Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

—♦— GLYN EBWY A'R GYMMYDOG.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

—♦— GLYN EBWY A'R GYMMYDOG. AETH. YN y He uchod, yr oedd yn aros ddan ddyn du, genedigoi o Bermuda, gogledd America. Y mae un o honynt yn aelod gyda y Bed- vddwyr er ys un flynedd ar bumtheg, a'r llall yn ddiweddar wedi dyfod i'r gyfeillach at y brodyr Seisnig yn Seion, capel y Bed- yddwyr yn y lie hwn ac ar y bumthegfed o'r mis, bu farw yr olaf, yr hwn amgylcbiad a gynnyrchodd deimlad neillduol yn mhlith y gwahanol eglwysi, sef, Brynhyfryd, Nebo, a Seion. Brawd teilwng o'r Brynhyfryd a osododd yr achos o flaen yr ysgol, pryd y casglwyd tuag at gynnorthwyo y brawd i gladdii ei gyfaill ymadawedig. Darfu y brodyr yn Nebo gydweithredu, trwy roddi lie bedd, yn nghyd a thalu am ei chloddio, yn rhad ac am ddim. Dydd Llun canlynol, dangoswyd y cydymdeimlad mwyaf trwy i dvrfa luosog ymgynnull yn nghyd er tros- glwyddo y rhan ddaearol o'r brawd du ei groen i'r ddaear, yn mynwent Nebo, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. Mr. Godson, gweinidog y Saeson, ar yr amgylchiad ar lan y bedd, gweddiodd ei gyfaill yn y modd mwyaf effeithiol, a mawr oedd y dylanwad. Yr oedd pawb yn teimlo yn neillduol wrth glywed dyn du mor fedrus a thaer yn der- chafu ei ocheneidiau tua'r nef, gan ddiolch i'w Dad netol am ei fod wedi agor calonau brodyr a chwiorydd i gydymddwyn a rhai oedd mor bell o dir eu gwlad er ei fod wedi cael ei ymbellhau oddiwrth dad a mam, brodyr a chwiorydd natnriol, yn nghyd a chyfeillion o'r un lliw ei fod, er hyny, yn mhlith brodyr a chwiorydd crefyddol er fod y lliw yn gwahaniaethu—os yn grefyddol, fod yr egwyddor yr un vn y du a'r gwyn. Ar gais y brawd, yr wyf yn trosglwyddo yr hanes hon i ddarllenwyr y SKREN, gan obeithio y bydd ymddygiad y brodyr yn Nglyn Ebwy i ddysgu i bawb a ddarlleno 0 ZD hyn i wneyd yr un modd, pan y caffont gyfle i wneyd hyny. Dydd Nadolig, cynnaliwyd eisteddfod I y flynyddol yn y Brynhyfryd, pryd y cawsorn yr hyfrydwch o weled llon'd y capel wedi ymgynnull, er clywed cystadleuaeth ar wa- hanol destunau, mewn adroddiadau, areith- iau, a chanu. Treuliasom y dydd hwn gyda gradd mawr o ddydlordeb yr oedd yma adroddiadau rhagorol. Y diffyg mwyaf yn hyn o orchwyl oedd, fod dynion mewn oed a phlant yn cystadlu a'u gilvdd. Gobeithio y trefnir pethau yn well erbyn y tro nesaf. Yr oedd yr areithio yn hynod o dda, yn drefnus a bywiog i'r eithaf. Darllenwyd 0 beirniadaeth Cynddelw ar y traethodau a'r farddoniaeth ganei fab. Nid oes eisieu canmol hon, ond cofio pwy oedd ybeirniad. Y canu, ar y cyfan. yn dda rhagorol drwy- ddo; dangoswyd medr neillduol yn hyn o orchwyl, fel y gwna y cantorion yn gyffre- din yr oeddent yn teilyngu canmoliaeth fnwr, pe y gadawent eu ceintachrwydd ar ol. Bu yma gystadlu mewn canu yn yr hen ddullwedd Gymreig, gan hen wyr a hen wragedd o hanner cant i driugain oed. Maeddodd y rhai hyn y cyfan, oblegid caw- sant bob un wobr. Llywyddwyd y cyfar- fodydd yn y modd mwyaf medrus a dylan- wadol, gan D. S. Lewis, Ysw Victoria, yr hwn sydd adnabyddus am ei aidd a'i fedr fel Cymro gyda sefydliadau o'r fath. Y m- adawwyd, a phawb yn foddhaol feddyliwyf, oddigerth y rhai na ennillasent wobrau. Ymdreched y cyfryw erbyn y tro nesaf. Boreu y Sabboth canlynol, tynwvd sylw y lie yn fawr gan sain offerynau cerdd yn chwareu o flaen y riflemen wrth fyned tua'r llan. Bu y lie hwn yn hir heb yr un llan; ond y mae yma adeilad o'r gorwychaf yn awr, a elwir eglwys; a synwn ati, ei bod yn cefnogi y fath afreoleiddiwch ar ddydd yr Arglwydd, a hi wedi cael yr enw Christ Church; ond nid rhyfedd pan feddyliotn merch pwy ydyw mewn Uadd a'r cleddyf a llosgi a than y mae ei mam wedi arfer byw erioed, ac fe ddywed yr hen Ficer o Lanymddyfri, "Fe dripia'r ferch Ile tripio'r, fam." GWYLIEDYDD Y TWYN.

[No title]

CWMIFOR YN AMSER Y IGWYLIAU.