Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu

AT EIN GOHEBWYR A'N DARLLENWYR. EIN DERBYNIADAU.—Parch. D. W. Morris— H. Mathews—Parch. E. Edwards-T. Thomas, Llundain-leuan Cynfelyn-Glanbargoed- W. C. Davies Parch. T. K. James—Parch. J. Williams-Teithiwr Bach-Un sydd a Phunt ganddo—Gwyddon Bach-G. ab Twmi-J. G. Griffiths-Spontha-Ioan-Cymro Brith Ju- venes-Mary- Morgart Parry—Jenet Jenkins. GWRGANT BACH.-Rhy bigog o lawer. YIIRrif- enwch ar y pwnc, a gadewcli y person yn llonydd, a bydd yn dda genym glywed oddiwrthych. DIC TURPIN.—Enw eithaf priodol. Lleidr oedd Die, ac yr ydych chwithau wedi lledrata eicli traethawd bob gair. Cawsoch ef yn yr hen Wladgarwr. MARY.— Purion, gwnawn ddefnydd o'ch syniadau pan gaft'om hamdden. TDRIS.—Caffed amynedd ei pherffaith waith. Mae genym amryw o betliau da iawn yn aros eu tro. D. T. JONES a ysgrifena atom yn erbyn hysbysiad eglwys Mountain Ash o berthynas iddo ef. Nid ydym yn gweled dim yn ei lythyr yn gwrthbrofi yr hyn y mae yr hysbysiad yn ei ddangos, ond yn unig enllibo yr eglwys a'i gweinidog am eu trafodaeth tuag ato. Dywed yn niwedd ei lythyr, ei fod wedi ei godi heb genfigen nee gweerthruddo, a bod gan- ddo lythyrau o gymmerad wyaeth. Wrth gwrs, os oes gfinddo lythyrau yn dangos ei fod wedi ei godi yn rheolaidd, y rhai h-.ny a ddylai ddangos yn gyntqf, ac nid cablu yr eglwys a'i gweinidog, fel y gelli. rhoi coel iddo. GWIRIONKDD.—Mae y gwirionedd o barth y pwnc o fedyddiad y chwaer yn St. Clears mor hawdd i'w gael allan, fel mai ffolineb yw gofyn rheso gwestiyn- au ar y mater. Os ydycb yn credu fod y Parch, B. Williams wedi camarwain ein darllen wyr, dywed wch byny ar unwaith, a hyny o dan eich enw prioclol o gwrs. Ai nid mwy dynol a Christionogol fyddai gwneyd hyny, na gofyn rhes o ofyniadau ensyniadol i weinidog, neu i unrhyw berson cyhoeddus arajl? UN A GARAI WYBOD.— 1. Y gosp am anfon llythyr gyda liyfr trwy book post yw talu dwbl draul y llythyr. 2. Mae derbyn llyfr yn enw dyn arall -os oedd y llyfr yn eiddo y dyn arall-yn lied rjdyn ngolwg y gyfraith. 3. Y llysdad bia yr holl ddodrefn s\dd yn ei dy ef, gan ar enw pwy y byddont, oddieithr fod cytundeb priodasol wedi ei wneyd cyn iddo ef briodi. EISTEDDFOD UNDEBOL ABERDAR.—Trwy gared igrwydd Mr. H. Mathews, yr ysgrifemdd, mae yr holl gyfansoddiadau buddugol wedi dyf^d i'n llaw. Bydd i ni wneyd y defnydd goreu o honynt, trwy eu cyhoeddi yn y SEREN mor fuan byth ag y catforn le. Derbynied yr ysgrifenydll a'r pwyllgor ein diolchgarwch mwyaf ditfuant. G. AB TWMT.- Yr Ysgol Sul rheolaidd gyntaf a sefydlwvd oedd gau Robert Raikes, Ysw., yn ninas Caerloyw, yn y flwyddyn 1781. Nid oedd y boneddwr hwn yn cyssylltu yr ysgol ag un enwad crefyddol yn fwy na'r Hall. Y Feihl G-ymdeithas a sefydlwyd yn 1804, yn benaf trwy otferyngarwch y Parch. Joseph Hughes, gweinidog y Bedyddwyr yn Battersra, yr hwn hefvd a fu yn ysgrifenydd iddi o'i sefydliad hyd ei farw. SPINTHA.-Dioich i chwi am eich addewid. Bydd yn dda iawn genym glywed oddiwrthych yn ami, gan obeithio y daw cyflawnder bendith gyda y pethau cartrefol." SEREN CYMRIC YN EI GWISG NEWYDD. —A fydd i'n eyfeillion oil ag ydynt wedi ysgrif- enu atom i ddadgan eu teimladau boddhaol, i dderbyn ein diolchgarwch mwyaf calonog am eu teimladau. da a'u cymmeradwyaethau serchus, yn gystal a'u diolchiadau cynhes i ni am ein llafur gyda y Cyhoeddiad. Mae eich llythyrau yn galondid mawr i ni; a gallwn eich sicrhau y bydd i ni fel Golygwyr a Chyhoeddwr wneyd ein goreu yn ol llaw i deilyngu eich cefnogaeth a'ch cydweithrediad. Mae gyda ni yn awr y fath i.u o gefnogwyr, fel nad oes perygl am ddyddordeh SEREN CVMIIU. Bydd yn dda genych glywed hefyd fod ei derbynwyr wedi cynnyddu yn fawr gyda dechreu y flsvyddyn. CYNNADLEDD Y CRYDDION.