Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
SYLW AR YSGRIF AB ARTHUR.
SYLW AR YSGRIF AB ARTHUR. MR. GOL.,—Gyda'ch caniatad, wele fi yn anfon y llinellau hyn i sylw y dyn hynod hwnw, Ab Arthur, yr hwn sydd yn byw yn bresenol yn Stockton, Swydd Durham, o berthynas i mi, ac ereill, yn y SEREN cyn y ddiweddaf. Y mae yn ddrwg genyf glywed rhai dynion yn siarad am y Beibl a'i egwyddorion. Pe byddai Ab Arthur yn dysgu actio y Beibl yn gyntaf, cyn s6n cymmaint am dano, byddai mwy o nerth yn ei gyffeiriau, ac ni byddai cynnifer yn dywedyd am dano, Y meddyg, iacha dy hun yn gyntaf." Cymmerwch eich cyffeiriau eich hun yn gyntaf; yna, os bydd ereill yn gweled fod eich cyffeiriau yn eich gwella chwi, byddai hyny yn cenedlu awydd yn ereill i gymmeryd eich cyfarwyddiadau, ac iddod i ymofyn am danynt; oblegid y mae y rhai sydd yn eich adnabod yn gwybod eich bod yn afiach. Ond at y pwnc, gan nad wyf yn meddwl blino y darllenydd a meithder y tro presenol. Am yr Annibynwyr yn Stockton, a Mr.Jooes yn Middlesboro', y maent yn alluog i aarddiffyn eu hunain, os byddant yn ewyllysio. Ond hyn a ddywedaf, mor bell ag yr wyf fi yn eu hadnabod, y maent yn byw i fyny a'u proffes, yr hyn nid yw Ab Arthur, y meddyg, yo ei wneyd. Yr wyf fi o ran fy hun yn caru gweled pob un yn byw i fyny i'r hyn y maent yn ei broflesu. Os Annibynwr ydyw, bydded felly os yn Drefniedydd, bydded felly neu yn Fedyddiwr, bydded iddo yntau actio ei egwyddorhon yn ei fywyd. Am danoch chwi, Ab Arthur, y mae arnaf gywilydd o'ch arddel yn un o'r Bedyddwyr yr wyf yn gwadu y berthynas a chwi fel brawd crefyddol yn Ngogledd Lloegr. Nid oes angen ar y Cymry yn Swydd Gaerefrog a Durham i gael gwybod nad yw Ab Arthur yn dalun cyssylltiad a'n cyfundeb yn y wlad hon ond er eich mwyn chwi, Mr. Gol., yr wyf yn dywedyd nad yw yn dal un berthynas a'n henwad yma ond os yw yn dal cys- sylltiad ag ef yn Nghymru, gwnaed ef neu rhyw un arall ddangos hyny trwy gyfrwng y SEREN, fel y gallom ni amlygu ei ddolur i'r Gymmanfa hono, er iddi anfon cyffeiriau iduo cyn y byddo farw, os bu fyw erioed. Y mae dan foddion yn y wlad hon o'r wythnos gyntaf y daeth yma hyd heddyw, a dim Un argoel am wellhad, ond yn hollol i'r gwrthwyneb. Y mae Ab Arthur yn gofyn eich barn, Mr. Golygydd, yn ei lythyr, am y brodyr sydd yn dyfod oMiddlesboro' i bregethu i Stockton, ar yr adeg yr oedd ysgol a chyrddau cyhoeddus gan y Bedyddwyr o'r iawn ryw yn y lie. Yr wyf yn cyfaddef, Mr. Gol., fod bai arnom os ydym yn euog o hyny ond yr wyf yn dywedyd nad OPS gan y Bedyddwyr Cymreig un achos wedi ei sefydlu yn y lie hyd yma. Nid wyf yn gwybod dim am dano, beth bynag, ac yr wyf yn byw oddeutu pedair milldir i'r He, ac yno yn aml.fjggjjfjgM v Y mae Ab Arthur yn gofyn, "A oes dim parch gan Rees Arthur a Levi Morgan i'r eglwys y maent yn perthyn iddi ?" Oes, mwy o barch na chwi, Ab. "Aoesganddyntddim parch i weithredoedd y capel ?" Oes, mwy na chwi, Ab, onide bydded