Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
.AT EIN GOHEBWYP.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYP. Yr ydym yn ddiolchgar, yn wir, yn ddiolchgar iawn, am eich cynorthwyon rhaid i ni, ar yr un pryd, erfyn am eichcydymdeimlad. Nid hawdd dirnad ein trafferth a'n gofid weithiau, yn ngbanol y cronfeydd sydd yma o adroddiadau ac erthyglau ag y methasom gael lie iddynt y misoedd di- weddaf. Dychwelwyd yma, rywfla yn ol, sypyn- au mawrion o swyddfa y Bala, ag oeddid wedi wasgu o'r neilldu. Yn eu mysg yr oedd dros bump ar hugain o "Nodiadau gan y Gol," ar destynau ymarferol o dipyn o ddyddordeb cyff- redinol. Yr oedd ganddo dros bump ar hugain o ysgrifau eraill wedi cael eu troi o'r neilldu i'w fasged fach gartref, er gallu rhoddi lie i lithoedd gohebwyr ag oeddyut wedi ysgrifenu i'r un cyf- eiriadau. Pe buasai haner cant o ysgrifau rhyw 0hebydd wedi cael eu troi or neilldu felly, buasai yn dramgwydd anfaddeuadwy j ond yr oedd yn gweddu i'r Golygydd ddyoddef yn ddystaw. Ein cais, gan hyny, ydyw ar i'n gohebwyr caredig ofalu am i'w hadroddiadau am eu gwleddoedd adloniadol a'u cyngherddau a'u cystadleuon fod mor gryno a chynhwysfawr ag y medrant eu gwneud. Hyderwn y ceir drwy hyny Ie i rai o'r ysgrifau buddiol ydys hyd yma heb gyhoeddi. Drwy ein bod wedi colli mis lonawr, y mae bron yn rhy ddiweddar i gyhoeddi yr adroddiadauam Wyliau y Nadolig a'r Calah. Y mac'n bryd bellach i'n cyfeillion barotoi ar gyfer Gwyl Dewi, Gwyl Fair, a Gwyl y Pasg ond gobeithio y cofia cin gohebwyr y bydd yn well genym gael gormod o ddefuyddiau na rhgfdch. At tin Dnsbarthwgr.—Y mae llwyddiant y CELT yn4icr o droi i raddau mawr ar eich ffyddlondeb chwi. Od oes rhyw anghywirdeb yn ein dull o gyfarwyddo ac anion eich sypyn, anfonwcii air ar unwaith i'r Argraffydd. At ein Derby nwyr.—Gwnewch brawf am ychydig flsoedd o argraffwaith swyddfa newydd y CELT. Cewch weled y bydd yn o hardd. Ni bydd ceiniog yr wythnos ond aberth bychan iawn i chwi am yr amrywiaeth a gewch ar ddalenau y CELT. Cafwyd trafferth nid bychan er gallu trefnu y swyddfa newydd. Y mae mewn lie cyfleus iawn yn nghanol caer ddinas Arfop. Yr ydym yn teimlo yn galonog ynawr fod genym argraffydd o chwaeth, a medr, ac ymroad.. Cawsom siom- edigaeth mewn dwy swyddfa, a hyny achosodd yr oediadau. Y mae y swyddfa newydd yn awr yn barod, a bydd y rhifyn nesaf allan Ionawr 30ain, a cheir ynddo ysgrifau adeiladol ar wasgfeuon y tymor yma, ar werth mawr cynildeb a dirwest, ar helyntion y brifddinas, ac ar elfenau pwysfawr cynulleidfaoliaeth, ac ar amrvw o faterion yr adeg bresenol. Byddwn yn ddiolchgar iawn am gef- nogaeth a chymorth ein holl gyfeillion. GOL. Conway, N. W., Ion. 21, 1879.
