Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Y NADOLIG.

MARWOLAETH YN YR EIRA

MARWOLAETH AMHEUS YN Y * WYDDGRUG.

DOLGELLAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DOLGELLAU. Tabemad (A.)-Parch. D. Griffith, gweinidog Seisonig (A.)-Parch. W. E. Hughes, gweinidog Salem (M.C.)-Parch. R. Roberts, gweinidog Bethel (M.C.)—Parch. R. Owen, Pennal Seisonig (M.C.)-Parch. T. Thomas, Talgarth Ebenezer (W.)-Parch. J. Cadvan Davies, gWtJliliUUg Judah (B.)-Parch. D. Evans, gweinidog Clwb yr Odyddion.-Dydd Mercher nesaf, bydd y clwb hwn yn ymgymeryd A'r gorchwyl o ddetiis meddyg. Deallwn fod Dr. John Jones wedi cael ei gynyg i redeg y ras gyda Dr. Edward Jones. CYMDEITHAS Y CYMREIGYDDION. Y mae gan y gymdeithas hon destun pwyslg i ymdrafod yn ei gylch nos Wener nesaf, yr 21ain o'r mis hwn. Y testun ydyw: "Ai H. Robertson, Ysw., A.S., ydyw y cymhwysaf i gynrychioli Meirionydd yn y Senedd?" Y mae yr ymdrafod- aeth ar hyn i'w dwyn yn mlaen trwy ddadl. Yr agorwyr ydynt y Parch, John Meredith, a Mr. Richard Owen. Pwy bynag a hoffa glywed y pwnc yn cael ei ddadlu yn rymus, deled i'r cyf- arfod. Y mae hwn yn bwnc y dydd i gryn raddau yn awi, ac yn un a ddaw yn hollol felly mewn ystyr yn y dyfodol. Os pleidleisir yn y diwedd, fel mae'n debygol y gwneir, bwriedir hysbysu darllenwyr y DYDD pa ochr y bydd y mwyafrif; ac hwyrach mai gwell i'r Pwyllgor Canolog sylwi ar hyny, a chymeryd addysg oddiwrtho. Y mae y Parch. J. Cadvan Davies i anerch y gymdeithas yn mis Ionawr nesaf, a'r Parch. D. Evans i'w hanerch yn un o'r deufis dilynol. Rhoddir hysbysrwydd manylach eto. AELOD.

BRITHDIR, GER DOLGELLAU.

YSGRIBL SHON RHYS.

R CYFRIFON AMAETHYDDOL AM…