ein gweithredoedd yn farnwyr, a rhoddaf gyfle i chwi brofi yn wahanol er pan wyf yn y wlad hon. Yr ydych yn cyfaddef y gwir yn eich llythyr am y rhwystrau y mae Mr. Mathews wedi gael, sef, ei fod wedi cael mwy o rwystrau oddi- 'Vrth rai sydd yn cyfenwi eu hunain yn Fedyddwyr, fel chwi a'ch bath. Ebe etto, Da frodyr, dysgwch dipyn ar Lefi Mor- gan." Yr wyf fi, ac ereill, yn barnu fod y brawd wedi dysgu hyw yn grefyddol yn well n&'r cyhuddwr. Dyma ydyw barn y cyhoedd, y rhai sydd yn adnabod y ddau, fod mwy o arwydd- Ion Cristion ar Levi Morgan nag ar Ab Arthur. Gwir jr ydych yn ei ddywedyd, fod dyn yn greadur rhyfedd. Yr ydych chwi yn un o'r creaduriaid rhyfeddaf a adnabyddais I erioed, o Lanygors hyd yma, a gwnaf brofi hyny yn fy llythyr nesaf, os "ydd angen am hyny. Terfynaf y tro hwn, gan osod ychydig Ofyoiadau i chwi i'w hateb. os ewelwch vn dda 1. Yn mha le yn Stockton y mae achos Cymreig gan y Bedyddwyr? 2. Pwy a'i sefydlodd yno ? 3. Aelodau o ba le oeddent pan eu sefydlwyd yn achos ? 1. Pwy ydyw y brodyr o'r iawn ryw yr ydych yn son am danynt, sydd yn cynnal yr achos yn Stockton ? 5. 0 ba eglwys yr ydych yn aelod eich hun ? Sylw buan i'r uchod a foddlona lawer heblaw REES ARTHUR.
Sy!w ar atebiad D. Phillips,…
Sy!w ar atebiad D. Phillips, Rhumni, Mr. GOL., Yn y SEREN, tud. 488, gwelais atebiad i ofyniad J. Rogers, gan D. Phillips, Rhumni, obarthedi'r "berth yn llosgi, ac heb ei difa." Y mae yr hen wraig a minnau wedi bod yn pwnio arno am ein bywyd, ond wedi methu yn deg a'i ddeall, a rhag i mi fod yn y ty wyllwch, caniatewch i mi ofyn gofyniad neu ddan i Mr. D. Phillips ar gefn y sylwadau. Yn laf, Beth a olygwch wrth fod dynoliaeth Crist yn dal ei ddwyfbliaeth ? a pha gadarnhad oedd hyny i Moses i fod yngyfryngwri'r ddeddf? 2. Ai cyfeiriad llythyrenol sydd yn y berth yn llesgi ac. heb ei difa at Grist, neu a yw yn golygu rhyw beth arall? Yn ostyngedig carwn gael atebiad o'r uchod, yn ysbryd yr efengyl. Cwmygog. HEN FUGAIL.
Ateb i ofyniad leuan, Glan…
Ateb i ofyniad leuan, Glan Erl, yn SEREN Tach. 21ain. Ni feddaf ysbryd ar farddoni I ro'i ateb i Glan Eri; Ond 'rwy'n hynod falch er hyny, Weled leuan etto wrthi. > (■ Tybiais unwaith iddo farw Yn mysg y mwg a'r anialgarw, i. ,7 Gan na welais ddim o'i eiddo Trwy y wast; er's tro rwv'n tybio. t 1 Pan ar lechwedd hardd Carningli, .v 'i • «iiu M Ymbleserai mewn barddoni; Llawer llinell hardd ganfyddais O'i eiddo ef, a bardd fe'i bernais; Ond rho'i ateb rhaid im' weithian, Y mae'r ganwyll ar fyn'd allan. < ATEB. I ofyniad leuan bach, Wele fy atebiad:— Adda'r gwr fu'n berffaith iach Ga'dd y cyntaf enwad; Ismael, raab y forwyn lan, '>f. Oeddyrail.migredaf; tr. Issaac, dybiwyd ro'i ar din,- Dyna y tri cyntaf. > Josia deg, a Cyrus glud, Ti gei weled etto; loan, tad yr hwn fu'n fiid, Dyna chwech, 'rwy'n coelio. 'Nawr yr olaf, mwya'i gyd, Rho'f ei enw iti, Iesu, prynwr mawr y byd, Ynddo boed Glan Eri. CAEGLAS.
G-OFYNIADATJ.
