Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
SEFYLL ALLAN YN SEGUR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SEFYLL ALLAN YN SEGUR. Pan y mae gwasgfeuon ein gwlad yn lluos- ogi ac yn trymhau ar bob Haw,, a phan y mae prisiau pobpeth yn gostwng, y mae yn ofid i ni ddarllen y naill ddiwrnod ar ol y Hall fod "niferoedd Uuosog o bron bob dosbarth o'n gweithwyr yn cydymroi i sefyll allan i wario eu hamser gwerthfawr mewn segurdod, yn lie plygu i ostwng dim ar eu cyflogau, heb ystyr- ied fod y fath annhegwch annoeth yn galled i'w teuluoedd, yn gystal ag yn niweidiol i'w gwlad. Ni ddywedwn eu bod yn gwrthryfela yn erbyn troion Rhagluniaeth fawr y nef, ond dywedwn eu bod yn ceisio sefyll yn erbyn eu holwyaion fel y maent yn troi yn y dyddiau presenol, I
COLEG ANNIBYNOL Y BALA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
COLEG ANNIBYNOL Y BALA. Mae y cylchlythyr canlynol yn cael ei anfon oddiamgylch gan y Parch. David Roberts, gwein- idog yr Annibynwyr yn Rhyl, hen fyfyriwr o Goleg y Bala, a hen aelod e eglwys Ty'nybont, lie y bu Mr. John Peter a minau am flynyddau yn cyd weinidogaethu— "Yr ydym ni, y rhai y mae ein henwau isod, y rhai a ym- sefydlasom yn y gwahanol eglwysi o Goleg y Bala yn absenoldeb y Parch. M. D. Jones, yn teimlo ei bod yn ddyledswydd orphwysedig arnom tuag at goffadwriaeth y marw-cotradwriaeth tin oedd yu anwyl genym oil, ac yn wir, tuag atom ein liunain hefyd, wneyd gwrthdystiad, mewn modd eylioeddus, yn erbyn awgrymiadau y Parch. M. D. Jones, mewn llythyr o'i eiddo yn y 'Celt' am Hydref ISfed, 1STS. Yr ydym m, gan liyny, yn tystio, ac yn eyd-dy stio, na wenwynwyd ein meddyliau ni, ac na ddylanwadwyd arnom gan na ffafryn y clie" na neb arall, i droi yn erbyn y Parch. At. D. Jones, ac o blaid y clic. Yr ydym. liefyd, yn cyd-dystio yn y modd cadarnaf, na chlywodd neb o honom ni erioed, un gair, yn ddirgel nae yn gylioeddus, gan y diweddar Barch. J. Peter, a thuedd ynddo mewn unrhyw fodd i fyclianu nac i iselu y Parch, M. D. Jones yn ein golwg. Nid oes genym fwriad i ddrygu neb trwy hyn, eithr yn unig amddiffyn cymeriad un sydd yn fud, a'r hwn y gwnaethein gam pe yn tewi a. son." Arwyddwyd gan, Un gwyn sydd genyf yn erbyn y gwrth-dystiad uchod yw, nad yw yn nodi yn eglur yn erbyn pa ymadrodd o'm heiddo y mae yn gwrtli-dystio. Dywedir mai yn erbyn awgrymiadau yn y 'Celt,' Hydref 18fed, 1878 ond dylasid dweyd yn bendant beth oedd yr awgrymiadau a gondemnid. Mae galw ar ddynion i arwyddo ardystiad yn erbyn awgrymiad yn y Celt,' Hydref 18fed, 1878," heb nodi allan beth yw'r cyfryw awgrym- iadau, yr un peth a phe galwn inau ar yr un bob! i wrth-dystio yn erbyn awgrymiadau Mr. John Owen, Llanberis (brawd-yn-nghyfraith Mr. J. Peter) Lumley, Bwlchyffridd Parry, Bethesda; Owen, Liverpool, ac eraill, heb nodi beth oedd y cyfryw awgrymiadau, Deallaf fod rhai eisoes wedi arwyddo y gwrth-dystiad uchod, ac y mae hyn yn dangos parodrwydd partiol, a brys mawr i ymosod ar M. D. Jones. Pe'r arwyddai dyn gondemniad ar lysieuyn mewn cae i elyn, heb nodi pa un oedd