o ferched a gwragedd yn cael eu cyflogi yn Llundain ar ben hen dtps lludw, i'r dyben o chwiiio yr ysgarthion bawlyd a gludir yno yn feunyddiol o'r tai gan y ceirt lludw. Ar hyn o bryd, ma? gwahanol awdurdod- au lleol Llundain yn ceisio cytuno a'u gilydd i ofyn wrth y Senedd am basio deddf i wahardd cyflogi merched a gwrag- edd wrth y fath orchwyl drewllyd a baw- lyd. Yr oedd un o Gyughorwyr Llundain yn adrodd yr wythnos ddiweddaf yr olygfa a gafodd ef a meddyg neillduol wrth dalu ymweliad a rhai o'r tipiau hyn ar Ian y Tafwys un diwrnod. Yr oedd merched a gwragedd i fyny at eu canol mewn bndr- eddi yno yn gwahanu hen garpiau a photeli toredig a tins gweigion, ac ysgarth- ion ereill, oddiwrth eu gilydd, giln gadw y llwch a'r lludw ar wahan mewn man arall. Tra wrth eu gwaith, yr oedd y liwch yn codi yn gymylau o'u hamgylch, ac yr oedd eu gwynebau mor ddued a'r gwr drwg, fel na ellid eu hadiabod. Eto i gyd, er cynddrwg yr oedd y gwaith, yr oedd y gweithwyr neu y gwneuthuresau hyn o gyrff cryf a liuniaidd, ac yn ym- ddangos yn hollol iach a chan eu bod yn ymddangos felly, bernid fod y gorchwyl yn eiteaf iachus. Yr oedd yr oil o'r gweith- wyr yn byw yn nghanol y tlodi mwyaf, ac wedi cael eu gyru at y budrwaith er mwyn eadw corffac enaid, yn nghyd ac i gadw y 1 blaidd-newyn-o'r drws. Mae dydd y fath orchwyl ar derfynu, ac nid wyf yn meddwl y bydd rhyw hiraeth neiilduol ar neb o ddarllenwyr y VARIAN pan glywant ei fod wedi myn'd yn nos arno. Dichon y bydd yn golled ar y pryd i rai o'r merched a'r gwragedd a gyflogir yno ond credwn y bydd yn enill iddynt^yn y pen draw, gan y bydd yn rhaid iddynt i edrych am rywbeth gwell i'w wneud. Dywedir fod y boblogaeth yn parhau i gynyddu o hyd yn Llundain; ac am hyny y mae yn rhaid cynyddu nifer yr heddgeid, waid, am fod troseddwyr yn cynyddu yno Tra yn ysgrifenu hwn, mae papur o fy mlaen yn dangos fod 16,374 o heddgeidwaid yno ar y 31ain o Ragfyr diweddaf, a bod_ gan y rhai hyny 688 o filldiroedd o ystryd J oedd i fyn'd drostynt bob dydd, a bod £ 1,427,617 wedi cael eu talu i'r cyfryw mewnM cyflogau yn unig y flwyddyn ddi- weddaf. Cymerwyd 112,205 o bersonau i'r ddalfa gan y rhai hyn yn ystod y flwydd- yn 1902, ac yr oedd hyny yn gynydd o 2,671 ar y flwyddyn flaenorol. Yr oedd y cynydd hwn mewn man droseddau, fel y j gelwir hwynt, megis meddwdod, ymladd- feydd, anlladrwydd, &c. Deliwyd 86,415 o'r achosion gan yr ynadon, tra y oafodd 3,087 eu taflu i sefyll eu prawf yn y Sessions. Dywedir fod mwy o droseddau wedi cu cyflawni yno yn ystod y flwyddyn 1902 nag sydd ar gadw mewn coflyfrau. Dedfrydwyd 443 o bersonau i wasanaeth penydiol, o ba rai yr oedd 182 i wasanaethu am bum' mlynedd ae uchod, ac yr oedd gorchymyn i ffiangellu wyth yn ychwanegol at y penyd, Nid wyf wedi gosod y tros- eddwyt yn gyflawn, ond yr wyf yn meddwl fod hynyna yn ddigon i brofi fod Llundain yn nythle i ganoedd o scoundrels, a gaUwn j fod yn sicr na chafodd yr oil o'r scoundrels hyny eu dal yn ystod y flwyddyn. Gan fy mod v edi dechreu yn nglyn a Llundain, mae yr un man i fi orphen y tro hwn yno hefyd ac felly y peth nesaf ar y plat am y tro fydd ychydig o gyfrif o beth- au a gollwyd yno yn ystod y fiwyddyn ddi- weddaf. Mae rhai pob! lied anghofus yn teithio yno, ac yn ystod y flwyddyn dyg- wyd 47,434 o bethau a gafwyd ar ol mewn cerbydau cyhoeddns i Swyddfa yr Eiddo Colledig. Mae hyn eto yn dangos cynydd 7,213. Gellir dosranu yr eiddo a gafwyd ar ol mewn cerbydau cyhoeddns, ac a drosglwyddwyd i'r heddgeidwaid gan y gyrwyr, fel y canlyn — Cydau 3,452 Gwisgoedd (ewrywod) 2,373 9t (benywod) 2,374 Tlysau 1,818 Oriaduron 231 Pyvsau 3,486 Amrywiaeth 10,636 Speinddrychau 845 Rugs 334 Fryn 977 Gwlawlem 21,608 I Cyfanswm 47,434 Yn mfoJKtfa yr eiddo yr oedd amryvr byrs- au yn cynwys dros £10; linwer o dodau arsandai, blychau tlysau, cydau gv. erthfawr; bicycles, adar byw, ednod, cwu, ac un wningen. Dychwelwyd 23,043 o'r nwyddau i'w perchenygion, a rhoddwyd yr hyn na hawliwyd (gydag ychydig eithriadau) ar ol i dri mis i fyned heibio, i'r gyrwyr a'u trosglwyddasant i'r heddgeidwaid. Rhodd- wyd £ 3,261 i'r gyrwyr am eu trafferth a'u Z, gonestrwydd gan y perchenogion. Cafodd 17 o honynt R5 yr un, 5 o honynt £ 6, tri £ 7, dau £8, dau £9, tri £10, dau E15, a thri £30. Fe welwch wrth yr uchod nad yw yr oil o'r Cockney drivers yn anonest, neu ni fuasent yn eael eu gwobrwyo fel hyn. Gan fod fy ngholofn ar ben, yr wyf yn meddwl mai y peth goreu allaf ei wneyd yw terfynu ai hynyma o Gockney- ism.
