Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

HANES PLWYF CELYN'N.

GWARIO.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWARIO. GAN Y PARCH. C. H. SPURGEON. Y mae yn hawddach enill arian na'u hiawn wario: gall pot) menyw dynu tatws, ond nis gall un o bob deg o honynt eu coginio. Nid drwy yr hyn a dderbyniant y mae dynion yn dyfod yn gyfoetbog, ond trwy yr hyn a gynilant. Y mae llawer o ddynion sydd yn meddu arian yn brin iawn o synwyr; yr hyn a gasgl- odd eu tad a'r rhaca, a daflant ymaith a'r rhaw. Ar ol y cybydd yn fynych daw yr afradlon, a dywed dynion am dano, "Nid oedd ei hen dad yngyfailli neb ond iddo ei bun; ac aid yw ei fab yn elyn i neb ond iddo ei bun." Y ffaith yw, aeth yr hen ddyn i ufferr. ar hyd y ffordd deneu, a phenderfyn- odd ei fab fyned yno ar hyd y ffordd fras. "Gall cybydd ac oferddyn Gydrwbio gefn yn nghefa, Mae'r ddau yn trafod arian, Ond nid yw'r ddau 'run drefn; Mae'r naill yn cloi ei hunan, Yn nghyda'i aur i gyd, A'r llall yn llyncu'i hunatil- Pe gallai, llyncai'r byd." Gan gynted ag y derbynia yr afradlawn ei ystad, y mae yn myned oddiwrtbo, megys pwys o ynoenyn i enau milgi. Ni feddylia am gynilo yn ngenan y cwd, ond bwriada ddechreu gwneud hyny yn y gwaelod. Echwyna arian ar log uchel gan y Meistri Rob'em, Cheat'em, a Sall'em-up, Be wedi myned i'r dim, tafla yr holl fai ar > c y wyr, neu yr amseroedd drwg. Nid oes un amser yn dda i afradionwyr dioglyd: pe buasai yn dda iddynt hwy, buasai yn ddrwg i bawb eraill. Paham y mae dynion yn y fath frys i wneud begeriaid o'u bunain, drwy afradloni yr oil a feddant, sydd ddirgelwch i mi. Y mae arian parod yn gywreinbeth hollol i rai personau, ac eto gwariant fel arglwyddi. Boneddwyr heb fodd ydynt, yr hyn sydd debvg iawn i ddyweyd pwdin afalau heb afalau ynddo. Y mae asynod i'w cael heb- law y rhai hyny a phedair troed, a drwg genvf orfod cyfaddef eu bod i'w eael yn mhlith y dosbarth gweithgar, yn ogystal ag yn mhlith boneddwyr gwycb. Y cyfeillion hyny na feddant yr un ystad, ond eu llafur, na theulu i'w gadw ond eu hunain, a wariant yr oil o'u henittiou celyd yn y tafarndy neu ar oferedd. Nid yw dwfr yn Lryru dyn i ddyled, na'u wneud yn glaf, ac eto y rope llawer i'w cael na wyddarit yn iawn pa betb yw ei flas; ond y mae ewrw fel eu cymerir gan lawer un yn ddinystr iddo. Y mae rhai teulooedd mor lion a'r llygod yn y brag ar gyflog fechan, tra y mae eraill mor anedwydd a llygod yn y trap ar gymaint arall o gyflog. Y rhai hyny sydd yn gwisgo yr esgid a wyddant oreu pa le y mae yn gwasgu, oud y mae cynildeb yn beth rhagorol, ac yn gwneud i naw ceiniog fyned yn mhellaeh na swllt. Y mae rhai yn myned i'r siop i brynu, heb feddu mwy o synwyr nag oedd yn ysgwydd- au Samson. Dylai prynwyr iedducanto lygaid, ond y mae rhai heb feddu haner un, ac ni chadwant hwnw yn agored; ond dvna, dywedir pe na buasai ffyliaid yn myned i'r farchnad na werthid y nwyddau gwael. Nid ydynt byth yn cael ceiniogwerth am eu ceiniog, a hyny am eu bod bob amser yn bela am bethau rhad, gan angbofio mai y pethau rhataf yw y pethau druaf, ac nas gall dyn gael gwerth swllt da q bethau gwaeL Pryd y cewch bum' wy am geiniog, y mae pedwar o honynt yn ddrwg. Y mae llawer o ddyn- ion yn hoff o brynu symiau bychain; ac y mae yr hwn a bryno ei luniaeth bob yn geiniogwerth yn cadw teulu dyn arall heblaw ei deulu ei hun. Paham na phrynant ddigon am fis ar unwaitb, pryd y gallent ei gael yn llawer rhatach felly'? Nidyw llawn- der yn flinder. Y maent geiniog yn ddoeth a pbunt yn ffol. Y mae rhai yn prynu pethau nad oes eu hangen arnynt, am eu bod yn meddwl eu bod yn rbad; ond goddefwch i mi ddyweyd wrthynt fod yr hyn a brynant heh ei angen yn ddrud am ffyrling. Y mae gwisgoedd gwych yn gwneud twll mawr yn moddion dyn tylawd. Beth yn enw pob rheswm y mae gwragedd a merched y rhai a lafuriant yn galed am eu cynaliaeth yn ei wneud a gwisgoedd sidanau? Y maent yn debyg i of yn gwisgo arffedog atin. Y mae yn ddigrif gweled ambell