Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

DIWYGIO MEDDWON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DIWYGIO MEDDWON. Ffaith eglur ond alaethus ydyw, fod miloedd o'n cyd-ddynion yn gaethion i feddwdod. Pwnc teilwng o ystyriaeth ein dyngarwyr, ac yn enwedig ein deddfwyr, fyddai astudio y drefn I oven i'w diwygio. Yr ydym yn ystyried fodyr hen drefn o'n dirvvyo, a'u carcharu am bythefnos, nid yn unig yn drefn an- effeithiol, ond ei bod yn amlygiad'o ;). anwybodaeth dirfawr o ddeddfau natur, yn drefn o anghyfiawnder cynideithasol, ac yn enwedig o greulondeb at deuluoedd y meddwon. Rhoddwn yma grynodeb byr o hanes un or cyf ryw:— Ar ddiwedd ei brawf yn llys yr ynadon, dywedai y swyddog wrthynt; y mae y dyn ieuanc yma wedi cael ei garcharu bymtheg gwaith yn barod am feddwdod. Pythefnos iddo eto, meddair ynad. Ymaith ag ef. A dygwch yr achos nesaf yn mlaen. Pan oeddid yn cymeryd y meddwyn ymaith tna'r carchar, daetli gwraig ieuanc welw mewn gwisg wael yn mlaen, ac erfyniodd ganiatad i ddyweyd gair wrth yr ynadon. Yr oedd yr olwg ar ei gwedd a'i baban yn effeitliio ar en teimlad a dywedodd y cadeirydd, yr ydym yn barod i wrando eich cwyn. Farnwyr boneddigaidd, meddai hithau, yr wyf am apelio at eich tynerwch. Y mae Dipso wedi bod yn wr da caredig i rai.—Ar hyny, dywedai yr ynad, cymer- wch ymaith y carcharor; y mae ei achos wedi ei benderfynu, clyna'r unfed waith ar bymtheg i ni orfod ei anfon i'r carchar. 0 syr, meddai y wraig, yn bur effeithiol, goddefwch i mi ddyweyd fod pob pythefnos o garchariad yn ei wneyd yn waeth; a'r diwedd fydd ei ladd ef a minau. Pam, druan, meddai ynad boch- goch wrthi, na wnaech iddo arwyddo ar- dystiad dirwest ? 0 syr, meddai hithau, yr wyf yn myned bob nos i'w gyrchn o'r dafarii. Yr wyf yn gallu ei dywys a'i ddenu heibio i ddwy neu dair tafarn, ond nis gallaf ei gael heibio i saith, heb iddo fynu troi i'mewn. Y mae wedi arwyddo yr ardtysiad ddwy waith, ac y mae yn wylo yn chwerw yn fynych am ei feddwdod gwallgof; ond -y mae ei syched mor ZD angerddol, fel y rhaid iddo gael rhyw wirodpoethrwyfed. Y nroe wedi llyncu drachtiau o durpentine, ac o sudd tobacco lawer gwaith. Y mae cynddaredd yr yfed yn ei ddal bron bob pythefnos; y mae yn gwybod hyny, ac y mae yn fy rhybuddio yn dyner i ddianc o ffordd ei wallgofrwydd. Y mae yn ddrwg iawn genyf drosoch meddai yr ynad, ond nis gallwn eich heIpu.-Dygwch yr aches nesaf yn mlaen. Foneddigion torturiol, meddai y wraig, byddwch mor garedig a'i gadw yn gaeth yn y carchar am fwy o <amser na phythefnos; ni wna hyny ond poethi ei fiys at ddiod. A oes genych. chwi yr un nawddle i tin fel efe, lie nad all gael dim o'r diodydd meddwl ? Pan ooddid yn gwasgu y wraig i droi allan o'r llys, yr oedd ei golwgathrist yn bur effeithiol; a dywedodd yr ynad, yr hwn oeddid newydd godi i'r faiuc, yr wyf yn teimlo yn ddwys iawh ar ran y wraig ienanc yiia. Y