Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Y NADOLIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y NADOLIG. NID oes un adeg ar y fiwyddyn yr amlygir mwy ar deimladau a nodweddau goreu y natur ddynol na'r Nadolig. Perthyna i'r gwyliau emili, megys y Groglith, y Pasc, a'r Sulgwyn eu nodweddau, ond nid oes cymaint o swyn yn yr un o honynt a'r Nadolig. Y mae'r dygwyddiad nodedig y mae'r dydd yn ei adgofio yn teilyngu iddo gael ei dreullo yn nghanol pob llawenydd a hawddfyd ag sydd yn bosibl ei ganiatau. Yn yr adeg hon, yr ydym yn cael uwchraddolion cymdeithas yn ymostwng, a'r gwahaniaethau /n cael eu sy- mud, os nad ydynt hefyd yn cwbl ddiflanu. Daw y cyfoethog yn fwy tyner ac ystyriol tuag at y dawd. Ceir y tirfeddianwyr yn cymdeithasu a'u tenantiaid, a'r meistri gyda'u gweithwyr. Bendith fawr i'r hil ddynol pe gellid cadw drwy y fiwyddyn gymdeithas fendigedig gwyliau y Nadolig, a'r rhfnweddau teilwng a amlygir y pryd hwnw. Dyledswydd pawb ydyw cynyddu eu hapusrwydd eu hun- ain yn gyatal a dedwydiwch eu cymydogion drwy fod yn rhyddfrydig a hae!ionu&. Y mae'r Nadolig yn goleuo llawer ar un o fis- oedd mwyaf dwl a gerwin y gauaf. Ceir pleaer wrth ddysgwyl a darparu yn ystod Tachwedd a Rhagfyr, ac mewn adgofion difyr am yr adeg yn ystod Ionawr. Wrth ddyfod yn nghanol y gauaf oer, y mae'r Nadolig ar unwaith yu ein bywiogi a'n lloni yn fawr. Llenwir cypyrddau llwm y tlodion, darperir ar gyfer eu hangen, a cheii odid pob dosbarth o gymdeithas yn ceisio dwyn eu hunain i'r un sefyllfa. Un o brif atdyniadau y Nadolig ydyw y cyfleusdra a geir i gyfeillion ail gyfar- fod a'u gilydd a'u perthynasau. Fel rheol, ceir gweled y teuluoedd fuont am ranaa. o'r flwyddyn yn byw oddiwrth eu gilydd yn am- canu at gael cyfarfod yn nghyd yn ngwyliau Rhagfyr. Cymer brodyr a chwiorydd fuont ar wasgar ar hyd y wlad fantais ar y cyfle i gael unwaith yn rhagor ymgyfarfod ar yr un aelwyd deuluol. Abertha pob teulu odid bob peth er cael fel un gwrdd aru gilydd yn hapus a lion ar y Nadolig. Llonir ami i dlawd gan y caredigrwydd a'r haelioni o ddangosir, a'r unig ofid ydyw na buasai y cyfryw yn parhau Dyledswydd y rhai sydd mewn sefyllfaoedd bapus ydyw, y dylent yn awr, uwchlaw pob adeg, gofio mai cariad yw y gras Cristion- Ogol mwyaf. Adeg ddedwydd ydyw, ac ym- gais pob dyn o bob sefyllfa yw gwneud pawb yn ddedwydd a hapus. Eiddunwn i'n holl dtlarllenwyr "WYLIAU LLAWEN."

MARWOLAETH YN YR EIRA

MARWOLAETH AMHEUS YN Y * WYDDGRUG.

DOLGELLAU.

BRITHDIR, GER DOLGELLAU.

YSGRIBL SHON RHYS.

R CYFRIFON AMAETHYDDOL AM…