G-OFYNIADATJ. 1. Beth yw nifer y prophwydi y sonir am danynt yn y Beibl? 2. Pa nifer o honynt a fu byw cyn rhoddiad y ddeddf; pa nifer o honynt dan y ddeddf; a pha nifer o dan y Testament Newydd ? 3. A fu rhai o honynt yn trigo yn Babilon ? 4. Beth oedd y awahaniaeth rhwng gweledydd a phrophwyd ? Glyn Ebwy. DIDYMUS. I Byddaf ddiolchgar am atebion i'r gofyniadau canlynol:— 1. Pa un yw y bennod ganol yn y Beibl ? 2. Pa adnod yn y Beibl sydd yn cvnnwys yr holl egwyddor Seisnig ? 4. Pa ddwy bennod yn y Beibl sydd yr un fath ? Login. AB IORWERTH. Login. AB IORWERTH. At y Parch. T. Price, Aberdar. STR,—Byddaf ddiolchgar am atebion i'r gofyniadau a ganlyn: 1. Pa beth oedd yr aner goch y mae son am dani yn Num. 19.2, I yn ei gysgodi ? 2. Pa beth oedd y rheswm fod y rhyw fenywaidd yn cael ei gosod i mewn yma yn wahanol i'r aberthau ereillj? GOFYNYDD. Mr. GOL.A welwch chwi fod yn dda rhoddi esboniad ar 1 Cor. 15. 29. Rhydd hyn foddlonrwydd mawr i mi.-UN o'R YSGOL SABBOTHOL.
DYCHYMMYG.
DYCHYMMYG. Mae gwrthddrych gan fy meistr, Nid yw yn hynod fawr; Trwy gyfrwng SEREN CYMRU Rho'f rai o'i nodau lawr. Mae'n meddu ceg go helaeth, A dannedd lawer iawn; Cyn gwneyd ei waith bob amser Rhaid rho'i ei geg yn llawn. Mae'n bwyta yn ddiddiwedd Y boreu a'r prydnawn; Nid byth y gwaedda Digon," Er cael ei fol yn llawn. Mae hwn yn meddu cliniau, Rhyw bedair, coeliwch fi Er hyn ni fedra gerdded Uncam imaeso'idy; Rhaid iddo gael ei gario, Rwy'n credu ilyny'n siwr, Mae'n fynych yn sychedig, Ond nid yw'n yfed dw'r. Hynodrwydd y peth yma Pan yn cyfiawnu ei waith, Fod rhan o hono'n teithio Heb gyrhaedd pen ei daith. Bu rhan o hwn, 'rwy'n credu, Mewn daear amser maith; A rhan ar faes yn dyoddef Gan stormydd amser maith. Yn awr, chwi fwyn ohebwyr, Rho'wch wybod hyn i mi, Pa beth yw enw'r gwrthddrych, A boddlon fyddaf fi. Ferwig. DAFYDD.
I'R YSGOL SABBOTHOL.
I'R YSGOL SABBOTHOL. T Ar y Wlad fy Nbadau." I'r Ysgol Sabbothol dewch heddyw yn Uu, Mae yma rai gwersi i'w rhoddi i chwi; Mae'n dyagn rhai gwirion, mae'n tywys y daU; Na roddweh eich hunain i'r fall. Rhad, rhad, yw gwleddoedd tf fy Nhad! Nac oedwch mwy, mae'r arlwy fawr Yu barod i chwi-de'wcbl yn awr ? Cewch yma ddysgeidiaeth duedda eich bryd I fyw yn rhinweddol tra yma'n y byd— Rhoi blaenffrwyth eich dyddiau 1 grefydd yr Oen, Cewch yma wir bleser heb boen. Rhad, rhad, &c. 0, deuwch Grist'nogion, rhown addysg er budd I'r ieu'nctyd sy'n codi—byr iawn yw ein dydd; Mae'r lesu yn galw-mae eisieu ein gwaith, Cawn wobrwy 'nol gorphen ein taith. Rhad, rhad, &c. Caerfyrddin. DAYID SAMUBL.
