Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

KeiosKSton ®gffte&tnol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

KeiosKSton Y mae Ceidwadwyr Fflint wedi penderfynu i ddau ymgeisydd dd'od allan yr etholiad ntsaf, sef Is.iarll Fielding, mab larll Dinbych, a Mr. Llewelyn Mostyn, wyr Arglwydd Mostyn, yr hwn sydd Ryddfrydwr. Dyna sicrwydd am ddirgelwch y sedd yn nwylaw y rhai presenol. 0 herwydd toriad clefyd allan, y mae ysgolion dyddiol Porthdinorwig, ger Caernarfon, wedi eu gorfodi i gau am ychydig amser. Y mae testynau yr Eisteddfod Genedlaethol am 1884, agynelir yn Le'rpwl, yn awr wedi eu gorphen. Cynygir gwobrwyon campus ar wahanol destynau pwrpasol. Eiddunwn ei llwyddiant. Nid oes ball ar gyhoeddiadau Cymreig o Gaer- narfon. Dyma un arall, a elwir Y Wyntyll, wedi dyfod allan y Sadwrn diweddaf, a braidd nas gellir dweyd ei fod wedi ei eni wythnos o flaen ei amser. Dyddiad y rhifyn cyntaf ydyw Rhag. 20, a'i bris yw Ic. Mae ynddo ddarnau digrif a dyddorol, a darlun da o Bosco yn d'od," gyda nifer o gefn^gwyr cuchiog. Caed cyfarfod llenyddol hwyliog yn Rhydy- main nos Wener diweddaf. Gwel yr adroddiad mewn colofn arall. Llywydd Cynghor Coleg Bangor fydd larll Powys, a diau nad oes neb a rwgnach o herwydd y dewisiad. Ond am y mwyafrif o aelodau eraill y Cynghor, pe buasid yn eu dewis (ond trodd y gwynt fel oedd goreu ylwc yn Nghaer y Sadwrn diweddaf), cynyg di fi, cynygia ina ditha oedd hi. Deon Bangor yn cynyg J. Donne, Llangefni. Donne wed'yn yn cynyg y Deon, &c. Cynelir cyfarfod sefydliad y Parch. D. Roberts, Rhyl, yn Llanuchllyn, ar y 9fed a'r lOfed o lonawr, 1884. Bwriada dadleuwyr y Dewisiad Lleol wneud cryn arddangosiad mewn rhanau o Gymru yn gynar y flwyddyn nesaf. Bydd Syr Wilfrid Lawson ar flaen y rheng. Dywedir eu bod yn bwriadu cael Mesur neillduol ar hyn mewn perthynas i'r Dywysogaeth. Syr Stuart Rendel, A.S., sydd wedi ym- gymeryd a gofyn I'r Llywodraeth ar ran Canol- barth Cymru am barhad y rhodd flynyddol at gynal Coleg Aberystwyth, a hyderir yn gryf y bydd yr ymdrechion ar ran y Coleg yn llwydd- ianus. Dywed gohebyddyn y Daily News fod nifer fawr o Gymry yn rhanbarthau tlotaf Llundain, a bod rhai o honynt yn dyoddef yn fawr iawn o ddiffyg gwaith. Dywedir fod Rector Merthyr yn bwriadu steb araeth Deon Bangor yn Nghaernarfon ar yr 20fed cyfisol. Dilya y sicrha ef Bavilion Caer- narfon at hyny. Y mae harmonium wedi ei osod, wedi hir wrthwynebiad, yn nghapel Methodistiaid Corwen. Gwnaeth yr Efengylesau o'r Deheudir ddaioni dirfawr drwy eu hymweliad & Chaernarfon yn ddiweddar. Cryn gwyno sydd o hyd nad yw Deddf Cau y Tafarnau ar y Sabbath yn cael ei chadw fel y dylai mewn lluaws o ranau o Gymru. Y cwbl a wyddis hyd yn hyn am y Cymro Lewis Parry, a gondemniwyd yn ddiweddar yn Le'rpwl, yw fod ei ddedfryd wedi ei newidji benydwasanaeth am ei oes. Gwneir ymdrech i'w gael yn rhydd. Gwneir cais am gael ychwaneg na21 o aelodau ar Gynghor Coleg Bangor. Diau y llwyddir yn hyn. Cynaliodd Methodistiaid Gogledd Cymru eu Cymdelthasfa auafol eleni yn Corwen. Gwerthwyd gwraig yn Nghaanewydd, y dydd o'r blaen, am ddwy bunt. Y mae y naill a'r llall yn byw yn hap us ar wahan. Mae lluaws o gyfarfodydd yn cael eu cynal yn y Deheudir bob wythnos ar bwnc y Dadgyayllt- iad. Nid yw yr achos yn cymeryd gwedd haner mor fywiog yn y Gogledd.

j GWERTHU LLYFRAU YN Y CAPFLI.

TASG I'R BEIRDD.

BIRMINGHAM.

Advertising