Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
--Y GYNWYSIAD .
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Y GYNWYSIAD Yr Wythnos 1 Nodion Cyfiredinol 2 Y Senedd Ymerodrol 3 Dinas Le'rpwl 3 Y Wasg, Marchnadoedd 4 Dolgellau 5 Gohebiaethau ■ 6 Yn ol i'r Canol-oesoedd 7 Kbagolygon yr Btholfraiut 8 Parch. Herber Evans ar "Hwyl Gyrareig" 9 Cyfarfod Chwarterol Arfon 10 Barddoniaeth 11 Genedigaethau, Priodasau, Marwolaethau 12 Hysbysiadau .12,16
Y SENEDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y SENEDD. MA.E dros wythnos gyfan o'r Senedd wedi ei threulio i cldim. Dibwys ydyw yr holl dratbiaethau. a fu, ac annheilwng hwn ydyw ymddygiad llawer o'r aelodau yn ngwyneb y cyfwng pwysig y mae y wlad yuddo. Mae'r obstructionists wedi bod wrthi a u holl egni, ac yn dal i ddyf- eisio pa gynllun allant gael eto, nes y mae y wlad wedi syrffedu arnynt. Mae'r ddadl wiriouffol ac afreidiol ar yr Araeth Frenhinol heb ei gorphen eto, ac arwydd- ion y pery noson lieu ddwy yn hvvy. Nid o<)dd ei chynwys ond byr a ffurfiol iawn, ond mae y Toriaid a'r Gwyddelod wedi gweled digon o esgus i chwilio a dychy- mygu am bob pwnc sydd bosibl er cael trafodaeth arno, a thrwy hyny dreulio amser y Senedd i ddim. Mae yn syndod pa fodd y mae amynedd y Prifweinidog a'i gydweinidogion yn gallu goddef yr n afreoleiddiwch hwn, ac y mae yn h3n bryd galw y Oloadur i weithrediad. Treuliwyd UD noson yn gwbl mewn ym- rafael rhwng Arglwydd Randolph Church- ill a Mr. Chamberlain yn nghylch y terfysgoedd yu Aston. Profodd yr hel- yut yn niweidiol iawn i'r pendetig ieuanc, ac y mae wedi dyrchafu satie Mr. Cham- berlain. Khoddwyd gwers lem i'r "noble lord," ag y cofia yn hir am dani, a sicr genym ond iddo gael ychydig yn rhagor 0 o'r cyffelyb, y tfrwynir ei dafod i bwrpas, ac nas gwelir ef mor fynych yn ymosod ar brif ddynion y Senedd. Er hyny rhaid dweyd fod hyny o eisteddiadau seneddol sydd wedi pasio wedi eu treulio yn war- adwyddus, a bod yn warth fod yr Araeth or Orsedd yn rhoddi lie i ddadleuon mor ddifudd ag ydys wedi gael.
IBLINDERAU Y SOUDAN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I BLINDERAU Y SOUDAN. 1 Os ydyw sefyllfa pethau rhwng y wlad hon a'r Soudan i barhau yn hir eto, mae yn auhawdd dyfalu pa mor dditrifol y gall pethau ddygwydd. Mae rhyw new- ydjion yn cael eu derbyn yn ddyddiol oddiyno, ond nid yw yn' ddiogel gosod pwys ar eu gwirionedd. Maent yn groes ymgroes i'w gilydd bob yn ail ddiwrnod, nes yr ydys mewn dyryswch wrth eu darllen pa un a ellir eu credu ai peidio. Mae'r holl anesmwythder yn nglyn a'r Cadfridog dewr Gordon a'i -sefyllfa yn Khartoum. Taenwyd y iiewydd yn yr holl newyddiaduron ddechreu yr wythnos hon fod y lie hwnw wedi cwympo i ddwylaw y gelynion, a Gordon wedi ei gymeryd i'r ddalfa. Mae'r si yn gyffred- inol felly yn Cairo, a llawer yn ei gredu, ond nid yw y Khedive, Syr E. Baring, ac r awdurdodau eraill, yn credu dim ynddynt, onide anfonent at y Llywodraeth i hys- bysu y peth. Mae eu dystawrwydd yn sicrhau nad oes digon o brawf eto i roddi J coel iddynt. Dyna ddywedai Iarll Gran- ville ac Ardalydd Hartington yn y Senedd I nos Lun. Ni chyrhaeddodd dim o gwbl i afael y swyddogion hyn difeddai i gad- arnhau yr adroddiad, ond nis gallent ei wadu yn bendant, eithr yn unig yr un a daenid fod Tywysog Cymru a'i Mawrhydi wedi derbyn pellebyr yn hysbysu y peth. -Os yw sefyllfa Gordon mor dywyll, pleserus genym yw deall fod Arglwydd Wolseley wedi cyrhaedd Dongola, ac fod gobaith cryf yn awr y cyrhaedda fangre ei ymdaith cyn bo hir VnlHch, Mae pob- peth, hyd yn hyn, wo tyned yn inlaen yn galonogol iawn gydag ef.