1 • • " '' CAN 0 GLOD
1 • • CAN 0 GLOD I Mr. Richard David, Shop y Gareg, Dinas, get, Pontypridd, am ei haelioni at ifeithwyr mewn caledi. Holl weithwyr Cwm Rhondda, a'r cylchoedd, dewch yma, I roddi i'r hynod un fawr glod ar g&n Mae'n wrthddrych i'w garu, yn nghyd a'i ryfeddu,— Calonau pawb fyddo'n cyduno ar dan, I waeddi mni teilwng yw gwrthddrych ein testun, A phvyy ellir godi i gystadlu a hwn ? Fel gwr yn ei fasnach nid oes ei ragorach, Na chalon dynerach gau neb, mi a wn. Mae'n sefyll yn uchel yn rhes ein gwladgarwyr, Gweithredoedd o'i eiddo sy'n tystio fel hyn Mae'n ddiau fod cannoedd o fewn ein hardaloedd, Gan nerth ei weithredoedd darawwyd yn syn, Wrth wel'd haeiionusrwydd ei galon ddyngarol Yn para'n dosturiol tuag at ei gyd-ddyn Mae'n dywedyd bob amser dros ryddid a heddwch, Mae'n llawn o ddyngarwch—b'le gwelir 'fath un ? Yn amser caledi a thlodi'r amseroedd, Pan fyddo rhai cannoedd heb hanner lawn waith, Heb obaith am arian na lluniaeth yn unman, "Myfi 'ch cynnorthwyaf," bryd hyn yw ei iaith. Ac onide, byddai yn newyn ar lawer 0 fewn ein cym'dogaeth, yn wir, pa bai hwn Ond codi i fyny yr hen reol hyny, No more without money," gwnai loesion, mi wn. Ond nid hynyw ei gynllun—mae'n rhoddi'n ddiddarfod, A hynod fath bara sydd yn ei ystor; Mae'r gwragedd a'r plantos yn cario'ii ddiaros, Ond etto mae'n llanw'n ddidor fel y mor; Er cymmaint yw gallu a nerth ei geffylau, I gludo'i gerbydau'n llawn nwyddau'n gytun, Ar hyd y gym'dogaeth bob dydd, heb wahaniaeth, Ei stor, gan gyflenwad, sy'n para yr un. Pan ddelo estroniaid i mewn i'r gym'dogaeth, Mewn hiraeth am gartref, a'u gwedd yn bruddlwyd, Heb le i droi 'u gwynebau am damaid o fara, Ac arswyd i ddyoddef y newyn am fwyd- Maent braidd yn ddieithriad yn dyfod i wybod Am ryw Feistr David sy'n byw yn y lie, Ac yno, dan wenu, dechreuant ymholi, Pa le mae 'i fasnachdy, pa Ie, 0 pa le ? Ond odid na ddengya ryw blentyn diniwed, A'i fys i'r estroniaid pa le fydd ei dy, Gan ddweyd, mai 'r man yna, yn wir, y mae mama Yn cael caws a bara ddigonedd i nI. Pa galon na theimla, pa lais ch waith na floeddia Wrth wel'd amddiffynfa mor gadarn o'n tu, Gan waeddi mai byw fyddo David o'r Gareg, A gofal Duw'r nefoedd fo byth dros ei dy." 'Rwy'n credu fod bendith yn dilyn 'fath wron, Myrdd etto 'fendithion ddilyno'n ol hyn, I Nes bydd i sefyllfa y gweith wyr i wella, !i Ac olwyn fawr masnach i droi yn fwy chwyrn Ac yna gwna pob ealon onest ei dalu, Yn nghyd a rhyfeddu ffordd daliodd cyhyd, Wrth wel'd ei gyfrifon, a maint ei gyfrolau, Mae'n syndod na chraciodd nes crynodd y byd. :.1 Ond etto mae'n dal yn ei urddas fel arfer, A'i galon mor dyner yn awr ag erio'd, Gwnawn ninnau, fel gweithwyr, gydfloeddio mawl iddo,. Pob llwydd a'i dilyno tra byddo mewn bod. Nid rhywbeth diystyr yw gwneuthur cymmwynas, Ond gwn yr argreffir ar lyfrau yr oes Am ryfedd haelioni y gwron o'r Gareg," Er cymhorth y gweithwyr mewn bywyd a moes. Mae'n gymhorth i wylio yr achos crefyddol, Mae amcan rhinweddol i'w wel'd ganddo 'hyd, Mae'n rhoi i gymdeitbagau er amled eu henwau, Mae'n hwylio cerbydau y tlodion trwy'r byd. Gadawaf di, bellach, ar fryniau Owladgarwch, i Fel siampl edrychwch, fasnachwyr, mewn pryd, A gwelwch mai teilwng yw gwrthddrych ein testun, I bawb efelychu tra paro y byd. J ÅLÄacB GLAN RHONDDA.-
ESGUSAWD.
ESGUSAWD. OLYGWYR HOFF,—Dymunaf trwy gyfrwng y SSREN oleu- deg wneyd yn hysbys, ei bod yn hollol ddrwg genyf fod eglwys barchus y Mountain Ash wedi ei gadael allan o gofres eglwysi Morganwg yn y DRYCH am y flwyddyn hon. Nis gwn pa un ai.anffawd o'r eiddof fi. neu ynte y cyssodydd, oedd hon ond blin iawn genyf i'r peth ddygwydd. Yr eiddoch yn barchus, )T. E. JAMES. Glyn Nedd, lonawr 6/id, 1863.