MOUNTAIN ASH.
MOUNTAIN ASH. Llenyddol. Nos Lun diweddaf, cynaliwyd y cyntaf 0 gyfarfodydd llenyddol am y gauaf dy- fodol yn Festri Bethania, pryd yr aeth- pwyd drwy raglen ardderchog 0 ganu ac adrodd, dan lywyddiaeth Mr J Davies. Cvfeiliwyd gan Miss Roberts, tra y cyf- lawnwyd y swydd 0 ysgrifenydd gan Mr Wm Jenkins, High street. Yr oedd y modd y cariwyd y trefniadau allan yn glod i'r ysgrifenydd. Cafwyd dechreuad campus, y lie yn orlawn, a chyfarfod wrth fodd calon pawb. Dyma fan i dynu allan dalentau newyddion. Gobeithiwn weled lluaws yn dal ar y fantais. »
Cyngherdd.
Cyngherdd. Nos Fercher diweddaf, yn Neuadd y Gweithwyr, cynaliwyd cyngherdd ardder- chog gan Fand bechgyn bychain Ysgol C, Farnborough yr elw tuag at yr ysgol. Dangosodd y lie hwn ei fod yn gefnogol iawn i'r mudiad, gan fod y neuadd fawr yn llawn 0 wrandawyr astud, a chawsant eu 11wyr foddloni yn y modd deheuig yr aethant drwy eu perfformiad. Teimtai eu harweinwyr yn ddiolchgar iawn am y gefn- nogaeth galonogol a gawsant, ac i'r per- sonau a weithiasant mor egniol drostynt yn yr ardal, er gwneud y gyngherdd mor lwyddianus.
Eto,
Eto, Yn yr un neuadd, nos Iau, cynaliwyd cyngherdd fawreddog a chlasurol, dan nawdd ac er budd eglwys, Miscyn. Mae y mudiad wedi dod yn fudiad blynyddol, a hon oedd v drydedd gyngherdd iddynt 9" I, gynal yn nglyn a'r eglwys hon, a chalon- did iddynt ydoedd canfod nad oedd y gefnogaeth gawsant eleni eto wedi lleihau dim, ond wedi myned ar gynydd. Yr oedd y lie yn orlawn gellir felly ddisgwyl fod elw da wedi ei wneud oddiwrthi. Yn gwasanaethu y tro yma, yr oedd y personau canlynol,—Soprano, Miss Perci- val Allen; contralto, Madam Juanita Jones tenor, Mr Thos Mhomas bass, Mr Emlyn Davies, Llundain; violinist, Miss Backsheen Wood; cyfeilydd, Mi- Harry Evans, Dowlais. Y cadeirydd oedd Mr Leighton, Cwmpennar. Yr oedd y cantorion yn feddianol arleisiau ardderch- chog, swynol, a da wedi dewis caneuon sylweddol a safonol, ac yn dangos llawer iawn 0 allu wrth eu gosod allan, fel y mwynhawyd eu canu yn fawr iawn, a galwyd arnynt i ail-ganu bob un o honynt. Am y grythores, yr oedd ei pherfformiad hi ar y crwth yn fedrus v tuhwnt hefyd, y cyfeilydd, gwnaeth yntau ei waith yn rhagoroi—y mae ei enw yn sicrwydd am hyny. Canmolwn yn fawr wyr Bethel am ddwyn parti mor gymeradwy i'r lie, ac am eu hymdrech i wneud y gyngherdd mor llwvddianus. ianus. ——j
. Tabernacl, Merthyr Tydfil.
