Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y GATH YN YSGRABINO EI CHYNFFON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y GATH YN YSGRABINO EI CHYNFFON. MR. Got.Meddwl cyntaf y teitl hwn yw, fod y gath yn anfoddlon i'w chynffon, ac am hyny yn gosod ei gwinedd ynddi. Ni wna y creadur hwn ddangos ei ffolineb yn fwy mewn dim, yn gystal a'i natur gas a maleisddrwg, na phan yn lagrabino ei gynffon; er hyny, peth cyffredin ydyw ei weled yn gwneyd y cyfryw beth. Ail feddwl y teitl ydyw, ynte, fod y gatli yn an- foddlon iddi ei hun; o herwydd wrth anfoddloni i'w chynffon, mae hi yn dangos, ar unwaith, ei bod yn anfoddlon i'w chreadigaeth; canys heb ei chyn. ffon nid cath fyddai, o leiaf, nid cath fel y,dylai fod, nac ychwaith fel ag y mae ei Chreawdwr wedi meddwl iddi fod, gan fod mor banfodol iddi wrth ei chynffon a rhyw ranau ereill o'i chorff. Er hyny, o herwydd ei ffolineb a'i hysbryd cas, hi a 'sgrabina ei chynffon. Wrth ddarllen y Bedyddiwr cyntaf am y flwyddyn hon, gwelais Anerchiad y Golygyddion at eu dar- llenwyr ac yn y cyfryw gyfarchiad, yr oeddwn yn gweled ar unwaith, heb un math o ambwylliad, yr hyn a welir hefyd gan bob un a ddarlleno y cyfryw gyfarchiad—os gwel efe ddim-Iod y gath yn, ysprabino ei chynffon yn druenus.* Yn yr Anerchiad uchod o eiddo y Golygwyr, y mae brawddeg fel y canlyn,—" Y mae genym frodyr teilwng ac ymdrechgar—yn anrhydedd i'r areithfa, yr esgynlawr, a'r gynnadledd ond pan ymyront a'r pin, y papyr, a'r wasg, yr ydym dan rwym&u o edrych arnynt yn mhell islaw iddynt eu hunain. Y mae diffyg hunan-adnabyddiaeth, oddiar gefn parch a chlod teilwng iddynt, wedi eu gyru allan o'u hansawdd naturiol; ac os na thyn ein henwad yr hunandyb enbyd hwn oddiwrthynt, bydd ein cyflwr Uenyddol yn dra isel, a'r canlyniadau yn niweidiol. Fel ag y mae yr ysfa olygyddol yn myned yn mlaen yn bresenol, byddwn cyn hir yn wawd i'n gwrthwynebwyr." Ni wnaf nodi allan fonglerwch y geiriau hyn, fel ag y maent wedi eu taflu ar draws eu gilydd, ond yn hytrach gwnaf rai syiwadau ar yr hyn a geisiant osod allan. Y peth cyntaf a yundrechir ei osod allan ydyw, nad yw y brodyr teilwng-ymdrecngar," y rhai sydd yn anrhydedd i'r areithfa, yr esgynlawr, a'r gynnadledd," yn addas i ysgrifenu dim i'w anfon i'r wasg (yn sicr, yn ol geiriau yr Anerchiad, nix medrant osod pin ar bapyr i unrhyw ddyben, heb iddynt fyned yn mheU islaw iddynt eu bunain, pa synwyr ?) neu os bydd iddynt anfon i'r wasg, y bydd Uenyddiaeth yn gorfod dyoddef, a'r gwrth. wynebwyr yn gwawdio. Yn awr, bydded i'r darllenwr fod mor graffus a deall mai pedwar o frodyr teilwng ac ymdrechgar -yn anrhydedd i'r areitbfa, yr esgyiiawr, a'r gynnadledd," rn nghydâ Phrydydd, sydd wedi deor ar y geiriau uchod, ag ydynt yn yr Anerchiad. Byddai yn lIed chwithig gan y pedwar gweinidog hyn, ag sydd yn OLYGWYR ar y Bedyddiwr, i gael ar ddeall nad ydynt frodyr teilwng ac ymdiechol —yn anrhydedd i'r areithfa, yr esgynlawr, a'r gynnadledd etto, os ydynt yn frodyr teilwng, &c. nid ydynt yn gymhwys i osod pin ar bapyr," ac anfon eu petliau i'r wasg, heb fyned yn mhell islaw iddynt eu hunain," a bod yn warth felly i wrthwy nebwyr y Bedyddiwr, a'r blaid a wasanaetha, pa un bynag yw hono. Wel, beth yw y rheswm/W y brodyr "teilwng" hyn yn Olygwyr, ac yn ymyraeth a'r pin, y papyr, a'r wasg ?" a hwythau eu hunain yn yr Anerchiad yn gosod allan nad ydyw rhai o'u bath yn fit at y gwaith ? Yr un peth, mae'n debyg, fyddai gofyn i'r gath- Paham yr ydwyt, greadur ffol, yn lograbino dy gynffon mor ddidrugaredd ?" Yr unig ateb a roddai y creadur hwn fyddai, a'i bod yn gallu ateb ogwbl, —" Dyma fy anian. pan fyddwyf mewn natur ddrwg at ereill, ac yn methu ymddial arnynt; yr wyf, gan hyny, yn siglo fy nghwt, ac wrth weled hono yn siglo, yr wyf yn ei 'sgrabino, gan nas gallaf 'sgrabin neb araU." A gadael mai y Prydydd Golygyddol yw y pen, y worn, a'r gwinedd, ac mai y pedwar gweinidog golygyddol ydyw y gyttffon I etto, y mae yma annghyssondeb enbydus yn yr ANERCHIAD, o herwydd tra fyddo y corff a'r gyn- ffon yn nglyn a'u gilydd, ni ddylai y gwinedd Fe ddeall y rhai sydd yn gallu deall cymhariaeth, mai nid cyffelybu y Golygwyr a'u Hanercbiad i OATH yr ydwyf, oid i GATH YN 'SGBABIWO .1 CHYNJPFON- y gath ya y wsithred o 'sgrabino, a'r Golygwyr yn eu gwaith yn anerch y cyhoedd.

GOHEBIAETHAU.