Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
GANWYD,- Hyd. 4, Mrs. Lewis, priod Mr. L. Lewis, Cigydd, Bron- eim, C ayo, ar fab. Hyd. 11, priod Mr. W. Williams, Tredomos, Caledfwlch, ar fab. Hyd. 18, priod Mr. Evan Evans, Cylchwr, Caledfwlch, ar ferch. Hyd. 25, priod Mr. John Davies, Cilgadan Uchaf, Llan- defei!og, ar ferch. Hyd. 25, priod Mr. W. Evans, Meidrim, Llandefeiliog, ar ferch. PRIODWYD,— Hyd. 20, yn eglwys Llensamlet, Mr. Evan Evans, Craig- yduke, a Miss Sarah Williams, Llansamlet. Hyd, 27, yn eglwys y Bedydwyr, Llanidloes, o flaen Mr. W. Jarman, ieuaf, gan y Parch. J. Vaughan, Staylittle, Mr. Robnrt Williams, llifiwr, a Miss Catherine Jones, y diau o'r lie ac yn aelodau gyda'r Bedyddwyr., Tachwedd 2, yn eglwys plwyf Talyllychau, gan y Parch. Mr. Thomas, Ficer y lie, Mr. Thomas Jones, Plas Taly- llychau, a Miss Anne Thomas, Pwllecochion, Llansadwrn. MARWOLAETHAU. Yn ddeg mis oed, dau o efeilliaid, plant i Mr. Joseph Lewis, ger Nofle Newydd, Llanelli. Gosodwyd hwynt, o ran eu cyrff, yn mynwent gwahanol enwadau y lie. Bu un farw Hyd._19, a'r Hall ar yr 21ain o'r un mis. Gadawodd y rhai bychain hyn Y byd a'i holl drafferthion, I etifoddu'r gwynfyd pur, 0 fewn i'r dilyth Sion. Boed i'r rhieni yma'r fraint 0 wasanaethu'r Arglwydd, Fel caffont yn y byd a ddaw, Ei wenau yn dragywydd. Llanelli. CADWGAN. Hyd. 18, yn 28 oed, Mr. Richard Peregrine, Cilywaen, Llandilo Fawr, Tach. 3, Elizabeth Hancock, hen wraig barchus, yn 82 mlwydd oed, gwraig Mr. George Hancock, Rhydyfran, ger St. Clears. Hyd. 30, yn 36 oed, Margaret, gwraig Mr. J. Thomas, Arolygwr yn N gwaith Balckow a Vaughan, Middlesbro', sv.-ydd Gaerefrog Merch ydoedd i'r caredig a'r hybarch Edward Oliver, gynt o Lyn Ebbw. Bu yn aelod ffyddlon a iwyd yn nghyfundeb y Bedyddwyr am fwy nag ugain lyiedd. Gadawudd briod a pbucijt o rat tacb, iieUaw lluaws o gyfeillion, i alaru ar ei hoi. Dydd Gwener canlynol hebryngwyd ei gweddillion marwol i d9 ei hir gartref, yn ngladdia Middlesbro. Bu farw, yr ydym yn hyderus gredu, a phwys ei henaid ar ei Hanwylyd. Hyd. 22ain, yn 78 mlwydd oed, terfynodd Mr. William Bowen, Pantyffynnon, ger Cross Inn, Llandybie, ei yrfa yn y bywyd hwn. Bu yn aelod parchus gyda'r Bedyddwyr am 40 mlynedd, ac yn/ddiacon hefyd am 35 mlynedd, ac yr oedd yn llanw ei swydd yn ardderchog. Yr oedd yn gynghorwr pwyllog, yn weddiwr gafaelgar, a theimlir galar dwys gan eglwys Ebenezer, Cross Inn, o herwydd colli ei hen flaenor parchus. Y dydd Iau canlynol, ymgasglodd tyrfa luosog ynghyd, er hebrwng ei ran farwol i dp ei hir artref, a chladd- wyd ei weddillion yn mynwent Ebenezer. Pregethwyd ar yr achlysur gan y Brodyr D. Williams, Gerazim, a J. Tho- mas, Saron.-G. H. Hyd. 28ain, yn 56 mlwydd oed, Mr. Thomas Thomas, Cillinfach, plwyf Talyllychau. Yr oedd yr ymadawedig yn a lod hardd a rheolaidd gan y Methodistiaid Calfinaidd, yn Esgairnant, er ys llawer o flynyddoedd, ac yn cael ei ystyried yn un o'r bechgyn mwyaf tawel a diniwed yn y plwyf. Hyd. 30ain, yn 66 mlwydd oed, Mr. Evan Parry, Peny- rhiw, plwyf Llandilofawr, mab y diweddar John Parry, gynt o Lwynyrhebog, cludwr coed. Yr oedd ef a'i dad yn eu hamser yn cael eu hystyried y cludwyr coed enwocaf yn Sir Gaerfyrddin.