Tabernacl, Merthyr Tydfil. Cynaliwyd cwrdd neillduol a dyddorol iawn yn y lie hwn nos Iau, Hydref 8fed, er anrhegu y gweinidog, y Parch D Price, ag oriawr a chadwen aur gwerthfawr, fel arwydd 0 barch ac edmygedd yr eglwys 0 ar ben deng mlynedd o'i weinidogaeth yn y lie. Cvmerodd y brawd mwynaidd a hyfwyn, Evan Morgan (Alaw Tydfil), at lywyddiaeth y cwrdd, a gwnaeth ei waith yn rhagoroi. Y mae Mr Price wedi bod yn hynod lwyddianus fel gweinidog oddiar pan ddaeth yma o Gwmtwrch, ychydig dros 10 mlynedd yn ol. Y mae ei bre- gethau bob Sul yn gryf a dylanwadol, ac y mae wedi bedyddio yn ystod y deng Z!l mlynedd dros ddau cant a thri ugain 0 ymgeiswyr am le yn Nhy Dduw ac enw yn mhlith ei bobl, a llawer 0 wrthgilwyr wedi dychwelyd—Hawer 0 ba rai sydd wedi ymadael trwy lythyron i wahanol eglwysi drwy y wlad. Y mae y rhai hyn, yn nghyd a'r frawdoliaeth gartref, yn dal syniadau uchel iawn am ein hanwyl frawd. Dywedodd un brawd sydd yn awr yn Nghaerdydd, wrth ddanfon cyfran at y mudiad, ei fod yn anwylo Mr Price yn fawr iawn, ac yn gobeithio na fuasai yr oriawr bvth yn dangos amser terfynol y cariad fodolai rhwng y gweinidog a'r egiwys. Y sgrifenodd amryw ereill hefyd i'r un cyfeiriad, ac yn chvyn tystiolaeth uchel iawn i Mr Price fel gweinidog da a brawd parod bob amser. ac yn dymuno na fuasai Mr Price a'r eglwys byth yn yma- dael a'u gilydd. YT mae efe yn gweithio yn ddyfal ac egniol gyda phob rhan 0 waith yr eglwys. Nid yw yn un o'r gwein- idogion hyny y cyfeiria lleygwr atynt yn Seren Cymru,' sydd haner eu hamser yn gwasanaethu mewn cyrddau blynyddol, &c., ar draul esgeuluso eu heglwysi eu hunain. Ond y mae yntau hefyd yn cael ei alw yn fvnych i wyliau blynyddol, ond nid yw yn ymrwymo i fyned i unman heb yn gyntaf ymgynghori a'r eglwys. Fe'i gwelir ef yn y cyrddau gweddi a'r gyfeill- ach bob wythnos-eithriad fydd iddo fod yn absenol. Y mae yn felus iawn gwran- do arno yn y gyfeillach, pan yn cynghori sut i ymddwyn yn ngwyneb temtasiynau a chwildroadau'r oes. Y mae hefyd yn meddu ar dalent i geryddu yn llym pan y mae galwad am hyny end nid wyf yn gwybod am un enghraiEt iddo ddigio neb erioed, a'u gyru ymaith wrth wneud hyny. 'If'< f Y mite tb. feddianol ar fiordd mor dden- { gar, fel y mae yn anhawdd digio wrtlio j heth byna;. a ddywedo. Hefyd y mae yn athraw ar ddosbarth mawr o bobl ieuainc yn yr Ysgol Sul, ac wedi llwyddo i'w cael i garu Iesu Grist, ac wedi eu bedyddio bron i gyd. Efe hefyd yw llywydd y gymdeithas ddiwylliadol o'r cychwyniad, yr hon sydd yn gwneud llaw- er iawn 0 ddaioni i'n pobl ieuainc, oblegid cymerir i fyny bynciau perthynol i'r enwad, a phynciau mwyaf pwvsig y dydd. A charwn ddweyd yn y fan yma fod Syl- labus buddiol wedi ei darparu eleni eio. Y mae yr eglwys wedi anturio yn ddi- weddar i adeiladu capel eang a" hardd mewn man cyfieus a hardd yn yrnyl y ffordd fawr—Brecon Road, a chostia v Tabernacl newydd tua phum' mil 0 bunau, ac y mae y frawdoliaeth eisoes wedi llwyddo i dalu dwy fil o'r ddyled i flwrdd. Mae hyn yn siarad yn uchel am weithgar- wch yr eglwj-s. Mae Mr Price wedi cym- eryd mater y ddyled mewn Haw er y cy- chwyniad, ac wedi llwyddo i gasglu can- oedd 0 bunau tualJan i'r eglwys. Y mae wedi penderfynu cael organ newvdd yma hefyd yn fuan. Rhwydd hynt i'w ym- drechion, oblegid bydaai organ yn gaffael- iad i eglwys luosog a ehynyddol fel hon. Yn absenoldeb Mr Price yn v ffynonau ychydig amser yn ol, penderfynodd yr eglwys i'w anrhegu fel y nodwyd. Ar ol cael araeth bwrpasol gan y cadeirydd, darllenodd y brawd E R Williams, ysgrif- ydd y mudiad, frysneges oddiwrth v Parchn W A Jones a Jenkins Eynon, o gyrddau Undeb y Bedyddwyr a gynal- iwyd yn Derby, yn datgan eu gofid am nas gallasent fod yn bresenol, ac yn dymuno pob llwyddiant i'r cwrdd. Yna galwodd y cadeirydd ar y Parch D L Jones, ysgrifenydd yr eglwys, i anerch y cyfarfod, a rhoddod'd dysliolaeth uchel i Mr Price fel gweithiwr diwyd yn ngwin- llan yr Arglwydd. Cafwyd" areithiau bywiog hefyd gan y brodyr D Harris a John Lewis, apostol mawr dirwest y Tab- ernacl, ac yr oedd mor ffraeth y tro hwn ag erioed. Canodd Henry Morris 0 rhowch i mi bregeth Gymraeg,' yn bur swynol. Yna galwyd ar yr hen frawd Stephen Williams, y diacon hynaf, yn mlaen i gyf- lwyno yr anrheg, yr hyn a wnaeth mewn geiriau byw a thoddedig iawn, gan ddy- uno pob llwydd i Mr Price a'r eglwys. Yna canodd y brawd John Morgan Honour and Arms yn feistrolgar dros ben. Anerchwvd y cyfarfod hefyd gan y brodyr E M Pugh a I D Price, Richard Davies, Saml Morris, a Wm Lloyd, dia- coniaid, a'r Parchn D Stephen Williams, W C Thomas (Ceinfryn), J D Hughes, Dowlais J H Davies, Cefn, a J Nicholls, Bethel yr oil yn dwyn tystiolaeth uchel i Mr Price fel bugail a phregethwr ds, a chyfaill a dinesydd didwyll. Yna cododd Mr Price ar ei draed yn nghanol brwdfrydedd y gynulleidfa fawr i ddiolch iddynt am eu parch mawr tuag ato, ac y gwnai barchu yr anrheg er eu mwyn hwy. Yr oedd ef yii caru yr eg- lwys yn fawr, a chredai fod yr eglwys yn ei garu yntau. Nis gallai ddweyd llawer y noson hono oblegid ei deimladau, ond y cai fantais i siarad ar ol hyn. Felly y terfynwyd un o'r cyrddau mwyaf dyddorol v bum i ynddo erioed. J. D. PRICE (Dyrin).
