Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

- RHYDYMAIN, GER DOLGELLAU.!

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

RHYDYMAIN, GER DOLGELLAU. Nos Wener diweddaf, cynaliwyd Cyfarfod llenyddol yn y lie uchod, dan lywyddiaeth y Parch. H. Roberta, Siloh, ac arweiniad Cadvan, yr hwn aeth a'r gwaith yn mlaen yn ddeheuig iawn. Beirniaid y Tiaethodau oeddynt y Parchn. J. Walters, Brithdir, a B. Roberts, Siloh; y Farddoniaeth, Cadvan; y Gerddoriaeth, Mr T. O. Davies, Dinas Mawddwy; y cyfieithiad, Mr Williams, B.A., Llundain; a'r Llawysgrifau, Mr Hughes, Felin Newydd; y cyfeilydd, MrJohn Roberts, Dolgellau. Wedi cael ton gyffredinol ac anerchiad gan y llywydd, aed yn mlaen i wobrwyo yr ymgeiswyr buddugol ar y gwah&nol destynau, y rhai a safent fel ycanlyn:—Traeth- awd, "Bywyd a chymeriad yr apostol Pedr. Goreu, Mr J. Evans, gorsaf-feistr, Bontnewydd, a rhoddwyd canmoliaeth uchel i'r traethawd. Traethawd i ferched, "Merched duwiol y Testa- ment Newydd." Goreu, Miss C. Jones, Cefny- braich. Eto, "Rhagoriaeth y Beibl ar bob llyfr arall," (i rai dan ugain oed). Goreu, Mri F. Owen, Brithdir, a J. Griffith, Rhydymain, yn gyfartal. Ymgeisiodd wyth ar y chwe phenill er cof am Hugh Pugh, a dyfarnwyd yr eiddo R. Erfyl, Liverpool, yn oreu. "Hir a thoddaid er cof am John Griffith," yr oedd 13 yn y gystadl- euaeth. Goreu, R. Erfyl. Can, "Achub yr adeg." Goreu, Mr J. Evans, Galltygwineu. Englyn "Y Sarph," goreu Mr E. Evans, Llan- Uwchllyn. Ni ddaeth oDd un parti yn mlaen i ddatganu "Dyfroedd y bywyd," sef parti o Ryd- ymain, a dyfarnwyd ef yn deilwng o'r wobr. Am ganuydeuawd, "Mae'r Ian gerllaw, gwobi- wywyd MrG. Evans a Miss A. Evans, Brithdir. Unawd, (i rai dan 15 oed) "Fy machgen pa Ie y mae," goreu, Miss Jane Jones, Ysgubor Newydd, ail, Mr. G. Evans. Unawd, "0 rhwyfwch ataf fi." Pedwar yn y gystadleuaeth, goreu, Mr E. Jon s, Ysgubor Newydd. Am yr alaw oreu ar y geiriau "Dim mwy, (Clynog). Goreu, Mr J. Griffiths, Coedrhoalwyd. Un côr: ddaeth yn mlaen j ddadganu Y seren unig, (Isalaw) sef cor Rhydymain, dan arweiniad Mr G. Edwards, a dyfarnwyd ef yn deilwng o'r wobr. Am y cyfieithiad o'r Saesonaeg i'r Gymraeg, goreu, Mr Evan Griffith, Llanfachreth, a Maggie Owen, Bryncoedifor, yn gyfartal. Am yr araeth oreu ar"Falchder,"gwobrwywyd Mr J. Owen, Gwern- ga wr. Am y llawysgrif oreu gwobrwywyd Jane Jones, Mary Jones, W. Jones, a C. Jones. Ar- holiad deuddeg oweatiwn ar hanes Lot. Goreu, J. Griffith, ail 0. Williams. Adroddiad o weddi Jonah. Goreu, Jane Jones a G. Evans yn gyf- artal, ail, Mary Jones, Tynewydd. Aeth pedw ar yn llwyddianus drwy arholiad mewn cerddor- iaeth, sef Mri J. Griffith, E. J. Roberts, ac E. Jones, am yr elementary, a Miss M. Jones, am y junior. Canodd Miss Madge Roberts, Dolgellau, Llewelyn o'r Brithdir, a Mr Williams, Dolgellau, yn dra awynol yn ystod y cyfarfod. Canodd y cor hefyd amryw ddarnau yn ganmoladwy iawn dan arweiniad Mr G. Edwards, yr hwn sydd wedi bod yn llafurio yn egniol o dan lawer o an- fanteision i wasanaethu yn y cyfarfod. Cafwyd cyfarfod da drwyddo,—yr oedd Cadvan yn ei hwyliau goreu, a phawb fel pe buasent yn mwyn- hau, ond yr ymgeiswyr aflwyddianus, a pheidied y eyfryw rai a digaloni, ond bydded bod eu haf- lwyddiant y tro hwn yn eu symbylu i fod yn fwy ymdrechgar i gyrhaedd llwyddiant pan y cawn gyfarfod o'r un natur eto yn ardal lengarol Rhydymain. W. J.

[No title]

tiatbbontaetb.

DEIGRYN HIRAETH

EE COF

FY MWTHYN GER Y GORNANT;

ENGLYN I FFYNON SANT CADVANS.

( UNIGEDD Y MYNYDD.

Advertising