Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

- PARNELL A'l DYSTEB.-

IARLL GRANVILLE AR MR. GLADSTONE.

0 R. FORSTER AR DDIWYGIADAU…

MR. OSBORNE MORGAN AR DDEDDFWRIAETHAU…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MR. OSBORNE MORGAN AR DDEDDFWRIAETHAU CYMREIG. Nos Wener, bu yr aelod anrhydeddus dros Ddinbych yn anerch cyfarfod lIuosog o'i ethol- wyr yn Wrecsam. Wedi amddiffyn yn gryf wleidyddiaeth y Llywodraeth Ryddfrydig, cyf- eiriocd at faterion oedd yn dal perthynas neiliduol a Chymru. Hyderai y byddai ty- mhor nesaf y Senedd yn ua o fodd arbenig i Gymru. Ceid gweled ynddo gyflwyniad Mesur Addysg Ganolog Gymreig. Yr oedd angen mawr hefyd am Fesur Mynwentydd, yn ymwneud a'r rhanau hyny o'r cwestiwn claddu nad oeddis ond prin wedi cyffwdè a hwy yn Neddf 1880. Wedi amlygn ei gyd- ymdeimlad a'r ymdrechion i gadw i fyny Brifysgol Aberystwytb, dywedodd fod yn hawdd i'r Ceidwadwyr roddi y pris lleiaf ar X,8000 y flwyddyn at y Colegau Cymreig; ond yr oedd hyny yn cynryehioli buddiant cyfan- swm o yn agos i < £ 300,000; a phan y dygodd Syr Hussey Vivian yn 1879 ei gynygiad rhes- ymol yn mlaen yn galw ar Lywodraeth y pryd hwnw i ystyried y moddion goreu i gy- nortbwyo unrhyw ymdrechion lleoi i gyflawni yr angen am addysg uwchraddolyn Nghymru, cyfarfu Syr Stafford Northcote (yr hwn y dydd o'r blaen yn Nghaernarfon nas gallai ganmol digon ar yr vmdrenhion hyny) ag ateb sarug. Mewn perthynas i gynygiad Mr. Dillwyn, gallai fod yn agored i amheuaeth mawr a oedd wedi dewis yr adeg oreu nen y ffurf oreu i'w ddwyn yn mlaen, ond argywir- deb a chyfiawnder cynwys ei benderfyniad, nid oedd ef, fel y gwyddai pawb, yn coleddu un amheuaeth wirioneddol. Ddeuddeng mlynedd yn ol, pan ddygodd y Barnwr Watkin Williams ei gynygiad yn mlaen ar y 1 Dadgysylltiad, amlygodd ef ei olygiadau ar y j mafer, ac yn sicr nid oedd dim wedi dygwydd er yr. adeg hono a dueddai i l i s i'w newid (cym.) Ar gynygiad Syr Robert Cunliffe, A.S., pasiodd y cyfarfod bleidlais ymddiiied- aeth yneu haelod a'r Llywodraeth Ryddfrydig.

MR. BRIGHT AR YR ETHOLFAINT.

ETHOLIAD IPSWICH.

[No title]