Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
DINAS LE'RPWL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DINAS LE'RPWL. Yn ein dinas ni y dyddiau presenol, gwledd- oedd te a bara brith, &c., ydyw y pethau mwyaf pvrysig sydd yn cymeryd lie yma. Yr wythnos ddiweddaf, cynaliodd eglwys Chatham-street ei gwledd de flynyddol, yn nghyda chyfarfod llen- yddol yn yr hwyr. D. Jenkins, Aberystwyth, yn barnu y corau. Aethom at ddrws y capel gyda y bwriad o fyned i mewa, ondrhoddwyd ar ddeall i ni gan werthwyr y tocynau bod pris y Cyfarfod yn uwch nag yr arferai a bod er pan yr adwaenom ni Chatham-street. A.c nid y ni yn Unig a siomwyd, pan ddeallwyd bod yn rhaid talu swllt am docyn i'r cyfarfod llenyddol, trodd Ugeiniau lawer oddiwrth y drws, ac ni weJsom erioed y fath helynt oedd cael y corau oedd yn cystadlu i mewn. Rhoddodd arweinydd un cor £ l i'r gwerthwyr tocynau, gan feddwl, mae yn debyg, y buasai hyny yn clirio ei gor ef. Ond daeth amryw o aelodau y cor hwnw i morol am docynau wedi i werth y bunt fyn'd; ac am na cheid tocyn heb swllt, gwrthodent fyn'd i mewn. Dyna lie bu yr arweinydd am dros awr yn ol ac yn mlaen yD ceisio hela ei gor at eu gilydd. Pe buasai pwyllgor cyfarfod Chatham wedi gwneud yn hysbys eu bwriad i godi swllt am y cyfarfod llenyddol yn unig yn flaenorol i awr y cyfarfod, ni all'sai neb eu beio. Ond am eu gwaith yn tori ar yr arferiad oedd bob amser yn cael eu dilyn mewn cyfarfodydd o'r natur yma, o leiaf yn Le'rpwl, rhaid gwneud felly. Pan fyddo cyfarfod te yn cael ei gynal yn y prydnawn a rhyw gyfarfod arall, llenyddol neu ddarlith, yn ei ddilyn yn yr hwyr, y rheol yn ddieithriad yma ydyw haner pris i'r cyfarfod olaf. Tocynau i'r te a'r cyfarfod ar ol hyny beth bynag, ac i'r cyf- arfod olaf yn unig, haner pris bob amser. Felly chwi welwch fod y tric hwn o eiddo pobl an- rhydeddus Chatham-street i sicrhau arian yn symudiad newydd sbon, ac yn cymeryd pawb ond y nhw eu hunain by surprise. Hen dro is- elwael, llechwraidd—tro na wyddom am neb o blant Shon Gorff heblaw y Chathaminiaid a fu- asai yn euog o wneud tro fel hwn. Beth na wna rhai pobl am arian? Gwyddent eu hunain cystal a neb y buasai grwgnachgan bawb yn erbyn talu swllt am fyned i'r cyfarfod llenyddol yn unig, pan nad oedd y rhai gafodd de yn talu dim yn ychwaneg. Ai tybed nad oedd chwech am fyned i'r cwrdd olaf/yn fwy na chyfartal i swllt am de a chyfarfod? Tybiwn ni ei fod, a gallwnsicrhau gluttons Chatham-street, y talasai yn llawer gwell yn y dyfodol. 0 hyn allan, bydd raid i'r Chathaminiaid ddweyd eu meddwl yn fwy di- amwys pan fwriadant gynal cyfarfod tebyg i hwn eto. Y bobl allasai yn hawddaf fforddio talu, ac yr oedd eu hamser wrth eu Haw, oedd yn cael t6 am ddim, tra y gorfodid plant llafur, y rhai yn brin allent gael amser i newid eu dillad, heb son am damaid o fwyd i fod yno mewn pryd i'r cyfarfod olaf. Os nad yw y cyfarfod te yn talu, paham y'i cynelir? Ac yn enw cyfiawnder, a phob peth sydd anrhydeddus, paham