Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

ORICCIETH.

NODION 0 DDINAS MAWDDWY.

iSartitiontaetij.¡

ENGLYNION

BREUDDWYD Y MEDDWYN.

Y LILI.

ILLWYNGWRIL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

o de a bara brith. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan y boneddigesau canlynol:—Mrs. Williams, Hendre; Mrs. Jones, Henblas; Mrs. Jones, Cefn- feusydd; Mrs. Griffiths, Parthygwyddwch; Miss Owen, Gors; Misses Lewis, Prysgae; Mrs. Owens, Station; Mrs. Evans; Mrs. Lloyd; a Mrs. Vaughan. Wedi i bawb gyfranogi hyd ddigon o'r arlwy a ddarparesid, cymerodd rhedegfeydd ac amryw chwareuon diniwed eraill le rhwng y plant. Yn yr hwyr, cynaliwyd arholiad cyhoeddus yn yr ysgoldy, o dan Iywyddiaeth John Jones, Cefn- feusydd. Gan fod hyn ya beth newydd yn yr ardal hon, fel y gallesid ya naturiol dysgwyl, daeth nifer luosog yn nghyd i*wrandaw yr arholiad. Wedi i'r llywydd roddi anerchiad byr a phwrpasol i'r am- gylchiad, galwodd ar yr arholwr at ei waith-Mr. James Davies, C.M., Brithdir. Aeth Mr. Davies trwy ei waith yn ganmoladwy. Arholodd y plant oil—pob dosbarth wrtho ei hun, a hyny mewn gwahanol ganghenau addysg. Yn ystod y cyfar- fod, canodd y plant amryw donau yn hynod swynol, o dan arweiniad Mr. Richards, yr ysgolfeistr. Ar ddiwedd y cyfarfod, rhoddwyd gwobr i bob un o'r plant yn ol eu teilyngdod. Cyflwynwyd v gwobr- wyon gan Mrs. Griffiths, priod y Parch. William Griffiths (A.), Arthog, a Miss Roberts, Friog House. Wedi hyn, cafwyd anerchiad gan Mr. Davies, yn datgan ei foddhad yn fawr yn y plant; ac hefyd, rhoddodd uchel ganmoliaeth i Mr. Richards am ei lafur gyda'r plant. Wedi cael ychydig eiriau oddiwrth Mr. Richards ei hun ar sefyllfa yr ysgol, &c., terfynwyd un o'r cyfarfodydd goreu y bum ynddo erioed.-GwRiLFAB.