y llysieuyn, a'r man yr oedd yn tyfu dangosai hyn ragfarn gelynol yn y dyn a arwyddai gyda pharodrwydd gondemniad mor ddihwynt ac aneglur. Sylwer, ni ddywedir fod M. D. Jones wedi dweyd dim anghywir, na gwneyd un gosodiad annheg, ond fod rliyw awgrymiadau wedi eu gwneyd yn erbyn y rhai y gwahoddir gwrth- dystiad. Yn lied gyffredin, pcthav. pur niwlog a phur ddiafael yw awgrymiadau, ac y mae'n gofyn dynion craff a gafaelgar, a mwy medrus na chyffredin i'w trin, ac yn ami iawn nid yw aw. grymiadau ond yr esboniad y mae efe yn dewis ei roddi ar ysgrif ei wrthwynebydd, neu y dull y mae efe yn dewis deall dywediad ei elyn. Dichon pe ceid gwybod beth yw'r awgrymiadau sydd yn y Celt,' Hydref 18fed, 1878, ag sydd yn blino Mr. David Roberts, a'i gyfeillion, nad ydynt yn y Celt' o gwbl, ac mai ffrwyth dychymyg a golygon afiach Mr. D. Roberts ydynt yn hojlol. Cafodd Mr. Roberts ei godi, fel fy hunan, yn agos i droed yr Arenig, bro creigiau serth a mynyddau uchel, gwlad y gwlaw, y corsydd, y mawnogydd, a'r migwyn a buaswn yn dysgwyl ei fod erbyn hyn wedi magu digon o farf i beidio gwahodd ei hen gydfyfyrwyr i redeg ar Ond os gwir y chwedl, deallaf fod gan Mr. Roberts gwmni mentrus a ffyrnig yn rhedeg gydag ef drwy weunydd corsiog yr awgrymiadau dychmygol, i ddal canwyll corff eu breuddwydion eu liunain, a byddai yn dda iddynt ystyried fod siglenydd difrifol hyd y tir a deithiant mewn cymaint tywyllwch, ac y mae peryglon iddynt soddi mewn pyllau, a'u gorchuddio a Uaid nad all, yr holl afonydd a'r llynoedd a welir oddiar ten yr Arenig mo'u golchi ymaith. Bachgen gwirion (chwedl y Deheuwyr), neu ddyn diniwed yw Mr. David Roberts, o ran dim sydd ynddo ei hunan. Cafodd ei fagu gyda hen saintesau Ty'ny- bont, pan yn nghymydogaeth y can' mlwydd oed, a threuliodd yr iigain inlynedd cyntaf o'i einioes yn was ufudd i hen wragedd nad oes neb yn amheu eu bod yn y nefoedd. Dyn felly oedd Timotheus, ond bu Timotheus mor ffodus a chael Paul Apostol Mawr y Cenhedloedd i'w arwain wed'yn. Pe buasai Timotlieus yn eydoesi a brenhines Seba ac eisieu marchwas, neu bed was (footman) ar ei thaith tua Jerusalem i weled doethineb Solomon, ni chawsai neb mwy ufudd na Timotheus, am ei fod wedi cl dori i mewn i fod yn was y merched gan ei nain Lois a'i fam Eunice; Mae Mr. David Roberts, Rhyl, wedi ei dori i fewn yn rhagorol fel gwas y gwragedd; ond. yr wyf yn ofni wrth weled ei wrthdystiad, nad yw wedi syrthio i gystal dwy- law a Timothens wedy'n. Beth pe buasai Tim. otheus ar ol iddo dreulio ei freiptwasiaeth (apprenticeship) yn ei wraig-wasanaeth, yn syrthio i ddwylaw, ac o dan arweiniad Jezebel, gwraig Herod, neu y ddewines o Endor, buasai wedi ei andwyo yn ol pob tqbygolrwydd. Neu pe cawsai Aliad, neu Jereboam, fab Nebat, yr hwna wnaeti Israel bechu, afael arno, neu ddyn fel Simon y swynwr, nen Diotracpes, amtli wasanaeth i grefydd na gan rai o orchestion barcutanog yr Aran. Acofnafmaidyna yw antfawd fawr Mr, D. Roberts fel y gallwn gasglu wrth y gwrth* dystiad uchod, y mae efe wedi syrthio i ddwylaw drwg, ac y mae'n