r wyf yn argyhoeddedig fod ei gwr yn wallgof, nas gall ef lywodr- aethu ei hun, ac nacl ydyw yn gyfrifol am ei ymddygiadan ac os caf eich caniatad cymeraf ef i nawddle gwallgofiaid. a., na, meddai y ddau ynad aiaM, nis gallwn newid ein dedfryd. Yr oedd y wraig druan y tu allan i'r llys yn crynu, mewn awydd am gyfle i roddi cnsan i'w gwr pan y byddid yn ei gymeryd i'r carchar. Wrth eigweled, ymwthiodd yr ynad craff tosturiol ati, a dywedodd wrtbi, pan y bydd eich- gwr yn cael ei ryddnan o'r carchar, gadewch i mi wybod, a cheisiaf gael nawddle iddo. Yr oedd y gwr, sef Dipso druan, wedi cael ei ddwyn i fyny yn y dafarn, ac yn nghanol meddwon; ac yr oedd wedi disgyn o achau yfwyr ac yr oedd yn amlwg fod clefyd meddwdod drvvry ei holl gyfansoddiad. Pan y daeth pythefnos ei garchariad i ben,daeth yr ynad caredig mewn cerbyd heibio i'r wraig, ac ZD t, aetbant at ddrws y carchar i'w dderbyn allan, a. gyrasant drwy borth prycl ertli i adeilad hardd, ag oedd yn nghanol pare o goed, a llwyni, a llwybrau, ag oeddid wedi I ddarparu i fod ynnawddle iachns i fedd- woil eithr nid oedd cleddfau i'w cadw yno, os na ellid gwneud hyny drwy dden- iadau a chymelliadau moesol. Bn Dipso yno yn lied ddedwydd am ra.i dydclian, ac yr oedd ei wraig dyner bryderus yn cael dyfod i edrych am dano. Yr oedd yn gwella o hyd, a'i iaith oedd ei fod yn ffieiddio y diodydd mecldwol. Yr oeddid yn bryderus am ei gadw yno er ei feddyg- iniaethu. Deallwn fod ei syclied yn ciyf- hau, a bod llewygon ei gyuddaredd am yfeds yn ymyl; a bod perygliddoddianc o'r noddfa. Buwyd yn cuddio ei esgidiau er ceisioatal hyny. Ond un hwyr, diang-' odd dros y mur, a rhedodd tua'i gartr-g yn wyllfc ei deirnlad, yn ddig.wrtho ei hun pan yn adgofio ei hanes, ac eto yn wall of am gael died. O'r diwedd claeth i olwg palasdy mawr congl yr heol, lleyr oedd y ffenestri gloywon goleuedig yn llawn cos- trelau llawnion,ac o hysbysiadau perthynol i'r gwinoedd a'r gwirodydd. Safodd gerllaw yno.. Ni feddai ddim arian yn ei logelll'; ond yn annedwydd daeth Boosey Jim ac ereill o'i hen gyd-yfwyr ato. Estynwyd gwydraid iddo, ac yno y bu yn yfed nes y gorfu i'r meefdwon ereill ei gatio adref. Yn mhen ychydig oriau ar ol hyny, llof- ruddiodd ei wraig anwyl yn ei gynddar- edd, ac fel canlyniad o hyny, cafodd ei brawf, a'i ddedryd, G,'i a'rwain- i'r crogbron, a'i ollwng i fyd araU. Ond ein teimlad ni ydyw fod y bai yn gorwedd wrth ddrws awdurdodau y gyiraeth. Yr oedd y dyn ieuanc, druan, yn wallgof. Medrodd y meddyg wrth archwilio ei ymenydd, ar ol ei farwolaeth, brofi hyny ac nid fl'ordd | iawn at ddyn felly, oedd ceisio ei gOlibi ♦ trwy ddirwyon, a thrwy nn-ar-bymtheg o -gar chariadati dwy wythnos yr uu. Dylas- id cadw un felly mewn nawddle cysurus er cael gwaith a lluniaeth, ac addysg a difyr- wch, ac er ei gadw yn gaeth o gyrhaedd y diodyddgwenwynig oeddynt yn ei wall- gofi a'i ladd. S.R.

[No title]