CARN INGLI.
CARN INGLI. Ar yr eilfed dydd o'r flwyddyn hon, yr oeddwn yn dychwelyd o Drefdraeth,lle y buaswn y nos flaenorol yn arwedd yr hen deulo breiniol o'r Aifft i Ganaan, a phan oedd y cerbyd yn troi am wa&n Cam Ingli-Twr Cadfarn y traeth a'r dref, a minnau yn syllu ar ei chopa ysgythrog, ebai yr awen yn ddystaw yn fy nghlust,- Englyn i hen Gam Ingli. O'r goreu, dduwies," ebe fi deuparth gwaith yw ei ddechreu -dyma fe:— ,r Englyn i hen Garn Ingli—garegog, V Foel grugyn, wfft iddi; Goryn llwm ger ewyn IIi, Crych ael-gerth ger croch weilgi. AKWYSTL. ,"oj,
!(fiohcMarfltmt. -
Wed! gwneuthur casgliad o'r emynau goreu a allai ef gael, twriada Lleurwg anfon y casgliad at frodyr barddonol yn Baeddu chwaeth emynol, i ymofyn eu barn am dano, gyda dy- ttuniad iddynt wneuthur sylwadau beirniadol ar yr emynau, gwrthod y rhai a farnant yn wrthodedig, ac ychwanegu unrhyw emyn a farnant yn deilwng o le ynddo. Yna, bwriada ei anfon at frodyr cerddorol, er cael eu barn hwy ar ei gorfaniad, a chan ofyn iddynt am awgrymiadau yn nghylch unrhyw ddi- wygiadau a ellid eu gwneuthur ar y pen hwn. Ond cario y cynllun hwn allan, gellir cael casgliad lied ddiwall i'w gyflwyno i sylw a dyfarniad y brodyr a bennodir arnynt gan y Cymman- faoedd. Nid wyf yn gweled fod eisieu i'r brodyr a bennodir gan y Cymmanfaoedd i gwrdd A'u gilydd yn yr un man i'w ddyfarnu. Gellir anfon y llyfr drwy y post o'r naill i'r llall, ac i bob un ysgrifenu y diwygiadau neu y cyfnewidiadau a farna yn angenrheidiol, a'u pastio ar y tudalenau i ba rai y perthynant. Dichon y byddai yn dda yn y diwedd i ethol rhyw bwyllgor Ileol, gyda'r casglwr, i yatyried y gwelliannau cynnygiedig, a gweithredu arnynt. Wei, dyma y cynllun ger eich bron, ac y mae y brawd Lleurwg wrthi yn ei gario allan. Pa beth, Fedyddwyr Cymru, ydych yn ei feddwl am dano Diau fod amryw frodyr mor addas i'w cael at y gorchwyl, ond nid wyf yn barnu fod ond ychydig, os neb, yn addasach. Mae yn fardd nid anenwog; mae ganddo lygaid i weled anian, ac i ganfod y tlws, a chalon hefyd i deimlo yr hyn a ddylai pob emyn ei gynnwys. Meddwl yr ydwyf fod ei chwaeth yn gyfryw ag a wrthoda bob emyn o natur ddogmaticaidd, lluaws o ba rai sydd yn britho ein holl gasgliadau hyd etto, na ddyient byth gael ei rhoi allan i'w canu, er eu bod o'r goreu i'w hadrodd mewn pregeth, o eisieu adnoddau gwell ac i ddetbol pob un sydd fi rhywbeth ynddi, i gydio yn llinynau tyner teimlad, rhoddi y galon mewn nefol hwyl, a pheru i bob un yn y gynnulleidfa ganu a'r ysbryd, beth bynag am y deall. Ond os dygwydd iddo fethu vreithiau, bydd y brodyr fydd wrth gefn yn ddigon i nithio yr us gweddill oddiwrth y grawn. Mae genyf un gair at Lleurwg cyn dibenu. Byddai yn dda iddo ef roddi list o'r Llyfrau Hymnau sydd ganddo wrth law, rhag y dichon fod ambell i gasket werthfawr mewn bod nas g&yr efe ddim am dani, fel y gallo y rhai a all fod yn gwybod ei hysbysu. Llwyddiant i'r anturiaeth, medd, Yr eiddoch yn gywir, EDWARD ROBERTS. Pontypridd, Rhagfyr 22ain, 1862.