NODION MIN Y FFORDD.
NODION MIN Y FFORDD. GAN Eos HAFOD. Y Sul a'r Llun diweddaf cynaliodd eglwys Fedyddiedig Hebron, Ton, ei chy- farfodydd haner-blynyddol, Cyhoeddwyd y genadwri gan y Parchn J R Jenkins (Gwili), Pontardulais a J R Evans, Llwyn- hendy. Dydd Iau nesaf, Hydref 29ain, mae cynacledd i'w chynal gan y Solffzrwyr yn Nowbis. Mr Harry Evans wedi ei benodi i dda lien papyr ar "Driniaeth lleissau y plant," a Mr D Evans, Caerdydd, ar Wrthbwynt (counterpoint). Mae safle gerddorol y boneddigion uchod yn cadarn- hau y bydd yn werth bod yno i glywed ffrwyth eu hathrylith. Pythefnos i'r Sul nesaf disgwylir i'r Parch J J Williams, Rhymni, ddechreu ar ei weinidogaeth sefydlog yn nglyn a eglwys Gynulleidfaol Siloh, Pentre. Clywais yr wythnos ddiweddaf fod y ddeadell uchod mewn sefyllfa lewyrchus a chalonogol iawn. Mae eglwys Siloh yn un gref, ac ma.e r aelodau yn rhai deallus a gweithgar. Ychydig o eiriau sydd wedi dyfod dros wefusau Mr William Owen, 51, Alexandra road, Ton, oddiar y taravyd ef yn sydyn gan Hit tua mis yn ol, Cawn ei fod wedi bod yn flaenllaw gyda chaniadaeth y cysegr yn nghapel Soar, B'aenycwm, ac Aber- gwaun. Teimlodd ddyddordeb arbenig heiyd yn nglyn a'r Ysgol Sul yn Hebron, Ton, a manau ereill. Yn nghapel y Wes'eyaid Seisnig, Ton- ypandy, y Sul diweddaf pregethwyd gan Mr James Morgan, Caerdvdd. Nos Fercher dilyno! cynaliwyd cyfa'rfod cenadol Cymerwyd rhan gan y Parchn J Alfred Vanes, B.A., Mysore A Roberts, a L T Sadler, Llywyddwyd gan Mr D Williams. Mae y cyfaill hynaws ac adnabyddus, Mr James Meddlicott, 14, Taff street. Gelli- wedi bod yn wael e) lechyd am bum mlyn edd. Blinir ef yn benaf gan gaethder yr anadl. Mae ganddo wraig ymdrechgar a phedwar o blant. Nid oes yr un o honynt (plant) yn gweithio. Ar nos Fawrth cynelir cyfarfodydd gan y bobl ieuainc perthynol i eglwys Fedydd- iedig Soar, Pentre. Daw tua chant ar gyfartaledd iddynt. Csnir unawdau, a gwneir adrodd ac areithio. Dywedir y dilynir eu hymdrechion a llwyddiant am- se ol. Mae y Parch D G Morris, eu gweinidog, yn cydweithio a hwynt. Gellir galw clafdy Pantvsteddfa, Ystrad, gyda phriodoldeb yn fryn gobaith y claf. I Mae yn adeilad earg a chyfleus,. a pher- sonau cymhwys yn gweinyddu ar cleifion gludir yno. Mae sefyllfa iechyd y cylch- oedd hyn yn neillduol glir oddiwrth glefydau, a chredir fod symud personau flinir gan heintiau i'r sefydliad uchod yn un rheswm dros hyny. J I Gan fod geiriau Cy mraeg yn hawdd a chyfystyr a rhai Saesneg anogvvn eu harfer. Wele ychydig o honynt-goleudy, lighthouse; gorfaeiu, monopolise; treng- holiad, inquest; ymchwiliad, inquiry; cad- gloddiwr, pioneer eglau, channel eglwys gadeiriol, cathedral. Yn nghapel Bryn Seion (A), Gelli, nos Iau diweddaf mwynhawyd cyngherdd flasus dan lywyddiaeth Mr E H Davies (ieu), Pentre ivladame Erasmus-Bowen, Mri Maldwyn Humphreys a Robert Hughes, Glandwr, oeJd yr unawdwyr; a chwareuwyd y crwth gan Ap Tvdfil, a'r berdoneg gan Mr A M Setter. Yr elw at ddyled yr addoldy. Dechreu yr ytlnos ddiweddaf bu Mr J mes Owen. AvoncVe road, Gelli, o dan law-redi;ygvva;tf) Law ei fod yn gwella gystal ag y gellir ujs^wyi. Mue ganddo wsaig a phlant, ac mae hyn yn naturicl yn g'sur ni iel yrt.tu. H.