-..iattmmt CartreM.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
iattmmt CartreM. LLANIDLOES.-Dydd Llun, Hydref y 15, gwelwyd amryw o'r gwenfnliaid (swallows) yn hofran, ac yn ehedeg yn fywiog a chwim, oddentu y dref hon, a hyny bron mor hoyw a phe buasai yn mis Gorphenaf. Y mae hyn yn dipyn o ryfeddod, ac wedi peru peth ymddyddan, oblegid fod yr ehediaid hyn mor ddiweddar yn y flwyddyn heb ym- adael. V mae rhai o'r hen ddaroganwvr yn dwevd fod e'l harosiad yma yn arwydd-lun sicr o auaf caled. ABERDAR.-Ar y 29ain o'r mis diweddaf, cynnaliwyd trengholiad yn y Bruce Arms, yn y dref hon, ar gorff Catherine Thomas, gwr yr hon a weithiai yn ngwaith Abernant. Ymddengys, yn ol tystiolaeth merched f trengedig, iddi gwympo yn farw mewn modd disymmwth. Dedfryd—" Bu farw drwy ymweliad Duw." Y CYNAUAF.—DeaHwn fod yn agos yr oil o gynnyrchy ddaear erbyn hyn wedi ei ddwyn i ddiogelwch a chlywsOIØ fod y llafuriau a ddygwyd i fewn y dyddiau diweddaf yma, yn rhagorol o dda, ag ystyried diweddarwch y tymhor. Da genym ganfod fod yfarfidydd diolchgarwch am y cynauaf wedi eu cynnal mur gyffredinol eleni. I
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HEOLYFELIN, ABERDAR.—Cwrdd Blynyddol.—Cyn- naliwyd hwn eleni ar y Sabboth a'r Llun, Hydref 28ain a r 29ain, pan y eawlom bregethau rhagorol gan y brodyr Jonett Caerfyrddin Lewis, Rhumni Hughes, Dinas; Roberta Pontypridd Jones, Tongwynlas; a Roberts, Merthyr. *r oedd yma gyfarfodydd lluosdg a hynod o ddyddorol o'r dechreu i'r diwedd. Deallwn fod y casgliad yn dda a'r hyn oedd 0 fwy gwerth nâ'r cwbl, yw, yr oedd bendith Duwyn belaeÙl ar y cyfarfodydd. BRYNMAWR.—Darfu i Eglwys Tabor yn y lie bwn 98el cyngherdd ragorol, gan ei chor canu, ar nos Lun, Hydref 223'°' pryd y cymtnerwyd y gadair gan y Parch. T. E. jan2est Castellnedd (aelod gwreiddiol o'r lie), ac fe anerchwyd y gy"* nulleidfa gan y Parch. L. Jones, Brynhyfryd, a W. Harrig, Pontypwl. Canodd y cor i foddlonrwydd rhyleddol, o dan weinyddiaeth ragorol Mr. Thomas Mason. Canodd Mr. W. Williams (Gwilym Owent), rai darnau yn rhag«r0 iawn. Cafwyd yma dorf yn nghyd, a phleser mawr yn y cylan» a gwelir fod Eglwys barchus Tabor am dalu ei dyled dan gan". Llwydd iddynt. CYFARFOD LLENYDDOL TABOR, SWYDD Dydd Mawrth, Hydref 23ain, cyspaliodd yr ysgol Sabbotaw
WIDE-AWAKES.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
yr un petb, sef Cap a GwarW (Cape) hir, y ddau wedi eiugwneyd o oilskin a galwasant ev hunain, "The Wide Awakes." Eu gwaith yn amser yr etholiad oedd, yn gyntaf, amddiffyn y pleidleiswyr yn eu hawliau, a gofalu nad oedd neb i bleidleisio heb fod ganddynt hawl i hyny. Llwyddasant tuhwnt i'w dysgwyliad. Cymmer- odd y drychfeddwl. Yn awr mae yr egwyddor yn rhedeg fel mellten trwy brif drefydd America. Pan oedd Tywysog Cymru yn Philadelphia, catodd olwg ary Wide-A wakes mewn gorymdaith nosol, yn dangos eu llawenydd am etholiad Pennsylvania. Tystiai mai hon oedd un o'r gweledigaethau mwyaf pwysig a ddaeth o dan ei sylw yn Ame- rica. Yr oedd y Tywysog yn gweled yma hadau yr hyn a fydd yn sicr o ddwyn ffrwyth lawer yn y man, a'r ffrwyth hwnw o wir les i America. Mae yn dda genym fod y Wide-Awakes wedi cymmeryd yr etholiad cyftredinol nesaf c dan eu gofaI-mflent a'u holl egni yn pleidio rhyddid yn mherson Lincoln. Yr ydym ni o'n calon yn dy- muno llwydd y Wide Awakes. Pe buasem yn byw yn America, buasem yn sicr o fod yn un o honynt a'n holl egni.