y pinsir Uanciaua genethod gweini, a gweithwyr tlodion, i wneud y golled i fyny, a achosir gan y tea drinkers? Ffei, ie, cywilydd wyneb i'r cribddoil- wyr all fod yn euog o'r fath dric iselwael ag y mae Pwyllgor Cyfarfod Cystadleuol Chatham-st. yn euog o h(*No. Mae'n ddrwg genym weled fod cangen mor anghymeradwy a hon yn perthyn i Hen Gorff mor anrhydeddus. Gadawn bobl Chatham yn y fan yna; cawsant lawer iawn mwy 0 sylw rag ydynt werth o ran hyny. Cyfarfod Te Blynyddol Eglwys Prince's Road {M.C.)—Nos Fawrth, yr lleg, cynaliwyd gwledd de flynyddol yr eglwys uchod. Ar ol y te, tra- ddodwyd darlith ragorol gan y Parch. Dickens Lewis, cadeirydd y Feibl Gymdeithas, ar ei daith i Rufain, &c., ac hefyd, dangosid llawer o brif lefydd yn Rhufain, a manau eraill drwy dissolving views. Gwerthwyd tua 500 o docynan i'r te, ac ni chlywsom lais un siomedig a fu yn eistedd wrth de da Ladies Prince's Rd. Dy wed y bobl hyny sydd farnwyr da ar de, mai t6 rhagorol sydd yn Prince's Rd. bob amser ,ac fe ddywedir mai hwn oedd y goreu eto. Wedi i'r te fyn'd trosodd a chlirio'r byrddau, daeth amser y ddar- lith a chafwyd cynulliad rhagorol o wrandawyr astud. Cadwodd y darlithydd ddyddordeb ei bwnc i fyny i'r marc, am uwchlaw dwy awr o amser. Yr oedd cor yr eglwys o dan arweiniad Mr. W. A. Edwards, (mab y Blaenor Canu), yn ychwauegu llawer o ddyddordeb y cyfarfod trwy ganu amryw ddarnau yn dra swynol. Dysgwyl- iwn ni weled cor da, da iawn hefyd, gan y gwr ieuanc gobeithiol hwn yn Prince's Rd. Credwn bod ganddo ddefnyddiau rhagorol, ac y mae yntan yn wiralluoga chymeryd eioed i ystyriaeth. Y dydd canlynol anrhegwyd holl blant yr ysgol a the, a digon o'r peth y mae plant yn ei hoffi gydag ef, ac hefyd cawsant dawdd-olygfeydd o'r daith o Le'rpwl hyd y Niagara Falls. Y te nesaf fydd yn Prince's Rd. fydd te y Gyfrinfa ddechreu'r flwyddyn newydd. Ystorm, owyntanarferol. Nos Fawrth, yr lleg, dechreuodd chwythu yn enbyd tua 10 o'r gloch, a pharhaodd drwy'r dydd ddydd Mercher; gwnaeth lawer iawn o golledion yn y naill Ifordd a'r llall, mewn tanau, simneiau, &c., a gwnaeth niwed mawr i'r Landing Stage, trwy i'r 'storm gymeryd yn ei breichiau fad oedd gerllaw y Stage, a'i daflu yn ei herbyn gyda nerth a ffyrn- igrwydd ofnadwy. Hefyd collodd Mate y City of Manchester ei fywyd, trwy i'r gwynt gy- meryd gafael ynddo, a'i godi a'i daflu yn erbyn mur y Quay. Mae prophwyd y tywydd yn ein bygwth ag yatorm eto y fory, yr 10eg, gobeithio mai camgymeryd yr amser a wnaeth, ac mai hono sydd wedi myn'd heibio oedd ganddo mewn golwg. Bydd y Nadolig wedi ein gadael cyn y ca Sion Puw, os bydd byw ac iach, gyfle i an- erch darllenwyr y DYDD eto, ac mae Sion yn dy- muno Nadolig llawen, nid yn unig i ddarllenwyr y DYDD, ond i bawb yn yr hen wlad. Gobeithio Mr. Gol., y bydd i chwi gael Eisteddfod lewyrch. us, a llwyddianus yn nhref y DYDD tua dydd Calan. Buasai yn dda genyf pe fforddiaaai y byd gael treulio dydd yr Eisteddfod yn Nolgellau lan. SION Puw.