SPECIAL' NOTICE.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
SPECIAL' NOTICE. Revised Scale of Charges for Advertise- Z,3 ments in the "Celt" until further notice. TRADE ADVERTISEMENTS, One Four Seven Ins. Ins. Ins. s. d. s. d. s. d. s. d. s. d. s. d. One Column 7 0 25 0 40 0 Half „ 4 0 14 0 21 0 Quarter „ 2 6 8 8 ,12 10 ADVERTISEMENTS FOR LONGER PERIODS BY SPECIAL TERMS. GENERAL ADVERTISEMENTS: Situations Wanted Concerts „ Vacant Eisteddfodau Apartments "Wanted Sales by Auction, &c., &c „ To Let as follows:- One Insertion, per line 4d. Four Insertions, „ 3d. Seven Insertions, „ 2Jd. Longer periods by special agreement. The above prices are all for prepaid Advertise* ments, 5 per cent. added for credit. P.O.O. and Cheques payable to A. DRWFHSU) at Carnarvon.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
TELERAU Y CELT." 1 drwy'r Post am chwarter 0 18 2 eto eto 0 3 0 3 eto eto 0 4 0 4eto eto 0 4 6 Rhoddir elw yn ol 3c o bob swllt am nuer uwch- law 4, ond nis gallwn ganiatau hyny os bydd y parceli yn myned drwy'r post, am y bydd y clud- iad yn ymyl dimai yr un. Erfyniwn ar ein Dos-, barthwyr i anfon atom y cyfle cyntaf i'n hysbysu y ffordd'rataf i anfon y parceli. Y taliadau i dd'od i law bob 3 Telerau i America 2g yr un yn cynwys y cludiad. iggT D.S.—Sylwer yd fanwl ar yr uchod. B.
GWASGFEUON TLODI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GWASGFEUON TLODI. « Dyna bwne pwysicaf yr adeg dy wyll yma. Dichon na bu yn nghof neb byw, diymach ewynion drwy'r wlad oherwydd gwasgfeuon angen nag sydd ynddi yn bresenol. Y mae cwynion o'r un natur wedi bod yn ddiweddar mewn llawer o hen wledydd y byd, ac y mae lie i ofni na ddarfyddant ar unwaith. Dichon mai gweriniaeth fawr lsf rainc ydyw y ryddaf, ar hyn o bryd, oddiwrth y fath wasgfeu- on. Coronir eu cyd-egniadau tangnef- eddgar yno a ffyniant ac a llawnder, a dylai gwledydd eraill astudio y gwersi pwysfawr ellirddysgu oddiwrthlwyddiant llydan gweriniaeth fawr Ffraine. Gobeithi,o y parhant i gydweithio yn heddychgar. Coronir hefyd lafur ac ymroad tylwythau gwahanol genhedloedd yr TJnol Daleithau a'r rhan>fwyaf o daleithau ieuaine eraill ylbyd, a llawnder o angenrheidiau bywyd. Y mae pob dosfefcrth o'r preswylwyr yn cael eu digon ond y mae miloedd o deu- luoedd hen wlad anwyl ein genedigaeth yn awr dan eu gwasgfeuon mewn tlodi ac angen. Byddai yn deg ac yn ddoeth i ni geisio chwilio yn bwyllog— BETH A ACHOSODD HYN ? Pe yr holid ni yn nghylch yr achosiQn o hyn, ein hateb a fyddai o'r ystyr a ganlyn:—Llogau dyledion tryinion hen ryfeloedd beichiau gorthrymus ein sef- ydliadau milwraidd presenol hoffder llawer i geisio cadw ysbryd rhyfel yn fyw drwy U son" am ryfeloedd segur-dal- ionblynyddol epil uchelfrydig hengadfrid- ogion; difiyg cydweithgarwch rhydd a gwladgar croes-bleidiau politicaidd Prydfiin Fawr yn rhy fath o'r haner i roddi He a gwaith a lluniaeth i'r plant a enir ynddi; gormod o ddwylaw yn ym- roddi i rai galwedigaethau, megys codi glo, hollti llechi, gweithio haiarn a mwn- au