—Gair at Daniel.- Daeth eich sylwadau ar Lythyr yr Hen Grydd o'r Wlad, &c., i'm Haw, a throsghvyddais hwynt yn brydlawn i ofal Mr. Price, un o'r Golynyddion. Mae yn debyg iddo ef farnu fod digon wedi ei ys- grifenu ar y pwnc a drinid gan y Cryddion. Bydd- wch wych.—W. M. E. GW Y mae rhyw wmbredd o hanesion cyfarfodydd wedi dyfod i law methasom gaellle iddynt oll yn y rhifyn presenol, ond cant ymddangos yn y nesaf. <!&&' Y Beibl Gwyn, Y Cymro a'r Drefach, Elus- endod J. Howell, &c., yn y SEKEN nesaf. Er i ni argralfu lawer yn rhagor o'r SEREN y pythefnos ddiweddaf nag arierol, Did oedd genym, er hyny, ddigon o nifer i ateb i'r ceisiadau. Os oes Rhifynau ar law gan rai o'n dosparthwyr, teimlwn yn diliolchgar am eu cael yn 01 y cyfle cyntaf. GWELLIANT GWAI-LAU.—Yn ysgrif Therapou ar Athrofa yn y Gogledd," Rhit. 133, dygwyddodd i'r cyssodydd wneyd rhai gwallau :—Yn lie cyf- lawnu. dar. cyflenwi. Y n lie appelio, dar. applio. Y n lie heb yr herwydd," dar. heb y sicrwydd." Yn lie "13 at Hootypwl," dar, 13 at Boutypwl, a 9 at Hwlffordd." Y II lie Os wyf yn gywir fy syniadau, yr hyn beth, feddwliwn, Mr. Got., sydd yn ormod," dar. Os wyf yn gywir fy syniadau yn hyn o beth, fe feddyliwn I, Mr. Gol., ei fod yn ormod o beth," &c. AT EIN GOHEBWYR AWENYDDOL. GYFEILLION,—Bwriadwn o hyn allan wneyd rhyw ychydig o sylwadau ar y cyfansoddiadau a anloowch i ni i'w cyhoeddi. Dymunwn arnoch sylwi ar y rheolau canlYllol 1. Ymdrechu ysgrifenu yn eglur. 2. Mynu siilebu yn briodol. 3. Gofalu saernio y gerdd yn unol a rheolau gosod- edig y mesur. 4. llhoddi meddwl a grym iddo yn y gwaith. GWERFYL.—Daeth eich englynion i law. Y maentyn wir gymiueradwy. Cant ymddangos yn eu tro. MARWNAD MRS. EVANS, INDIA.Gan y barown fod SEMEN OOMER yn gyhoeddiad mwy cvdweddol a chan o hyd a rhagoroldeb hon, yn nghyd ag a theilyngdod Mrs. Evans, caiff ymddangos yn y cy- hoeddiad hwnw, ac nid yn hwn. LLEURWG. HELAETHIAD SEREN CYMRU. GAN ein bod wedi myned i'r draul o helaethu SEREN CYMRU, hyderwn y gwna ein cefnogwyr bob ym- drech galluadwy i ddyblu rhif y derbynwyr, ac an- fon Hysbysiadau iddi o bob man. Y mae cylchred- iad y SEKEN yn dra helaeth yn bresenol, ac yn cael ei gwasgaru drwy bob parth o'r Dywysogaeth, ac yn mysg y Cymry yn Lloegr; gan hyny, gellir ymddir- ied ei bod gyda'r cyfrwng goreu yn iMgbyniru i daenu hysbysiadau o bob math. Pris SEREN CnutU yw 2g. y Rhifyn; a dys- gwylir i bob derbyniwr dalu bob tri mis ynddiffael. Y Gohebiaethaji i'w hanfon at y Golygwyr, yn ol y cyfarwyddiadau a ganl) n TRAETHODAU, &c.-Rev. T. PRICE, ABERDARE. HANESION CREFYDDOL.—Rev. B. EVANS, PEN- YDREI1 HOUSE, NEATH. Y FARDDONIAETH. — Rev. J. R. MORGAN (Lleurwg), LLANELLI, CAR. Y GERDDORIAETH.—Mr. R. LEWIS, ADAM ST. CARDIFF. TELERACJ AM HYSBYSIADAU, Chwech llinell a than hynv. Is. y tro. Dros chwech llinell, dwy geiniog y llinell. H rsbysiadau am chwarter blwyddyn a throsodd, am brisiau llawer is. iggT Pob archebion mewn perthynas i rif y der- b3'nwyr, neu hysbysiadau, i'w hanfon at y Cyhoeddwr^ — W. J\I. Evans, Seren Lymrn Office, Carmarthen

Y PYTHEFNOS. t .'-