-Jerwn y daw cin hit i foj n wasaoaethgar fsl cynt mewn cyfeiriadsu daionus. Yn festri Bethel (M C ) Ystrad, nos Fawrth, cyneliwyd cyfarfod dyddorol ac addysgiadol gan bobl ieuanc sy'n dal cy- sylitiad a'r eghvrs a enwyd' D-srllenwyd papyrau amserol gan aelodau v gvmdeithas a llywyddwyd i I wrP,lS gan Mr D Jenkins, Gelligaled road. Tua wyth mis yn 01 eyfarfyddodd Mr Nicholas Davies, giowr, Gelli crossing, a damwain i w goes yn un o lofeydd y gymydogaeth. Rhywsut trodd yn sydyn ar ei droed, a bydd hyny yn achos blinder a gofid mawr iddo oddiar hyny, Ym- ddengys ei fod yn fuan i fyn'd o dan law- I- y feddygwaith yn Nghaerdydd. Mae Davies yn un o aelodau egiwys Gy.^ulleidfaol Bryn Seion, Gelli. Gwyddom y bydd yn flin gan ei gyfeillion pell ac agos glywed am ett adfyd. Dywedir fod yn rhaid i'r meddwl segur gael rhywbeth i'w ddatgan. Ofnir fod diffyg astudiaeth yn gyfrifol am eiddigedd a chulni barn. Pobl sy'n myfyrio ac yn ewyllysio daioni i ereill, nid oes ganddynt amser i chwriho am bethau nad ces sail a gwerth ynddynt. Yr wythnos o'r blaen, gwelais amryw o bobl dlodion yn cyfeirio eu hunain i wydd- fod y gwarcheidwaid. Os heb lawer o gyfoeth mewn ystyr arianol, y maent wedi dyfgu cadw eu hunain yn Ian a chryno. Rhaid i mi addef, fel llawer ereill, fy mod 'I mewn cydymdeimlad a'r dosbarth hwn, gan, er ymdrech, ni ddaw llwyddiant i ddorau pawb. Nos S?dwrn diweddaf, Hydref 24 a in, syrthiodd Mrs Williams, gwraig addfwyn y Parch Anthony Williams, gweinidog eglwys Fedyddiedig Nebo. Ystad, i'w hon olaf, wedi tua pythefnos o gystudd cyfyng, gan, medd/r. effeithiau uniongyrchol doltrr y galon. Rhodiodd Mrs Williams ffyrdd bywyd yn ofalus, a gochelodd dramgwyddo neb. Carodd uniondeb yn mhob gwedd arno, a mawr hoffodd yr Ysgol Sabbothol. Yn ei marwolaeth fe wel y tlawa eisieu r cyfeilles hawdJgar a thyner-gaion f Clywaf rai poblieunnc yn cwyno weitb- iau eu bod yn cyfarfod a gwrthwynebiadau a barn anffafriol rhai personau mewn per- thynas a'u gweithgarweh. Pan yn ieuanc cefais ddmlo hyn fy hunan, end cymhelU oad uchelgais i mi fyn'd yn rnlaen. Pan yn meddwl am hyny yn awr, credaf fod awgrymiadau digalon wedi troi yn elw, gan iddynt fod yn symbyliad i ymroddiad. Os bydd y gwirionedd o'n plaid, mae'n rhaid i'r gwas ffyddlon lwyddo Ar ein pererin- dod priodol cofiwn na chawn y melus heb y chwerw. Golwg brydferth yw cael presenoldeb plan; mewn cyfarfodydd buddiol. Clywais frawd yn dweyd unwaith nad yw parth yn air Qymraes! Golyga raniad o dy. Clywais fod gan Mrs Erap-nus F.we?! Ystrad, amryw o yn-rwvm^jau cer^orol i'w llanw. Mae gwasanseth ysgrifenv.^ g.;vufcgar yn hanfodol i lwyddiant t;d. Ofer deisyfu tawciTvci" >od r eb amcan cywir, Mae'n werth coflo na ddaw u k,itn. Pan yn cael ein cyffroi gs. rywbeth, dylem bwylJo cyn datgan barn, Dylid ysgrifenu Geil:gaej ac nid Gellygaer.' Hynodwyd y He hwn un- 8.ith g n deulu. Canmolir rhieni sy n benderfynol o ddysgu y Gymraeg i'w plant.
LLYS HEDDGEIDWAID ABERDAR.
LLYS HEDDGEIDWAID ABERDAR. J Dydd Mawrth, gerbron Mr T Marchant illiams, Dr D D-iuies. Mr) D P Davies a D W Jones, dirwywyd amryw am feddwdod. TORI CVFRAITH MWXGLODDIAU. Gwysiwyd Mri R Roderick a W Hum- phreys, Cwmdar. am gvfiogi rhai 0 dan oed, esgeuluso gcocd copi e'i Rheolau N eillduol i fyny, &c. Yniddadgosai Mr Arthur Vachell, Caerdydd, ar ran y Swyddfa Gar- trefol, a Mr C Kenshole ar ran yr amddi- ffynwyr. Gosodwyd yr achos allan gan Mr Vachell, yr hwn a ddywedodd nad oeddynt am fod yn galed ar yr arnddiffynwyr.— J Rhoddwyd tystiolaeth gan Mr J Dyer Lewis, ud o arolygwyr y mwngloddiau dosbarth Deheudir Cyrnru.—Croeshoeliwyd ef yn faiwl gan Mr Kenshole.—Dirwywyd Hum- phreys i hunt a'r costau am bob un o'r rhai oeddynt dan yr oed. Ryddhawyd Roderick o'r cyhudd ad hwn. Dirwywyd y ddai i bunt yr un am y cyhuduiadau ereiil.
