Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Y FFORDD I GYRAEDD Y NOD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y FFORDD I GYRAEDD Y NOD. Bwriadwn yn yr ysgrif hon nocli ychydig o gyfarwyddiadau i'r dyn ieuanc. Mae gan bob dyn ieuanc ryw nod i gyraedd ato. Ein cyngor cyntaf yw y dylai pob dyn ieuanc ymaflyd yn yr alwedigaeth, nea y swydd bono y mae efe yn teimlo y cymhelliad cryfaf yn ei fynwes tuag ati. 013 myn ragori mewn unrhyw beth, rhaid fod ganddo serch cryf at y peth hwnw. Dechreu yn ieuanc. Yn y cyfnod hwn y mae pob mantais yn ngafael dyn-y cof yn fywiog, yr ewyllys yn hyblyg, y pen- derfyniad yn gryf. Mae llawer drws yn caa wedi yr elo dyn unwaith i dipyn 0 oedran, oedd yn agored pan oedd ef yn ieuano. A pheth arall, mae nifer luosog o enwogion y ddaear yn teimlo er iddynt ddeohreu yn ieuane eu bod yn gorfod ymadael a'r byd cyn haner gwneyd y gwaith a fwriadasant, ac os na dechreuwn yp ieuenc awn o'r byd cyn chwarter gwneyd ein gwaith. Mai ar dir Uafur y deuwn yn mlaen. There is no royal road to knowledge." Yr un tfordd i bavb—mab y brenin fel mab y cardotyn. Yr oedd Napoleon Bonaparte wedi gosod Alexander Fawr yn nod i gyrchu ato felly nid oedd yn can- iatau ond pedair awr o amser iddo ei hun at gysgu. Dyua Adrian y II. o Utrecht; bachgen tlawd oedd ef arydechreu,yr oedd yn rhy dlawd i geisio ganwyll ddimai i ddarllen ei lyfrau y nos, ac oblegid hyuy yn cymeryd ei lyfr yn ei law ac yn ei ddarllen yn ngoleuni y lampau oedd ar byd y 'stfrydoedd, ac felly cyrhaeddodd i fod ynysgelhaig mwyaf ei oes, acynun o'r rhai goreu a esgynodd i gadair Pedr erioed Mae y dynionmwyaf a welodd y byd wedi d'od i fyny ar dir llafur caled-yu studio fel rbeol am 5 y boreu. Dyfalbarhad. Nid dal ati i lafurio am dymor, a throilio rhan fawr o dymor arall mown segurdod. Nid dyna'r ffordd, ond dyfalbarhau. Nid oes dim rhwystrau saif o flaen dyialbarhad, Perseverance sur- mounts difficulties." Clywais am ddyn yn cerdded ar hyd ffordd, a phan oedd gerllaw rhyw dy gwelai wraig yn rhwiio y C) y z., poker mewn careg nadd. Gofynodd ydyn iddi, beth oedd hi yn ei wneyd ? Yr wyf yn meddwl am wneyd j polcer yma yn nodwydd, meddai hithau. 0! wel, meddai y dyn withi yn ol. Ni waeth i chwi ei rhoddi hi i fyny yn fuan nag yn hwyr, o biegid ni ddeuwch byth i ben. 0 deuaf, meddai hithau — dyfalbarhad. Trwy ddyfalbarhad aiff dyn. drwy y rhwystrau mwnaf, dringa fynyddoedd o ia, croesa foroedd a rew, ac aiff drwy greigiau o ad- amant. Dymuno i ereill dd'od i fyny gyda ni. Mae rhai i'w cael nad ydynt am i neb fyned i ben y bryn ond hwy eu liunain. Nid ydynt am i neb fod yn rivals iddynt. Mae eisieu i ni ddymuno i'n gilydd fel yr oedd Moses yn dymuno i Hobab. Pwy bynag ni ofala am neb onb efe eiliun, mae hwnw yn sicr o fod yn golledwr yn y pen draw. Mae cryn addysg weithiau i'w gael yn yr hen Mythologies." Yr oedd gan Jupiter unwaith un o'i addolwyr yn rhagori cryn lawer ar ereill mewn Mefos- iWD, a phenderfynodd ei wobrwyo am ei dduwioldeb, ac a addawodd yn wobr iddo unrhyw beth a ewyllysiai.' Amlygodd yr addolwr neillduol hwn ei ddymuniad, sef y buasai yn dda ganddo gael rheolaeth y tywydd i'w feddiant. Yn y fan fe'i rkoddwyd iddo a dyna ef ar unwaith yn cyfranu y gwlith a'r gwlaw, y rhew a'r eira, a phelydr yr haul ar ei feusydd ei hun, yn ol fe] yr oeddyncredu fod