Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

AMERICA.

AWSTRIA.')

FFRAINC. :

-,.....->",ITALI.

RWSIA.

CHWYLDROAD YN JAPAN.

CHINA.

SiiawcsiDn iyfttditwl

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

y gweinidog diniwed wrth frigyn coeden, am y tybient ei fod yn wrthgaetbiwydd. Torasant fath o dwll yn y ddaear thaflasant ei gorff yno, gan adael ei liniau allan olr pridd yn noethion. Ond yn ddiweddar, daeth gweinidog Wesleyaidd arall, oedd yn filwriad yn myddin yr Undeb, ar draws yr haid hono a grogasant ei gydefengylwr, a saethodd bump o honynt yn farwol, ae archollodd saith ereill o honynt. YMfuDiABTH.—Nifer yr ymfudwyr a adawsant borthladd Liverpool am yr Unol Daleithiau, America Brydeinig, tref- edigaethau Awatratia, &c.. yn ystod y flwyddyn ddiweddaf oedd 64,314, ac yn y flwyddyn flaenorol 55,029, yr hyn sydd yn dangos cynnydd o 9,285 yn y lfwyddyn. Y nifer a ymfud- asant o dan y gyfraith oedd 53,489, a'r rhai heb fod o dan y gyfraith, neu y rhai a elwir llongau byrion," 10,816. Er gwaethaf sefyllfa drallod us yr Unol Daleithiau, yn yr ymfud- iaetli i'r wlad hono y cymmerodd v rhan fwyaf o'r cynnydd le. Y nifer a ymfudasant i'r Unol Daleithiau yn 1861 oedd 27,577, tra yr oedd y nifer yn y flwyddyn ddiweddaf yn cyr- haedd i 39,184, yr hyn sydd yn dangos cynnydd o 11,607. DIENYDDIAD YN WINCHESTER,—Yr wythnos cyn y di- weddaf, crogvyd Fernando Petreani, morwr Awstriaidd, yn Winchester, am lofruddio cadben, gwraig y cadben, ac is- lywydd cyuuf y Hong Brydeinig a elwir y Wigthrop. Am chwarter eyn wyth o'r gloch ymwelodd yr is-sirydd, W. Brooks, Ysw., y llywodraethwr H. Barber, Ysw., y llaw- feddyg, Dr Lyford, yn nghyd a swyddogion ereill. y carchar, a'rHofruddyn ei gell yna aeth Caleraft yn mlaes gyda gweithredia ian dychrynllyd ei swydd. Gweinyddid ar y ltof- • rudd gan yi offeiriad Pabaidd, yr hwn a barhaodd i weddio gydag ef ar yr esgynlawr hyd hanner awr wedi wyth o'r gloch Y NEGROAID YN NEW ORLEANS.—Y mae ymddygiad y negroaid vn New Orleans yn annyoddefol i'w perchenogion, y rhai nid dynt yn meddu ond ychydig iawn olywodraeth arnynt. Aiaent yr. deall eu sefyllfa yn dda. Gwyddant fod yr Undebvvvr yn ffafriol i'w rhyddhad. Derbynir, porthir a dilladir y ft- edigion gan y milwyr. Maent mewn llawer o'r planhigfeydil wedi hawlio eu rhyddid, trwy ofyn i'w meistriaid am gyflogau, ae wedi cael eu cais. Mewn effaith y mae caethwasanaeth wedi ei ddiddymu am o leiaf ddeng milltir a thriugain o gwmpas New Orleans. CREDO Y GWBTHRYFELWYR.—Y gwirionedd yw, pan wnaeth y Creawdwr wahanollwythi o ddynion, efe a bennod- odd eu sefyllfa, ac a'u cyfaddasodd hwynt i'w lleoedd. Cyd- ffurfiad ag ewyllys y Creawdwr ydyw dedwyddwch. Y mae annghydffurfiad a hi yn cynnyrchu annghytundeb ac anned- wyddwch. Y mae y negro er amser Canaan, yn y sefyllfa o was. Cyfaddaswyd ef iddi gan duedd ac anian, ac am hyny, y mae yn ddedwydd ynddi, ac annedwydd allan o honi. Yn ei le, y mae yn ddefnyddiol. Allan ohono, nid ydyw ond an- wariad ac os allan o hono ac yn nghanol pobl uehraddol, nid yw ond pla. Ymgeisia y Taleithiau Yanciaidd i reoli ein sef- ydliadau, ac wrth wneyd hyny i'n dinystrio ni, trwy geisio newid deddf y Creawdwr, fel ag i'w gwneyd i gyfateb i'w meddyliau hwy, yr hyn yw yr achos o'r trallodiad presenol. Y mae Lincoln mor ddall ag erioed, ac yn ymddangos yn fwy cyndyn.-Richmond Examiner. GOLYGFA AUSWYDUS.