Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

TWNEL DAN Y MOR.

CYLOHWYLGERDDOROL HARLECH.

LLANRWST.

MOSTYN.

MARWOLAETH MRS. REES, ABERTAWE.

SWN RHYFEL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

flaen yr ynadon, gwrthodwyd gwrando arno, am nad oedd ganddo yr un tyst Mahometan- aidd o'i blaid-nid eeddynt yn ei goelio, ac nis gallent gredu ei fod yn dweyd y gwir, gan nad oedd yn credu yn y Koran. Ac nid yw Llywodraeth Twrci yn ymddangos fel yn gwneud un ymdrech i geisio gwella sefyllfa pethau yn y taleithiau hyny, a hyny sydd wedi gwneud i'r Tywysog Millan a Thywysog Montenegro i geisio adfer trefn ac iawnder yno eu hunain. Y mae Llywodraeth Prydain wedi gwith- od dweyd yn eglur beth mae am wneud yn y cyfwng hwn; ond y mae wedi boddloni i'r holl ymdrafodaethau yn nglyn a "Nodyn Count Andressey," yr hwn a arwyddodd, a "Nodyn Berlin," yr hwn a wrthododd ar- wyddo, a dyben pob un o'r ddau ydoedd adfer heddwch. Daw yr holl bapyrau, a hyny yn ddioed, o flaen yTy a'r cyhoedd. Ond y mae owestiwn arall llawer pwysicach yn awr sef, Beth yw y cwrs a fwriada ddilyn yn nglyn a'r rhyfel sydd yn awr wedi dechreu? Y mae y wlad yn arswydo rhag ly drych- feddwl i Brydain roddi y cymhorth lleiaf i Twrci Fahometanaidd i barhau i lywodraethu gyda'r fath ddwylawhaiarnaidd a chreulawn; ac yn wir methwn weled pa fodd y gall wneud hyny yn ol y cytundeb y mae ein Llywodr- aeth wedi dweyd ei bod yn ystyried ei hunan yn rhwym iddo; oblegid amddiffyn Twrci rhag ymosodiadau gelynion oddiallan, nea mewn geiriau eglur, i'w hamddiffnn rhag Rwssia, y mae Lloegr, Ffrainc, ac Awstria wedi ym- rwymo, ac nid ymosodiadau oddimewn ei Ymerodraeth ei hun. Yn wir, y mae y cyt- undeb hwnw yn dal y galluoedd yn rhwym i amddiffyn y Tywysogaethau a'r taleithiau rhag gormes y Tyrciaid, fel yr ydym yn methu gweled o dan ba esgus y gall y wlad hon fyned i ymyraeth yn y cweryl hwn, tra y pirhao Rwssia i gadw draw yn gliro hono. Byddai'n iacbad i holl Ewjop, pe llwyddid i sefydlu teyrnas annibynol yn y rbandir hon o Ymerodraeth Twrci; a gobeithiwn y bydd-i Brydain gadw yn mhell o feddwl am ymyr- aeth, oblegid nid ydym eto wedi anghofio rhyfel mawr y Crimea; ac er yr holl golled y pryd hwnw, nid yw Ymerodraeth Twrci yn ddim gwell mewn un ystyr, a phe collid cy- maint o waed eto, a phe gwarid cy naint o arian eto, credwn na byddai wed'yn ond yr un -yn arddangos yr un eiddilwch ac anghy- mwysder i gadw trefn ar ei deiliaid, yr un culni a pbenboetbni cael-grefyddol, ac yncael ei meddianu gan yr un pydredd i'w gwraidd.