- "Cyfarfodydd Pregethu a…
"Cyfarfodydd Pregethu a S.t= ydlu yn Heolyfelin. D< Idiau a Llun diweddaf, cynaliwyd dydd Blynyddol Eghvys y Bedydd- w ;i Heol>felin, Aberdar Y gwahodd- c ju.'i >n i bregethn oeddynt y Parch Chas. -Davies, Caerdydd; Davies, Pentre; a J. Williams, Aberteifi. Traddodwyd yr etengyl ganddynt gyda grymusder i gyn- oedd mawrion, ac yr oedd yn amtwg fod eneiniad yr yshryd ar yr oil o r gweithrediadau. Yr oedd y pregethwyr yn pregethu gydar arddeliad, a'r cynulleid- faoedd lluosog yn gwrandaw yn astud. Gobeithiwn y bydd yr had da a haw yd yn t g!ii° yn nghalonau lIawer o'r gwraadawyr cydymdeimladol sydd hyd yn hyn heb iistio o dan faner yr Oen, ac i wreiddio yn ddyfnach yn nghalon yr egiwys. Neillduwyd prydnawn dydd Llun i'r dyben o sefydlu gweinidog newydd yn lie yr hen un. Y mae yn hysbys i filoedd trwy Gymru fod yr hen weinidog, sef y Parch W. Harris, wedi rhoddi gofal yr egiwys i fyny er ys yn agos i ddwy flynedd yn oL Yr oedd ef yn teimlo ei <echyd yn paUu er ys rhai blynyddau bellach, a thrwy byny yn tybio nas gallasai wneud cyfiawn- der a r egiwys, ac felly penderfynodd roddi i eglwys i fyny. Bu yr eglwys yn araf ac vn anfoddlon iawn i dderbyn ei yroddiswyddiad; ond. gan ei fod wedi gwneud ei feddwl i fyny. nid oedd gan yr ys ddim i wneud ond ymostwng i'w be vJerfyniad. Bu yr eglwys felly yn byw ar weinidogaeth dyeithriaid yn ystod yr ysbaid, ond yn y cyfamser syrthiasant •r:ewn cariad a'r Parch W. Cynog Williams, gweinidog yr eglvrysi yn Rarnoth a Chilfowyr, Sir Benfro; a phenderfynwyd rhoddi galwad iddo i Jdyfcd i'w bugeilio yn yr Arglwydd. Gan fod Mr Williams wedi rhoddi atebiad cadarnhaol i'r alwad, fe welir mai caniyniad hyny ydoedd cyfarfod prydnawn < L!n Wedi canu emyn, awd drwy y gwasanaetb agoriadol trwy i'r Parchedig E. Hague, Hirwaun, i ddarllen a gweddio; yna awd yn mlaen at ddyben y cyfarfod, Apan y cymerwyd y gadair gan y Parch W. Harris, yr hen weinidog. Yr oedd cymysg- fa o'r Uon a'r lleddf yn y cyfarfod—llav.en- ydd wrth afaelyd yn y gweinidog newydd, a phrudd-der wrth golli gafael yn yr hen on, Hyd yn hyn edrychid ar Mr Harries fel eu gweinidog o hyd, gan ei fod yn eu plith, ac yn wir fe fydd yn rhaid iddo gael ei symud i'r nefoedd cyn y bydd canoedd 0 r aelodau yn ei gyfrif yn wahanol. Wedi darllen a gweddio, rhoddwyd • -<ic rh groesawol gan y cadeirydd i Mr Williams. Yr oedd ef yn rhoddi croesaw calonog i Mr Williams i'w faes newydd. Yr oedd wedi bod yn hen faes anwyl iddo ef am dros ddeugain mlynedd; ac yr oedd hyny yn dweyd yn dda am yr egiwys. ac am danoyntau. Yr oeddynt wedi bod yn 40 rniytiedd o ddedwyddwch iddo ef, tm eu bod wedi bod yn flynvddoedd o heddwch a thanenefedd; yr oeddynt wedi bod yn ddeugain mlynedd o lwyddiant a diweddu -yn well na'r dechreu. Deuddeg ar hagain oed ydoedd pan yn dyfod i Heolyfelin, ac y mae yn awr yn 74 miwydd oed-daeth yma yn yr un oedran a Mr Williams. Gobeitbiai y byddai yntau yn Heolyfelin hyd nes y bydd yn 74 oed. Pan yr oedd ef (Mr Harries) yn rhoddi i fyny, dywedodd nad redd o bwys ganddo pwy a ddeuas ar ei ol, ond gobeithiai y bu- asai yn frawd da. ac yn bregethwr da, ac o Uymeriad da. Yn Mr Wiliiams yr oeddynt wedi cael un feHy-yr oedd yn bregethwr da, c yn un ogymeriad rhagoroi. JJywedai wrthynt yn awr am ei barchu ef fel dyn da, a gwas da i Grist. Yr oedd, hefyd, am iddynt fod yn ffyddlon yn y cynulliadau, ac i gydweithio ag ef yn egniol, gan weddio Uawer drosto, a'i gynal yn anrhydeddus a dyrcrunai fendith y nefoedd ar yr undeb. Wedi hyny darilenwyd peliebryn a nifer o lythyrau oddiwrth weinidogion a charedigion, yn gofidio nas gal!ent fod yn bresenol o herwydd rbwymedigaethau mewn gwahanol fanau, ac afiechyd. Yna galwyd ar Mr Owen Harries (un o ddiaconiaid yr eglwys) i roddi ychydig o faanes yr alwad, a'r