Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

CYFFRO MAWR MEWN CHWAEEU-I…

ERCHYLLWAITH TEULUAIDD YN…

DAMWAIN ARSWYDUS YN .NGHAERDYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DAMWAIN ARSWYDUS YN NGHAERDYDD. Boreu Iau diweddaf dygwyddodd dam- wain o nodwedd drychinebus iawn yn y Taff Vale Railway Station, Croekherb- town, Caerdydd. Ymddengys fod William Bowden, goods foreman, yn symud labeli oedd ar druciau oedd wedi cyrhaedd i'r orsaf yn ystod y nos. Ychydig cyn 9, yr oedd yn yrapidyddan & meistr yr orsaf, ac ychydig wedi hyny daeth y gerbydres o Penarth i fyny, yr hon wedi gorphen yn y prif blatfform a ddaeth i lawr i shuntio. Erbyn hyn, bernir fod y trancedig wedi cychwyn am ei swyddfa, ac wrth groesi y llinellau iddo gael ei daraw i lawr rhwng y rheiliau gan y tren. Clywodd y guard waedd, ac ataliodd y tren mewn moment, l pryd er ei ddychryn y canfu Bowden o dan y van a cherbyd arall wedi myned drosto, gan ei ysgaru yn ddwy ran yn ei forddwyd. Bu y trancedig yn ngwasan- aeth y cwmni am 20 oilynedd, ac am 15 fel goods foreman, a pherchid ef yn gyffred- inol. Gadawodd wraig a 6 o blant, y rhai sydd yn hollol ddigynorthwy Yn y trengholiad a gynaliwyd yi un dydd, dychwelwyd rheitbfarn o Farwolaeth DdamweinioL"

TRYCHINEB AR Y RHEILFFORDD…

TAN MEWN AGERFAD YN CYD-WELI.

ANRHEG GYMREIG I LE'RPWL.…

YMGAIS AT HUNANLADDIAD YN…

Advertising