natur y,soil yn galw am hyny. Yn mhen y flwyddyn pan oedd yn disgwyl cnwd anghyffredin. Er ei fawr syndod yr oedd yn anrhaethol lai na'i gymydog- ion. Tra yr oedd meusydd ei gymy dog-, ion a'u cnydau torcithiog yn ymdori o flaen awelon balmaidd boreuddydd haf, yr oedd ei feusydd ef fel pe buasant wedi cael eu taro a blast. Ar hyn dyna ef yn ol at Jupiter, ac yn dymuno ar fyrder gymeiyd rheolaeth y tywydd i'w feddiant ei bun onide y buasai efe wedi andwyo ei hun erbyn y flwyddyn wed'yn. Nid oedd y dyn hwn yn gofalu am feusydd neb ond efe ei hun, ond ni a welwn yn amlwg mai colled fu hyny iddo yn y pen draw. Duwioldeb. Tybiwsh am ddau fardd yn gyfartal o ran eu galluoedd meddyliol, yr hwn sydd dduwiol ohonynt yw y mwy- af. Dau wladweinydd dtachefn yn debyg o ran eu cyraeddiadau, yr hwn sydd dduwiol ohonynt sydd yn cyraedd y bri mwyaf parhaol. Meddyliwn am ddau ar- lunydd yn gyfaital oran eu talentau, ond y duwiol sydd yn cymeryd ei safle uchaf mewn cymdeithas. Dyna ddau fasnachwr yn gyfaytal o ran gallu i drin masnch, yr hwn sydd yn dduwiol sydd yn cyraed4 y Uwyddiant sicraf yn y pen draw. Yr oedd llawer o Galdeaid yn gyfartal o ran talent a chyfoeth i Abraham, ond ni chyr- aeddodd yr un ohonynt i'r fath ddylanwud ag ef-yn ddylanwad ag y teimlir oddi- wrtho drwy holl oesau y ddaear. Yr oedd yn yr Aifft lawer o ddysgedigion hebltwi v Joseph, ond dim uu ohonynt mor ddylan- wadol ag ef. Bu llawer o frenhinoedd mawrion yn y Dvvyrain heblaw Dafydd, ond ni chyrbaeddodd neb ohonynt y fath ddyrchafiad ag 6f. Bu Hawer o ddoethion yn Babilon heblaw Daniel, ond ni chyr- odd neb ohonynt i'r fath enwogrwydd ag ef. Yr oedd llawer o ysgolheigion fel Paul, yn ei a ser ef. wedi eu dwyn i fyny y wrtli draed Gamaliel fel yntau, ond pwy gyrhaeddodd i beh Alp mawredd yn debyg i Paul ? Bu gan y Saxgaaiaid lawer o frenhinoedd a garent eu gwlad fe. Alfred ond ni ddaeth un ohonynt mor fawr ag ef, enillodd y teitio "Alfred the Great." Mae llawer wedi bodyn olrhain i ddirgel- edigaethau natur, fel Syr Isaao Newton, ond nid oes neb mor ddidoledig ag ef. Mae llawer e filwyr wedi enill buddugoliaeth- ail mor, ysblenydd, ao anrhydedd mor fawr • a Washington, ond nid oes neb y sillebir ei enw gyda 'r fath anwyldeb gan genedt mor fawr ag ef. Yr oedd llawer o wlad- weinwyr enwog yn Mhrydain yn nechreu y ganrif bresenol, ond ni bu neb ohonynt farw mor boblogaidd ac anrhydeddns a Wilberforce, -teitluiodd* i'r India i gael golwg ar sefyllfa y caethion yno, gwariodd lawer o'i eiddio, dadleuodd yn gynes yn Senedd Prydain drostynt. Cyrhaeddodd ei amcan o'r diwedd i gael gollyngdod iddynt. Yr ugain miliwn pnnnau mwyaf ardderchog wariodd Prydain erioed oodd yn yr achos hwn. Pan bydd Lloagr yn ancient history, a'i hanes yn cael ei ddar- llen gan drigolion Affrica ao Asia, yn mhen deng mil o flynyddoedd, bydd yr act hon a gofnodir yn y llyfrau fel un o'r deddfau a basiodd, yn cael edrych arni yn fendigedig y pryd hwnw. Gobeithio mai dymuniad pob Cymroywy penill caulyn- ol o Gwynion Yamba y Gaethes Ddu:" Wrth farw, fy ngweddl daer olaf a fydd, I'r caeth o'r cadwynau gael myned yn rhydd; Pa Gristion, heb deimlo ei gal on mewn aeth, All gofio du lafur ei frodyr sy'n gaeth." Cofled ein cyfeillion ieuainc os am dd'od yn mlaen mai duwioldeb sydd i fod yn sylfaen pobpeth ac yn goron ar ben y cwbl. MABLOK.