Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Y NADOLIG.

MARWOLAETH YN YR EIRA

MARWOLAETH AMHEUS YN Y * WYDDGRUG.

DOLGELLAU.

BRITHDIR, GER DOLGELLAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BRITHDIR, GER DOLGELLAU. Cyfarfod Adloniadol.—Cycaliwyd yr ail gyf- arfod o'r cyfarfodydd uchod yn Xsgoldy y Bwrdd, nos Fawrth, Rhagfyr 4ydd, am saith o'r gloch, pryd y Ilywyddwyd yn ddeheuig gan Mr. Bithel, Caerynwch. yn absenoldeb y Parch. J. Cadvan Davies, Dolgellau. Yn ystod y cyfarfod canwyd gan Mri. R. 0. Paw, W. Hickman, R. J. Bithel, Hugh Pugh, Bontddu; E. Richards a J. Evans, Maesyrhelmau; a Misses F. Lawley, S. J. Bithel, M. A. Bithel, J. 0. Bithel, ac E. Hickman, Caerynwch. Cafwyd adroddiadau gan Mri. James Edwards, Penybryn; Pierce Jones, Ty'nllidiart; a W. Ellis, Caertyddyn. Bu Mri. E. Richards ac R. Roberts, Gorwyr, yn dadleu "Dadly Cyfreithiwr." CafoddMr. John Price, Vronoleu, y wobr am yr Ysgub Fedw oreu. Am ysgrifenu brawddeg Gymraeg yn gywir, rhanwyd y wobr rhwng W. Ellis a H. Hughes. Enillodd Miss J. C. Bithel y wobr am y Brat (pinafore) goreu; a chafodd Miss M. Roberts, Perthi, ail wobr. Am y pâr hosanau goreu, Mrs. Ellis, Meirion Terrace, a Mrs. G. Jones, Rhiwspardyn, yn fgyfartal. Am areithio yn ddifyfyr ar y 'Gwlan,' Mr. R. Hughes, Ty'nyclawdd, oedd y goreu. Bu Hugh Pugh, Ty'nycefn, mor llwydd- ianus a bod yn gyntaf yn y 'Spelling Bee' Seis- nig, a D. Owen, Brynbras, ynail. Caed cyfarfod hwyliog a difyrus, a dysgwylir am un arall yn fuan. MILTON.

YSGRIBL SHON RHYS.

R CYFRIFON AMAETHYDDOL AM…