Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

AT DAFYDD FFOWC.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AT DAFYDD FFOWC. 01, Station Road, Barmouth, Nr. Cutiau. GYFATLL ANWTL,— (Ys dywedai Tanymarian), diau mai gyda syndod yr edrychi pan ddealli mai o'r Bermo yr wyf yn apad dy lythyr;—dylaswn fod wedi gwneud yn gynt; ac er fy mod yma er's tridiau ac 8nos bellach, 'roeddwn yn methu'n lana chael fy meddwl ata'i gimin a sgwenu line yn nghanol rilirimawr y dy- eithriaid a'r byddigions sydd yma o wahaaol leoedd oddiyrna i Landderfel ae i Feddgelert, ac o arnryw gymoedd. ac o fan ardaloedd eraill; ond gan fod y mwyafrif o'r rhai sydd yn lletya yn yr un ty a mi wedi myn'd i ryw circus fawr sydd yn agos i'r station yma, 'rwy'n dysgwyl cael tipyn o seioiant i geisio sgwenu ychydig leiniau atat. Da genyf ddeall i ti joyo dy hun mor dda yn nghymanfa ganu y Bala,-mi feddyliwa i chwi gael cymanfa ardderchog (chwedl Sion William yma). Ond prin yr wyf yn credu fod yr hen gyfaill cerddgar a don- iol gan Derfel yn meddwl priodi tipyn ar ryw Female friend, ac yn bwriadu codi siop i werthu englynion beddargraff, a chaneuon cenedlaethol Patagonia. Wel ahai! beth nesaf, tybed? Da iawn genyf ddeall hefyd fod 'Llew' mor hapus, a'th fod tithau yn iach,—yn wir, wel di. digon drwg wyf fi, ar y cyfan,—mae yr hen gric yma yn fy mhoeni yn arw; ond 'rwy'n credu fy mod gwrs byd yn well nag oeddwn. Ni fuaswn yn meddwl am dd'od yma oni b'ai fod cymaint y ffordd acw yn son am y Bermo fellle iach a chyrchfa pobloedd; ac wedi i'r hogyn Twm acw, a Sion William yr Allt hir gethru arnaf, pen- derfynais fyned, a daeth S. Williams gyda mi, gan nad yw yntau yn teimlo yn haner da; ac yr ydym yn joyo ein hunain yn first class-rhaid i ti faddeu i mi am usio eymaint o eiriau y byddigions yma. Yr wyf yn llygru'm Cymraeg yn arw, wel di. Mae S. William yn waeth naminau, os yr un. Mi synet pe gwelet ti yr olwg d ioniol fydd arno ni ein dau yn myn'd am woe i'r Station, ac yno yn eisteld, gan gymeryd arnom ddarllea y Murcri neu'r Dely News; ond waetli i ti p'run, wyrpobl ddiarth ddim nad ydan ni y ddau ddyn goreu allan-dyna be'di'r biwti mewn lie diarth, y gellir dy gamgymeryd di am dy well; ac yn wir i ti, yr ydan ni yn Hawer amgenach na haner y rhai sydd yma, a llawer mwy o reswm i ni dd'od ym* na llawer o honynt. Oni b'ai fod fy loda' i a chefn Sion William mor ddrwg, fuasan ni ddim yn d'od ar y cyfyl yma; ond a dweyd yn ddystaw i ti, mae yma chwaneg nag un, oes amryw (fel 'rwy'n credu), o rywla wedi d'od i gael adferiad, a'r creaduriaid bach mor iached ag y dymuna yr un cook iddynt fod byth-rhyw las hogiau a geoethod wyddost, yn med iwl aai ddim ond dangos eu hunain, ac ya meddwl mai'r ffordd i fod yn fawr ydyw gwisgo rhyw rig-mi-rol gwirion, a byddaru clustiau pobl wrth ddweyd splendid a first class, ac edrych yn surllvd, gan ddweyd wrth hwn a'r llall am beidio eu hinsultio-rhyw bethau wedi fanclo bod yn sal, ac yn credu fo 1 ewyno tipyn yn beth respectable. G-welais lawer o rai tebyg tua ffynonydd Trefriw a Llandrindod er's tua phedair blynedd yn ol (pan fum yno wedi bod yn sal o glefyd yr ysgyfaint); ond 'rwy'n lied feddwl mai rhyw fath o glefyd y galon sydd ar lawer o'r rhai hyn; ac iLae'r cleifion yma yn barod i gymeryd y meddyg "er gwell ac er gwaeth," ond cofier y rhaid i bob un gael med iyg neillduol; ac er cysur i'r eyfryw rai, nis gallaf lai na dodi yma gyfieithiad un awdwr Seisonig penigamp o hen diiareb Gymreig, gan mai Saeson (mewn enw beth bynag), yw llawer o'r cleifion hyn-cofia di, Daiydd, mal. nid peth bychan oedd ei chael gan yr awdwr,—% dyma hi—"There is a crow for every crow." Yn wir, Dafydd, mae fy llythyr wedi myn'd yn feithach nag y meddyliais; a rhaid i mi derJyull bellach, gan eu bod yn d'od o'r circus, ae y mae Sion William yn dweyd y drefn yn erwin am fod cymaint wedi bod ynddi. Dywed nad yw peth fel hyn ddim flit, ø:i fod yn groes iawn i drefn y Gyffes Ffydd, ac mae'n bwgwth d'od a'r peth yn bwne seiat nos Fercher nesaf. Gwyddost mai un gwyllt iawn ydyw S. W.; ond mae o yn Hygad ei le hefo hyn. Rhaid i mi derfynu yn awr, Dafydd, gyda'm cofion cywiraf i a S. W. atat ti a'r teulu oil, a Wil Robat, Tynesa, a'r teulu. Cefais lythyr oddiwrth yr hogyn Twm oddieartra-pawb yn iach, ac mae'r ddau bladurwr yn d'od i'r Fotty o hya i'r Sul, meddai ef. Clywais fod y dyn losgo'dd ei ddwylo y Sul diweddaf wrth geisio tynu dysgled o gig o'r pobtu yn Rhiwbryfdir, pan mewn diod, yn gwella. Dysgwyliwa gael clywed un o students y Bala yma y Sul nesaf. Bwriadwn fyn'd adref tua dechreu yr wythnos nesa. Ydwyf, yn frysiog, dy gyfaill, Fotty fach. CADVAN MEIRION.

ETHOLIAD SIR BENFRO.

\. LLANEGRYN.

AT EPHRAIM LLWYD, R. 0. ROBERTS,…