Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

CYFFRO MAWR MEWN CHWAEEU-I…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFFRO MAWR MEWN CHWAEEU- DY YN GLASGOW. b GW AEDD FFUGIOL, "TAN.14 WEDI EU LLADD, AO AMRYW EU HANAFU. Yr oedd y Star Theatre yn Glasgow, nos Sadwrn diweddaf, yn olygfan trychineb arswydus, na welwyd ei gyfielyb o ran ei erchylldra er y trychineb arswydus yn Sunderland. Mae y chwareudy hwn yn un sydd yn cael ei fynyehu yn benaf gan y dosbarth gweithiol, yn neillduol felly ar nos Sadyrnau. Yr oedd felly nos Sadwrn diweddaf. Mae lie yn y neuadd i 2,500 o bobl, a sicrheir fod llawn dwy fil yno nos Sadwrn. Elai pobpeth yn mlaen yn bur dawel a digynhwrf hyd chwarter wedi 9, pryd yn sydyn a. dirybudd y clyw- yd gwaedd o'r oriel, Tan!" nes yr oedd yr effaith yn drydanol, ac mown moment, yr oedd dynion a merched yn rhuthro ar eu traed gan gyfeiric am ddiangfa, tua'r drysau. Yr oedd yr adeilad yn diasped- ain gan ysgrechiadau y menywod oeddynt yn cael eu gwasgu a'u gwthio yn mlaen gan y bobl ddychrynedig, a chleddid yn eu swn holl floeddiadaii swyddogion y chwareudy i hysbysu y trueiniaid oeddynt yn ymladd eu ffordd allan fod pobpeth yn ddiberygl, ac nad oedd t&n. Yn ffodus, caed trefn ar un rhan o'r gynulleidfa, ond parhaiy rhai oedd yn yr oriel a'r pit i ruthro allan yn y modd mwyaf gorphwyllog. Ac yn anffodus y mae ychydig droad yn y ffordd allan o'r lleoedd hyny fel y gor- lenwyd y fan yn ddiatreg, ac yno yr oedd yr olygfa yn dorcalonus. Er gwaethaf yr ymdrechion i sicrhau i'r bobl nad oedd perygl, yr oedd y eyffro mor ofnadwy fel na roddai y mwyafrif yr yatyriaeth leiaf iddynt, ond yn hytrach gwthient draws eu gilydd blith draphlith am ddiangfa o'r ad- eilad a gredid ganddynt oedd yn nghanol fflama.u tan. Ac yn y rhuthr ofnadwy yma, lladdwyd 14 o bersonau, ac anafwyd 14 yn ddifrifol iawn. Ymledodd y waedd fel tin gwyllt drwy y ddiuas, nes casglu tyrfa aruthrol o lygad dystion o'r trychineb. Daeth swyddogion y peirianau tin i'r lie mewn adeg rhy- feddol o fyr wedi rhoddiad allan y waedd, ac er nad oedd gwaith i'r peirianau, gwnaethant wasanaeth mawr er perswadio y bobl i fod yn llonydd, ac er cynorth- wyo i gael allan y trueiniaid oeddynt wedi syrthio yn ebyrth i'r rhuthr. Darfu i'r heddgeidwaid, gyda'r Prifgwnstabl, roddi pob help oedd yn bosibl, ond yn ofer gan fod y bobl wedi eu brawychu o gwr bwy gilydd, ac aueffeithiol am hir amser oedd pob cais i'w llonyddu. Y mae un wedi ei gymeryd i fyny, o'r enw James Turner, yr hwn hyd yn ddi- weddar oedd yn ngwasanaeth y chwareudy, ond gydag eraill, a wnaed i ffwrdd a'i was- anaeth. Dywedir ei fod dan ddylanwad died ar y pryd y rhoddodd y waedd or- phwyllog. Y mae efe yn awr yn y ddalfa, a chredir fod digon o dystion i'w cael i brofi mai efe wnaeth byn. Da yw deall nad dim diffygion yn nhrefniadau perch- enogion yr adeilad oedd yrachoso'r trych- ineb, gan fod pob ymchwiliad sydd wedi ei wneud hyd yn hyn ar y lie yn myned yn bur ffafriol iddynt hwy.

ERCHYLLWAITH TEULUAIDD YN…

DAMWAIN ARSWYDUS YN .NGHAERDYDD.

TRYCHINEB AR Y RHEILFFORDD…

TAN MEWN AGERFAD YN CYD-WELI.

ANRHEG GYMREIG I LE'RPWL.…

YMGAIS AT HUNANLADDIAD YN…

Advertising