COLEG- GOGLEDD CYMRU. * pL
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
COLEG- GOGLEDD CYMRU. p CYFARFOD PWYSIG YN NGHAER. Ddydd Sadwrn diweddaf, cynaliwyd cyfarfod o'r Llywodraethwyr ydynt eisoes wedi eu pen- odi i Goleg Gogledd Cymru, yn Nghaerlleon. Amcan y cyfarfod ydoedd dewis 11 o aelodau ar y Cyngor. Cynaliwyd cyfarfod o'r Ymneilldu- wyr yn Union Hall yn flaenorol i'r cyfarfod cytf, redinol, er mwyn iddynt gael dyfod i gyd-ddeall- twriaeth pa fodd i weithredu, ac er iddynt fod yn unol. Llywyddwyd gan Mr Thomas Gee, Dinbych, ac yr oedd lluaws mawr yn bresenol. Syniady cyfarfod ydoedd mai afreolaidd fyddai iddynt fyned yn mlaen gydag ethol y Cynghor am y rheswm fod rhestr y Llywodraethwyr yn anghyflawn hyd yn hyn, ac fod amryw heb* gael un o gwbl. Deuwyd i'r penderfyniad, os bydd- id yn myned yn mlaen i ethol, ac nad etholid ond 11, fod i'r Ymneillduwyr enwi 8 o'r cyfryw o leiaf. Cynaliwyd y cyfarfod cyffredinol yn y Town Hall, dan lywyddiaeth Iarll Powys. Yr oedd yn bresenoi luaws o aelodau seneddol a bonedd- igion urddasol eraill. Wedi anerchiad galluog gan y Cadeirydd, ac i drafodaeth fer ddilyn ar gynllun y Coleg, aed yn mlaen i ddewis swydd- ogion y Cynghor. Ar gynygiad y Due o West- minster, dewiswyd larll Powys yn llywydd y Cynghor gydag unfrydedd. Y mae i fod yn ei swydd am 10 mlynedd. Ar gynygiad is-lywyddion, cymerodd dadl boeth le ar y priodoldeb o ychwanegu rhif ael- odau y Cynghor, ond gohiriwyd penderfyniad ar hyny hyd ddewisiad swyddogion. Ar gynygiad Syr Robert Cunliffe, A.S., a chefnogiad Mr. S. Merchant Williams, dewiswyd yr Anrhydeddus G. Osborne Morgan, A.S., a Mr Richard Davies, A.S., yn is-lywyddion—y blaenaf i fod am 5 mlynedd, a'r olaf am 3 blynedd. Ar gynygiad Mr. John Hughes, Liverpool, a chefnogiad Mr. Osborne Morgan, dewiswyd Mr. John Roberts, A.S., yn drysorydd, gydag un- frydedd. Ar gynygiad Mr. W. Evans, Caer, a chefaog- iad Mr. J. Hughes, Liverpool, pasiwyd eu bod i ohirio penodiad aelodau y Cynghor a'r graddolwr Cymreig. Cyn ymwneud a'r modd i ethol, cynygiodd Mr. Gee, Dinbych, fod nifer yr aelodau i fod yn 31 yn lie 25, ac felly y cawsai y llywodraethwyr ddewis 17 yn lie 11. Cefnogtyyd ef gan y Parch. Spinther James, Llandudno. Dilynwyd gan eraill, y rhai a bleidient dros gael ychwanegiad yn y rhif. Pasiwyd hyny, ond i beidio nodi y nifer. Bu dadl boeth hefyd ar y modd i ethol aelod- au. Cynygiodd Deoa Bangor fod dewisiad yr aelodau i fod drwy anfoniad papyrau pleidleisiol i fewn. Cefnogwyd ef. Cynygiodd Mr. Gee, fel gwelliant, fod if* dewisiad fod drwy bapyrau. pleidleisiol yn nghyfarfod nesaf y Llywodraeth- wyr. Cefnogwyd ef gan y Parch. Herber Evans, Caernarfon, a chariwyd ef drwy 50 yn erbyn 46. Ar gynygiad Mr. Rathbone, a chefnogiad Deon Bangor, dewiswyd Mr. Cadwaladr Davies, yn unfrydol i fod yn Ysgrifenydd Coleg Gogledd Cymru. Pasiwyd diolchgarwch i'r Cadeirydd, a gohir- iwyd y cyfarfod hyd Sadwrn cyfleus yn Chwefror 1884, i'w gynal yn Mangor.