eraill, naddu' coed, nyddu, a gweu, a gwnio defnyddiau dillad; dichellion rhai o reolwyr y farchnad arian addaw llogau uchel am fenthyg miloedd ereyfiawni cynlluniau gogoneddus o enillfawr draw draw yn y niwi ysigo.drwy hyny nerth- oedd a nychu llwyddiant ariandai a gweithfaoedd anrliydeddus, a gonest, a buddiol; gwneuthuriad cynyrchion a p nwyddau Prydeinig yn cael ei waethygu trwy fod cynyrchion cyfoethog amryw. iaethol tiroedd a gweithfaoedd gwledydd tramor yn eu. gorbwyso yn y farchnad. Dyna rai or prif achosion, a dylid enwi un achos arall, teilwng o ystyriaeth ddi- frifolaf y rhai sydd yn ddioddef, sel. Gwastraff, Gwastrajf, Gwastraff. Gwastraff teulu y gweithiwr a gwastraff teulu y goruchwyliwr, a gwastraff teulu y meistr. Y mae llawer gweithiwr yn enwog am wneyd cyfrifon, ac y mae hyny i'w ganmol; ond dichon nad edrychodd erioed drwy ei gyfrifon ei hun a'i deulu drwy yr ugain mlynedd diweddaf. Gall gyfrif pa nifer o lechi geir yn y talp pellaf or Graig Fawr, a beth fydd y draul o'u cludo i'r ystorfa, pa faint o ariau geir am danynt yn y farchnad. beth fydd y draul o'u cludo i'r ddinas, ao felly pa faint o gyflog ddylid gael am eu codi a'u hollti. Peth addysgiadol a hyfryd ydyw clywed gweithiwr craff meddylgar yn esbonio eyfrifon felly ond y mae dosbarth arall o gyfrifon ag y byddai yn dda iddo weithi au eu hesbonio —o leiaf iddo ei hun—sef, pa faint o arian y mae wedi anadlu o'r awyr mewn mwg afiach p(pfaint o arian a lyncodd neu a lyncwyd yn ei dy mewn alcohol; pa faint o asgyrn breision a diaflwyd i'r lludw. y rhai fuasent yn gwneyd potes blasus, iachus, a maethlawn iddo ef a'i v denIn; pa faint o'r ftamt drutaf a fwyt- asant, pan y gallasent gael bacon iach a rhataeh bob yn ail; pa faint o de ac o goffi a yfasant ryw deirgwaith yn y dydd pan y gallasent gael lluniaeth m^ethloft-; ach er cryfhad eu cyfansoddiad; pa fajnt a roddwyd am y gwlan meinaf a'r llin a'r brethyn goreu at wneyd dillad, pan y buasai rhai brafiach yn fwy rhadlawn a pharhaol, ao yn 11awn mor hardd a chysuruB; pa faint o amser gwerthfawr a gollwyd mewn segurdod niweidiol ar yr aelwyd neu yn y gwely, neu "mewn rhodiana o dy i dy, ac o'r ty i'r dref, heb ddim neges gwerth yr enw, pan y gallesid cael digon o waith buddiol i'r corff neu i'r meddwl. Byddai yn addysgiadol i,, wneuthur cyfrif weithiau o'r colledioti a fu drwy wastraff o'r fath yn yr ugain mlynedd diweddaf. A dylai pendefigion hefyd ystyried fod mwyniant a rhodres eu gwleddoedd a'u difyr-gampau, gyda'u own, alu nieirch, a'u game, wedi bod yn ddrudfawr a niweidiol; a'u bob drwy y fath wastraff wedi llygru rhai o'u deiliaid,* ac wedi dirwasgu feti deiliaid ereill, sef y rhai ffyddlonaf iddydt; ac fel effaith o hyny, wedi colledu a drygu eu gwlad; adylentgydymroiarunwaithinewideu • ffordd er cefnogi eu gweithwyr a chyn- orthwyo eu tenantiaid, neu ynte bydd raid i laweroedd o amaethwyr goreu Cymrli suddo dan y tonau. Ond da genym allu sylwi fod gwersi gwerthfawr i'w dysgu, a bod cysur cryf i'w dynu o'r cyfyngderau trymaf:—1.