unfrydedd trwy ba un y rhoddwyd hi, a'r atebiad cadarnhaol a gafwyd. Ar ei ol ef cyfododd Mr Williams i roddi yr un atebiad cadarnhaol yn eu clyw hwynt oil. Dywedai ef ei fod wedi bod yn petruso ychydig yn nghyich y r atebiad, ond pan yn teimlo fod y fath unfrydedd ynddi, yr oedd yn teimlo ei b d yn alwad oddi- wrth Dduw a chan ei hod felly, nis gallai lai na rhcddi yr atel iad a roddwyd. Yr oedd yn teimlo anhav. sàer i lanw lie s Harries bach Jleolyfehn ond os cawsai yr un Duw i'w t rwairi. yr oedd yn teimlo yn ddyogel ac yn Jdedwydd yn eu plith. Wedi hyny g^Hvyd ar y P;,rchedii> T D Evans (Gwemogle), gweinidog yr Anni. bynwyr yn Tyrhos, Penfro, i gyflwyno .Anerchiad i Mr Williams. Dywedai Mr Evans ei fod yno ef i gyflwyno yr yr Anerchiad ar ran Cymanfa Ddirwestol Aberteifi a'r cylch, i ba un y bu Mr Williams yn ysgrifenydd am flynyddau. Yr oedd yr Anerchiad yn cael ei gyflwyno iddo, nid er mwyn iddo fynd o Sir Benfro, ond o herwydd ei fod yn mynd. Yr oedd ei ymadawiad o Ramoth a Chilfowyr yn golled fawr i'r ardal, ond yr oedd ei ddyfod- iad i Heolyfelin yn enill mawr i Aberdar. Yr oedd yn ddirwestwr brwd, ac yn weith- iwr cyson gyda'r achos dirwestol, a chawsant hwy yn Heolyfelin weled hyny yn fuan. Yr oedd yn cyflwyno yr Anerch- iad yn galonog i Mr Williams ar ran y gymanfa Darllenwvd yr anerchiad gan Mr Evans, ac yr oedd v geiriau yn dangos yn eglur fod Mr Williams mewn parch mawr yn y cylch gan y dirwestwyr. Yr oedd yr anerchiad wedi ei fframio yn ddestlus, ac wedi ei haddurno ag amryw ddarluniau, yn rnhlith pa rai yr oedd darlun o Mr W lliams ar y naill law, ac o Mrs Williams ar y lIaw arall. Hefyd yr oedd darlun o ■Gastel! Cilgerran a phont hen dref Aber- t ifi, Ffrydiau Cenarth, a Rhaindr Niagara ami, ac yr oedd wedi cael ei harwyddo gan weinidogion gwahanol enwadau cylch y gym an fa. Berbyniwyd yr anerchiad yn ddiolchgar gan Mr Williams, yrh wn a ddywedai ei bod yn llawenydd mawr ganddo i'w derbyn, ac na fuasai ei phwysau o aur yn ei phryau oddiwrtho am y bydd yn anmhrisiadwy yn ti olwg. Yr oedd y Parch J Williams <i fod i gyf- lwyno codaid o aur i briod y gweinidog ieuanc, ond gan fod y Parch T D Evans wedi bod mor ddeheuig yn cyflwyno yr an- erchiad gosodwyd arno ,i gyflwyno y godaid aur eto. Yr oedd yn flin gan bawb i weled nad oedd Mrs Williams yn bresenol i dder- byn y rhodd, a hyny o herwydd afiechyd blin, a dymuniad pawb ydoedd am iddi i gael adferiad buan i'w hiechyd arferol. Yn el habsenoldeb cyflwynwyd y rhodd i Mr Williams, yr hwn a ddiolchal yn fawr ar ei rhan, ac a ddywedai fod Mrs Williams yn un o ragorolion y ddaear ac na fuasai ef yr hyn ydyw hebddi. Ar ol hyn cafwyd anerchiadau byrion gan y Parchn D Roberts, Senghenith; W R Jones, Penrhiwceibr; G Williams, Pont- ardulais E Watkins, Casllwchwr; Meistri James Jones, Cilfowyr; Phillips a James, Ramoth, a'r Parchn D Price, Merthyr A Hughes, Dowlais; Grawys Jones (A), Eben- ezer, Trecynon; J Morgan (C.M), |Bryn Sion, Trecynon T Stephens (C.M), Carmel, Trecynon R J Jones (U), Hen Dy Cwrdd, Trecynon, a T Davies, Gwawr, Aberaman. Yn mhlith yr anerchiadau cafwyd tipyn o amrywiaeth trwy gyflwyno rhoddion pellach i Mr a Mrs Williams fel arwydd fechan o barch yr eglwys tuag attynt ar eu symudiad i'w plith. Yn nghyntaf galwyd ar Mrs Lloyd, un o hen chwiorydd henaf yr egiwys, i gyflwyno awrlais a phar o bronze ornaments hardd i Mrs Williams ar ran chwiorydd yr eglwys. Derbyniwyd y rhodd hon eto gan Mr Williams ar ran ei anwyl briod oherwydd ei habsenoldeb. a dywedai mai dyna ty gor- chwyl anhawddaf oedd ganddo, sef diolch iddynt am eu caredigrwydd. Ychydig wedi hyn cyflwynwyd rhodd arall i Mr Williams gan Mr Job Thomas .