LLOFRUDDIAETH YN NGHAER. DYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLOFRUDDIAETH YN NGHAER. DYDD. YMLADDFA EHWNG MORWYK. Taa deuddeg o'r gloch noe Sadwrn diwoddS af; cymerodd ymladdfa ddycbrynllyd le rhwng, nifer o forwj r yn nhref Caerdydd. Ymddeng- ys j ddau ddyn ddyweyd rbyw air earhaos wrth ddynea o'r enw Mrs. Pedell, a gadwa letty yn Cbristina-Btreet, yn y dref hono. Dy- gwyddodd dau ddyn arall, lettyent yn yr an Ile, ddyfod i mewn ar y pryd. Dechreuasant gweryla a'r ddau eraill yn ddioed, ac aeth yn ymladdfa rhyogddynt. Y n yr ymrysonfa, trywan»?yd y ddau forwr a ddaethant i'r ty ddiweddaf-dynion o'r enwau Anderson a M'Gee—amryw weithiao mewn rhanau per. yglos o'u cvrpb. 8ymudwyd bwy i'r clafdy yn ddioed, lie y bu M'Gee farw brydnawo. ddydd Sul mewn canlyniad ir niweidiaa a dderbyniodd. Dywedir fod Anderson, yr bwa a dderbyniodd bedwar neu bumpo arohollioa ar wabanol fanaa 0'; gorpb, mewncyflwr pcr- yglae. Y mae primp o ddynion o'r enwau David O'Brien, Edward O'Brien, John Crowley, Petor Gorman, a J. Weicberf, wedi eu dwyn i'r daalfa, ond nid oedd y ddaa ddyn a dry- wan wyd yn adnabod yr uuobonynt. Y mae tystion yn barod i ddyfod yn mliien, fodd bynag, a allant brofi fod y ddao frawd O'Brien yn nahlith yr ymosodwyr. Nid yw y cyllili a ddefnyddiwyd wedi eu darganfod etc.
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
(Scnctmjiiftliau. Rhagfyr 10, priod Mr. William Griffiths, Tygwyn Hotel, Roewen, ger Oonway, ar fab. Rhagfyr 6, priod Mr. R. O. Hughes (Elfyn), Llanrwst, ar fab. Ðríoi)aØau. Rhagfyr 12, trwy drwydded yn aghapel Moriah Caeroarson, gan y Parch. J. Eiddhn Jones, Llanrug, a'r Parch- Jfivan Joues, Caernarfon, Mr, Owen D. Jones. Victoria House, a Miss Jane Mary, unig ferch y diweddrr Mr. Edwarl Williams, Draper, Caer- I narfoo, Rhagfyr 6, yu ghapel y Bedyddwyr LlansantfFraid G. D., gaa y Parch. H. C. Williams, Mr. Griffiih Williams, Railway Torraca, Corweo; 4 Miss Mar/ Owen, Tanygraig, Liaugar, ger Corwea. Rhagfyr 15, yn Lombard st., Dolgellau, Miss Gwen Jones, gynt o Wnion JView, yn 59 oed. Claddwyd hi ddydd Mawrth yn mynwent capel Salem (M. C.) Rhagfyr 13, yn 38 mlwydd odd, Mr. Henry Wilson Harries, No. 4 Aelfor Terrace, Abermaw. Rhagfyr 7, yn 76 mlwydd oed, Mr. Michael Roberts, Rhyl, Rhagfyr 9, yn Tower Hill, Diubycb, Richard Weatherby, piotureframe maker. Rhagfyr 6, yn y Bala, ar ol byr gystudd, yn 44 mlwydd oed, Mr. Edward Lloyd, diwed iar o'r Bull's Head Hotel, acjail fab y diwaddar Mrs. Lloyd, Bull Hotel, Dinbych.