---Y MA.RSIA.NDWYH LLONGA.U…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y MA.RSIA.NDWYH LLONGA.U A MR. CHAM- BERLAIN. Mae Mr. Chamberlain eto yn methu boddhau y perchenogion llongau. Mae enwau y dirprwywyr ydynt i chwilio i sefyllfa trefniadaeth forawl a'r angenrheid- rwydd am fesurau pellach er amddiffyn bywydau y morwyr, er heb eu cyhoeddi yn swyddogol, yn hysbys,oud yn anner- byniol gan y masnachwyr. Mewn 11 jaws o gyfarfodydd yn ystod yr wythnos ddi- weddaf, y mae ffurfiad y ddirprwyaeth wedi ei chondemnio, a hyny gan rai oedd- ynt yn siarad yn gymedrol iawn am y mesur pan ymddangosodd gyntaf. An- mhosibl ydyw boddhau yr holl bleidiau, a'r cwestiwn priodol i'w ystyried ydyw a yw y dirprwywyr sydd wedi eu henwi yn ddigou galluog ac annibyiiol i wneud y gwaith sydd iddynt. Gellir dweyd fod perchenogion llongau yn lied gyijfredinoi yn protestio yn erbyn ffurfiad y ddirprwy- aeth, gan fad cynrychiolwyr y Mersey, Clyde, Northumberland, a Durham, allan yn gwbl. Mae teimlad cryf yn erbyn i Mr. Chamberlain fod ami, o herwydd ei ymosodiad miniog a chwerw ar y perch- enogion ychydig amser yn ol, ond mae'n debyg na fydd o bwys ganddo ef dvnu yn ol os barna y bydd yn 0 bosibl cario allan yr amcan gwreiddiol gan y rhai a nodir.
YR ETHOLIADAU CYNGHOROL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR ETHOLIADAU CYNGHOROL. Diwrnod pwysig yn ngtyn a'r Cynghot- au Tretol yn Lloegr a Chymru oedd y Sadwrn diweddaf, oblegid yr oedd yn ddi- wrnod leosiwn. Mae mwy o ddyddordeb yn cael ei deimlo yn yr etholiadau hyn y naill flwyddyn ar ol y Hall, ac y mae mwy o'r elfen boliticaidd o lawer yn gysylltied- ig a hwy. Ond eleni yr oe Id mwy o ddyddordeb yn yr etholiadau nag arferol, oblegid dyma y tro cyntaf iddynt gael eu 115 cario dan Ddeddf newydd Llwgrwobrwy- aeth mewn etholiadau Cynghorol. Yr oedd cymaint o lygredigaeth, os had mwy yn nglya a'r etholiadau hyn na'r rhai sen- eddol. Ond y mae yn llawen genym ddeall fod y ddeddf wedi gwneud daioni dirfawr y tro cyntaf hwn, ac y profa eto yn y dyfodol o werth armhrasthol. Un o'r trefniadau pwysicaf tuag at lwyddiant ei gweithrediad oedd estyniad yr oriau pleidleisio hyd 8 o'r gloch. Drwy yr holl wlad, enillodd y Rhyddfrydwyr lawer o dir, ac amryw seddi newyddion. Mae hyn yn beth calonogol iawn yr adeg bres- enol.
ETHOLIAD SCARBOROUGH.,
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ETHOLIAD SCARBOROUGH. Drwy ddyrchafiad Mr. Dodson i'r ben- defigaeth, gwnaed y sedd hon yn wag, ac felly caed etholiad. Daeth dau ymgeis- ydd i'r maes, y rhai oeddynt yn lied gyf- artal inewnpoologrwyddgyda'r etholwyr, sef Syr George. Sitwell, Barwnig, (C.) a'r Mihvriad Steble (It) Cymerodd y pleidleisio le ddydd Llun diweldaf. Ar y dechreu yr oedd yn lied farwaidd, ond pan ddechreuodd y Toriaid gyhoeddi y sibrwd am gwymp Khartoum a charchar- iad y Cadfridog Gordon, daeth y cyhoedd yn lied gyflrous, ac ychwanegwyd llawer at ddyddordeb yr etholiad. Llwyddwyd i gael gair oddiwrth y Llywodraeth drwy yr hen aelod W. S. Caine, A.S., yn gwadu y cyfryw adroddiad. Gwnaed y canlyn- iad yn hysbys tuag 8 o'r gloch nos Lun, sef Milwriad Steble (R.) 1895; Syr G. Sitwell, (C.) 1606; mwyafrif Khyddfrydol, 289. Yr oedd y Ceidwadwyr wedi cael yr un fiint o bleidleisiau ag o'r blaen, ond. y Rhyddfrydwyr wedi ychwauegu 57. Dyma brawf eto nad yw y wlad yn an- ffyddlon i'r Llywodraeth Gladstonaidd. Bydd dyfarniad Scarborough yn galonogol i'r Llywodraeth.