(un o'r diaconiaid liynaf) ar ran brodyr yr eglwys, a thalodd Mr Wilbams ddiolch eto yn nghanol dagrau llawenydd am hyn. Palla gofod i ni ymhelaethu ar anerch- iadau byrion y brodyr a enwyd, ond gallwn wneud dau ddosbarth o honynt, sef brodyr o'r cylch, a brodyr o bell, a gallwn symio yr anerchiadau rhywbeth fel y canlyn. Yr oeddynt oil yn flin oherwydd fod henaint yn dechreu effeithio ar ieuengrwydd Mr Harries ac wedi peri iddo i roddi gofal yr eglwys i fyny. I frodyr y cylch yr oedd wedi bod yn gyd-lafurwr difefl, yn gyfaill caredig, yn weithiwr da yn ngwinllan yr Arglwydd. Nid oedd ganddynt ddim ond gair da i roddi am dano, a dymunent oil iddo brydnawnddydd teg ar ol ei lafur diflino, er y gwyddent na fuasai yn segur er ei fod wedi rhoddi gofal yr eglwys i fyny. Yr oedd Mr Harries wedi bod yn weithiwr ftyddlon drwy ei oes, ac yr oeddynt yn sicr nas gallasai fod yn wahanol eto. Yr oedd Mr Williams wedi dyfod i gylch pwysig. Nid oedd disgwyl iddo ad- nabod pawb ar unwaith. Rhaid cydym- ddwyn ag ef. Yr oedd yn ddyn ieuanc o gymeriad glan a dilwgr. Yr oedd yn rhaid gofalu na fuasent yn ei lygru. Yr oedd eisieu help arno, yn eu cydymdeimlad ag ef ac eisieu rhoddi lie iddo yn eu gweddiau. Yr oedd eisiau ei cheero trwy yr ,i amenau a'r diolch iddo," a thrwy gymhorth Duw a chydymdeimlad yr eglwys y deuai yn allu Duw er iachawdwriaeth. Yr oedd y biodyr o Dell yn ei adnabod yn dda ac wedi bod yn cyfeillachu ag ef, ac wedi gweled ei fod yn weinidog gweithgar, yn efrydwr gonest ac yn Gristion gloew. Yr oeddynt yn gofidio oherwydd ei gclli ond yn dymuno pob llwydd a gwenau Duw iddo yn ei faes new- ydd. Yr oedd brodyr y cylch yn ei groes- awu yn galonog i'w plith, ac yn gobeithio y deuai mor ddwfn i'w serchiadau ag yr oedd Mr Harries wedi dyfod, ac yn gobeithio y buasent yn cydweithio ag ef mor heddychol ac y buont gyda hen weinidog parchus Heolyfelin- Feallai y bydd hynyna yn I ddigor. i ddangos cwrs y dymuniadau da yn cyfarfodydd gan fod gofod ac amser yn pallu ar gyfer y wase. Terfynwyd y cyfarfod trwy i'r Parch Charles Davies, Caerdydd, i ofyn bendith yr Arglwydd ar yr undeb a wnawd, ac l erfyn am nawdd yr lor dros yr hen was ffyddlon yn ei hen ddyddiau. Darparwyd cyflawnder o luniaeth gan yr j eglwys yu neuadd Ebenezer ar gyfer y dy- J eithriad, a rhoddwyd crOesaw calon iddyrit" i gyfranogi. I
Tycroes, Pantyffynon.\
Tycroes, Pantyffynon. Y mae genym y gorchwyl blin a galarus I yr wythnos hon o nodi marwolaeth a chladdedigaetk Mrs Mary Morgan, Peny- banc, Tycroes, Llanedy. Terfynodd ei gyrfa yma nos Sul, Hydref 18fed, yn 61 mlwydd oed, wedi misoedd o gystudd, ond dyoddefodd yeyfanyn dawel, gan bwyso ar yr Hwn yr oedd wedi ymddiried iddo er yn foreu. Y prydnawn dydd Mercher canlynol, daeth tyrfa luosog yn nghyd i hebrwng yr hyn oedd farwol o honi i fyn- went Caersalem, Brynllerws. Gwasan- aethwyd ar yr achlysur gan y personau canlynol :—Yn y ty gan W M Davies, B.A., ei gweinidog yn y capel gan Mri Davies a T Lloyd, Bethel, Ystrad Rhondda, a Jno Evans, Hendre, ac ar lan v bedd gan I C Evans, Ammanford G Thomas, Tycroes, a Mr Davies. Yr oedd yr angladd barchns a lluosog a gafodd yn llefarii yn ucliel fod rywun anwyl yn cael ei gosod yn mhridd- ellau y dyffryn. Yr oedd yn hvnod am ei charedigrwydd a'i pharodrwydd i wneud daioni, a llanwodd gylch pwysig fel bvd- wraig yn y lie, ac yn liynod o lwyddianus felly. Teimlir colled dirfawr ar ei hoi. Magodd deulu lluosog a pharclius, v rhai sydd heddyw, yn nghyd a'i phriod hoff, yn teimlo colled mawr ar ei hoi. Bydded iddynt ymddiried yn yr Arglwydd yn yr ystorm arw sydd wedi eu goddiweddyd, nodded y Nef fyddo drostynt hwy a'r per- thynasau. Y mae angau'n datod c'lymau Rhwng perth'nasau nos a dydd, Nid oes cyfoeth nac anrhydedd Rwystra'r c'lymau fyn'd yn rhydd Ond mae undeb cryf diddatod Rlrwng y saint a'u priod dan, Nis gall angau ddim ei dori, Ond rhydd liawl i Salem Jàn. UN YN TEIMLO.