arnlwg hoMol ei fod yn cyd- weithio a plaid sydd wedi bod, ac yn parli au yn brif elynion Coleg y Bala, ac yn hollol ddiachos y mae efe wedi troi i ymoeod ar ei hen weinidog M. D. Jones, ac yn gwahodd cynifer ag a fedr o'i hen gydfyfyrwyr i daro ya erhyn eu hen atluaw gyda'r Glymblaid. Pe buasai M. D. Jones wedi gwneyd rywbeth, neu ddyweyd ryw air yn ystod y ddadl a fuasai o le, yrjwyf yn gofyn paham y nodir allan yr un trosedd hwn o eiddo M. D. Jones i wrthdystio yn ei erbyn, a gadael holl ^^isdSaS^warthus y Giymbiaid heb wrthdystio dim yn eu herbyn ? Dyna'r Ffeniaeth fwyaf beiddgar yn cael ei dangos at y Coleg, ac at yr athrawon: ond yn benaf at M. D. Jones, a dyma Mr. David Roberts, Rhyl, nid yn unig wedi goddef y cyfan yn ddirwgnach, ond wedi dyfod i'r pwyllgorau i gynorthwyo y Glymblaid yn eu hymosodiadau, ac yn awr wedi meddwl ei fod wedi cael gwall yn un ysgrif i M. D. Jones, ac yn anfon cylch-lythyr i alw ei gydfyfyrwyr i wrthdystio yn ei herbyn. Os oes gwrthdystio i fod, mae gOnestrwydd a chwareu teg yn galw am wrthdystio yn erbyn pob anghyflawnder yn y ddwy ochr yn hollol ddi. bartiaeth. Mae Mr. David Roberts, a phawb a arwyddant y gwrthdystiad yn dangos mai nid carwyr diduedd y gwirionedd ydynt, ond mai pobl plaid ydynt yn hollol, a hono yn blaid elynol y Coleg. Mae'n ddigon eglur. mai md gwrthdystiaid yn unig yw'n papuryn uchod, ond datganiad o ym. lyniad wrth y diweddar Mr. John Peter, yn ngwyneb yr oil a wnaeth yn nglyn a'r Coieg, er
O'M HAWYREN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
eiddo ei Mawrhydi. Paham, nis gwn; y mae yn groes i'r arferiad cyffredinol, ac y mae yn sicr genym fod gan Lord Beacohsfield rhyw amcan neillduol mewn golwg ar hyn. Diameu genym ei fod yn gweled bydd agor y senedd heb gomitio ei hun am yr eisteddiad a datganiad araeth y Frenhines yn rhoddi iddo fwy o ssope a rhyddid, Y mae'r Cabinett wedi hod wrthi yn ddiwyd y dyddiau a basiodd, ond betk ydynt y prif fesnran sydd i'w dwyn ger yr eisteddiad presenol sydd anhysbys. Betli a wneir o gwestiwn yr UNIVERSITY BABYDDOL yn yr Iwerddon ? A ddygir y mater ger bron ai na wneir ? ni a gawn weled. Beth am y Brif-ysgol yn Aberystwyth, a ddaw y mater yma gerbron eleni? Credu yr wyf y dy]ai ddod. Ni ddylem ar un cyfrif adael i'r peth farw. Dylem guro hyd oni wrandewir arnom, ac y caniateir eia cais. Cwya gyffredinol wyf yn glywed fod prisiau pethau yn gostwng; ond mi wn am un peth nad yw yn gostwng, pris teithio gyda'r gerbydres. A glywodd rhywun fod rliyw gwmpeini yn rhywle wedi gostwng pris cludiad am fod cyflogau dynion yn gostwng. Ni chlywais i am un, yr wyf yn meddwl y dylid cael hyn. Myfi a wn am railway-neu ddwy ac ydynt o fewn y ddwy flynedd diweddaf wedi codi pris cludiad. Yr wyf yn meddwl mai teg fyddai i'r railway deimlo yn ogystal a rhywbeth arall pan mae sefyllfa pethaumor isel yn eu mysg. Beth yw barn darllenwyr y Celt' am y mater. Hynyna y tro hyn, y mae'r tywydd yn erwin ofnadwy. Y mae hi yn rhy oer i wneyd dim ond eistedd wrth y tan. Gobeithio y try'r tywydd heb fod yn faith.