—Ar yr 16eg o'r mis diweddaf, dienyddiwyd un Thomas Cook, dyn dall, yn Woodstock, Canada Orllewinol, am lofruddio ei wraig. Trwy fod y rhaff a ddefnyddiwyd ar yr achlysur dros naw troedfedd o hyd, yr oedd cwymp y dyn yn fawr; a'r canlyniad fu, pan dynwyd y bollt yn ol, rhoddodd gwythienan a giaa y gwddf ffordd, a threiglodd y penglog ffwrdd, a syythiodd y corff i'r llawr. Ffrydiai y gwaed allan o'r ysgerbwd, ac am beth amser nid oedd neb yn teimlo awydd i gyffwrdd ag ef; ond o'r diwedd, daeth y swyddogion yn mlaen, a gosodasant ef mewn arch. Dywedir i'r dygwyddiad gymmeryd lie o herwydd sefyllfa af- iachus y corflf, drwy fod y dyn wedi arwain bywyd afradus. DIENYDDIADAU.- Vr wythnos gyntaf o'r flwyddyn hon, cymmerodd dau ddienyddiad le yn Ngogledd Lloegr. Crogwyd William Ockhold, 70 mlwydd oed, ar yr an o'r mis hwn, yn Worcester, am ladd ei wraig; ac ar y dydd canlynol, yn Llyn- lleifiad, cariwyd dedfryd y gyfraith allan yn erbyn Thomas Ed- wards, am lofruddio merch ag oedd yn byw gydag ef, o'r enw Isabella. Yr oedd tyrfaoedd lluosog yn wyddfodol ar y ddau achlysur. MADDEUANT.—Cafodd Morgan, yr hwn a gondemniwyd yn ddiweddar am lofruddio heddgeidwad yn Mrystau, faddeuant dewn rhan. Cyflwynodd y rheithwyr ef i drugaredd, ac y mae Syr George Grey wedi cyfnewid y ddedfryd i lafur cospawl dros fywyd. RHYDDHAD Y CAETHION YN AMERIcA.-Ar y nos ddi- weddaf o'r hen flwyddyn, cynnaliwyd eyfarfod lluosog iawn yn neuadd y Sefydliad Prydeinig, Llundain, er cefnogi gwladlyw- iaeth llywodraeth yr Unol Daleithiau o barthed i ryddhad y caethion. Llywyddid gan Mr. R. Moore ac ar yr esgynlawr yr oedd Mr. W. Evans (Cadeirydd Cymdeithas Rhyddhad "1 Caethion) Mr. F. W. Chesson (yr Ysgrifenydd Mygedawl), y Parch. Newman Hall, y Parch. J. H. Rylance, &c. Cyn- naliwyd cyfarfod yn y Free Trade Hall, Manchester, ar yr un noswaitb, i amlygu cydymdeimlad a llywodraeth yr Unol Dal- eithiau, a phasiwyd amryw benderfyniadau gyda'r amcan hwnw. Penderfynwyd anfon Anerchiad at Mr. Lincoln, yn cydymdeimlo §g efyn achos y rhyfel preseno!. LLOFRUDDIAETHAU.—Y mae y flwyddyn newydd wedi dechreu gydn chofres helaeth o droseddau. Y mae llofrudd- laethau ac y mosodiadau sarhaus wedi dyfod yn dra chyffredin yn awr. Y r achos cyntaf a gofnodir sydd o Gastellnewydd- ar-Dyne, lie v cafwyd menyw, o'r enw Dogherty, yn farw ar yr heol. Y mae dyn ieuanc o'r enw Vass wedi ei gymmeryd i fyny ar ddr wgdybiaeth.—Yr ail achos a ddygwyddodd yn Bradford, 11 y cyhuddwyd un Patrick Cronin o lofruddio ei Wraig. Er fod lie cryf i ddrwgdybio y dyn, etto nid oedd y "ystiolaetli yn ddigon egiur i'w gondemnio.—Y trydydd a gawn yn Birmingham, lie y darfu i ddyn o'r enw Griffiths am- canu tori wddt ei wraig. Dywedai mai ei meddwdod a'i gyrodd 1 g) tlawfJU y weithred. Cjmmerwyd ef i fyny.—Y Pedwerydd sydd etto o Birmingham, yn achos un Charles Rose, tafarnwr, yn troi dyn oedd yn cardota allan o*i dy, gan ei guro yn ddrwg, yr hwn a fu farw o herwydd y niweidiau a gafodd. ymmerwyj y tafarnwr i fyny.—Dydd Sadwrn wythnos i'r Qiweddaf, ca wyd llofruddiaeth erchyll allan yn agos i Wigan. ollwyd d it o'r enw Barton, yr hwn a weithiai yn Mhwll awkhouse, yn gynnar yn y boreu ac yn fuan wedi naw, arganfyddwyd ei esgyrn llosgedig yn y tan. Gan fod ei lawr ar goll, credir iddo gael ei lofruddio, ac i'w ^nrff wedi dHflu 1 r tiu' M 1"'i y K«eitbfeydd, wedi cynnyg £ 200 am d,.ai y lloirud'dioii.