Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

CYFFRO MAWR MEWN CHWAEEU-I…

ERCHYLLWAITH TEULUAIDD YN…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ERCHYLLWAITH TEULUAIDD YN NEWCASTLE. Cyflawnwyd gweithred erchyll yn New- castle ddydd Gwener diweddaf, gan wraig yn llofruddio ei dau blentyn drwy dori eu gyddfau, ac yna cyflawni hunanladdiad. Ei henw yw Rebecca Eidley. Aethai ei, gwr at ei waith y boreu am 8, gan ei gadael hi a'r ddau blentyn yn en gwelyau. Dych- welodd ganol dydd i ymofyn ei gimaw, pryd er ei frawychdod y canfu ei blentyn 3 mis oed yn gorwedd yn farw, a'i fachgen 3 blwydd oed yn ei ymyl, a hithau yn gorwedd yn farw tu ol i ddrws yr ystafell wely. Yr oedd gyddfau y 3 wedi eu tori, a'r llawr yn orchuddiedig gan eu gwaed. Daeth meddyg i'r lie, ond yr oedd bywyd pob un wedi ymadaw. Mae'r dygwyddiad wedi achosi cyffro dirfawr yn y cylchoedd, gan fod y teulu yn bur adnabyddus ac yn cael eu parchu yn fawr. Yr oedd y wraig er ei hesgoriad diweddaf wedi bod yn wael, ac yn achlysurol yn dyoddef oddiwrth hysteria.

DAMWAIN ARSWYDUS YN .NGHAERDYDD.

TRYCHINEB AR Y RHEILFFORDD…

TAN MEWN AGERFAD YN CYD-WELI.

ANRHEG GYMREIG I LE'RPWL.…

YMGAIS AT HUNANLADDIAD YN…

Advertising