Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

FFERMDY PHYLIP. J

LLITH ARTHUR Y FORD GRON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLITH ARTHUR Y FORD GRON. Mp. GOL. > Mae y gauaf a'i gorwyntoedd wedi ein dal, a llawer grudd a fu gynt yn brydferth o d&n wrid angelaidd iechyd a sirioldeb wedi gwelwi; mae anadl oer y gauaf yn lladd ei filoedd. Llawer tad tyner a 'roed yn ei fedd o fewn y flwyddyn hon; y dydd o'r blaen, yr oeddwn yn sefyll wrth ochr gwely marw Cristion canol oed yn Meirionydd, dyn a gerid gan yr eglwys i ba un y perthynai, un a gyfrifid gan bawb yn ddyn duwiol. Yr oedd ar fin yr afon, ei briod anwyl yn yr ystafell1 a'i chalon ar ymdori, dynes gymharol ieuanc, yn gweled yr un a garai yn Ruddo jn nghaddug y glyn, yn ymyl deuzain mlwydd oed. Prudd oedd canfod ei ferch henaf, geneth un ar hugain oed, yn ymyl gwely ei thad, yn edrych arno, yn sychu y chwys oer angeuol oddiar ei dalcen ucbel a'i rudd ddi-ros, tra dagrau poethion cariad merch yn llifo tua'r ddaear dros ei gruddiaU hi: ei blant bychain yn ysgwyd 11aw a'u 'tada bach,' ffon euT>ara yn cael ei gosod yn y bedd, hwythau yn amddifaid heb yr un tad i wynebu ar ystormydd y byd. Y flwyddyn ddiweddaf yn Meirion, ymwel- ais a chyfeilles ieuanc dalentog pan ar ei gwely angeu, bu unwaith mor hoew a'r ewig, ar lan llyn Tegid ymrodiai pan ymsuddai'r haul yn ei gerbyd tanllyd i fro'r gorllewin; lili fwyn brydferth oedd hi, un o flodau ieuainc Rhydymain a'r Brithdir, a cherid hi o galon gan ei chydyggolheigion yn y BalaaC yn Morganwg. Ond nesaodd ei dydd olaf hithau ar y ddaear hon, nid anghofiaf byth mo'r olwg a gefais arni y tro diweddaf y gwelais hi, geneth ieuanc, brydferth, a'i llyfr yn ei Haw, darllenai er pleseru ei hunan, yr oedd rhyw arddelw angelaidd i'w gweled ar ei gwynebpryd: ac fel y dywedai y bardd awengar, y Parch. Robert Montgomery, M.A., yn ei gyfrol Saesneg am farwolaeth ei an vyl gyfeilles Corinne, gellir dweyd am rian Rhydymain,—•